Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Bartner Busnes Cyllid, y Prif Gyfrifydd yr adroddiad i Aelodau'r Pwyllgor.
Rhoddodd yr adroddiad wybod i'r Pwyllgor am weithgareddau'r trysorlys a gynhaliwyd o fewn blwyddyn ariannol 2023/24 a chadarnhaodd fod yr holl ddangosyddion trysorlys a darbodus wedi cael eu dilyn, yn unol â'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys y cytunwyd arni.
Parhaodd y cyngor i fod yn fuddsoddwr arian parod byrdymor ac yn fenthyciwr i reoli llif arian parod o ddydd i ddydd. Roedd y rhagolygon cyfredol yn dangos y gallai fod angen benthyca dros dro yn y dyfodol i ariannu gweithgareddau llif arian arferol o ddydd i ddydd a byddai benthyca tymor hwy yn cynyddu i ariannu ymrwymiadau yn y rhaglen gyfalaf bresennol, yn ogystal ag effaith llai o gapasiti ar gyfer 'benthyg mewnol'.
Hyd at ddiwedd mis Medi 2023, benthyg net y Cyngor oedd £80.8m, sef gostyngiad o £10.6m o'i gymharu â lefelau ar 31 Mawrth 2023.
Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu'r strategaeth / gweithgaredd benthyg mewn perthynas â benthyg tymor byr a thymor hir.
Sylwadau Aelodau'r Pwyllgor:
Gofynnodd y Cynghorydd Harris sut roedd Cyllid yn monitro sefyllfa cynghorau eraill yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi benthyg iddynt, gan fod llawer o gyhoeddiadau gwasg wedi bod ynghylch cynghorau yn cyhoeddi neu'n agos at gyhoeddi hysbysiadau Adran 114. Soniodd yr Uwch Bartner Busnes Cyllid, y Prif Gyfrifydd fod cyngor wedi ei gymryd gan Gynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor ynghylch y Cynghorau hynny a oedd yn ymdrin â Hysbysiad Adran 114.
Soniodd Mr Reed ei fod yn deall bod yr adroddiad yn cymharu diwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Medi, ond fe holodd a fyddai ychwanegu rhywfaint o ddata o flynyddoedd blaenorol fel pwyntiau cyfeirio yn helpu i ddangos cyfeiriad teithio. Dywedodd yr Uwch Bartner Busnes Cyllid, y Prif Gyfrifydd fod dangosyddion Rheoli'r Trysorlys wedi'u gosod ar gyfer y flwyddyn 2023/24, a phwrpas yr adroddiad oedd mesur yn erbyn y strategaeth trysorlys yn ystod y flwyddyn. Cytunodd y Pennaeth Cyllid i ymgorffori rhai pwyntiau data ychwanegol i roi syniad o'r darlun deuddeg mis.
Holodd y Cadeirydd a oedd cyllid Salix yn dal i fod ar gael ar gyfer effeithlonrwydd ynni a gofynnodd a oedd cyfle i ddefnyddio mwy o'r cyllid hwn i wrthbwyso gwariant cyfalaf. Yn ail, cyfeiriodd y Cadeirydd at y gyfradd Opsiwn Rhoddwr Benthyciadau Opsiwn Benthyciwr (ORhBOB), a dalwyd ar ei ganfed ar y gyfradd ORhBOB o £5M, a gofynnodd a yw'r Cyngor yn gallu cael cyfradd well gyda benthyca tymor byr yn lle hynny.
Dywedodd yr Uwch Bartner Busnes Cyllid, y Prif Gyfrifydd fod Salix yn cael ei reoli gan y Tîm Effeithlonrwydd Ynni ac os oedd opsiynau i ddefnyddio cyllid Salix yna byddai hyn yn cael ei weithredu. Yn ail, o ran benthyciad ORhBOB, cadarnhaodd yr Uwch Bartner Busnes Cyllid, y Prif Gyfrifydd fod cyngor gan y Trysorlys wedi'i gymryd ynghylch y dull o fenthyca tymor byr gyda'r nod o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl gan gydbwyso'r risgiau a'r mesurau lliniaru sy'n gysylltiedig â benthyg tymor penodol a'r cyfraddau sydd ar gael.
Diolchodd y Cadeirydd i'r tîm Cyllid am yr adroddiad.
Argymhelliad:
Nododd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yr adroddiad ar weithgareddau rheoli'r trysorlys yn ystod hanner blwyddyn gyntaf 2023-24 a darparodd sylwebaeth i'w chynnwys yn yr adroddiad dilynol i'r Cabinet/Cyngor.
Dogfennau ategol: