Cofnodion:
Cyn dechrau’r cwestiynau, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol i'r Cyngor:
Cynigiodd yr Arweinydd ei chydymdeimlad â'r rhai a oedd â theuluoedd yn Libya a oedd wedi dioddef y llifogydd diweddar.
Balchder yn y Porthladd
Hoffwn ddechrau drwy ddweud pa mor wych oedd gweld cymaint o bobl yn cefnogi ail benwythnos Balchder yn y Porthladd ar ddechrau'r mis hwn.
Roedd y penwythnos cyfan, gan gynnwys y parêd, yr ?yl a'r digwyddiadau eraill, yn ddathliad gwych o'n cymuned LHDTCRhA+.
Siaradais â llawer o bobl a oedd mor hapus i allu profi'r digwyddiad hwn, ac yn bwysig, a oedd yn teimlo eu bod yn gallu bod yn nhw eu hunain. Mae cynwysoldeb a derbyniad yn agweddau hanfodol ar gymeriad ein dinas lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt ac yn cael eu cofleidio am bwy ydyn nhw. Mae'n dangos pam fod digwyddiadau fel hyn yn bwysig, ac rwyf eisoes yn edrych ymlaen at ddathliadau'r flwyddyn nesaf.
G?yl Fwyd
Mae ychydig dros bythefnos i fynd nes bydd G?yl Fwyd Casnewydd yn dychwelyd i ganol y ddinas, ac rwy'n falch iawn y bydd y digwyddiad eleni yn fwy nag erioed, gan gael ei gynnal dros dri diwrnod yn lle un.
Mae'r ?yl wedi cael ei sefydlu fel un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau Casnewydd, ac rydym yn si?r y bydd y rhaglen eleni yn boblogaidd gyda thrigolion, ymwelwyr a busnesau.
Mae'r ?yl yn cychwyn gyda digwyddiad swper ar nos Wener 13 Hydref yn NP20 Bar a Kitchen yng Ngwesty Mercure.
Bydd cogydd nodedig yr ?yl, Hywel Jones, yn mynd â phobl ar archwiliad coginio o fwyd Cymreig, Sioraidd ac Almaeneg gwych, i ddathlu cysylltiadau Casnewydd â'i dwy ddinas efell Kutaisi a Heidenheim.
Mae’r tocynnau ar gyfer y swper ar werth a gellir eu harchebu trwy wefan yr ?yl fwyd.
Ddydd Sadwrn bydd y farchnad fwyd draddodiadol yng nghanol y ddinas, gydag adloniant stryd, arddangosiadau cogyddion ym Marchnad Casnewydd, pentref fegan a llysieuol yn Sgwâr John Frost, ac mae rownd derfynol y gystadleuaeth Cogydd Ifanc yn dychwelyd.
Yn olaf, ar y dydd Sul bydd digwyddiad newydd ar gyfer yr ?yl, gyda cherddoriaeth fyw a gwerthwyr bwyd stryd ar y Stryd Fawr.
Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r bariau lleol Le Pub, McCanns, a Madame JoJo i greu rhaglen wych o adloniant ar gyfer y digwyddiad ar y dydd Sul, ac rydym yn si?r y bydd hynny'n ychwanegiad poblogaidd at raglen yr ?yl.
Ychwanegodd yr Arweinydd na ddylid tanbrisio'r effaith ar yr economi leol ac anogodd drigolion i fynd i’r ?yl.
Arcêd y Farchnad
Rwy'n falch o gadarnhau bod y rhan derfynol o waith adfer yn arcêd hanesyddol Marchnad Casnewydd bellach ar y gweill.
Mae'r prosiect adfer, a ddechreuodd yn ôl yn 2018, wedi cynnwys y Cyngor yn trawsnewid yr arcêd a oedd unwaith yn dirywio yn atyniad masnachol bywiog a hyfyw yng nghanol y ddinas.
Bydd cam hwn y gwaith yn cynnwys gwaith adnewyddu mewnol i nifer o'r unedau yn yr arcêd, yn ogystal â'r gwaith adnewyddu allanol sy'n weddill.
Ni fyddai wedi bod yn bosibl trawsnewid Arcêd y Farchnad heb gefnogaeth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, CADW a chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae placiau wedi'u gosod ar naill ben yr Arcêd ac mae’r gefnogaeth barhaus yn ein galluogi i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau yn ein canolfan dreftadaeth dros dro yn Uned 14 ac i reoli a chynnal a chadw’r safle yn y blynyddoedd i ddod.
Grantiau Busnes
Rydym hefyd newydd gyhoeddi newyddion da pellach i'n busnesau a'n heconomi gyda chynllun grantiau busnes newydd.
Ers sawl blwyddyn, mae'r Cyngor wedi rhoi grantiau i fusnesau bach a chanolig yn y ddinas i helpu gyda chostau busnesau newydd a chostau eraill ac mae hyn yn parhau.
Diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, fel rhan o'i hagenda ffyniant bro, rydym bellach yn gallu cynnig grantiau rhwng £25,000 a £75,000 tuag at fuddsoddiad cyfalaf.
Gwyddom fod busnesau wedi wynebu heriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac felly rydym eisiau parhau i gynnig cymorth pryd bynnag a sut bynnag y gallwn. Mae'r rhaglen cyflymu twf wedi'i hanelu at gwmnïau sefydledig neu newydd i sefydlu safleoedd neu i fusnesau presennol y ddinas gyflymu eu cynlluniau ar gyfer twf.
Mae darpar ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gysylltu â thîm gwasanaethau busnes y Cyngor, a all drafod y broses gyda nhw ac asesu eu cymhwysedd.
Cartref C?n
Rwy’n falch o ddweud bod Cartref C?n Dinas Casnewydd wedi ennill aur mewn dau gategori yng ngwobrau PawPrints RSPCA Cymru 2023 am eu gwaith gyda ch?n strae.
Dyma'r ddeuddegfed flwyddyn i'r tîm gael cydnabyddiaeth gyda gwobr aur yn y categori c?n strae am ei waith caled yn gofalu am y c?n sydd dan ei ofal. Enillodd y tîm ail wobr aur hefyd am ei waith gyda chynelu c?n strae.
Rwy'n si?r y byddwch yn ymuno â mi i longyfarch y tîm ar y gwaith gwych y mae’n ei wneud.
Wal Graffiti
Roeddwn yn falch o fod yn rhan o ddadorchuddio wal graffiti newydd ym Mharc Glebelands yn ddiweddar.
Mae'r gofod pwrpasol yn rhoi lle i artistiaid arddangos eu gwaith, tra'n dod â sblash o liw i'r ardal, ac mae eisoes yn boblogaidd iawn.
Nod dynodi gofod graffiti cyfreithiol yw annog arloesedd a chreadigrwydd mewn amgylchedd diogel, tra'n lleihau lefel y graffiti mewn ardaloedd anawdurdodedig.
Diolch i’r cynghorwyr ward yn Sain Silian a'r Cynghorydd Yvonne Forsey, yr Aelod
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth, sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru a helpodd i ddod â'r prosiect hwn yn fyw.
Strategaeth Ddigidol
Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei strategaeth ddigidol newydd sy'n diffinio'r dyheadau digidol ar gyfer y ddinas dros y pum mlynedd nesaf ac yn nodi sut y bydd y Cyngor yn defnyddio technoleg i drawsnewid y ffordd y caiff ei wasanaethau eu darparu.
Bydd yn cefnogi ac yn gwella lles trigolion a gweithwyr, yn ogystal â galluogi busnesau i ffynnu yn y ddinas yn seiliedig ar bedair thema allweddol: trawsnewid digidol, sgiliau digidol a chynhwysiant, data a chydweithio a seilwaith digidol a chysylltedd.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld rhai o'r newidiadau mwyaf mewn cymdeithas a sut mae pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus. Mae hefyd wedi amlygu anghydraddoldebau yn ein cymunedau o ran mynediad i dechnoleg ddigidol a'r sgiliau angenrheidiol i'w defnyddio'n effeithiol.
Nod y strategaeth ddigidol newydd yw mynd i'r afael â'r materion hyn a chefnogi'r gwaith o gyflawni ein hamcanion a nodir yn y cynllun corfforaethol.
Un o'r mentrau yw hyb canol y ddinas newydd sy'n arddangos y dechnoleg gynorthwyol ddiweddaraf.
Wedi’i agor ym Marchnad Casnewydd yn ddiweddar, mae'r hyb yn lle y bydd pobl yn gallu siarad ag aelodau o dîm therapi galwedigaethol y Cyngor a chael cyngor am ddefnyddio'r dechnoleg gynorthwyol ddiweddaraf, gan helpu trigolion i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel gartref.
Naid y Teigrod
Dyma nodyn atgoffa y bydd y Teigrod, un o dimau arddangos parasiwt blaenllaw'r Fyddin Brydeinig yn glanio yng Nghasnewydd y dydd Sadwrn hwn.
Bydd y tîm yn glanio yn Rodney Parade ychydig cyn cic gyntaf gêm Y Dreigiau v Y Gweilch.
Roedd i fod i ddod i Gasnewydd fel rhan o ddathliadau diweddar Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru, ond yn anffodus nid oedd y tywydd yn ffafriol, felly croesi bysedd ar gyfer y penwythnos hwn.
Mae'r tîm bob amser yn rhoi arddangosfa drawiadol, ac mae'n argoeli i fod yn sioe a hanner. Mae hefyd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am yrfa gyda'r Fyddin. Gwnewch yn si?r bod gennych eich tocynnau ar gyfer y gêm!
Cwestiynau i’r Arweinydd:
Y Cynghorydd Evans:
O ran Llywodraeth Cymru’n gorfodi 20mya yn ddiweddar, cyflwynwyd e-ddeiseb i’r Senedd a oedd wedi derbyn dros 40,000 o lofnodion, yn gofyn am ddiddymu'r terfyn cyflymder 20mya. Mae'r ffigyrau'n cynyddu, a dangosodd amcangyfrif ceidwadol bod dros 40,000 o lofnodion gan drigolion Casnewydd. A fyddai'r Arweinydd yn gwrando ar drigolion Casnewydd ac yn adolygu'r polisi hwn ac yn sicrhau arwyddion cyson.
Ymateb:
Dywedodd yr Arweinydd fod 120 o wledydd wedi llofnodi datganiad yn cydnabod bod lleihau cyflymder wedi gwella diogelwch ar y ffyrdd yn 2020. Felly nid yw'r terfyn cyflymder hwn yn unigryw i Gymru. Yn y DU, mae 28 miliwn o bobl eisoes yn byw mewn awdurdodau lleol lle derbyniwyd 20mya fel y terfyn cyflymder. Bydd yr Alban yn dilyn erbyn 2025. Yn Lloegr, mae gan lawer o gymunedau gan gynnwys Norwich, Tunbridge, a Chichester derfynau 20mya eisoes. Yn Ewrop, Sbaen, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Awstria, y Ffindir, a Sweden defnyddir 30kmph yn helaeth mewn ardaloedd trefol ac adeiledig. Bydd yr Arweinydd yn parhau i adolygu'n rheolaidd a bydd yn ystyried unrhyw geisiadau am ddiwygio neu eithrio’r terfyn cyflymder 20mya.
Y Cynghorydd Morris:
O ran penodi Rheolwr Canol y Ddinas yn ddiweddar, a oedd yr Arweinydd o’r farn bod yr holl weithdrefnau wedi’u dilyn.
Ymateb:
Dywedodd yr Arweinydd nad yw’r cynghorwyr yn cael unrhyw ran mewn recriwtio swyddogion dan y lefel Pennaeth Gwasanaeth a gofynnodd i'r Cynghorydd Mogford gyfeirio ei gwestiwn at Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig neu'r Swyddog Monitro a fyddai'n hapus i ymateb.
Dywedodd y Prif Weithredwr nad yw’n briodol trafod ymholiadau staffio yng nghyfarfod y Cyngor
Llawn ac y gallai’r cynghorwyr gyfeirio eu cwestiynau at y swyddogion yn breifat. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd modd trafod swyddogion mewn cyfarfodydd cyhoeddus oherwydd deddfwriaeth diogelu data.
Y Cynghorydd Whitehead:
Cyfeiriodd y Cynghorydd Whitehead at adroddiadau gan drigolion yn ei Ward ynghylch diffyg ymateb gan Home Options a gwasanaethau eraill fel Gwasanaethau’r Ddinas. Gofynnodd y Cynghorydd Whitehead i’r swyddogion roi ymateb i drigolion i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt neu i roi ateb safonol i gadarnhau y byddai ymatebion yn cael eu hoedi mewn cyfnodau prysurach.
Ymateb:
Dywedodd yr Arweinydd fod y Cynghorydd Whitehead wedi codi mater pwysig a oedd yn effeithio ar drigolion. Roedd yr Arweinydd yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ar draws y Cyngor a'i bod yn bwysig bod angen ymateb prydlon ar drigolion. Nodwyd bod yr Aelodau wedi profi rhwystredigaeth wrth ddefnyddio systemau ar y we. Roedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi bod buddsoddiad i wella gwefan a mynediad Cyngor Dinas Casnewydd ar y gweill, a fyddai'n helpu trigolion a Chynghorwyr hefyd. Mae galw penodol am Home Options, gan roi pwysau eithafol ar y gwasanaeth, a allai olygu oedi mewn ymatebion. Roedd yr Arweinydd yn falch o ddweud, dan arweiniad yr Aelod Cabinet, fod y system Home Options yn cael ei hadolygu a bod Pennaeth Gwasanaeth rhagorol ar waith sy'n arwain ar sicrhau gwelliannau i ymgeiswyr. Mae'r Arweinydd yn croesawu adborth ar faterion penodol mewn perthynas ag ymatebion nad ydynt yn amserol a chanmolodd y Penaethiaid Gwasanaeth yng Nghyngor Dinas Casnewydd am eu gwaith caled.
Y Cynghorydd Bright:
Gofynnodd y Cynghorydd Bright a allai'r Arweinydd roi trosolwg o'r gwaith ar Fargen Ddinesig P-RC, a'r cynnydd a gynlluniwyd yn dilyn yr adroddiad a ystyriwyd gan y Cyngor heno.
Ymateb:
Diolchodd yr Arweinydd i'r Cynghorydd Bright am ei gwestiwn ac roedd o’r farn y byddai aelodau etholedig a oedd yn anghyfarwydd â'r strwythur a'r rôl bwysig a chwaraeodd i Gyngor Dinas Casnewydd. Rhoddodd yr Arweinydd drosolwg o Fargen Ddinesig P-RC sy'n cynnwys y 10 Awdurdod Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Ar draws yr ardal, mae poblogaeth o tua 1.5m, sy'n cyfateb i tua hanner poblogaeth Cymru.
Dyma ranbarth amrywiol gyda dwy ddinas: Caerdydd a Chasnewydd, amrywiaeth o drefi marchnad, cymunedau gwledig, a llain arfordirol. Yn 2016, sefydlwyd Bargen Ddinesig gwerth £13bn P-RC, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a 10
Awdurdod Lleol De-ddwyrain Cymru. Roedd gan P-RC sawl maes clwstwr blaenoriaeth i fuddsoddi ynddynt a'u datblygu. Y meysydd hyn yw'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd, technoleg ariannol, seiberddiogelwch a dadansoddeg, yr economi greadigol, technoleg feddygol, chwaraeon, ynni, a'r amgylchedd. Yn y gr?p hwn mae sawl maes ffocws allweddol, gan gynnwys sgiliau, digidol, eiddo ac arloesedd. Darparodd £735m o’r gronfa ddatblygiadau diriaethol o fewn metro De-ddwyrain Cymru. Mae cronfa fuddsoddi ehangach o £495m yn eistedd gyda P-RC ac yn cael ei buddsoddi ar draws y rhanbarth mewn ystod eang o brosiectau ac mae ar y trywydd iawn i ychwanegu £179m o Werth Ychwanegol Crynswth (GYC) at economi'r rhanbarth bob blwyddyn. Roedd £44m o hyn drwy'r Prosiect Ffowndri Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghasnewydd. Mae cronfeydd newydd wedi'u sefydlu, gan gynnwys cronfa safleoedd strategol, cronfa bwlch hyfywedd tai, cronfa her adeiladu cyfoeth lleol a chronfa arloesi. Mae P-RC yn berchen ar ddau gwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, ochr yn ochr â phortffolio amrywiol o fuddsoddiadau. Yn ddiweddar, buddsoddodd P-RC mewn hen orsaf b?er glo 500 erw, sydd yng nghamau cynnar ailddatblygiad cynhwysfawr ar gyfer cynhyrchu ynni glân domestig. Mae hyn wedi llwyddo i sicrhau dwy Wobr Cronfa Cryfhau Lleoedd Ymchwil ac Arloesi yn y DU.
Heddiw roedd y Cyngor wedi ystyried y CbC, ac mae'n bwysig nodi nad oes gan Gymru bwerau deddfwriaethol sylfaenol i greu awdurdodau cyfunol, ond trwy ddarn o waith a wnaed gan Lywodraeth Cymru, roedd y fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru wedi arwain at ddeddfwriaeth ar gyfer CbCau. Mae'r endidau corfforaethol newydd hyn wedi'u hadeiladu o amgylch pedwar rhanbarth yng Nghymru ac maent yn adlewyrchu'r fargen ddinesig a thwf. Mae P-RC yn ymgymeriad gwirfoddol, tra bod y CbC yn ofyniad statudol. Mae'r trefniant hwn yn rhoi ystod o bwerau i gyrff rhanbarthol, gan eu rhoi ar yr un lefel â chyrff cyhoeddus eraill. Bydd y pontio o P-RC i'r CbC yn golygu y bydd y CbC yn dod yn gorff cyhoeddus sy’n endid cyfreithiol corfforaethol gyda nifer o ddyletswyddau corfforaethol, ochr yn ochr â'r gofyniad statudol ar gyfer dyletswydd lles economaidd, cynllunio trafnidiaeth a defnydd tir rhanbarthol.
Roedd yr Arweinydd yn falch o ddweud bod canfyddiadau newydd o Fynegai Cystadleurwydd y DU yn dangos cynnydd mewn cystadleurwydd yn y rhanbarth cyfan ac o fewn hyn roedd tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o gynnydd mewn cystadleurwydd i Gasnewydd. Dyma effaith 10 awdurdod lleol yn dod at ei gilydd er budd y rhanbarth.