Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno'r adroddiad cyntaf ar yr agenda,

Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) a gofynnodd am

gymeradwyaeth y Cyngor i gymeradwyo'r Strategaeth a Ffefrir ac i ddechrau’r ymgynghoriad ffurfiol â’r gymuned ym mis Hydref. 

  

Roedd yr argymhelliad hwn yn unol â'r amserlen yn y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor ac a gadarnhawyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023.

 

Mae bod â Chynllun Datblygu Lleol cyfredol ac addas at y diben nid yn unig yn bwysig ar gyfer gweld y ddinas yn tyfu ac yn ffynnu hyd at 2036 ond mae hefyd yn ofyniad statudol. 

  

Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn gam ffurfiol yn natblygiad CDLlN ac mae pwrpas y Strategaeth a Ffefrir yn amlinellu dull a awgrymir o ran ymdrin â datblygu newydd, twf yn y dyfodol a chadwraeth.  

 

Mae Casnewydd wedi'i nodi fel Ardal Dwf Genedlaethol yng Nghymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma oedd haen uchaf y Cynllun Datblygu at ddibenion cynllunio ac mae angen i bob cynllun lefel leol, gan gynnwys ein Cynllun Datblygu Lleol, fod yn unol â'r cynllun cenedlaethol.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Opsiynau Twf a Gofodol a defnyddiwyd yr ymatebion a dderbyniwyd i lywio'r Strategaeth a Ffefrir arfaethedig. Derbyniwyd 68 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan amrywiaeth eang o randdeiliaid. Cafodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hyn a'r ymatebion arfaethedig eu hystyried gan y Cabinet ar 13 Medi a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

Ochr yn ochr â’r ymatebion i’r ymgynghoriad a dderbyniwyd, defnyddiwyd llawer iawn o dystiolaeth gefndir ac adroddiadau i lywio'r Strategaeth a Ffefrir.  

  

Er mwyn datblygu Strategaeth a Ffefrir yn ffurfiol, mae angen ymgynghori ffurfiol pellach. Mae'r rheoliadau'n nodi y dylai hyn fod am o leiaf chwe wythnos, ond cynigiwyd y byddai'r ymgynghoriad yn dechrau ym mis Hydref ac yn rhedeg am wyth wythnos.  Roedd y cynllun ymgynghori yn cynnwys dulliau amrywiol o ymgysylltu ac ymarferion i sicrhau bod cynulleidfa eang yn cael ei chyrraedd. 

  

Ystyriodd y Pwyllgor Craffu Lleoedd a Chorfforaethol y Strategaeth a Ffefrir a'r cynigion ar 11 Medi. Cafwyd trafodaeth gadarnhaol ar y mater hwn ac roedd y Pwyllgor yn fodlon cymeradwyo'r ymarfer ymgynghori â’r cyhoedd.  Croesawodd yr Arweinydd y cais gan Aelodau'r Pwyllgor y dylid ystyried yn ofalus sut i hyrwyddo'r ymgynghoriad a chodi ymwybyddiaeth ohono. 

  

Mae targed i hwyluso’r gwaith o ddatblygu 570 o gartrefi newydd a chreu 8,640 o swyddi newydd wedi'i osod dan y Strategaeth a Ffefrir.  Gyda’r lefel hon o dwf, bydd Casnewydd yn gyrchfan lle bydd pobl eisiau byw, gweithio ac ymweld. 

  

Er mwyn cyflawni'r twf hwn, cynigiwyd mabwysiadu strategaeth ofodol hybrid.  Byddai hyn yn canolbwyntio ar Dir a Ddatblygwyd yn Flaenorol yn ogystal â chydnabod y byddai angen rhywfaint o faes glas o fewn aneddiadau a chyfagos â nhw a rhai datblygiadau llai mewn pentrefi. Amlinellir manylion safleoedd allweddol arfaethedig â mwy na 300 o anheddau yn y strategaeth.

  

Mae’r strategaeth hon ar gyfer ymgynghori, ac mae safbwyntiau a barn yr holl randdeiliaid yn cael eu croesawu. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried yn fanwl a'u defnyddio i lywio'r Cynllun Adneuo a fydd yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Cabinet tua'r adeg hon y flwyddyn nesaf. 

 

Cafodd yr adroddiad ei eilio gan y Cynghorydd Clarke.

 

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§     Cefnogodd y Cynghorydd Evans y cynnig ar gyfer ymgynghori a nododd fod ceisiadau o fewn Ward Allt-yr-ynn i adeiladu ar dir llain las. Teimlai'r Cynghorydd Evans y dylai adeiladu ar dir llain las fod yn ddewis olaf a gofynnodd a allai’r Aelodau dderbyn gwybodaeth ar eu wardiau eu hunain.

  

§     Cefnogodd y Cynghorydd D Davies y cynnig, gan ychwanegu bod cyfrifiad 2021 yn dangos bod Casnewydd yn ddinas sy'n aeddfedu a'i bod yn dod yn lle deniadol i ymgartrefu. Mae angen mwy o dai i gynnal yr economi ffyniannus.  

  

§     Dywedodd y Cynghorydd Clarke ei fod ef, fel Aelod Cabinet, yn gyfrifol am Gynllunio a'i fod yn hapus i gymeradwyo'r adroddiad.  Nid yw mabwysiadu CDLIN yn wahanol i'r broses ceisiadau cynllunio ac mae'n hanfodol casglu barn pobl.  Ystyriodd y Cynghorydd Clarke y lefelau ymateb cadarnhaol gyda bron i 70 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar opsiynau twf gan y gymuned. Roedd yr ymatebion hyn wedi llunio'r strategaeth a gyflwynwyd i'r Cyngor.  Aeth y Cynghorydd Clarke i gyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad - Lleoedd a chroesawodd yr adborth cadarnhaol. Diolchodd y Cynghorydd Clarke i’r swyddogion am eu gwaith sylweddol ac roedd yn hyderus bod y strategaeth yn addas o ran uchelgais tra'n parhau i fod yn gyraeddadwy.  

  

Penderfynwyd:

 

Gwnaeth y Cyngor gymeradwyo papur ymgynghori’r Strategaeth a Ffefrir, a roddwyd yn Atodiad A a dechreuodd yr ymgynghoriad ffurfiol â’r gymuned.  

 

Dogfennau ategol: