Agenda item

Cynllun Ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent (BPRh) 2023 - 2027

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-          Phil Diamond – Pennaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol

-          Sally Anne Jenkins – Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol

-          Y Cynghorydd Jason Hughes - Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: 

 

Rhoddodd Pennaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a'r Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol drosolwg o'r adroddiad.

 

Gofynnodd yr Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

·   Holodd y Pwyllgor am effeithiolrwydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Tynnodd y Cyfarwyddwr Strategol sylw at bresenoldeb sawl bwrdd gan bwysleisio pwysigrwydd cydweithio a gwaith a rennir.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am grynodeb ar bwrpas yr adroddiad. Esboniodd Pennaeth y Tîm Partneriaeth Rhanbarthol ei fod yn cydgrynhoi amryw adroddiadau ac yn amlinellu pwyntiau gweithredu i fodloni gofynion Llywodraeth Cymru.  Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol atebolrwydd a chanlyniadau.  Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn sicrhau bod y pum awdurdod lleol yn cydweithio i fynd i'r afael â materion a amlygwyd gan Lywodraeth Cymru.

·   Mynegodd y Pwyllgor bryder am ddiffyg gwaith partneriaeth o ran yr ymddiriedolaeth hamdden a gweithgarwch corfforol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol fod gwaith yn cael ei wneud i gynnwys unigolion anabl mewn gweithgarwch corfforol a soniodd am ymdrechion i gefnogi'r rhai ag atgyfeiriadau meddyg teulu. Amlygodd Pennaeth y Tîm Partneriaeth Rhanbarthol y byddai'r adroddiad yn cael ei graffu ochr yn ochr â Chynllun Llesiant Gwent ac amlygwyd yn Adran 16 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) bod gofyniad i sefydlu mentrau cymdeithasol.  Nododd Pennaeth y Tîm Partneriaeth Rhanbarthol y byddai angen iddynt ei wneud yn gliriach yn yr adroddiad.

·   Holodd y Pwyllgor am y manteision i Gasnewydd a sut maen nhw'n osgoi problemau o ran galw staff. Eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol natur statudol y bwrdd, mynediad i'r gronfa integreiddio ranbarthol, a'r ffocws ar anghenion penodol grwpiau bach. Amlygodd y Cyfarwyddwr Strategol fod y cydweithio rhwng y pum awdurdod lleol yn caniatáu darpariaeth gref, a nododd nad oedd cystadleuaeth staff yn broblem gan mai’r hyn sy'n gweithio orau i bob awdurdod yw cydweithio a oedd yn rhoi safbwynt cryf a chydlynol iddynt.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am yr heriau sy'n wynebu'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Soniodd y Cyfarwyddwr Strategol am gyfyngiadau cyllidebol, lleihau'r Gronfa Integreiddio Ranbarthol, hyfforddiant a datblygiad gyrfaol, cadw staff, ac effaith y pandemig a chostau byw. Trafododd Pennaeth y Tîm Partneriaeth Rhanbarthol ymdrechion recriwtio mewn colegau gan dynnu sylw at y cwrs Mynediad at Feddygaeth yng Ngholeg Gwent.

·   Roedd y Pwyllgor eisiau gwybod sut yr oedd y bwrdd yn bwriadu osgoi defnyddio eiddo Gwely a Brecwast i bobl ifanc. Cytunodd y Cyfarwyddwr Strategol i roi gwybodaeth ac o bosibl drefnu cyfarfod ar y mater.

·   Cynigiodd y Pwyllgor y dylid ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i wrthwynebu lleihau cyllid. Mynegodd y Cyfarwyddwr Strategol a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol gefnogaeth i'r cam hwn, gan dynnu sylw at y difrod posibl o leihau cyllid.

·   Nododd y Pwyllgor y diffyg gwybodaeth yn yr adroddiad ynghylch y cynnydd mewn gordewdra gan bwysleisio ei bwysigrwydd. Gofynnon nhw am strategaeth benodol neu os oedd y bwrdd partneriaeth yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Soniodd Pennaeth y Tîm Partneriaeth Rhanbarthol ei fod yn bwynt allweddol yn y cynllun lles ac yn cael blaenoriaeth yn y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, ond roedd mwy o ffocws hefyd ar fynd i'r afael ag ef ar lefel leol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am fod yn bresennol.

 

Casgliadau

  • Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am eu cyflwyniad a chanmolodd y bwrdd partneriaeth am eu hymdrechion parhaus. Nodwyd bod y ddogfen yn eithaf cymhleth ac ailadroddus, ac roeddent yn teimlo y gallai gwybodaeth bwysig fynd ar goll yn y ddogfen o ganlyniad. Er eu bod yn deall yr angen statudol i gyflwyno'r adroddiad yn y fformat hwn, roeddent yn awgrymu y gallai adroddiadau yn y dyfodol elwa o lai o ailadrodd a jargon, neu hyd yn oed fod yn fwy cryno. Byddai hyn yn helpu aelodau i ddeall y wybodaeth a gyflwynir yn well.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor i'r adroddiad fanylu'n benodol ar sut y cydweithiodd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gydag Ymddiriedolaethau Hamdden a chyrff llywodraethu chwaraeon lleol i wella hygyrchedd hamdden. Gwnaethant hefyd holi am unrhyw brosiectau parhaus neu wedi'u cwblhau yn hyn o beth, gan ofyn am wybodaeth am eu dyddiadau cychwyn, lleoliadau, cyfraddau llwyddiant, a meysydd gwella posibl.

 

  • Tynnodd y Pwyllgor sylw at y rhaglen Ailgartrefu Cyflym a'r ymrwymiad i beidio â defnyddio llety gwely a brecwast i gartrefu pobl ifanc dros dro, a gofynnodd am wybodaeth am elfen y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol o'r ymrwymiad hwn. 

 

  • Mynegodd y Pwyllgor ei fwriad i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, gan ofyn iddynt ailystyried lleihau’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, o ystyried yr amgylchiadau ariannol presennol.

 

  • Holodd y Pwyllgor a oedd y bartneriaeth wedi datblygu strategaeth neu wedi cydweithio ar draws partneriaeth â'r Tîm Iechyd i fynd i'r afael â'r lefelau cynyddol o ordewdra yn y rhanbarth.

 

 

Dogfennau ategol: