Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd
Cynnar yr adroddiad. Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg
drosolwg o'r adroddiad.
·
Nododd y Pwyllgor y thema
ynghylch yr angen am welliannau Cymraeg ail iaith ar draws
argymhellion yr adroddiad a theimlai ei bod yn bwysig i blant feddu
ar fwy o Gymraeg. Gofynnodd y Pwyllgor pa ystyriaeth a oedd wedi'i
rhoi i'r gwelliannau oedd eu hangen. Sicrhaodd y Prif Swyddog
Addysg y Pwyllgor fod cefnogaeth ar gyfer ysgolion i fynd i'r afael
â’r argymhellion. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd a oedd yn
gysylltiedig â gwella Cymraeg ail iaith mewn ysgolion cyfrwng
Saesneg ac a ddarparai becynnau cymorth i ysgolion. Fe wnaethon nhw
dynnu sylw at y cyfleoedd i athrawon fynychu ystod o gyrsiau i
wella sgiliau Cymraeg. Nodon nhw fod y Gwasanaeth Cyflawni Addysg
(GCA) yn gallu mynd i ysgolion a gweithio gydag athrawon i wella
cynlluniau gwersi a’u cyflwyno nhw. Tynnodd y Dirprwy Brif
Swyddog Addysg sylw at y ffaith mai dyma'r arolygiadau cyntaf ers
Covid, a bod y pandemig wedi effeithio
ar ddatblygiad y Gymraeg. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf
o ysgolion yn cymryd rhan yn Cymraeg Campus.
·
Nododd y Pwyllgor y
gwelliant mewn Safonau Cymraeg ond gofynwyd a allai Cyngor Dinas Casnewydd wneud mwy i
sicrhau gwelliannau. Rhoddodd y Prif Swyddog Addysg sicrwydd i'r
Pwyllgor ei fod yn hyderus ynghylch y cyfleoedd am gefnogaeth ar
gyfer sgiliau Cymraeg. Nododd fod gwella sgiliau Cymraeg yn thema
genedlaethol mewn ardaloedd tebyg. Sicrhaodd y Prif Swyddog Addysg
y Pwyllgor y byddent yn parhau i fonitro lefelau
ymgysylltu.
·
Gofynnodd y Pwyllgor a oedd
yr argymhelliad ynghylch bwyta'n iach wedi'i adnabod cyn yr
arolygiad ac os felly, beth oedd wedi'i wneud i fynd i'r afael ag
ef ac a oedd ysgolion tebyg yn cael eu hystyried o ran arfer gorau
i gefnogi Ysgol Gynradd Pilgwenlli.
Sicrhaodd y Prif Swyddog Addysg y Pwyllgor fod cynllun datblygu
wedi’i greu a'i gymeradwyo, gyda'r ysgol yn cael ei monitro
bob hanner tymor. Fe ddwedon nhw wrth y Pwyllgor y byddai ymweliad
â'r ysgol i adolygu prosesau monitro/gwerthuso a rhoi cymorth
a chyngor pellach. Fe wnaethon nhw sicrhau’r Pwyllgor y
byddent yn gallu rhoi diweddariadau i ddangos cynnydd. Dwedodd y
Pwyllgor y byddent fel arfer yn cyfarfod ag ysgolion i drafod
blaenoriaethau a chynlluniau datblygu a sicrhau polisïau
monitro cadarn ond nad oedd yn gallu gwneud hyn gydag ysgolion
cynradd ar hyn o bryd oherwydd gweithredu sy'n brin o streic. Fe
wnaethon nhw sicrhau’r Pwyllgor y byddai’r GCA yn
ymweld ac yn adolygu’r un dystiolaeth â'r awdurdod i
weld a yw'r un casgliadau yn gyffredin, a bod y GCA wedi ymweld
â'r ysgol ac nad oedd wedi canfod unrhyw broblem o ran yr
agwedd bwyta'n iach. Fe wnaethon nhw sicrhau’r Pwyllgor, nawr
bod yr ysgol bellach yn cael ei hadolygu, y gallent ymweld
â'r ysgol a'i monitro er mwyn dangos hyder i Estyn. Fe
ddwedoon nhw wrth y Pwyllgor, os oedd
pryder am ysgol, y gall y Prif Swyddog Addysg ymyrryd yn
gyfreithiol.
·
Roedd y Pwyllgor yn falch o
ganlyniadau'r arolygiad gan llongyfarch yr Aelod Cabinet a'r
Swyddogion. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd yn hawdd cymharu
canlyniadau Casnewydd ag awdurdodau lleol tebyg ac â
chanlyniadau cenedlaethol. Teimlai'r Dirprwy Brif Swyddog Addysg ei
bod yn anodd cymharu gan fod yn rhaid iddynt fod yn ofalus wrth
ddatgan ffigurau gan mai’r ffocws newydd oedd arfer arloesol
a diddorol. Gwnaethon nhw dynnu sylw at y ffaith nad oedd data
ganddynt i'w gymharu fel a oedd ar gael o'r blaen. Teimlent ei bod
yn bwysig edrych ar arweinyddiaeth gan ei bod yn rhan annatod o
ysgolion cryf. Tynnodd y Prif Swyddog Addysg sylw at y stigma sydd
angen ei chwalu ynghylch ysgolion a oedd wedi bod yn destun mesurau
arbennig a rhoddodd wybod i'r Pwyllgor y gall Estyn adolygu
argymhellion ar wahân. Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at y
ffaith bod Estyn wedi cymryd agwedd fwy cefnogol i alluogi
gwelliant a chroesawodd hyn.
·
Llongyfarchodd y Pwyllgor
ysgolion am eu perfformiad a thynnu sylw at y tair ysgol a gafodd
eu tynnu allan o fesurau arbennig.
·
Gofynnodd y Pwyllgor pa
gynnydd a wnaed ar bresenoldeb mewn ysgolion a phlant nad oeddent
mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a pha gymorth oedd ar gael
i les ac iechyd meddwl disgyblion a staff. Nododd y Prif Swyddog
Addysg y canlyniad cryf i blant nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth
na hyfforddiant, gan dynnu sylw at Flwyddyn 11. Cytunodd nad oedd y
ffigurau hyn bob amser wedi bod mor gryf ond iddynt fod yn uwch na
chyfartaledd Cymru ers amser sylweddol. fe dynnon nhw sylw at y
Prosiect Aspire yn ysgolion
Llyswyry a John Frost, yr Uned Cyfeirio
Disgyblion (UCD), y Cydlynydd Llesiant a'u gwaith partneriaeth gyda
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan (BIAB), a'r Swyddog Ymgysylltiad a
Dilyniant Ieuenctid. Esboniodd nad oedd yna ymgysylltu â
nifer fach o bobl ifanc er mwyn diogelu eu hiechyd meddwl a'u lles.
Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg fod Casnewydd yn y
chweched safle yng Nghymru ar gyfer ffigurau plant nad ydynt mewn
addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a'r safle uchaf yn ne-ddwyrain
Cymru. Gwnaethon nhw dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i
ysgolion ynghylch gwahaniaethu ac esbonio fod presenoldeb yn
ddangosydd pwysig o les. Gwnaethon nhw roi gwybod i’r
Pwyllgor nad oedd presenoldeb yn cael ei adrodd yn genedlaethol fel
dangosydd perfformiad allweddol na'i gyhoeddi'n genedlaethol.
Gwnaethon nhw nodi tuedd am i lawr o ran presenoldeb disgyblion ar
ôl y pandemig ar y lefel genedlaethol.
·
Gofynnodd y Pwyllgor a yw'r
cynnydd mewn gwyliau yn ystod y tymor wedi cael effaith ar
bresenoldeb yng Nghasnewydd. Cytunodd y Prif Swyddog Addysg fod
gwyliau yn ystod y tymor yn fwy cyffredin, ond dwedodd wrth y
Pwyllgor fod Hysbysiadau Cosb Benodedig (HCBau) wedi'u hailgyflwyno. Fe wnaethon nhw
sicrhau’r Pwyllgor mai dim ond pan oedd digon o dystiolaeth a
bod rhesymau dros absenoldeb wedi’u harchwilio a chymorth
wedi’i gynnig i deuluoedd y byddai HCBau yn cael eu rhoi. Rhoesant wybod i’r
Pwyllgor am y cynnydd mewn addysg ddewisol yn y cartref. Fe
wnaethon nhw sicrhau’r Pwyllgor fod yna ymgysylltu
â’r teuluoedd a'r cymunedau hyn, a bod Swyddogion
Presenoldeb yn cefnogi gyda digwyddiadau. Rhoesant wybod i’r
Pwyllgor fod data'n cael ei gasglu a'i ddadansoddi i olrhain unrhyw
dueddiadau a oedd yn tynnu sylw at broblemau sylfaenol.
·
Cydnabu'r Pwyllgor yr
anawsterau i bobl ifanc wrth ddychwelyd i addysg ar ôl y
pandemig a theimlent fod angen i fwy o rieni ymgysylltu â'r
gwasanaethau sydd ar gael. Esboniodd y Prif Swyddog Addysg nad oedd
pob disgybl yn addas ar gyfer profiad ystafell ddosbarth "normal".
Gofynnodd y Pwyllgor am fwy o wybodaeth am y gwaith a wnaed o ran
gwaith allgymorth gyda disgyblion a'u teuluoedd.
·
Gofynnodd y Pwyllgor a oedd
y data ar gyfer plant nad oeddent mewn addysg na'r system ysgolion
ar gael a gofyn a fyddai newid deddfwriaethol yn annog ymgysylltiad
rhieni. Tynnodd y Prif Swyddog Addysg sylw at y ffaith bod hawl gan
riant i ddewis addysgu ei blentyn gartref a dwedodd na allai wneud
sylw ar newid yn y gyfraith. Fe wnaethon nhw sicrhau’r
Pwyllgor yr ymgysylltir â rhieni i sicrhau eu dealltwriaeth
o'r hyn yr oedd addysgu gartref yn ei olygu, ac i sicrhau nad oedd
unrhyw broblemau sylfaenol a oedd yn dylanwadu ar y penderfyniad y
gallai'r tîm Addysg roi cymorth i'w datrys. Tynnodd yr Aelod
Cabinet sylw at y ffaith mai'r pryder ar gyfer yr awdurdod lleol
oedd dysgu a diogelu.
Gofynnodd y Pwyllgor pa fonitro a gwerthuso a gwblhawyd ynghylch addysg ddewisol yn y cartref. Dwedodd y Prif Swyddog Addysg wrth y Pwyllgor fod ymweliad blynyddol â phlant a gofrestrwyd, a’u bod yn cael eu monitro. Fe wnaethon nhw sicrhau’r Pwyllgor fod cwestiynau yn cael eu gofyn am yr hyn yr oedd plant yn ei ddysgu. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y ffaith nad oedd cwricwlwm cenedlaethol penodol ar gyfer plant sy'n cael eu haddysgu gartref a bod cymorth yn cael ei gynnig i hwyluso mannau arholiad pan oedd angen hynny ar deuluoedd sy'n addysgu gartref. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd unrhyw niwed i sgiliau cymdeithasol disgyblion oherwydd addysgu gartref. Dwedodd y Prif Swyddog Addysg na fyddent yn gwneud y rhagdybiaeth hon. Tynnodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg sylw at y ffaith bod rhwydweithiau wedi’u sefydlu gan deuluoedd ar gyfer disgyblion sy'n cael eu haddysgu gartref a'u teuluoedd a oedd yn cael eu cefnogi gan y tîm gyda chyfleoedd rhwydweithio fel sesiynau gweithdy. Nododd y Prif Swyddog Addysg fod ymchwil yn awgrymu bod teuluoedd sy'n dewis addysgu gartref yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu barnu, felly roedd yn bwysig ymgysylltu â nhw mewn ffordd gefnogol. Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at ffaith bod y cymorth a roddir i blant sy'n cael eu haddysgu gartref yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn gobeithio y byddai'n parhau.
Dogfennau ategol: