Cyflwyniad Llafar
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Newid Hinsawdd nifer o gyfleoedd ar gyfer cymunedau. Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd fod dau rwydwaith yn cael eu hadfer. Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd wrth y pwyllgor mai'r rhwydwaith cyntaf oedd Rhwydwaith Amgylchedd Casnewydd sydd ag egwyddorion craidd mannau gwyrdd pwrpasol hygyrch i drigolion Casnewydd. Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd fod gan y rhwydwaith blaenorol ystod eang o aelodau a phan cynhaliwyd arolwg roedd ymdeimlad mawr bod pobl yn dal i fod yn awyddus i gymryd rhan. Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd eu bod yn dymuno hyrwyddo'r rhwydwaith i ragor o bobl a nododd y byddent yn werthfawrogol iawn pe byddai cynrychiolwyr y Cyngor Cymuned yn annog cyfranogiad yn eu wardiau. Nododd y Swyddog Newid Hinsawdd mai’r bwriad o sefydlu'r rhwydweithiau oedd creu gofod a oedd yn galluogi cydweithio ac annog cyfranogiad mewn prosiectau.
Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd eu bod yn anelu at gefnogi cyfarfodydd chwarterol gyda digwyddiad lansio wyneb yn wyneb a fydd yn cael ei hysbysebu pan fydd wedi'i gadarnhau.
Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd wrth gynrychiolwyr y Cyngor Cymuned fod yr ail rwydwaith yn newydd ac yn dod â Hyrwyddwyr Hinsawdd Casnewydd ynghyd. Eglurodd y Swyddog Newid Hinsawdd fod gan y rhwydwaith hwn nod tebyg i Rwydwaith Amgylchedd Casnewydd ond bod ganddo gylch gwaith ehangach, gan ganolbwyntio ar bob gr?p sydd â diddordeb mewn cymryd camau gweithredu i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd. Nododd y Swyddog Newid Hinsawdd y byddai'r rhwydwaith hefyd yn ofod i gysylltu a rhwydweithio wrth ddarparu dolen i'r Cyngor i drafod pryderon.
Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd nad oedd angen ymrwymiad i fod yn bresennol yn naill rwydwaith na'r llall ond nododd eu bod yn dymuno cyfranogiad cynifer o bobl â phosib. Nododd y Swyddog Newid Hinsawdd y byddai’r rhwydwaith hwn yn cynnal cyfarfodydd chwarterol a digwyddiad lansio hefyd.
Amlygodd y Swyddog Newid Hinsawdd rai cyfleoedd y gallai trigolion fanteisio arnynt yn dibynnu ar eu cymhwysedd, gan gynnwys cynlluniau uwchraddio effeithlonrwydd ynni cartref am ddim ECO4 Flex, Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr, Datgarboneiddio Cymunedol, a gwefrwyr cerbydau trydan pellach.
Holodd Cynghorydd Cymunedol a oedd y grantiau effeithlonrwydd ynni ar gael ar gyfer y rheini ar fudd-daliadau yn unig. Nododd y Cynghorydd fod y tai mewn band Treth Gyngor uchel ar gyfer llawer o gymunedau gwledig a holodd beth ellid ei wneud i gefnogi'r bobl hynny a allai fod yn ei chael hi'n anodd yn ariannol hefyd.
- Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd fod gan bob cynllun ei feini prawf cymhwysedd ei hun a nododd fod un yn seiliedig ar fandiau Treth Gyngor a bod un arall yn seiliedig ar sgôr effeithlonrwydd ynni'r eiddo.
- Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd fod gan gynlluniau uwchraddio effeithlonrwydd ynni ECO4 Flex faen prawf gwahanol nad oedd yn ymwneud â'r Dreth Gyngor.
Holodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol a oedd y Swyddog Newid Hinsawdd am i'r Cynghorau Cymuned gyflwyno cynrychiolwyr ar gyfer y rhwydweithiau hyn.
- Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd y bydden nhw'n hapus i’r Cynghorau Cymuned a thrigolion gymryd rhan, neu i bwy bynnag oedd am gysylltu.
Holodd cynrychiolydd o'r Cyngor Cymuned a fyddai unrhyw ymgynghori â Chynghorwyr Cymuned yngl?n â'r mannau gwyrdd.
- Nododd y Swyddog Newid Hinsawdd y gallai fynd i gymunedau i wneud cyflwyniad ond nododd fod y rhwydweithiau yn bennaf ar gyfer ymgysylltu pawb.
- Holodd cynrychiolydd o'r Cyngor Cymuned a fyddai eu barn yn cael ei hystyried gan fod gwybodaeth leol heb gael ei defnyddio gan Hyrwyddwyr Hinsawdd yn y gorffennol.
- Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd wrth gynrychiolwyr y Cyngor Cymuned mai dyma oedd nod y rhwydweithiau a bod yr wybodaeth a'r syniadau i ddod o'r cymunedau eu hunain a thynnodd sylw at bwysigrwydd eu sylwadau.
Eglurodd y Swyddog Newid Hinsawdd y byddent yn cynnig arolygon ar gyfer mewnbwn pobl i wella allyriadau carbon ac ychwanegodd y gallai'r Cyngor wedyn ariannu peth o'r gwaith hynny.
Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd wrth y pwyllgor eu bod yn ehangu’r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan a bod cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio i osod 9 gwefrydd ychwanegol gyda chynllun ar gyfer gosod 6 arall. Nododd y Swyddog Newid Hinsawdd fod swyddogion a fyddai'n gallu mynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau, pryderon neu adborth sy'n gysylltiedig â cherbydau trydan pe byddent yn dymuno cysylltu â nhw.
Gofynnodd cynrychiolydd y Cyngor Cymuned a ellid cynnal yr Arolygon Adeiladu ar adeilad a oedd yn eiddo i Gyngor Dinas Casnewydd.
- Nododd y Swyddog Newid Hinsawdd y byddai'n rhaid ystyried hyn gan fod gwelliannau effeithlonrwydd ynni wedi'u cynllunio ar lawer o adeiladau sy'n eiddo i Gyngor Dinas Casnewydd.
- Holodd cynrychiolydd o'r Cyngor Cymuned a fyddai hyn yn cynnwys Neuadd Bentref.
- Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd y byddai, a thynnodd sylw at y manylion cyswllt cywir ar gyfer y mater hwnnw.
Gorffennodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol drwy ddiolch i'r Swyddog Newid Hinsawdd a thynnodd sylw at y camau gweithredu yn y dyfodol.
- Byddai’r Swyddog Llywodraethu yn rhannu'r sleidiau o'r cyfarfod â'r Cynghorau Cymuned.
- Byddai'r Cynghorau Cymuned yn cysylltu â'r Swyddog Newid Hinsawdd os oeddent am iddi fod yn bresennol mewn cyfarfod a chyflwyno rhagor o wybodaeth.
- Byddai rhestr o'r digwyddiadau sydd ar ddod yn cael ei rhannu unwaith y byddent yn cael eu cadarnhau.
- Byddai rhagor o wybodaeth am yr Arolygon Adeiladu yn cael eu rhannu â'r Cynghorau Cymuned.