Cofnodion:
Gwahoddwyd:
Y
Cynghorydd Yvonne Forsey - Aelod
Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Bioamrywiaeth
Paul Jones - Cyfarwyddwr Strategol Amgylchedd a
Chynaliadwyedd
Silvia Gonzales-Lopez - Pennaeth
Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd.
Ross Cudlipp - Rheolwr Gwasanaeth Newid
Hinsawdd.
Cytunodd y Pwyllgor i glywed yr eitem hon yn gyntaf.
Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor mai dyma’r flwyddyn gyntaf o adrodd.
Cyflwynoddyr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth yr adroddiad a rhoddodd y Pennaeth Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd drosolwg ohono.
Cwestiynau:
Holodd y Pwyllgor am y ffigyrau am deithio ar fusnes a gweithwyr yn cymudo, gan ofyn pam fod hyn wedi cynyddu a beth fyddai heriau gostwng hyn.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y bu cynnydd yn 22-23 o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol oherwydd y pandemig. Dywedodd y byddai’n well cymharu data â 2019 fel gwaelodlin. Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth y Pwyllgor y byddant yn darganfod pam fod allyriadau yn uwch pan fo gweithio o gartref wedi cynyddu, a byddai’r Pwyllgor yn cael y wybodaeth honno.
Nododd y Pwyllgor y newidiadau yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn priodoli allyriadau carbon sefydliadau, gan ofyn a oedd y fethodoleg hon wedi ei chymhwyso yn ôl-weithredol i flynyddoedd blaenorol, ac ai barn y Swyddogion oedd bod lefelau cyffredinol allyriadau wedi gostwng.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y Pwyllgor nad oeddent wedi eu cymhwyso yn ôl-weithredol ond fod modd gwneud hyn a rhoi’r wybodaeth i’r Pwyllgor.
· Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth yr adroddir am hyn bob blwyddyn, ac na fyddai modd newid y data swyddogol.
· Esboniodd y Cyfarwyddwr Strategol fod y fethodoleg yn esblygu’n gyson, gan ddweud y bydd mwy o newidiadau yn debyg o ddod.
· Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor yn derbyn y wybodaeth, ond na ddylid synied amdano fel data swyddogol.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod yn hyderus fod yr allyriadau yn gostwng.
Nododd y Pwyllgor fod gan Weithred y Strategaeth Pobl a Diwylliant graddfa goch, a gofynnwyd beth oedd yr heriau.
· Nododd y Penaneth Pobl, Polisi a Thrawsnewid y bu hyn ar y cynllun ers y flwyddyn cynt, ac esboniodd, ers cynhadledd y staff, fod yr amserlen ddatblygu wedi ei gosod a’i bod yn cael ei ddrafftio i’w ddwyn yn ôl i’r Pwyllgor.
Nododd y Pwyllgor y cam ar ddefnyddio dylanwad y Cyngor i annog cynllun pensiwn y staff i fuddsoddi yn foesegol, gan ddweud y byddai hyn yn gwestiwn ie neu na, a holwyd felly pam ei fod wedi ei nodi yn oren a pha heriau oedd yn gysylltiedig â hyn.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’n gwirio hyn ac yn rhoi ateb i’r Pwyllgor.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod y Cynllun Newid Hinsawdd yn cwmpasu popeth ac efallai na fydd modd rhoi pob ateb ar hyn o bryd.
· Nododd y Pwyllgor mai eu profiad personol hwy oedd y bu oedi wrth gael ymateb gan y gronfa bensiwn ac efallai mai dyna pam ei fod yn oren.
· Nododd y Cadeirydd fod cronfeydd pensiwn yn y gorffennol wedi dweud y buasent yn gwneud yn unig yr hyn oedd yn economaidd.
Nododd y Pwyllgor y byddai pob cam yn sicrhau y bydd holl adeiladau newydd y Cyngor yn sero net carbon a gofynnodd pam fod pedwar oedd yn cael eu trafod gyda Casnewydd Norse ac a oedd modd cael mwy o fanylion.
· Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r cam i ddechrau oedd cwblhau dogfen am eu gofynion, ond y bu oedi. Dywedodd y gallai’r ddogfen a’r adroddiad fynd i’r Cabinet ar gyfer briffio, ac esboniodd fod y ddogfen ar hyn o bryd ar ffurf drafft ac yn gosod allan y gofynion, yr agwedd ac isafswm safonau.
· Nododd y Cyfarwyddwr Strategol nad y Cyngor yn aml fyddai’r unig gyllidwr, ac y byddai llawer o grantiau yn amodol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Strategol fod mwyafrif yr adeiladau sy’n cael eu codi yn dilyn hyn ar hyn o bryd oherwydd bod yr agenda sero net yn symud mor sydyn.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd dim nwy yn cael ei ddefnyddio mewn adeiladau oedd yn cael eu codi o’r newydd, a bod pob adeilad yn cynhyrchu cymaint o ynni ar y safle ag sydd modd. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth fod gweddill yr ynni sydd ei angen yn dod gan gyflenwyr cynaliadwy.
Holodd y Cadeirydd beth oedd statws sero net y cyflenwr a holi pa mor bell i lawr y gadwyn gyflenwi yr aethant i brofi cynaliadwyedd.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth gan nad oeddent bellach yn defnyddio nwy eu bod yn edrych yn unig ar gyflenwyr trydan. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y Pwyllgor fod ganddynt baneli solar ar y safle a bod gweddill y gofyniad yn cael ei ateb gan gwmni trydan o’r Almaen sydd wedi ardystio eu bod yn cael eu holl ynni o solar a’r gwynt. Ychwanegodd, yn ddelfrydol, y bydd y rhan fwyaf yn cael ei gynhyrchu ar y safle.
Holodd y Pwyllgor am yr ail-ffitio dwfn a’r Solar PV a beth fu’r heriau.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod wedi rhoi trosolwg, gan ychwanegu fod y Swyddogion wedi bod yn feirniadol am eu bod am eu dal eu hunain i safon uwch.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai rhan o’r her oedd bod llawer o’r ôl-ffitio i adeiladau wedi eu cyllido a grantiau, a bod cyllideb y grantiau wedi ei gosod 2 neu 3 blynedd ynghynt, felly bu’n anodd aros o fewn y gyllideb yn awr.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r prif heriau oedd dod o hyd i arian a gwneud y mwyaf o greu ynni.
Gofynnodd y Pwyllgor am osod mwy o baneli solar ar ysgolion.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cynhaliwyd adolygiad llawn o’r adeiladau gweithredol a’u bod yn chwilio am ffordd o gyflwyno’r paneli solar fel un pecyn. Ychwanegodd mai’r bwriad oedd cyflwyno hyn yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac er na fu polisi ar y pwynt hwn, ei bod am gael paneli solar bob ysgol addas erbyn 2025.
· Holodd y Cadeirydd am y ffigyrau a gofyn ai dim ond am y flwyddyn cynt y’u dangoswyd.
· Dywedoddyr Aelod Cabinet mai cyfanswm y niferoedd hyd yma a ddangoswyd.
Gofynnodd y Pwyllgor am gamau i fynd i’r afael â pharcio anghyfreithlon, a beth oedd y trothwy, gan ei fod wedi ei farcio’n Wyrdd.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y bydd yn rhaid cyfeirio’n ôl at berchennog y cam hwnnw am y wybodaeth.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol y byddai’n rhoi mwy o fanylion am hyn yn nes ymlaen, ac er nad oeddent wedi gwneud i ffwrdd â pharcio anghyfreithlon, ei fod wedi gwella dros y 5 mlynedd ers cyflwyno gorfodaeth sifil.
Gofynnodd y Pwyllgor am y cynllun llogi beiciau ledled y ddinas ac a fydd modd cael diweddariad am y cynnydd.
· Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod y cynllun llogi beiciau yn rhan o argymhellion Burns, a bod cronni wedi digwydd, ond fod cynnydd yn cael ei wneud. Dywedodd y bydd dyddiad yn cael ei roi i’r Pwyllgor, ac mai staff Cyngor Dinas Casnewydd oedd yn cyflwyno’r cynllun.
Holodd y Pwyllgor am y cynllun trafnidiaeth ymatebol i alw a gofyn a edrychwyd ar ei ymestyn i ardaloedd oedd â phroblemau rheoli ansawdd aer.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod yn cael eu gwasanaethu gan y prif lwybrau bysus a bod y TYG yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd lle nad yw’r prif lwybrau bysus yn hyfyw. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Strategol y buasent yn edrych ar gael fflyd o gerbydau trydan i ARhAA.
Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad a heriau’r Cynllun Tacsis Trydan.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y bu cynllun peilot cyfyngedig gyda hyn yng Nghaerdydd, a dywedodd eu bod wedi annog hyn er mwyn gweld a fyddai modd gwneud treial pellach. Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y cam hwn ar Goch ar hyn o bryd am na fu unrhyw gynnydd, ond bod disgwyl i hyn newid gan y cafwyd mwy o adnoddau i’r tîm.
Holodd y Pwyllgor faint o’r tacsis newydd fyddai’n ULEV a gofynnwyd am ganran.
· Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai gwybodaeth am hyn yn cael ei roi.
Nododd y Pwyllgor y bu peth cynnydd ar Gasnewydd ddi-blastig a gofynnwyd am fwy o fanylion.
· Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod gwaharddiad am blastig untro wedi ei gyflwyno, ond mai cyfyngedig oedd dylanwad y Cyngor. Hysbysodd y Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgor y bu cynnig i’w annog yn eu hadeiladau, ond wrth i hyn gael ei roi ar waith, fod y pandemig wedi digwydd. Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth eu bod wedi gwneud cynnydd gyda ffynhonnau d?r a photeli ailddefnydd, yn ogystal â chefnogi siopau ail-lenwi.
Nododd y Pwyllgor y cam o sicrhau bod cronfeydd pensiwn yn fwy moesegol, gan holi sut yr oeddent yn cynllunio i wneud hyn.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol y byddai hyn yn golygu ysgrifennu at y cronfeydd pensiwn a’u hysbysu o awydd y Cyngor i ddefnyddio cronfeydd mwy moesegol. Dywedodd er mai ychydig o reolaeth fyddai ganddynt, eu bod am wneud eu safbwynt yn glir.
· Nododd y Pwyllgor nad oedd yn ymddangos bod ffordd i fesur hyn, gan ychwanegu y byddai’n annhebygol o gyflawni’r hyn a ddymunent.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol y gellir gweld y gostyngiad trwy fonitro, a bod y pwynt wedi ei wneud yn gynharach am gydbwysedd amgylchedd a buddsoddi.
· Nododd y Cadeirydd y bu hyn yn fater ers 40 mlynedd a'i fod, efallai, yn fwy cymwys yn y fforwm wleidyddol.
Dywedodd y Pwyllgor y bu’r adroddiad yn hawdd i’w ddarllen, ond nodwyd y dylid bod wedi cael esboniad pellach am gamau a restrwyd yn goch, a thynnu sylw at bwyntiau gweithredu sydd â dyddiadau terfyn yr aethpwyd heibio iddynt.
· Nododd y Cyfarwyddwr Strategol y bu peth oedi oherwydd y cyfoesi blynyddol, a nododd y byddai diweddariad am y camau a ddaeth i ben yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad nesaf.
· Dywedodd y Cadeirydd y gallai fod yn fuddiol cynnwys dyddiad ysgrifennu’r adroddiad er mwyn eglurder.
Holodd y Pwyllgor am y defnydd o derminoleg wrth ddweud eu bod yn annog defnyddio cludiant cyhoeddus a holwyd a fu unrhyw dystiolaeth i ategu ei statws gwyrdd.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod y defnydd o gludiant cyhoeddus wedi cynyddu ond fod angen cael mwy o fanylion i’r Pwyllgor.
· Gofynnodd y Pwyllgor am esboniad pellach o’r gair annog.
· Dywedoddyr Aelod Cabinet mai’r nod oedd cael y cyhoedd i gynyddu eu defnydd o lwybrau teithio llesol hyd yn oed os mai ond yn achlysurol y byddai hyn.
Gofynnodd y Pwyllgor a fu unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiad fod casgliadau gwastraff gwyrdd bob 3 wythnos wedi cynyddu ailgylchu.
· Dywedoddyr Aelod Cabinet fod hyn wedi ei wneud yn rhannol am resymau cyllidebol, ond dywedodd na fyddai llawer o finiau oren yn llawn pan gesglid hwy. Dywedodd wrth y Pwyllgor y gallai trigolion wneud cais am ail fin oren pe dymunent.
Nododd y Pwyllgor fod cyfeiriad at annog teithio llesol a chludiant cyhoeddus, a gofynnwyd sut yr oeddent yn annog hyn i bobl ag anawsterau symud yn ogystal â’r henoed.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol y bu arian i gael arosfannau bysus newydd a bod hyn wedi dechrau cael ei gyflwyno, gan obeithio y bydd y rhaglen wedi ei chyflawni dros y 3 i 4 blynedd nesaf.
· Gofynnodd y Pwyllgor a oedd rhestr gyflawno’r gwelliannau fyddai’n dod i bob ardal.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod y flaenoriaeth wedi ei weithio allan ar sail defnydd a’r rhai yn y cyflwr gwaethaf, a dywedodd y byddai’n gofyn am i’r rhestr hon gael ei rhannu.
Gofynnodd y Pwyllgor a fu unrhyw ymchwil i weld a oedd ychwanegu arosfan bws newydd wedi cynyddu’r defnydd.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol y byddai’n holi, ond yn aml, lle nad oes arosfan bws fod hyn oherwydd problemau peirianyddol y fan a’r lle, a hefyd fod cyfyngiadau ar gyllid. Dywedodd fod llawer o’r arosfannau bysus mewn cyflwr gwael, felly bod angen eu codi i’r safon angenrheidiol.
Gofynnodd y Pwyllgor a yw’r Cyngor yn cynnig bin compostio cartref.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol yr arferai’r Cyngor wneud hyn, a’u bod am gyfnod wedi cynnig rhai am bris is; mae hyn yn rhywbeth y gellir ymchwilio iddo.
· Nododd y Pwyllgor petai mwy o bobl yn defnyddio biniau compostio cartref, y byddai’n lleihau swm y gwastraff a gymerai’r cerbydau.
Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y cynllun beicio i’r gwaith wedi ei gyflwyno ac a gallai gweithlu’r Cyngor ei ddefnyddio.
· Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai’n rhaid cadarnhau hyn.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y cynllun wedi bod yn agored dros ddau gyfnod mewn blwyddyn a dywedodd hefyd ei fod wedi ei ymestyn am flwyddyn bellach.
· Holodd y Cadeirydd ai cyfeirio yr oeddent at y cynllun aberthu cyflog.
· Dywedodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid y bu’r cynllun ar agor i Aelodau am ei fod i fynd i’r Pwyllgor Craffu. Nododd oherwydd natur y cynllun mai ond ar rai adegau y byddai ar agor, ac mai’r un cynllun ydoedd dan enw gwahanol.
· Nododd y Rheolwr Gwasanaeth fod cyfres o fuddion staff oedd yn cynnwys y cynllun aberthu cyflog a sylwodd mai cynllun prydlesu oedd hwn a fu ar waith ers 7 mlynedd.
Gofynnodd y Pwyllgor a oedd modd mesur pa mor aml y defnyddid y beiciau i fynd i’r gwaith a nododd y byddai’n werth cael metrig i fesur hyn.
· Hysbysoddyr Aelod Cabinet y Pwyllgor y bu sylwadau am hyn ar rwydwaith y staff.
· Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol y gallant drafod ffordd o fesur hyn, ond hyd yn oed petaent yn cael eu defnyddio y tu allan i’r gwaith, ei fod yn dal yn llesol.
· Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth y bu bwriad i gynnal arolwg.
Casgliadau:
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a diolch i’r Swyddogion am eu gwaith caled.
· Gofynnodd y Pwyllgor am fwy o wybodaeth am y cynnydd yn ffigyrau’r sawl oedd yn gweithio o gartref a’r ffigyrau cymudo, gan eu bod fel petaent yn gwrth-ddweud ei gilydd.
· Gofynnodd y Pwyllgor am gynnal ymarferiad lle bydd y newidiadau i fesur allyriadau cyflenwyr yn cael eu cymhwyso at ddata blynyddoedd blaenorol er mwyn deall tueddiadau a newidiadau yn well.
· Gofynnodd y Pwyllgor am fwy o wybodaeth am drothwyau camau Gwyrdd, yn enwedig o ran parcio anghyfreithlon.
· Gofynnodd y Pwyllgor am ddyddiad cyflwyno cynllun beiciau ledled y ddinas.
· Gofynnodd y Pwyllgor am ganran y gyrwyr tacsi gyda thrwyddedau am geir ULEV newydd.
· Gofynnodd y Pwyllgor am fwy o esboniad am y gwelliant mewn cludiant cyhoeddus a pham fod y cam wedi ei nodi fel un gwyrdd.
· Gofynnodd y Pwyllgor am ymateb am sut mae’r Cyngor yn sicrhau fod gwaith yn cael ei wneud i annog cronfa bensiwn y staff i fuddsoddi’n foesegol.
· Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnwys data am effaith casgliadau gwastraff gardd bob 3 wythnos ar ailgylchu gwastraff yn yr adroddiad nesaf.
· Argymhellodd y Pwyllgor y dylid rhannu rhestrau o welliannau i arosfannau bysus yn ehangach gydag Aelodau a rhannu rhaglen waith y gwelliannau hyn gydag Aelodau Ward fel bod modd rhoi gwybod i drigolion.
· Argymhellodd y Pwyllgor gynnal arolwg i ganfod pa ym mha ardaloedd y byddai gwelliannu i arosfannau bysus yn cynyddu’r defnydd o fysus.
· Argymhellodd y Pwyllgor y dylid monitro i weld pa mor aml y mae’r sawl sydd yn y Cynllun Beicio i’r Gwaith yn defnyddio eu beiciau i deithio i’r gwaith.
· Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnwys mwy o wybodaeth am bensiynau yn y Cynllun Gweithredu Arweinyddiaeth Sefydliadol a Diwylliant dan Flaenoriaeth 4, Gweithred V yn yr adroddiad.
· Argymhellodd y Pwyllgor y dylid ychwanegu colofn sylwadau/esboniadol at y graddfeydd Coch, Oren a Gwyrdd yn yr adroddiad.
· Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnwys mwy o wybodaeth am drothwyau graddio yn yr adroddiad.
· Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnwys dyddiad ysgrifennu’r adroddiad er mwyn eglurder wrth ystyried dyddiadau yn yr adroddiad – sef dyddiadau sydd wedi mynd heibio’r rhai a nodwyd erbyn y cyfarfod onda all fod wedi eu cyrraedd erbyn i’r adroddiad gael ei olygu.
Dogfennau ategol: