Agenda item

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol Uwch-arolygydd Heddlu Gwent, J White, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cyngor am faterion yr heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.

 

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i siarad gerbron yr Uwch-arolygydd White.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr Uwch-arolygydd White a diolchodd i'r heddlu ar ran

Cyngor Dinas Casnewydd am eu cymorth plismona a wnaed yn ystod y Digwyddiad Pride. Dywedodd yr Arweinydd

fod hyn wedi bod yn enghraifft ragorol o blismona cymunedol a chanmolodd yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu (SCCHau) a fu'n ymgysylltu â'r cyhoedd ar y diwrnod.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod amrywiant mewn ymgysylltiad yr heddlu ag aelodau etholedig yn golygu bod cyfathrebu a gohebiaeth a dderbyniwyd yn wahanol yng ngorllewin Casnewydd o gymharu â'r dwyrain, lle roedd cydweithwyr wardiau wedi cael gwybod am newidiadau diweddar i'r heddlu. Gofynnodd yr Arweinydd a fyddai'r Uwch-arolygydd yn mynd i'r afael â hyn er mwyn sicrhau bod holl gydweithwyr wardiau yng Nghasnewydd yn cael eu hysbysu a'u diweddaru.

 

Cytunodd yr Uwch-arolygydd White fod anghyfartaledd. O ran y newidiadau diweddar i orllewin Casnewydd, roedd Sarjant Merve Priest yn camu i’r adwy fel Arolygydd ac roedd Prif Arolygydd newydd, Amanda Thomas, a oedd yn glir yn ei barn ynghylch cysondeb ymgysylltu ag aelodau etholedig a thrigolion a byddai hyn i'w weld yn yr holl gyfathrebu wrth symud ymlaen.  

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at fonitro terfynau cyflymder 30mya ac 20mya gan yr heddlu a gofynnodd iddynt edrych ar faterion goryrru ar hyd Almond Drive, y tu allan i'r ysgol gynradd.  Er y gallai swyddogion gorfodi'r Cyngor ddangos rhywfaint o weithgarwch, byddai presenoldeb SCCHau hefyd yn cael ei groesawu, o gwmpas oriau ysgol.

 

Cwestiynau i'r Heddlu a ofynnwyd gan y Cynghorwyr:

 

§     Gofynnodd y Cynghorydd Evans gwestiwn damcaniaethol am ei ardd gefn a dywedodd yr Uwch-arolygydd y byddai achosion o'r fath yn cael eu trin fesul achos ac y gellid eu hystyried yn ddifrod troseddol, ond byddai sefyllfaoedd tebyg yn cael eu gwirio gydag asiantaethau eraill fel D?r Cymru cyn penderfynu ar hyn.   

  

Gofynnodd y Cynghorydd Evans pa bwerau barnwrol oedd gan yr heddlu mewn perthynas â theithwyr a pha mor anodd oedd hyn i’w orfodi.  Dywedodd yr Uwch-arolygydd White fod Adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 2022 wedi'i chyflwyno i roi mwy o bwerau i'r heddlu ddelio â gwersylloedd anghyfreithlon, fodd bynnag, roedd yn rhaid bodloni tri maen prawf dan y ddeddfwriaeth hon cyn y gellid gorfodi hyn: difrod sylweddol i dir, aflonyddwch sylweddol, a gofid sylweddol. Roedd gwersylloedd wedi sefydlu yng Nghasnewydd yn y gorffennol gyda phocedi o achosion o ddwyn, difrod ac anhrefn ond ni ystyriwyd hyn yn sylweddol.  Er bod yr Uwch-arolygydd yn deall rhwystredigaeth trigolion, dywedodd canllawiau o Bolisi Llywodraeth Cymru mai'r heddlu sy'n penderfynu a yw rhywbeth yn sylweddol.  

  

§     Cysylltodd trigolion oedrannus â'r Cynghorydd Jenkins i ofyn beth ellid ei wneud i fynd i'r afael â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghefn Asda ym Mhilgwenlli Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd White fod patrolau pwrpasol yn cael eu cynnal o amgylch yr ardal. Mae gan yr heddlu bwerau a Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMCau) ar waith y gallant eu defnyddio.  Roedd yr Uwch-arolygydd o'r farn bod cysylltiadau â'r gymuned yn bwysig, a byddai mwy o batrolau'n cael eu cynnal.  Dywedodd y Cynghorydd Jenkins fod y digwyddiadau'n digwydd yn gyson, byddai'r bobl ifanc yn gwasgaru ar ôl i’r heddlu gael eu ffonio, ond byddent yn dychwelyd ar ôl i'r heddlu adael. Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd White y byddai hyn yn cael ei godi gyda'r Sarjant newydd yn yr ardal, Chris Johnson a fyddai'n trafod pryderon gyda'r Cynghorydd ac yn rhoi cynllun gweithredu ar waith.

  

§     Cyfeiriodd y Cynghorydd Howells at broblemau a oedd yn digwydd o amgylch Siopau Pontfaen a gofynnodd am ddiweddariad ar sut y byddai’r problemau’n cael sylw.  Dywedodd y Cynghorydd Howells fod yr Arolygydd lleol wedi bod yn rhagweithiol wrth gyhoeddi gorchmynion gwasgaru a helpodd yn y byrdymor; fodd bynnag, roedd cynghorwyr ward yn chwilio am ateb hirdymor.  Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd fod gwaith dadansoddol wedi'i wneud i weld ble roedd y difrod yn digwydd ac i nodi’r sawl a ddrwgdybir; roedd hyn yn cynnwys gwylio fideos teledu cylch cyfyng ac ymgysylltu â'r gymuned. Byddai patrolau pwrpasol yn yr ardaloedd i roi sicrwydd i Gynghorwyr a'r gymuned. Mewn gweithrediad diweddar, atafaelwyd saith e-feic, o fewn ardal Llyswyry a Phontfaen.  Gofynnodd yr Aelod Llywyddol beth ddigwyddodd i'r e-feiciau ar ôl iddynt

gael eu hatafaelu.  Dywedodd yr Uwch-arolygydd y byddai'r rhan fwyaf o'r e-feiciau yn cael eu gwasgu, ac y byddai hyn yn cael ei ffilmio a'i rannu trwy'r cyfryngau cymdeithasol.  Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd ei fod yn trafod defnyddio e-feiciau a atafaelwyd fel rhan o fflyd yr heddlu, gan fod yr Heddlu Metropolitanaidd wedi gwneud hyn, ac wedi nodi hyfforddiant a pholisïau priodol.

  

§     Cyfeiriodd y Cynghorydd Reeks at y cynnydd mewn troseddau ar draws Casnewydd.  Mewn cyfarfod ward diweddar ar gyfer Gogledd T?-du, gofynnodd trigolion a oedd hyn oherwydd bod y Cyngor yn diffodd y goleuadau yn ystod y nos. Dywedodd yr Uwch-arolygydd fod y troseddau dwyn y cyfeiriwyd atynt gan y Cynghorydd Reeks wedi digwydd yn ystod y dydd, tra bod nifer y troseddau yn ystod y nos fel byrgleriaethau preswyl wedi gostwng.

  

§     Cyfeiriodd y Cynghorydd Al-Nuaimi at y newid diweddar mewn terfynau cyflymder yng Nghymru a'r ffaith ei fod yn teimlo bod arwyddion yn bwysig i nodi lle dylai gyrwyr gyfyngu eu cyflymder i 20mya.  Dywedodd yr Uwch-arolygydd mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw arwyddion a chyfeiriodd at Reolau'r Ffordd Fawr; mae lampau stryd sy’n 200 llath ar wahân yn nodi terfyn cyflymder o 30mya, ond byddai hyn bellach yn derfyn 20mya oni bai bod arwyddion sy'n dangos fel arall.

  

§     Dywedodd y Cynghorydd Drewett ei bod yn Noson Tân Gwyllt yn fuan a gofynnodd am sicrwydd o ran presenoldeb yr heddlu yn Ridgeway. Dywedodd yr Uwch-arolygydd White fod yr heddlu'n paratoi ar gyfer Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt ac yn rhoi embargos ar swyddogion yr heddlu yn gofyn am wyliau blynyddol i sicrhau’r adnoddau mwyaf posibl ynghyd â'r Gwasanaethau Tân.  

  

§     Roedd y Cynghorydd Hourahine am sôn am dri SCCH a oedd yn gwneud gwaith rhagorol yn Sain Silian ac eisiau rhoi eu henwau cyntaf i'r Uwch-arolygydd, Annabel, Caitlin, a Clare.

  

§     Cyfeiriodd y Cynghorydd Morris at fideo teledu cylch cyfyng yn dangos digwyddiad yn ymwneud â chyffuriau ar e-feic, a gofynnodd a allai drosglwyddo'r wybodaeth i’r Uwch-arolygydd.  Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd y byddai'n cysylltu y tu allan i'r cyfarfod.  

  

§     Diolchodd y Cynghorydd Batrouni i’r swyddogion am ymladd trosedd ar draws y ddinas. Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at y sylwadau a wnaed gan yr Uwch-arolygydd am y cynnydd mewn troseddau a gofynnodd a oedd hyn yn ymwneud â'r argyfwng costau byw.  Dywedodd yr Uwch-arolygydd White fod y rhan fwyaf o droseddau meddiangar o ganlyniad i droseddwyr cyson iawn. Roedd yr Uwch-arolygydd o'r farn bod angen i'r heddlu ymgysylltu â throseddwyr adeg prawf yn llawer cynt i atal y cylch. Nid oedd yr argyfwng costau byw yn helpu pethau, ond o brofiad personol roedd y rhai a oedd yn cyflawni troseddau yn droseddwyr cyson iawn.

  

Roedd y Cynghorydd Hussain wedi mynd i gymhorthfa’r Heddlu yn Ward Fictoria gyda SCCHau lle mynegodd trigolion bryderon am y Gwesty Box yn Llanwern Street.  Diolchodd y Cynghorydd Hussain i'r heddlu am y diweddariad ac roedd wedi trosglwyddo'r wybodaeth i’r trigolion.  Yn ogystal, bu llawer o gwynion yngl?n â Cyril Street a gofynnodd y Cynghorydd Hussain a oedd unrhyw ddiweddariad yn ymwneud â'r eiddo.  Dywedodd y Cynghorydd Hussain hefyd fod Arolygydd Giles y SCCHau wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr wardiau ac felly roedd am ddweud diolch. Roedd yr Uwch-arolygydd White yn ymwybodol bod y Gwesty Box yn achosi problemau sylweddol i drigolion. Mae'r achos yn parhau ac mae'r heddlu'n gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys cau i atal hyn rhag digwydd dro ar ôl tro.  Byddai'r Uwch-arolygydd yn gofyn i'r Arolygydd Giles siarad â'r Cynghorydd Hussain y tu allan i'r cyfarfod am safleoedd problemus gyda'r ardal, gan ei fod yn awyddus i roi cynigion cau ar waith.