Agenda item

Monitro'r Gyllideb Refeniw

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad cyntaf ar yr agenda a oedd yn esbonio’r rhagolygon presennol ar gyfer cyllideb refeniw’r Cyngor a'r cyfleoedd a'r risgiau ariannol sydd i’w gweld yn niweddariad mis Gorffennaf.

  

Hwn oedd yr adroddiad monitro refeniw cyntaf i gael ei gyflwyno i'r Cabinet ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

 

Yn erbyn cyllideb net o £373m, roedd y rhagolygon yn adlewyrchu tanwariant o ychydig dros £3 miliwn. Roedd hyn yn ystyried y gyllideb wrth gefn a'r tanwariant disgwyliedig yn ystod y flwyddyn yn erbyn cyllidebau ariannu cyfalaf. 

  

Er y rhagwelwyd tanwariant cyffredinol, nodwyd y rhagwelwyd y byddai gwasanaethau, gyda'i gilydd, yn gorwario £3.7m, ac eithrio ysgolion. Rhoddodd y diweddariad hwn gadarnhad bod rhai o'r risgiau hysbys ar ddechrau'r flwyddyn wedi dod yn ffaith a'u bod yn achosi gorwariant sylweddol, yn enwedig o fewn y Gwasanaethau Plant. Fel y rhagwelwyd, ar hyn o bryd roedd yn bosibl gwrthbwyso gorwariant gwasanaethau gyda'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol a'r tanwariant o fewn ariannu cyfalaf. 

  

Roedd y meysydd allweddol a oedd yn cyfrannu at y rhagolygon tanwariant  o £3m yn cynnwys:

  

(i)               Mwy o alw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol gan gynnwys plant y tu allan i'r ardal a lleoliadau brys. Roedd y ddau faes hyn yn unig yn cyfrannu gorwariant o bron i £4.5m i’r sefyllfa gwasanaethau gyffredinol.

  

(ii)              Roedd y cynnydd yn y galw o fewn y gwasanaeth preswyl ac amhreswyl oedolion yn cyfrannu £2m hefyd at y sefyllfa gwasanaethau gyffredinol. Fodd bynnag, roedd hyn yn cael ei wrthbwyso gan orgyflawni incwm gofal cymunedol oherwydd bod nifer cynyddol o ddefnyddwyr yn cyfrannu at eu gofal.

  

(iii)            Roedd pwysau sylweddol yn amlwg o fewn Tai a Chymunedau, mewn perthynas â digartrefedd. Er i'r Cyngor ddyrannu cynnydd sylweddol yng nghyllideb 2023/24 i fynd i'r afael ag effaith barhaus y gorwariant a gafwyd y llynedd, roedd costau wedi cynyddu ymhellach a rhagwelwyd gorwariant o £711k. Roedd hwn yn faes a brofodd gynnydd sylweddol mewn costau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn dilyn nod polisi Llywodraeth Cymru i leihau digartrefedd yn sylweddol.

  

(iv)            Rhagwelwyd tanwariant yn erbyn cyllidebau nad oeddent yn ymwneud â gwasanaethau, yn benodol y cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac ariannu cyfalaf. Roedd arbedion yn y meysydd hyn, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn fwy na gwrthbwyso’r gorwariant gwasanaethau net, gan arwain at danwariant cyffredinol i'r Cyngor cyfan.

  

(v)             Roedd diffyg disgwyliedig yn erbyn cyflawni arbedion 2023/24 ac arbedion y flwyddyn flaenorol o dros £1.6m. Y ddau wasanaeth a oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r diffyg oedd Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau. O fewn Tai a Chymunedau, nid oedd yn bosibl dangos tystiolaeth o gyflawni'r arbed hwn, yn enwedig o ystyried y gorwariant cyffredinol yn y maes hwn. O fewn y Gwasanaethau Oedolion, dim ond cyflawniad rhannol oedd yn cael ei ragweld, yn rhannol oherwydd diffyg adnoddau i ymgymryd â'r gwaith i gyflawni'r arbedion. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai'r rhain yn cael eu cyflawni'n llawn yn barod ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.  

 

Gan fod amrywiant ysgolion yn cael ei reoli drwy falansau ysgolion unigol, nid oedd y tanwariant cyffredinol o £3m yn cynnwys sefyllfa ysgolion. Roedd ysgolion ar y cyd yn rhagweld gorwariant yn erbyn cyllideb o £5.8m a fyddai'n arwain at falansau’n gostwng o £14.4m i £8.6m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. 

  

Gan ystyried y lefel sylweddol o arbedion yr oedd angen i ysgolion eu cyflawni yn ystod 2023/24 a lefel y gwariant rheolaidd o fewn y gorwariant o £5.8m, parhaodd swyddogion i fonitro balansau ysgolion yn agos dros y tymor canolig fel rhan o strategaeth osgoi ac atal diffyg y Cyngor. 

  

Fel adroddiad cyntaf y flwyddyn ar waith monitor refeniw, roedd yn amlwg yn agored i newid wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen ac wrth i faterion a chyfleoedd newydd ddod i'r amlwg. 

  

Fel yr eglurwyd yn yr adroddiad, mae’r posibilrwydd o gael arian grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o bosibl yn llai dibynadwy nag y gallai fod wedi bod mewn blynyddoedd blaenorol, yn dilyn cyhoeddiad diweddar Prif Weinidog Cymru.

  

Yn ogystal â'r risg o beidio â chael arian grant, roedd risgiau eraill a allai effeithio'n negyddol ar y sefyllfa, gan gynnwys:

  

(i)              Cost dyfarniadau cyflog sy'n fwy na lefel y ddarpariaeth yn y gyllideb, yn enwedig yn achos dyfarniad cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol, nad oedd wedi’i gwblhau.  

(ii)             Pwysau chwyddiant eraill sy’n dod i'r amlwg, er gwaethaf y ffaith bod lefel chwyddiant yn lleihau'n raddol ledled y wlad.  

(iii)           Pwysau galw sy’n cynyddu ymhellach gan arwain at gynyddu gorwariant yn erbyn gwasanaethau a arweinir gan alw, fel Tai a Chymunedau a Gwasanaethau Plant.  

  

O ystyried bod risg y gallai'r sefyllfa hon newid ac y gallai gorwariant ddod i'r amlwg, rhaid gwneud pob ymdrech i liniaru gorwariant o fewn gwasanaethau ac i greu sefyllfa gwasanaethau gytbwys erbyn diwedd y flwyddyn.

  

Er y rhagwelwyd tanwariant, roedd posibilrwydd y gallai'r sefyllfa waethygu wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. Yn ogystal â hyn, roedd cyfyngiadau ar adnoddau cyfalaf ar hyn o bryd, ac roedd tanwariant yn y gyllideb refeniw yn un ffordd o gynorthwyo gyda'r her hon. Oherwydd hyn, roedd angen i wasanaethau a oedd yn gorwario gymryd camau i wella eu sefyllfaoedd a dylai gwasanaethau a oedd yn tanwario barhau i sicrhau nad oedd eu sefyllfaoedd yn newid yn negyddol yn ystod gweddill y flwyddyn.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Davies fod y Cyngor mewn sefyllfa anghyfarwydd, gyda Phrif Weinidog Cymru’n cyhoeddi gorwariant o £900m yn ddiweddar.  Roedd Aelodau'r Cabinet yn gweithio’n galed i sicrhau rhagolygon cadarn er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw bethau annisgwyl cudd. Fel yr Aelod Cabinet dros y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg, roedd effaith y toriadau yn ystod y flwyddyn ar ddarpariaeth grantiau’n peri pryder mawr. Roedd hwn yn ddarlun llwm i ni i gyd.  Byddai'r Cabinet yn canolbwyntio ar wasanaethau lle bo hynny'n bosibl a bu'n rhaid iddo flaenoriaethu cyfrifoldebau statudol.

  

Penderfyniad:  

 

Gwnaeth y Cabinet

         Nodi’r rhagolygon cyllidebol a amlinellwyd yn yr adroddiad hwn, a oedd yn cynnwys gorwariant gwasanaethau, wedi'i wrthbwyso gan danwariant yn erbyn cyllidebau nad oeddent yn ymwneud â gwasanaethau. 

         Nodi’r risgiau a nodwyd drwy gydol yr adroddiad ac yn sylwadau'r Pennaeth Cyllid, fel mewn perthynas â materion galw a oedd yn cael eu hwynebu a dyfarniad cyflog heb ei gadarnhau Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer 2023/24. 

         Nodi'r diffyg cyffredinol o ran cyflawni arbedion a dderbyniwyd fel rhan o gyllideb refeniw 2023/24.

         Nodi'r symudiadau mewn cronfeydd wrth gefn a ragwelwyd.

         Nodi'r sefyllfa gyffredinol mewn perthynas ag ysgolion, gan gydnabod y risg y gallai rhai sefyllfaoedd diffyg unigol ddod i'r amlwg erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.  

 

Dogfennau ategol: