Agenda item

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022-23

Cofnodion:

Gwahoddedigion:  Rhys Cornwall (Cyfarwyddwr Strategol – Trawsnewid a Chorfforaethol) 

Tracy McKim (Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid)    

Janice Dent (Rheolwr Polisi a Phartneriaeth)  

Donald Mutale (Uwch-swyddog Cydraddoldeb) 

Amanda Bouadana (Partner Busnes Uwch AD a DS) 

  

Cyflwynodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid (PPT) yr adroddiad a rhoddodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth ac Uwch-swyddog Cydraddoldeb grynodeb o'r adroddiad.  

  

Cwestiynau: 

  

Nododd y Pwyllgor fod gwelliant sylweddol wedi bod ers y llynedd.   

  

Holodd y Pwyllgor pam mae'r adran ar Addysg yn canolbwyntio ar waharddiadau a phresenoldeb ond nid ar gyrhaeddiad.    

  

       Roedd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth yn ansicr nad oedd cyrhaeddiad wedi'i gynnwys yn yr adroddiad hwn, ond sicrhaodd y Pwyllgor y byddai'n cael ei gynnwys yn y cynllun nesaf. Amlygodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth y byddai gwybodaeth ar gael mewn adroddiadau addysg eraill a bod Llywodraeth Cymru wedi oedi rhag adrodd gorfodol ar y safonau hyn yn ystod COVID-19.     

       Amlygodd y Cyfarwyddwr Strategol - Trawsnewid a Chorfforaethol y byddai cyrhaeddiad Addysg yn cael ei fonitro yn y Pwyllgor Craffu Perfformiad - Pobl. Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn dangos sut roedd yr awdurdod yn casglu data ar bresenoldeb ac yn derbyn bod canlyniadau'r broses yn cael eu hadrodd mewn mannau eraill ond ni soniwyd am y broses o ran cyrhaeddiad.   

       Nododd y Cyfarwyddwr Strategol - Trawsnewid a Chorfforaethol adborth y Pwyllgor ac awgrymodd y gallai'r Pwyllgor argymell ei fod yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad nesaf.   

       Nododd yr Uwch-swyddog Cydraddoldeb eu bod, wrth osod amcanion, yn gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Hawliau Dynol Cydraddoldeb ac mae presenoldeb a gwaharddiadau wedi’u cynnwys yn yr amcanion hyn. 

  

Nododd y Pwyllgor nad yw pob preswylydd yn hyddysg mewn TG a holodd beth arall y gellid ei wneud i gefnogi'r demograffig hwn.   Nododd y Pwyllgor hefyd fod Gorymdaith Pride wedi bod yn llwyddiannus a'i fod am ddiolch i bawb a gymerodd ran.  

 

 

       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol -Trawsnewid a Chorfforaethol fod pobl sy'n gallu defnyddio TG i gael mynediad at wasanaethau yn creu mwy o gapasiti ar gyfer argaeledd mynediad nad yw'n ddigidol i'r rheini sydd angen cymorth.  Nododd y Cyfarwyddwr Strategol y byddai adolygiad o wasanaethau cwsmeriaid o'u dechrau i'w diwedd a byddai un o'r amcanion yn mynd i'r afael â mynediad teg a oedd yn cynnwys pobl yn cael mynediad priodol at wasanaethau.      

  

Holodd y Pwyllgor a gofnodwyd nifer y bobl nad ydynt yn gallu defnyddio'r gwasanaethau ar-lein sydd wedi hynny’n ffonio'r Ganolfan Gyswllt.  

  

       Sicrhaodd y Cyfarwyddwr Strategol - Trawsnewid a Chorfforaethol y gallent gael gafael ar y data hwnnw ac roedd tystiolaeth bod mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau ar-lein.    

  

Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn amlinellu sut mae'r cyngor yn casglu llawer o ddata, ond mae'r unig ddata a ddarperir mewn unrhyw fanylder yn ymwneud â gweithlu'r cyngor.    

  

       Nododd y Rheolwr Pobl a Phartneriaeth fod data'r gweithlu yn ofyniad statudol ar gyfer adrodd.

       Eglurodd yr Uwch-swyddog Cydraddoldeb fod rhai meysydd lle mae data wedi'i gynnwys gan ei fod yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau strategol a'i fod wedi'i adrodd mewn cynlluniau eraill gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol a Chynlluniau Gwasanaeth.   

  

  

Nododd y Pwyllgor fod trosiant staff uchel yn rhoi pwysau ar bob swyddog. 

  

       Amlygodd y Cyfarwyddwr Strategol -Trawsnewid a Chorfforaethol y nod gyffredinol o recriwtio a chadw talent; mae dwy ran o dair o'r gweithlu mewn ysgolion gyda'r gweddill yn darparu gwasanaethau amrywiol a byddai trosiant yn wahanol drwy gydol pob gwasanaeth.    

       Sicrhaodd yr Uwch-reolwr Busnes AD ac OD y Pwyllgor y byddent yn gallu cael gafael ar y data hwnnw a'i ddadansoddi er mwyn deall pam fod pobl yn symud ymlaen a gellir bwydo hyn yn ôl i wasanaethau.  Nododd yr Uwch-reolwr Busnes AD a DS fod rhai pobl yn gadael am gyfleoedd datblygu lle nad oes swydd ar gael o fewn y cyngor ond eu bod yn gadael gyda phrofiad cadarnhaol o'u cyflogaeth yn y cyngor.  

  

Nododd y Pwyllgor nad oedd y data statudol yn cynnwys diswyddiadau. 

  

       Sicrhaodd yr Uwch-reolwr Busnes AD a DS y Pwyllgor mai adleoli oedd yr opsiwn cyntaf bob amser i staff sydd mewn perygl o gael eu diswyddo.   Nododd yr Uwch-reolwr Busnes AD a DS eu bod yn cydweithio â staff ac undebau llafur ond mewn sefyllfaoedd heriol o ran y gyllideb, roedd diswyddiadau, gwaetha'r modd, yn anochel.    

  

Casgliadau:

 

 

       Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am nifer y bobl sy'n cysylltu â Chanolfan Gyswllt y Ddinas dros y ffôn gan nad oeddent yn gallu defnyddio gwasanaethau digidol.    

       Tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd sicrhau bod Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig gwasanaethau hygyrch a defnyddiadwy sy'n bodloni gofynion trigolion wrth ryngweithio â'r cyngor. Amlygodd y Pwyllgor nad oedd hyn yn gyfyngedig i'r adroddiad hwn ond ei fod yn thema ehangach ar draws y cyngor.   

       Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnwys cyrhaeddiad disgyblion yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol nesaf.   

       Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnwys rhagor o wybodaeth am y data a ddefnyddir i ddangos yr angen am newidiadau neu welliannau, ac i fesur y canlyniadau, mewn adroddiadau.  

 

Dogfennau ategol: