Cofnodion:
Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (BGC) wedi'i sefydlu yn 2021 gan y credwyd bod hyn yn fwy effeithiol na’r BGCau gwasgaredig yn unig a oedd wedi bod ar waith cyn hyn. Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau mai rhan o swyddogaethau BGC Gwent oedd bod ganddynt Gynllun Asesu Lles ar waith. Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod yr Asesiad Lles wedi'i gyhoeddi yn 2022 a bod gan Gasnewydd 6 maes asesu. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y bu cyfnod ymgynghori a bod y canlyniadau wedi'u cyfuno i greu drafft ar gyfer y cynllun terfynol a fyddai’n cael ei gyhoeddi yn nodi gwelliannau arfaethedig ar y meysydd allweddol.
Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod y cynllun drafft wedi'i gyhoeddi a bod angen gwneud rhai gwelliannau ond unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau y byddai'n cael ei ddiweddaru ar y wefan gyhoeddus ac y byddai gwybodaeth yn cael ei dosbarthu mewn llyfrgelloedd a mannau cymunedol. Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod dau amcan cydgysylltiol wedi'u nodi o'r Asesiad Lles a rhoddodd disgrifiad byr o’r ddau.
- 1. ‘Rydym am i Went fod yn decach, yn fwy cyfartal, ac yn fwy cynhwysol i bawb.
- 2. ‘Rydym am i Went fod yn barod o ran yr hinsawdd, gan roi gwerth ar ein hamgylchedd a’i ddiogelu er ein budd ni nawr a chenedlaethau’r dyfodol.’
Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y bu ffocws ar egwyddorion Marmot yn yr asesiad, sy'n ddangosyddion iechyd a disgwyliad oes. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau bod 179 o argymhellion i'w gweithio arnynt ond amlygodd fod hwn yn gynllun hirdymor ac na fyddai manteision rhai yn amlwg ar unwaith. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y byddai cyfarfod i edrych ar sut i fynd i'r afael â'r materion hyn a fydd yn rhan o'r cynllun gweithredu. Gorffennodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau drwy annog cynrychiolwyr y Cyngor Cymuned i ddarllen yr adroddiadau ac ystyried ffyrdd y gellir mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn drwy gydweithio.
Diolchodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol i'r Rheolwr Polisi a Phartneriaethau a nododd yr uchelgais.
Holodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau sut y dewiswyd y sefydliadau partner ym BGC Gwent.
- Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod gan y BGC ddeddfwriaeth gyfatebol a bod rhestr o'r rhai sy'n cael eu cyfethol ar gyfer gwaith penodol. Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod rhai sefydliadau yn gweithredu fel cyfrwng ar gyfer sector mwy.
Holodd Cynghorydd Cymuned a oedd unrhyw wybodaeth bellach am egwyddorion Marmot.
- Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau fod yr Athro Marmot wedi cyhoeddi adroddiad am y tro cyntaf yn 2010 ac yna wedi ailedrych ar hyn ar ôl Pandemig COVID-19 i weld a fu unrhyw welliannau. Ni fu unrhyw newidiadau, yr oedd yr Athro Marmot yn hystyried eu bod wedi dynodi nad oedd y systemau presennol yn gweithio er gwaethaf ymdrechion gorau llawer. Mae'r ymchwil yn cael ei hystyried yn ddarlleniad heriol ond mae'n anelu at gymell cydweithredu ac ymagweddau gwell.
Gorffennodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol drwy ddiolch i'r Rheolwr Polisi a Phartneriaethau a thynnu sylw at y camau gweithredu yn y dyfodol.
- Disgwyliwyd y byddai’r Rheolwr Polisi a Phartneriaethau yn rhannu'r dolenni priodol â'r Cynghorwyr Cymuned i hyrwyddo'r ymgynghoriadau yn eu cymunedau.
- Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y byddai'n ymestyn dyddiad cau'r ymgynghoriad hyd ddiwedd mis Hydref.