Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad nesaf i gydweithwyr ar Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN).

  

Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gymeradwyo’n gyntaf ymatebion y Cyngor i sylwadau a dderbyniwyd ar yr ymgynghoriad ar Opsiynau Twf a Gofodol ac, yn ail, ac yn bwysicach, i gymeradwyo'r Strategaeth a Ffefrir ac argymell i'r Cyngor y dylid dechrau ymgynghoriad cymunedol ffurfiol o fis Hydref ymlaen. 

  

Roedd yr argymhellion hyn yn unol â'r amserlen yn y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor ac a gadarnhawyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023.

 

O ran yr ymgynghoriad ar Opsiynau Twf a Gofodol, roedd hwn yn gam anffurfiol o ymgynghori a gynhaliwyd am chwe wythnos rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023. Defnyddiwyd yr ymatebion a gafwyd i lywio'r Strategaeth a Ffefrir arfaethedig.

  

Rhoddodd y papur opsiynau ddadansoddiad lefel uchel o'r amrywiol opsiynau o ran twf tir ar gyfer tai a chyflogaeth yn y dyfodol, hyd at 2036, sef oes y CDLlN.  

  

Wrth ystyried twf, roedd yn bwysig cofio bod Casnewydd wedi’i nodi fel Ardal Dwf Genedlaethol yn Cymru’r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma haen uchaf y Cynllun Datblygu at ddibenion cynllunio ac mae angen i bob cynllun lefel leol fod yn unol â'r cynllun cenedlaethol. 

  

Roedd yr Arweinydd yn falch o roi gwybod bod 68 o’r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi’u derbyn gan amrywiaeth eang o randdeiliaid.  Roedd yr ymatebion hyn wedi’u crynhoi yn Adroddiad y Cabinet a'u cynnwys yn llawn yn Atodiad A, ynghyd ag ymateb arfaethedig y Cyngor. 

  

Cafwyd derbyniad cyffredinol bod angen i Gasnewydd dyfu'n gynaliadwy, gan gynnwys nodi tir ar gyfer tai a chyflogaeth newydd. 

  

Nododd ymatebion y Cyngor sut y dylid mynd i'r afael â'r materion a godwyd neu sut y byddent yn cael sylw. 

 

Ailadroddodd yr Arweinydd bwysigrwydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac ochr yn ochr â llawer iawn o dystiolaeth gefndir ac adroddiadau, fe'u defnyddiwyd i lywio'r Strategaeth a Ffefrir. Roedd y ddogfen lawn yn Atodiad B.

  

Er mwyn datblygu Strategaeth a Ffefrir yn ffurfiol, mae angen cyfnod ymgynghori ffurfiol, ac mae'r rheoliadau'n nodi y dylai hyn fod am o leiaf chwe wythnos. Nodwyd y byddai'r ymgynghoriad arfaethedig yn dechrau ym mis Hydref ac yn rhedeg am wyth wythnos. Mae'r cynllun ymgynghori yn cynnwys dulliau amrywiol o ymgysylltu ac ymarferion i sicrhau bod cynulleidfa eang yn cael ei chyrraedd. 

  

O ran y strategaeth ei hun, roedd y strategaeth gyffredinol ar gyfer 9,570 o gartrefi newydd a 8,640 o swyddi newydd.  Gyda'r lefel hon o dwf, gellid cyflawni'r Weledigaeth y cytunwyd arni o wneud Casnewydd yn gyrchfan y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef. Roedd hyn hefyd yn cyd-fynd â dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer twf yng Nghasnewydd. 

  

Er mwyn cyflawni'r twf hwn, cynigiwyd strategaeth ofodol hybrid a oedd yn canolbwyntio ar Dir a Ddatblygwyd yn Flaenorol, ond hefyd yn cydnabod bod angen rhywfaint o faes glas o fewn aneddiadau cyfagos i gyflawni'r strategaeth, ochr yn ochr â rhywfaint o ddatblygu llai o fewn pentrefi. Amlinellwyd manylion safleoedd allweddol arfaethedig â mwy na 300 o anheddau yn y strategaeth.

  

Mae'n bwysig cofio ei bod yn strategaeth ar gyfer ymgynghori, mae safbwyntiau a barn yr holl randdeiliaid yn cael eu croesawu. Byddai'r holl ymatebion yn cael eu hystyried yn fanwl a'u defnyddio i lywio'r Cynllun Adneuo a fyddai'n cael ei ddwyn yn ôl i'r Cabinet tua'r adeg hon y flwyddyn nesaf.

  

Yn olaf, nododd yr adroddiad y byddai diweddariad llafar gan y Pwyllgor Lleoedd a Chraffu yn cael ei roi yn ei gyfarfod ddydd Llun[MK (STL1] .

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Clarke at yr adroddiad helaeth, yr oedd yr Arweinydd wedi'i grynhoi'n dda. Roedd yn bwysig sôn am y ffaith bod Casnewydd yn ardal dwf genedlaethol, fel y dangoswyd yng nghyfrifiad 2021.  Roedd hefyd yn bwysig cael y cynllun cywir ar waith i fodloni anghenion trigolion presennol a rhai'r dyfodol.  Roedd angen i ni sicrhau bod digon o fynediad i dir ar gyfer cyflogaeth a thai newydd o ansawdd da i gefnogi busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu.  Roedd yn galonogol gweld yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar dwf ac opsiynau, roedd hyn yn rhan bwysig o'r broses gynllunio.  Er bod angen cynnal ymgynghoriad sydd o leiaf chwe wythnos o hyd, roeddem yn edrych i ymestyn i wyth wythnos i glywed barn y trigolion. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet iddo fynd i gyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar gyfer Lleoedd a Chorfforaethol yr wythnos hon ac roedd y pwyllgor yn hapus i argymell y gallai'r ymgynghoriad gael ei gynnal.  Yn olaf, diolchodd y Cynghorydd Clarke i’r swyddogion yn y tîm Cynllunio a oedd yn gweithio’n galed ac ychwanegodd fod llawer o waith i'w wneud wrth symud ymlaen.  Felly, cymeradwyodd yr Aelod Cabinet yr adroddiad.

 

Penderfyniad:  

  

Gwnaeth y Cabinet

§ Nodi’r sylwadau ar yr Opsiynau Twf a Gofodol (OTG) a chymeradwyo'r ymatebion a roddwyd yn Atodiad A.  

§ Cymeradwyo papur ymgynghori’r Strategaeth a Ffefrir, a roddwyd yn Atodiad B, ac argymell i'r Cyngor y dylid dechrau ymgynghoriad cymunedol ffurfiol.  

 

Dogfennau ategol: