Agenda item

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad nesaf i'w ystyried, sef adroddiad monitro ac ychwanegiadau’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer mis Gorffennaf 2023.

  

Hwn oedd adroddiad monitro cyntaf y flwyddyn ar weithgarwch cyfalaf a oedd yn rhoi trosolwg o'r rhaglen gyfalaf wedi'i diweddaru, ochr yn ochr â'r sefyllfa alldro a ragwelwyd ym mis Gorffennaf eleni.

  

Amlinellodd yr adroddiad y newidiadau a wnaed i'r rhaglen yn dilyn ymarfer ailbroffilio a gwblhawyd yn ddiweddar a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am lefel yr hyblygrwydd cyfalaf a oedd ar gael. Nododd yr adroddiad hefyd yr ychwanegiadau at y rhaglen a nodwyd a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer yr ychwanegiadau hyn. 

 

Amlinellodd adran gyntaf yr adroddiad y symudiad yn y gyllideb gyfalaf ers yr adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Cabinet, sef adroddiad Alldro 22/23. 

  

Gwerth net ychwanegiadau a diwygiadau i'r rhaglen gyfalaf bresennol ers hynny oedd £5.9m, a rhoddwyd dadansoddiad o'r ychwanegiadau hyn yn Atodiad A.  Roedd gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r ychwanegiadau a'r diwygiadau hyn.

  

O ganlyniad i'r ychwanegiadau hynny, ym mis Gorffennaf 2023, cynyddodd y gyllideb bresennol ar gyfer 2023/24 i dros £100m, a oedd yn anodd iawn ei gyflawni, o gymharu â lefel y gwariant yr aethpwyd iddo mewn blynyddoedd blaenorol. 

  

Felly cynhaliwyd ymarfer i adolygu'r proffil gwariant disgwyliedig ar gyfer pob cynllun dros yr haf, gyda'r nod o sicrhau cyllideb ddechreuol fwy realistig i adrodd yn ei herbyn yn ystod y flwyddyn. O ganlyniad, gostyngwyd y gyllideb eleni £15.8m, gyda chynnydd cyfatebol yn y blynyddoedd i ddod. Hyd yn oed yn dilyn yr ymarfer hwnnw, fodd bynnag, roedd y rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 yn dal i fod yn £84.9m, a oedd yn dal yn sylweddol ac yn heriol ei chyflawni'n llawn.

  

Fel rhan o'r argymhellion i'r adroddiad hwn, gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r llithriad a nodwyd yn dilyn yr ymarfer ailbroffilio. Fodd bynnag, gan ddilyn yr un dull â'r llynedd, byddai unrhyw lithriad pellach a nodwyd drwy gydol y flwyddyn dim ond yn destun cymeradwyaeth fel rhan o'r adroddiad alldro terfynol, ar ôl i’r sefyllfa derfynol ddod yn hysbys. 

  

Nododd yr adroddiad hefyd lefel yr hyblygrwydd cyfalaf a oedd ar gael ar hyn o bryd, y gellid ei defnyddio i gefnogi cynlluniau newydd a blaenoriaethau a oedd yn dod i'r amlwg. 

  

Roedd hyn bellach yn £11.942m, ar ôl cynyddu £2.2m ers alldro yn dilyn ein penderfyniad yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Gorffennaf i drosglwyddo rhan o'r tanwariant refeniw o 2022/23 i'r gronfa gwariant cyfalaf wrth gefn. 

  

Ers hynny, roedd swm dros dro o £600k wedi’i ymrwymo i’r hyblygrwydd, mewn perthynas â dymchwel posibl Ysgol Gynradd Millbrook. Roedd y penderfyniad hwnnw'n destun adroddiad ar wahân o fewn y cyfarfod hwn a phe bai cytundeb arno, byddai'n lleihau'r hyblygrwydd i £11.3m. 

 

Er y gallai lefel yr hyblygrwydd ymddangos yn rhesymol ar hyn o bryd, roedd angen rheoli'n dynn y defnydd ohono o hyd, fel bod y Cyngor yn gallu ymateb i faterion hanfodol, wrth iddynt ddod i'r amlwg. Roedd hyn yn gofyn am flaenoriaethu clir o'r materion mwyaf dybryd a brys yn unig. 

  

Yn ogystal, roedd angen manteisio ar unrhyw gyfle i gynyddu'r hyblygrwydd ymhellach, fel ei bod yn bosibl cefnogi cymaint o flaenoriaethau â phosibl a sicrhau bod digon o arian yn bodoli i ymateb i unrhyw faterion a gododd. 

 

Cyflwynodd Cod Rheoli Trysorlys 2021 ofyniad newydd y dylid adrodd am waith monitro dangosyddion rheoli trysorlys a dangosyddion rheoli nad ydynt yn ymwneud â thrysorlys bob chwarter.

  

Yn hanesyddol, roedd y rhain yn cael eu hadrodd ddwywaith y flwyddyn, trwy adroddiadau monitro gwaith Rheoli Trysorlys. Fodd bynnag, er mwyn cydymffurfio â'r gofyniad newydd, roedd y rhain wedi’u nodi yn Atodiad D yr adroddiad. Ar 31 Gorffennaf 2023, roedd yr Awdurdod yn cydymffurfio â'i holl ddangosyddion rheoli trysorlys.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§ Soniodd y Cynghorydd Davies unwaith eto am yr amseroedd heriol a'r anhawster o ran dod o hyd i ddeunyddiau a gweithlu medrus a greodd gyfyngiadau ar ein rhaglen adeiladu.  Roedd yr Aelod Cabinet yn parhau’n ymrwymedig i wella bywydau trigolion yng Nghasnewydd i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyflawni.

  

§ Cytunodd y Cynghorydd Harvey gyda sylwadau'r Cynghorydd Davies.

 

Penderfyniad:  

  

Gwnaeth y Cabinet

§ Gymeradwyo'r ychwanegiadau i'r Rhaglen Gyfalaf y gofynnwyd amdanynt yn yr adroddiad (Atodiad A).

§ Nodi’r sefyllfa alldro gwariant cyfalaf a ragwelwyd ar gyfer 2023/24.

§ Cymeradwyo ail-broffilio £15.8m o gyllideb 2023/24 i flynyddoedd i ddod.  

§ Nodi'r adnoddau cyfalaf a oedd ar ôl ('hyblygrwydd') a'r defnydd a glustnodwyd o'r adnoddau hynny.

§ Nodi cynnwys y dangosyddion materion ariannol Rheoli Trysorlys, a gynhwyswyd yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: