The Monitoring Officer will report on any complaints received since the last meeting.
Cofnodion:
Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod sawl cwyn i'w hadrodd i'r Pwyllgor, gyda phedwar ohonynt gan Gyngor Cymuned Langstone. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod tri o'r cwynion am un Cynghorydd a'r cyntaf oedd bod y Cynghorydd wedi gyrru ei gar wrth yr achwynydd mewn lôn wledig. Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau nad oedd hyn yn cwrdd â phrawf cyntaf yr Ombwdsmon ar gyfer ymchwiliad;
a) nad oes tystiolaeth bod cod ymddygiad yr awdurdod wedi torri;
Er bod tystiolaeth wedi ei darparu i'r heddlu, ni chafodd ei darparu hefyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ac felly penderfynwyd nad oedd tystiolaeth o dorri cod ymddygiad.
Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod yr ail g?yn yn ymwneud â datganiad ysgrifenedig camarweiniol i apelio yn erbyn Penderfyniad Cynllunio ar gyfer Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru, ond ychwanegodd nad oedd ymchwiliad oherwydd nad oedd y g?yn yn cwrdd â'r prawf cyntaf y mae'r Swyddfa Archwilio Cyhoeddus yn ei gymhwyso.
Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai'r trydydd cwyn oedd bod y Cynghorydd wedi trosglwyddo gwybodaeth i ffrind i'w bostio ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod wedi gyrru car at ferch yr achwynydd, a'r heddlu wedi cael eu galw. Eglurodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau nad oedd yr Ombwdsmon wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i gadarnhau toriad cod ac ychwanegodd ar ddau achlysur nad oedd y person dan sylw wedi bod yn Gynghorydd Cymuned ar y pryd.
Eglurodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau wrth y Pwyllgor fod y bedwaredd g?yn wedi bod am aelod arall a honnodd ei fod wedi ysgrifennu datganiad camarweiniol mewn perthynas ag apêl ar gyfer Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru; roedd y g?yn hon hefyd wedi methu â phasio prawf cam cyntaf yr Ombwdsmon ac felly ni fu ymchwiliad pellach. Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod hyn wedi dod â chwynion y Cyngor Cymuned i ben.
Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod cwyn wedi bod am y Cyngor Dinas ynghylch euogfarn troseddol cyn-Gynghorydd Dinas a gafodd ei gyfeirio gan y Swyddog Monitro at yr Ombwdsmon ar sail dau reswm. Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod euogfarn troseddol cyn-Gynghorydd y Ddinas wedi niweidio enw da’r Cyngor a'u swyddfa, ac yn ail ei fod wedi gwneud sylwadau ar Bwyllgor Craffu i ennill mantais drosto ei hunan. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i'r materion a chanfod y gallai'r euogfarnau troseddol fod yn achos o dorri ymddygiad ac felly cafodd ei gyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru. Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau nad oedd yr honiad bod y cyn-gynghorydd wedi defnyddio ei swydd i ennill manteision i'w hunan wedi cael ei gadarnhau. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod Panel Dyfarnu Cymru wedi cyhoeddi penderfyniad unfrydol bod natur y drosedd a'r cyhoeddusrwydd o'i chwmpas wedi adlewyrchu'n wael ar y cyn-Gynghorydd a'i swyddfa a'i fod wedi niweidio enw da’r Cyngor. Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod y gosb wedi bod anghymhwyso’r cyn-Gynghorydd am 9 mis, gan ei atal rhag gwasanaethu Cyngor Dinas Casnewydd neu unrhyw awdurdod lleol arall, a bod yn rhaid hysbysu'r Pwyllgor Safonau.
Holodd y Pwyllgor am gyfanswm yr amser yr oedd y broses gwyno wedi'i gymryd ar gyfer cwynion y Cyngor Cymuned o'r dechrau i'r diwedd ac a oedd gwahaniaeth amser rhwng faint o amser a gymerodd y OGCC i ystyried cwynion am y Cynghorwyr Cymuned a’r Cynghorwyr Dinas.
Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod cwynion yn erbyn Cynghorwyr Cymuned yn cael eu gwneud gan aelod o'r cyhoedd felly nad yw'r Cyngor yn ymwybodol pryd y gwneir y cwynion a dim ond y penderfyniad y cânt eu hysbysu ond ychwanegodd eu bod yn aml yn cymryd amser hir yn ei phrofiad gan y byddai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystyried nifer uchel o gwynion oherwydd nifer y Prif Gynghorau a’r Cynghorau Cymuned ledled Cymru.
Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor o dan anfantais oherwydd bod y cwynion yn cael eu hanfon yn syth at yr Ombwdsmon ond ei fod o'r farn mai canlyniad y penderfyniad yw'r rhan bwysicaf, gan nodi ymhellach na fyddai'r Pwyllgor yn gallu effeithio na newid gweithrediad yr Ombwdsmon.
Roedd Aelodau'r Pwyllgor o'r farn y byddai'n amhleserus i'r Cynghorwyr gael y cwynion heb eu datrys.
Eglurodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau os nad oedd tystiolaeth i'r Ombwdsman bydd y honiadau hyn yn fwy tebygol o gael eu trin yn weddol gyflym a nododd ei bod yn debygol o gymryd mwy o amser mewn achosion lle mae tystiolaeth yn sgil y broses ymchwilio.
Holodd Aelod o'r Pwyllgor am waharddiad cyn-Gynghorydd y Ddinas fel y crybwyllwyd gan Bennaeth y Gyfraith a Safonau a gofynnodd pryd y byddai hyn yn dechrau.
Nododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y byddai hyn o ddyddiad y penderfyniad ond ychwanegodd y byddai'n cadarnhau hyn. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau nad oedd bellach yn Gynghorydd ac eglurodd bod y tribiwnlys yn fwyaf tebygol o ystyried hyn wrth wneud eu penderfyniad.
Nododd y Cadeirydd pan fyddant wedi delio â chwyn yn y Pwyllgor Safonau yn y gorffennol bod y gosb wedi digwydd o ddiwedd y diwrnod busnes y gwnaed y penderfyniad.
Penderfynwyd:
Nododd y Pwyllgor y diweddariad ar lafar.