Agenda item

Adroddiad Blynyddol Newid Hinsawdd

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Adroddiad Blynyddol y Cynllun Newid Hinsawdd ar gyfer 2022/23.

  

Diben yr adroddiad oedd cyflwyno allyriadau sefydliadol ar gyfer 2022/23 ynghyd â diweddariad ar y prosiectau a oedd yn cefnogi ymdrechion datgarboneiddio.

  

Hwn oedd adroddiad blynyddol llawn cyntaf y Cynllun Newid Hinsawdd a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2022.  Nododd y Cynllun Newid Hinsawdd sut y byddai'r Cyngor yn cyflawni Sero Net fel sefydliad erbyn 2030 yn unol â'n hymrwymiadau.

 

Ar y cyfan, mae allyriadau carbon i lawr - ac eithrio caffael, mae allyriadau gweithredol wedi gostwng 7.69% ers 2021/22.  Diolchodd yr Arweinydd i bawb am eu hymdrechion ar hyn.

 

Mae newid hir-ddisgwyliedig yn y ffordd yr oedd gofyn i'r Cyngor adrodd am allyriadau caffael wedi arwain at ffigur cyfredol, a oedd yn llawer is na'r hyn a adroddwyd yn flaenorol.  Fel ymateb i newidiadau yn y canllawiau adrodd, cychwynnwyd ymgysylltiad y Cyngor gyda'i gadwyn gyflenwi i ddechrau llunio ffigurau manylach, sy'n benodol i Gasnewydd.

  

Gyda Chynllun Ynni Ardal Leol ledled y ddinas bellach ar waith, mae camau gweithredu ym Mlwyddyn 2 y cynllun newid hinsawdd â ffocws llawer tynnach ar allyriadau sefydliadol. 

  

Mae gan y rhan fwyaf o gamau gweithredu ar gyfer Blwyddyn 2 y cynllun ddyddiadau cwblhau yn ystod y flwyddyn sy'n galluogi rheoli perfformiad yn well. 

 

Manylyn pwysig i'w nodi oedd yr argymhelliad ar gyfer gwahanu Cynlluniau Gweithredu o'r prif Gynllun Sefydliadol. Byddai Cynlluniau Gweithredu ar gael i'r cyhoedd, ond mae eu gwahanu o’r Cynllun ei hun yn golygu nad oes angen diwygio ac ailgyhoeddi’r Cynllun cyfan yn flynyddol.

  

Roedd prosiectau Newid Hinsawdd nodedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

  

          Cyflwyno hyfforddiant Llythrennedd Carbon i aelodau ac uwch reolwyr a chyflawni statws Achrediad Efydd.

          Sefydlu’r Rhwydwaith Newid Hinsawdd i Staff sydd â dros 30 o aelodau sy'n cyfarfod bob mis.

          Gosod paneli solar pellach drwy Egni, y cwmni solar cydweithredol cymunedol.        Gosod Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer yn Ysgol Gyfun Caerllion.

          Cyflawni Statws Dinas Coed y Byd i gydnabod y gwaith o reoli ein stociau coed.

          Cwblhau Pont Devon Place i gefnogi teithio llesol ar draws y ddinas.

          Newidiadau i brosesau caffael i gefnogi datgarboneiddio trwy'r pryniannau mwy a wneir. Cyn bo hir byddai angen cymeradwyaeth gan y tîm newid hinsawdd ar bob caffaeliad dros £75,000.  

  

Yn y flwyddyn i ddod, y prif feysydd ffocws ar gyfer y Cynllun Newid Hinsawdd fyddai: 

          Datgarboneiddio gwres yn barhaus yn ein hadeiladau, gan ddileu'r angen i ddefnyddio tanwydd ffosil lle bo hynny'n bosibl.

          Cyflwyno gwefru cerbydau trydan yn eang.

          Gwerthuso’r posibilrwydd o ddatgarboneiddio'r tir yr ydym yn berchen arno.  

          Datblygu cynllun cyfathrebu mewnol ac allanol i sicrhau ein bod yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â staff a'r cyhoedd.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Forsey at danau gwyllt, lefelau'r môr sy’n codi a stormydd ofnadwy eleni. Mis Gorffennaf oedd y mis poethaf a gofnodwyd erioed; roedd adroddiad Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn disgwyl mwy o foethdonnau mewn blynyddoedd i ddod.  Mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar fywydau ac ar gynhyrchu bwyd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau â'r gwaith hwn. Bu cynnydd ar ddatgarboneiddio fel y crybwyllwyd yn yr adroddiad yn ogystal â chynnydd ar wefru cerbydau trydan. Yn ogystal, mae Casnewydd wedi derbyn Statws Dinas Coed.  Roedd hyn i gyd yn gynnydd da, ond rhaid iddo barhau.

  

§ Diolchodd y Cynghorydd Hughes i'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth a thimau yng Nghasnewydd. Mae'n bwysig iawn aros ar y trywydd iawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  

§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at y gwaith ôl-osod a oedd yn cael ei wneud mewn ysgolion a’r gwaith o osod y pwmp gwres yn Ysgol Gyfun Caerllion. Nid yn unig yr oedd hyn yn cyfrannu at niwtraliaeth carbon ond roedd yn helpu i leihau costau gwresogi a chyllidebau'r dyfodol o fewn ysgolion.

 

Penderfyniad:  

  

Adolygodd y Cabinet y cynnydd a chymeradwyodd yr Adroddiad Blynyddol.

 

Dogfennau ategol: