Agenda item

Diweddariad Monitro Gwasanaeth Rhannu Adnoddau

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-       Dimitri Batrouni (Yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol)

-       Rhys Cornwall (Cyfarwyddwr Strategol – Trawsnewid a Chorfforaethol)

-       Tracy McKim (Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid)

-       Matt Lewis (Prif Swyddog, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir)

-       Sarah Stephens (Arweinydd Addysgol, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir)

-       Kath Beavan-Seymour (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir)

-       Dominic Gibbons (Rheolwr Prosiectau Digidol)

-       Mike Doverman (Rheolwr Cymorth i Ddefnyddwyr, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir)

-        Paul Higgs (Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Uwch Dîm Arwain – Gwasanaeth Adnoddau a Rennir)

 

Rhoddodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir a'r Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid drosolwg o'r adroddiad a chefndir i'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir.

 

Trafodwyd y canlynol:

 

·   Cododd y Pwyllgor gwestiynau ynghylch y cynnydd o ran recriwtio sefydliadau ychwanegol i'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir (GAR). Esboniodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir gynlluniau i ymgorffori grwpiau yn y GAR a thynnu sylw at ddiddordeb awdurdod yn Lloegr mewn partneriaeth â GAR.

·   Holodd y Pwyllgor am golli 27 aelod o staff yn y GAR. Esboniodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir mai'r prif reswm dros adael oedd cyflogau is o gymharu â sefydliadau eraill. Yn ogystal, roedd rhai staff yn gweld y gwaith yn rhy gymhleth.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am ddull y GAR o ymdrin â sgamiau ar-lein. Tynnodd y Prif Swyddog sylw at un mesur y maent wedi'i gymryd, sy'n cyfyngu mynediad i'r DU yn unig.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am amrywiaeth y prentisiaid a holodd am gysylltiadau prifysgol ar gyfer profiad gwaith. Rhoddodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir wybod i'r Pwyllgor am eu cydweithrediad â chynllun yng Nghaerdydd a'u hymdrechion i gyrraedd grwpiau lleiafrifol neu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

·   Holodd y Pwyllgor am gysylltu’n uniongyrchol am gymorth gan y GAR. Dywedodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir y gellir darparu'r wybodaeth hon.

·   Holodd y Pwyllgor y ffigurau mewn cronfeydd wrth gefn o’u cymharu â chyllid cyfalaf. Eglurodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir fod y rhain yn ffigurau gwahanol yn seiliedig ar gronfeydd wrth gefn refeniw a chyllid a ddarperir gan Gasnewydd.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am nifer y prentisiaethau yng Nghasnewydd. Eglurodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir fod y cyllid ar gyfer y prentisiaethau hyn yn dod o'r GAR, a'u bod yn gweithio gyda'u holl bartneriaid, nid yn unig yng Nghasnewydd.

·   Holodd y Pwyllgor am alwadau y tu allan i oriau a chymorth TG. Eglurodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir fod y ddesg wasanaeth yn gweithredu 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac mae’r gwasanaeth y tu allan i oriau yn cael ei staffio i ymdrin â materion system hanfodol. Pwysleisiodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid bwysigrwydd gallu GAR i ddarparu cefnogaeth na all tîm TG mewnol.

·   Holodd y Pwyllgor sut mae'r GAR yn cadw’n ymwybodol o ymosodiadau seiberddiogelwch. Soniodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir am ddyrannu adnoddau a staff i fynd i'r afael â materion seiberddiogelwch. Amlygodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid fod gan Gyngor Casnewydd berchennog risg a gefnogir gan y GAR.

·   Gofynnodd y Pwyllgor a oedd unrhyw ymosodiadau neu bryderon diogelwch i ysgolion yng Nghasnewydd. Cadarnhaodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir nad oes unrhyw rai i ysgolion a gefnogir gan y GAR.

·   Holodd y Pwyllgor am rwyddineb defnyddio gwefan newydd Casnewydd. Sicrhaodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid y bydd yn well na'r wefan bresennol a chrybwyllodd gyllido partneriaid i'w dylunio’n briodol. Nododd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir fod Casnewydd yn rhan o gr?p o gynghorau sy'n rhannu arferion gorau ar gyfer dylunio gwefan.

·   Mynegodd y Pwyllgor ddiddordeb mewn lleihau effaith amgylcheddol storio data. Eglurodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir y byddai storio ar y cwmwl yn helpu i gyflawni'r nod hwn. Soniodd y Rheolwr Prosiectau Digidol am bolisi cwmwl Casnewydd, sydd hefyd yn arbed costau ynni.

·   Holodd y Pwyllgor yr amser y byddai'n ei gymryd i ddod â systemau'r GAR yn ôl i'w capasiti llawn pe byddent yn methu. Sicrhaodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir fod ganddynt fesurau ar waith i gyfyngu ar yr effaith, gan gynnwys systemau a chyfleusterau amrywiol. Maen nhw hefyd yn ymchwilio i reoli trychinebau, a fyddai'n golygu cadw copi o'r holl ffeiliau’n allanol. Ychwanegodd Rheolwr Cymorth Defnyddwyr y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir eu bod yn cynnal senarios trychinebau i brofi'r sefyllfaoedd hyn.

·   Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol i'r Pwyllgor, swyddogion a phartneriaid am eu cyfranogiad. Fe wnaethant bwysleisio'r ymdrech gyson i amddiffyn rhag materion seiberddiogelwch a'r awydd i sbarduno sgiliau a thalent yng Nghasnewydd. Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol bwysigrwydd lleihau costau a defnyddio sgiliau'r tîm GAR. Fe wnaethant hefyd bwysleisio pwysigrwydd rheoli a defnyddio data.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am fod yn bresennol.

 

Casgliadau

·   Diolchodd y Pwyllgor i'r gwahoddedigion am fynychu, a chanmol yr adroddiad cadarnhaol,Canmolodd yr aelodau frwdfrydedd y swyddogion wrth drafod yr adroddiad a chryfder y bartneriaeth. Canmolodd yr Aelodau hefyd yr wybodaeth ariannol a ddarparwyd yn yr adroddiad, gan werthfawrogi'r sicrwydd bod arian wedi'i gadw ar gyfer prosiectau amrywiol.

 

·   Gofynnodd yr aelodau am ystadegau ynghylch amrywiaeth y prentisiaid yn y bartneriaeth.

 

·   Roedd yr Aelodau'n falch o dderbyn y newyddion y bydd gwefan y cyngor sydd ar ddod yn blaenoriaethu hygyrchedd i ddefnyddwyr a chydnawsedd ffynhonnell agored ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol. Mynegwyd diddordeb hefyd mewn derbyn enghreifftiau o wefannau ffynhonnell agored a ddefnyddir gan awdurdodau lleol eraill.

 

·   Hoffai’r Pwyllgor fwy o wybodaeth am y Cynllun Adfer Trychineb pan gaiff ei ddatblygu fel rhan o adroddiad y flwyddyn nesaf. Gofynnodd yr Aelodau hefyd am adroddiad Gwybodaeth yn y cyfamser os oedd ar gael.

 

·   Hoffai'r Pwyllgor wybod a oes rhif cyswllt uniongyrchol i'r Aelodau gysylltu â’r GAR gyda materion.

 

·   Hoffai aelodau wybod hyfywedd recriwtio mwy o sefydliadau i'r bartneriaeth.

 

·   Hoffai'r Aelodau wybod a fu unrhyw ddigwyddiadau yn ymwneud â chwalfa sydd wedi arwain at broblemau diogelu mewn ysgolion.

 

 

Dogfennau ategol: