Agenda item

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

Cofnodion:

Cwestiwn 1 - Yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai

  

Y Cynghorydd Debbie Jenkins:

Nod y cynllun corfforaethol yw gwneud Casnewydd yn Ddinas decach, fwy diogel a ffyniannus. Gan fod Rheoleiddio yn rhan o'ch portffolio, a allwch ddiweddaru'r Cyngor ar yr hyn y mae tîm Diogelu'r Cyhoedd yn ei wneud i gyflawni'r nodau strategol hyn?

 

Ymateb gan y Cynghorydd James Clarke:

Mae ein timau Diogelu'r Cyhoedd yn cynnal ystod eang o weithgareddau ar wahanol gyfundrefnau, felly hoffwn roi rhywfaint o fanylion am weithgareddau diweddar ar bob un o'r meysydd hyn i ddangos y gwaith gwych a wneir gan swyddogion y Cyngor.

 

Yngl?n â Safonau Masnach:

Mae ymchwiliadau'n ymwneud â nwyddau ffug a bridio c?n anghyfreithlon yn parhau. Mae'r gwerth twyll cyfun yn fwy na £5 miliwn. 

 

Yn ystod ymgyrch ddiweddar i orfodi tybaco anghyfreithlon yn Commercial Street, cynhaliodd swyddogion wyliadwriaeth ar siopau tybaco anghyfreithlon gan arwain at atafaeliadau a phedwar arestiad. Gwnaeth y swyddogion gau pum siop gan ddefnyddio Gorchmynion Atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. 

 

Mae dyfeisiau fêpio tafladwy anghyfreithlon yn gyffredin; mae 3,370 o fêps tafladwy anghyfreithlon wedi'u hatafaelu ac mae nifer o erlyniadau ar y gweill mewn perthynas â fêps anghyfreithlon a fêps a werthwyd i bobl dan oed.

 

Mae nifer o ymchwiliadau i weithgareddau masnachwyr twyllodrus / teithiol ar wahanol gamau cwblhau. 

 

Mae’r swyddogion yn cynnal archwiliad wedi'i asesu o ran risg mewn busnesau bwyd ledled y ddinas ac mae prosiect ar y gweill i fynd i'r afael ag eiddo rhent preswyl a safleoedd masnachol nad ydynt yn bodloni safonau perfformiad ynni derbyniol.

 

Yngl?n ag Iechyd yr Amgylchedd

Mae'r Adran yn parhau i gefnogi digwyddiadau diogel, darparu rheolaethau bwyd ac ati. Mae'r gwasanaeth yn targedu busnesau lle mae arferion amhriodol fel defnyddio offer anniogel. Er enghraifft, defnyddio offer nwy cegin sydd wedi'i drawsnewid yn anghyfreithlon i nwy petrolewm hylifedig, gan achosi risg o ffrwydrad. Mae mwy o hysbysiadau gwahardd wedi'u cyflwyno yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, na'r pedair blynedd diwethaf.

 

Mae nifer o hysbysiadau gwella hylendid bwyd, hysbysiadau gwahardd a chamau atafaelu, cadw a dinistrio bwyd wedi cael eu gweithredu. Mae dau erlyniad wedi cael eu cynnal. 

 

Yngl?n â Thrwyddedu:

Mae'r Adran hon yn parhau i fonitro busnesau trwyddedig. Mae camau wedi’u cymryd yn ymwneud â thafarndai a chlybiau nos yn torri eu hamodau. Mae gwiriadau gyda'r fasnach dacsis yn parhau. Enghreifftiau o ddigwyddiadau sydd wedi digwydd fyddai bod y tîm wedi ymchwilio i un gyrrwr tacsi a chanfod ei fod yn dweud celwydd am drosedd goryrru. Cafodd y gyrrwr hwnnw ddedfryd ohiriedig a dirwy wedi hynny. Roedd dau yrrwr tacsi wedi gwrthod caniatáu i g?n tywys fod yn eu ceir. Cafodd trwyddedau’r gyrwyr hyn eu hatal hyd nes iddynt gael eu hailhyfforddi.

 

Yngl?n â Diogelwch Cymunedol:

Mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol yn weithgar yng nghanol y ddinas ac yn delio â niwsans s?n, materion iechyd a diogelwch, bu digwyddiadau o dipio anghyfreithlon hefyd lle mae Hysbysiad Amddiffyn Cymunedol wedi'i gyhoeddi mewn rhai achosion.

 

Cyhoeddwyd Hysbysiad Amddiffyn Cymunedol mewn perthynas â phroblem tipio anghyfreithlon ar raddfa fawr ym Maesglas ac yna Hysbysiad Deddf Diogelu'r Amgylchedd a arweiniodd at glirio 2 dunnell o sbwriel. 

 

Mae 139 o gyfarfodydd Adran 115 y Ddeddf Trosedd ac Anrhefn wedi’u mynychu.

Hoffwn orffen trwy gydnabod holl waith caled ac ymroddiad y Tîm.

  

Cwestiwn 2 - Yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol  

  

Y Cynghorydd Emma Stowell-Corten:

A allai'r Aelod Cabinet amlinellu sut mae'r strategaeth ddigidol newydd yn cefnogi ein nod o ddod yn ddinas ddata?

  

Ymateb gan y Cynghorydd Dimitri Batrouni:

Mae nod y Cyngor o ddod yn Ddinas Ddata yn cydnabod gwerth data ac yn cefnogi'r angen i harneisio’r ystorfeydd helaeth o ddata a gedwir gan Gyngor Dinas Casnewydd, ein partneriaid cyhoeddus, a buddsoddwyr busnes presennol ac yn y dyfodol; gan sicrhau ein bod ni fel dinas yn cael ein gyrru gan ddata a bod penderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

 

Mae datblygiadau fel y Sefydliad Technoleg Cenedlaethol yn allweddol i gyflawni ein

dyheadau Dinas Ddata gyda phartneriaid cyhoeddus a phreifat.  Mae'r Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer 2022-2027 yn ategu’r gwaith o gyflawni’r nod hwn drwy ei thema Data a Chydweithio i gefnogi gwneud penderfyniadau, darparu gwasanaethau a chynllunio trwy ddefnydd gwell a mwy effeithiol o ddata; gan sicrhau bod protocolau diogelu data, diogelwch gwybodaeth a rhannu priodol ar waith i hwyluso mynediad i ddinasyddion, busnes ac ymwelwyr at ddata sydd ar gael yn rhwydd, sy’n gyfredol ac sy’n ystyrlon.

  

Cwestiwn 3 - Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth  

  

Y Cynghorydd Farzina Hussain:

Wrth i’r gwaith o weithredu casgliadau sbwriel bob tair wythnos barhau, a all yr Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gam 1 y symudiad i gasgliadau gwastraff gweddilliol bob tair wythnos ac amlinellu cynnydd tuag at gam 2 y symudiad i gasgliadau bob tair wythnos?

  

Ymateb gan y Cynghorydd Forsey:

Dechreuodd Cam 1 y gwaith o gyflwyno'r casgliadau bob tair wythnos ym mis Mehefin eleni ac roedd yn cynnwys tua 11,500 o eiddo. Mae'r tîm gwastraff wedi bod yn monitro casgliadau dros y misoedd diwethaf, hyd yn hyn mae'r canlyniadau'n dangos y canlynol:

  

             Gostyngiad o 15% yn swm y gwastraff gweddilliol a gasglwyd o'r eiddo hyn. Os caiff hyn ei ailadrodd ar draws Casnewydd fel rhan o'r broses o gyflwyno'n ehangach, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn bwrw’r targed ailgylchu o 70%, sef prif nod y newid hwn.  

             Mae ein tîm ymgysylltu â gwastraff ar gael i gynorthwyo trigolion a allai gael trafferth rheoli eu gwastraff. Ers i'r gwaith cyflwyno ddechrau, mae wedi derbyn 84 o ymholiadau ac wedi cwblhau 91 o ymweliadau/cysylltiadau rhagweithiol eraill.

             O ran cydymffurfio â'r polisi 'dim gwastraff gormodol', hyd yma dim ond 166 o lythyrau rhybuddio y mae'r tîm gwastraff wedi'u cyhoeddi oherwydd gwastraff ychwanegol a gyflwynwyd gan drigolion, gyda dim ond saith yn cyrraedd y cam nesaf oherwydd ymddygiad ailadroddus. O ystyried y ffaith bod mwy na 35,000 o gasgliadau bob tair wythnos wedi digwydd dros yr un cyfnod, mae hyn yn cynrychioli lefelau cydymffurfio dros 99%.

  

Yn gyffredinol, mae'r rhain yn ganlyniadau ardderchog sy'n dangos bod y system newydd yn cyflawni'r canlyniadau disgwyliedig a bod trigolion yn ymdopi'n dda â'r newidiadau.

 

Mae'r tîm gwastraff yn paratoi ar gyfer ail gam cyflwyno'r prosiect, a fydd yn cyflwyno casgliadau bob tair wythnos i lawer o drigolion Casnewydd. Bydd mwy o fanylion ar gael yn fuan ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, ond mae disgwyl i gasgliadau bob tair wythnos ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu ddechrau rhwng ail ran mis Hydref a dechrau mis Tachwedd. Mae casgliadau gwastraff gardd yn dod i ben yn ystod misoedd y gaeaf ddiwedd mis Tachwedd, ond byddant yn parhau gyda'r amlder presennol tan hynny. Bydd casgliadau'n digwydd bob tair wythnos ar ôl iddynt ailddechrau ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Bydd pob trigolyn yn derbyn llythyr a thaflen drwy'r post yn cadarnhau'r newidiadau, ym mis Hydref.

 

Cwestiwn 4 - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion)

  

Gan nad oedd yr Aelod Cabinet yn bresennol, byddai'r ymateb yn cael ei roi’n ysgrifenedig i'r Cynghorydd T Harvey a'i gynnwys yn y Cofnodion.

  

Y Cynghorydd Timothy Harvey:

Yng nghyd-destun cryn sylw yn y cyfryngau at iechyd a gofal cymdeithasol, a all yr Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud i gefnogi ein trigolion yng Nghasnewydd am hirach yn eu cymunedau?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Jason Hughes:

Mae sicrhau bod gwasanaethau oedolion Casnewydd yn barod ar gyfer anghenion gofal cymdeithasol y ddinas yn weithgaredd blwyddyn gyfan oherwydd pwysau gweithlu ar draws pob gwasanaeth a chynnydd mewn atgyfeiriadau cymhleth. Rydym yn gweithio ar draws rhanbarth Gwent i sicrhau'r adnoddau a'r cyfleusterau mwyaf posibl i'n trigolion sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae 92% o wasanaethau oedolion yn canolbwyntio ar gefnogi unigolion i aros yn y gymuned/gartref ac osgoi derbyniadau i'r ysbyty.