Agenda item

Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol 2022/27 (Cynhwyswyd Hunanasesiad Lles Corfforaethol Blynyddol)

Cofnodion:

Yr adroddiad nesaf a gyflwynwyd gan yr Arweinydd oedd Adroddiad Hunanasesiad Cynllun Corfforaethol Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2022-2023.

  

Diben yr adroddiad oedd rhoi trosolwg ar gynnydd y gwaith o gyflawni yn erbyn Cynllun Corfforaethol 2022-2027 y Cyngor ac effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a pherfformiad y Cyngor.

  

Paratowyd yr adroddiad i gydymffurfio â'r gofynion yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau. 

  

Nododd Aelodau'r Cabinet fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Phwyllgor Rheoli Craffu Trosolwg y Cyngor. Cafodd yr adborth a'r argymhellion gan y ddau bwyllgor eu hystyried yn llawn gan y swyddogion. 

  

I grynhoi, gwnaeth y cydweithwyr gofio fod y Cyngor wedi cymeradwyo ei Gynllun Corfforaethol pum mlynedd i gyflawni 'Casnewydd uchelgeisiol, tecach a gwyrddach i bawb'.

  

Adlewyrchodd yr adroddiad blynyddol hwn ar 2022-2023 a'r hyn a gyflawnwyd gan y Cyngor yn ogystal ag amlygu'r heriau a wynebwyd fel sefydliad. 

  

Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf roedd yn gyfnod hynod heriol i'r Arweinydd ac Aelodau'r Cabinet a swyddogion ar draws y Cyngor, gan ymateb i'r argyfwng costau byw, a'r pwysau parhaus ar draws gwasanaethau rheng flaen.

 

Roedd y Cabinet wedi ymrwymo i wella gwasanaethau i gymunedau ac yn cydnabod bod angen dull cydweithredol gyda phartneriaid, trigolion a busnesau o ymdrin â’r heriau ar draws tai, gwasanaethau cymdeithasol, addysg a phriffyrdd.     

  

Roedd hyn hyd yn oed yn fwy heriol yn yr hinsawdd ariannol bresennol, gyda'r angen i sicrhau bod cynaliadwyedd hirdymor cyllid y Cyngor yn darparu'r gwerth gorau i'w drigolion a'i fusnesau. 

  

Cefnogwyd hyn hefyd gan ymrwymiad parhaus y Prif Weithredwr, ei huwch dîm arwain, a’r swyddogion ar draws yr 11 gwasanaeth i ymateb a pharhau i wella'r gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu i drigolion ledled Casnewydd. 

  

Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad, gwnaed dechrau da mewn 2 o'r 4 amcan Lles gyda'r 2 amcan Lles a oedd yn weddill angen gwelliant pellach.

  

Dangosodd yr adroddiad hefyd fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn meysydd allweddol fel Addysg, gyda dim ysgolion yng Nghasnewydd yn destun mesurau arbennig yn dilyn gwelliannau Ysgol Uwchradd Casnewydd ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas.

 

Roedd y Cyngor yn parhau i berfformio'n dda ar draws ei wasanaethau gwastraff ac roedd yr Arweinydd yn falch o nodi y gwnaed dechrau da o ran lleihau allyriadau carbon i fwrw targed o fod yn Gyngor sero net erbyn 2030.

  

Am y tro cyntaf, caeodd y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod ynghyd ag ystod o waith cydraddoldeb pwysig a oedd hefyd yn rhan o eitem nesaf ein hagenda.  

  

O fewn portffolio'r Arweinydd ar gyfer adfywio a datblygu economaidd, cafodd y gwaith yr oedd y Cyngor yn ei wneud ei gydnabod yn ogystal â’i gyfraniad gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Phorth y Gorllewin i sicrhau adfywiad a datblygiad economaidd hirdymor a sylweddol yng Nghasnewydd a'r rhanbarth ehangach.  

 

Roedd Casnewydd yn sicrhau lle fel arweinydd diwydiannau lled-ddargludyddion, uwch-dechnoleg yn y rhanbarth a dim ond un o lawer o enghreifftiau oedd datblygiad gwaith lled-ddargludyddion KLA, lle sicrhawyd 750 o swyddi.  

 

Hyd yn oed yn ystod y mis diwethaf, mae Casnewydd wedi croesawu Microsoft a fydd yn sefydlu canolfan ddata ym Mharc Imperial.  

  

Roedd y Cabinet yn gwbl ymwybodol o'r heriau a oedd yn wynebu canol trefi a dinasoedd ledled y Deyrnas Unedig.  Roedd mwy o drigolion Casnewydd yn prynu cynhyrchion ar-lein a oedd yn effeithio ar y ffordd yr oeddent yn siopa yng nghanol y ddinas.  

 

Roedd yr Arweinydd yn falch iawn o groesawu'r Gweinidog yr wythnos diwethaf a oedd yn falch o'r buddsoddiad a wnaed mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

  

Roedd y Cabinet yn gweithio tuag at sicrhau bod canol dinas Casnewydd yn lle a fyddai'n cynnig manwerthu, llety, gofod swyddfa ac ystod eang o ddigwyddiadau i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.  

  

Roedd Marchnad Casnewydd yn cael effaith gadarnhaol, gan gynnig cyfleoedd i fanwerthwyr bach i ganolig a siopau bwyd.

  

Dangosodd digwyddiadau fel Marathon Casnewydd, Pride Casnewydd, Diwrnod y Lluoedd Arfog, a'r ?yl Fwyd fod Casnewydd yn lle croesawgar a ddenodd bobl o bob cwr o'r wlad i fwynhau'r hyn a oedd gan Gasnewydd i'w gynnig fel dinas.  Roedd tystiolaeth gref bod cynnydd yn nifer yr ymwelwyr oherwydd y digwyddiadau hyn.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§ Dywedodd y Cynghorydd Davies fod blwyddyn wedi bod ers i'r Cyngor gymeradwyo'r cynllun lles gyda'r pedwar amcan clir. Nid oedd yr un o ysgolion Casnewydd yn destun mesurau arbennig, dim ond dau Awdurdod Lleol arall yng Nghymru nad oedd eu hysgolion yn destun mesurau arbennig.  Roedd plant yn ddiogel yn ysgolion Casnewydd, a chydnabuwyd, lle'r oedd iechyd meddwl yn her, fod ysgolion wedi gweithio i oresgyn hyn, gan gynnig darpariaeth bwrpasol i ddisgyblion. Roedd yr ysgolion yn agwedd gadarnhaol ar Gasnewydd ac roedd eu harfer gorau yn cael ei hefelychu ar draws y consortia ac yng Nghymru. Derbyniodd Ysgol Uwchradd Llan-wern wobr addysgu broffesiynol dan Gategori Betty Campbell a dylai'r Cynghorydd Harvey fod yn arbennig o falch o'r wobr hon, fel aelod ward.

  

§ Tynnodd y Cynghorydd Forsey sylw at y gwaith rhagorol ar y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth, gyda gwelliannau mewn cerbydau trydan (CT) fel bysus a lorïau sbwriel a lleihau ôl troed carbon o fewn adeiladau'r Cyngor.  Ystyriwyd yn fwy systemau caffael y Cyngor yn ogystal ag ymgysylltu â chymuned ehangach, ynghylch llwybrau teithio llesol a gorsafoedd gwefru CT. Diolchodd y Cynghorydd Forsey i'r tîm bioamrywiaeth am ei holl waith a diolchodd hefyd i Glwb Rygbi y Dreigiau am ei waith ar ôl troed carbon a dymunodd y gorau iddo am ei gêm gyda Chaeredin dros y penwythnos.

  

§ Dywedodd y Cynghorydd Harvey ei fod yn adroddiad da a diolchodd i'r holl staff cysylltiedig, a oedd yn parhau i weithio’n galed. Cytunodd y Cynghorydd Harvey gyda sylwadau'r Cynghorydd Davies ac roedd yn falch o Ysgol Uwchradd Llan-wern a diolchodd i'r holl staff yng Nghyngor Dinas Casnewydd a oedd yn darparu 800 o wasanaethau yn y ddinas.

  

§ Amlygodd y Cynghorydd Batrouni amcan lles pedwar, gan restru manteision y gwaith yn y maes. Roedd gwaith i'w wneud â'r strategaeth ddigidol i gefnogi unigolion yn y gymuned. Dylai'r Cyngor fod yn falch bod menywod yn meddu ar 65% o’r swyddi a oedd yn talu’r swm mwyaf, a oedd yn gyflawniad gwych. Roedd angen datblygu gwaith mewn meysydd eraill fel cymunedau LHDTC+ a gwefan y Cyngor, a fyddai'n gweld gwelliannau yn y dyfodol agos.

  

§ Ategodd y Cynghorydd Clarke sylwadau ei gydweithwyr a chyfeiriodd hefyd at yr agwedd iechyd a diogelwch a diogelu'r cyhoedd, roedd gwaith atafaelu tybaco, asedau, fêps ac ymchwilio i werthiannau i bobl dan oed yn mynd rhagddo ac roedd straeon cadarnhaol yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’w gydweithwyr am eu sylwadau ac i’r swyddogion am y cynnydd a wnaethpwyd ganddynt dros y flwyddyn ddiwethaf.

  

Penderfyniad:  

 

Cytunodd y Cabinet ar adroddiad hunanasesiad blynyddol y Cynllun Corfforaethol ac argymhellodd y dylid cyflwyno'r adroddiad yng nghyfarfod y Cyngor llawn.

Dogfennau ategol: