Agenda item

Monitor Cyllideb Refeniw

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad cyntaf a gyflwynwyd gan yr Arweinydd yn esbonio’r rhagolygon presennol ar gyfer cyllideb refeniw’r Cyngor a'r cyfleoedd a'r risgiau ariannol sydd i’w gweld yn niweddariad mis Gorffennaf.

  

Dyma'r ail adroddiad monitor refeniw a gyflwynwyd i'r Cabinet y flwyddyn ariannol hon ac adlewyrchodd danwariant o £3.5m, oedd yn welliant o £0.5m ar ffigurau mis Gorffennaf. 

 

Roedd y sefyllfa hon yn ystyried y gyllideb wrth gefn a'r tanwariant disgwyliedig yn ystod y flwyddyn yn erbyn cyllidebau ariannu cyfalaf. 

  

Er y rhagwelwyd tanwariant cyffredinol, nodwyd y rhagwelwyd y byddai gwasanaethau, gyda'i gilydd, yn gorwario £3.5m, ac eithrio ysgolion. 

  

Rhoddodd y diweddariad hwn gadarnhad bod rhai o'r risgiau hysbys ar ddechrau'r flwyddyn wedi dod yn ffaith a'u bod yn achosi gorwariant sylweddol, yn enwedig o fewn y Gwasanaethau Plant. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai’n bosibl gwrthbwyso gorwariant gwasanaethau gyda'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol a'r tanwariant o fewn ariannu cyfalaf. 

  

Roedd yr amrywiadau allweddol o fewn y sefyllfa gyffredinol yn cynnwys:

  

(i)               Mwy o alw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol gan gynnwys lleoliadau y tu allan i’r ardal a brys i blant. Roedd y ddau faes hyn yn unig yn cyfrannu gorwariant o bron i £4.5m i’r sefyllfa gwasanaethau gyffredinol.

  

(ii)              Roedd y cynnydd yn y galw o fewn y gwasanaeth preswyl ac amhreswyl oedolion yn cyfrannu £2.1m hefyd at sefyllfa gyffredinol y gwasanaeth. Fodd bynnag, roedd hyn yn cael ei wrthbwyso gan

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

orgyflawni incwm gofal cymunedol o ganlyniad i gynnydd yn niferoedd defnyddwyr sy’n cyfrannu at eu gofal.

  

(iii)            Roedd pwysau sylweddol yn amlwg o fewn Tai a Chymunedau, mewn perthynas â digartrefedd. Er i'r Cyngor ddyrannu cynnydd sylweddol yng nghyllideb 2023/24 i fynd i'r afael ag effaith barhaus y gorwariant a gafwyd y llynedd, roedd costau wedi cynyddu ymhellach a rhagwelwyd gorwariant o £1m. Roedd hwn yn faes a oedd wedi profi cynnydd sylweddol mewn costau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn dilyn nod polisi Llywodraeth Cymru i leihau digartrefedd yn sylweddol.

  

(iv)            Rhagwelwyd tanwariant yn erbyn cyllidebau nad oeddent yn ymwneud â gwasanaethau, yn benodol y cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac ariannu cyfalaf. Roedd arbedion yn y meysydd hyn, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn fwy na gwrthbwyso’r gorwariant gwasanaethau net, gan arwain at danwariant cyffredinol i'r Cyngor cyfan.

  

(v)             Roedd diffyg disgwyliedig yn erbyn cyflawni arbedion 2023/24 ac arbedion y flwyddyn flaenorol o dros £1.6m. Y ddau wasanaeth a oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r diffyg oedd y Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau. Nid oedd yn bosibl dangos tystiolaeth o gyflawni'r arbed hwn o fewn Tai a Chymunedau, yn enwedig o ystyried y gorwariant cyffredinol yn y maes hwn. O fewn y Gwasanaethau Oedolion, er bod rhai cynigion yn profi'n anodd eu cyflawni ar hyn o bryd, nodwyd y gellid gwrthbwyso arbedion cysylltiedig â staffio nas cyflawnwyd o'r blaen (cyfanswm o £481k) yn barhaol yn erbyn lefelau incwm preswyl a dderbynnir gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r trosglwyddiad arian angenrheidiol er mwyn dangos bod yr arbediad hwn wedi'i gyflawni'n barhaol.  

  

Gan fod amrywiant ysgolion yn cael ei reoli drwy falansau ysgolion unigol, nid oedd y tanwariant cyffredinol o £3.5m yn cynnwys sefyllfa ysgolion. Mae ysgolion yn rhagweld ar y cyd orwariant yn erbyn cyllideb o £5.4m a fyddai'n arwain at falansau’n gostwng o £14.4m i £9.1m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. 

  

O ystyried y lefel sylweddol o arbedion yr oedd angen i ysgolion eu cyflawni yn ystod 2023/24 a lefel y gwariant rheolaidd sydd wedi’i gynnwys o fewn y gorwariant o £5.4m, parhaodd swyddogion i fonitro balansau ysgolion yn agos dros y tymor canolig fel rhan o strategaeth osgoi ac atal diffyg y Cyngor. 

  

Nododd cydweithwyr yn y Cabinet hefyd fod yr adroddiad yn cynnwys cais i gymeradwyo'r defnydd o'r

Gronfa Trawsnewid i gefnogi'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni gwahanol agweddau ar Raglen Trawsnewid y Cyngor, yn bennaf ffrwd gwaith Asedau. Roedd y cais yn gyfanswm o £774k ac yn cwmpasu cyfnod o dair blynedd. 

  

Cadarnhaodd yr adroddiad fod digon o arian o fewn y Gronfa i dalu am y gwariant hwn. Fodd bynnag, roedd yn bwysig nodi sylwadau'r Pennaeth Cyllid ynghylch yr angen i flaenoriaethu ailgyflenwi'r gronfa hon o unrhyw danwariant eleni, er mwyn sicrhau bod cyllid digonol ar gael ar gyfer ymrwymiadau yn y dyfodol. 

  

Nawr bod pwynt hanner ffordd y flwyddyn wedi'i gyrraedd, nid oedd rhai o'r risgiau a adroddwyd o'r blaen yn bodoli mwyach, fel dyfarniad cyflog CGC ar gyfer eleni, a gadarnhawyd eu bod yn cyd-fynd â disgwyliadau blaenorol. Fodd bynnag, arhosodd rhai risgiau, yn enwedig o ran y galw am wasanaethau, a allai ddangos lefel uchel o anwadalrwydd. Gyda hyn mewn golwg, roedd posibilrwydd o hyd y gallai'r sefyllfa newid rhwng nawr a diwedd y flwyddyn. 

  

O ystyried bod risg y gallai'r sefyllfa hon newid ac y gallai gorwariant neu llai o danwariant ddod i'r amlwg, rhaid dal ati i wneud pob ymdrech i liniaru gorwariant o fewn gwasanaethau ac i greu sefyllfa gwasanaethau gytbwys erbyn diwedd y flwyddyn.

  

Rhan o'r rheswm dros yr angen i sicrhau bod tanwariant yn cael ei gyflawni oedd oherwydd y cyfyngiadau presennol ar adnoddau cyfalaf a'r Gronfa Trawsnewid. Roedd tanwariant yn y gyllideb refeniw yn un ffordd o gynorthwyo gyda'r her hon. Roedd hyn yn ailadrodd yr angen i wasanaethau a oedd yn gorwario gymryd camau i wella eu sefyllfaoedd a dylai gwasanaethau a oedd yn tanwario barhau i sicrhau nad oedd eu sefyllfaoedd yn newid yn negyddol yn ystod gweddill y flwyddyn.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§ Nododd y Cynghorydd Davies nad oedd cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Casnewydd ac fel yr Aelod Cabinet dros Addysg a Blynyddoedd Cynnar, bu'n rhaid i'r Cynghorydd Davies ystyried y risg y gallai rhai cyllidebau ysgolion ddod yn anghynaladwy. Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Davies yn hyderus bod y tîm cyllid, ar ôl gweithio'n agos gyda phob ysgol, ar y trywydd iawn i osod cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gyda chymorth yn cael ei ddarparu lle tynnwyd sylw at bryderon. Soniodd y Cynghorydd Davies hefyd fod y gorwariant ar anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cynrychioli cost gynyddol yn ogystal ag angen cynyddol ac yn deall lefel y cymorth yr oedd ei angen ar y plant hyn a'i fod yn ddiolchgar am y gefnogaeth a ddarparwyd gan ysgolion ond bod Cyngor Dinas Casnewydd ynghlwm wrth gyllid.  

  

§ Roedd y Cynghorydd Batrouni yn pryderu y byddai'r tanwariant yn cael ei ystyried yn sefyllfa gadarnhaol i'r Cyngor, fodd bynnag, roedd yn bwysig bod preswylwyr yn darllen manylion y gyllideb a'r pwysau refeniw. Roedd gorwariant mewn lleoliadau y tu allan i'r ardal ar gyfer plant ac mewn ysgolion ac er bod hyn wedi'i wrthbwyso gan gyllid cyfalaf, efallai na fydd hyn yn digwydd y flwyddyn nesaf.  

  

§ Amlygodd y Cynghorydd Marshall gyd-destun ynghylch materion plant ac fel Awdurdod Lleol, roedd y Cyngor yn paratoi ei hun. Roedd y daith yn heriol a chyfyngwyd ar leoliadau mewn perthynas â darpariaeth gofal plant. Roedd swyddogion yn gweithio'n galed i edrych ar asedau newydd i fynd i'r afael â hyn wrth symud ymlaen. Roedd y Cynghorydd Marshall am roi sicrwydd i drigolion bod hyn bob amser ar frig yr agenda wrth gyfarfod â swyddogion.

 

Penderfyniad:

 

Cabinet:

         Nodi’r rhagolygon cyllideb cyffredinol a amlinellwyd yn yr adroddiad hwn, a oedd yn cynnwys gorwariant gwasanaethau, wedi'i wrthbwyso gan danwariant yn erbyn cyllidebau nad oeddent yn ymwneud â gwasanaethau. 

         Nodi’r risgiau a nodwyd drwy gydol yr adroddiad ac yn sylwadau'r Pennaeth Cyllid, fel mewn perthynas â materion galw a oedd yn cael eu hwynebu. 

         Nodi'r diffyg cyffredinol o ran cyflawni arbedion a dderbyniwyd fel rhan o gyllideb refeniw 2023/24.

         Nodi'r symudiadau mewn cronfeydd wrth gefn a ragwelwyd.

         Nodi'r sefyllfa gyffredinol mewn perthynas â chyllidebau ysgolion, gan gydnabod y risg y gallai rhai sefyllfaoedd diffyg unigol ddod i'r amlwg erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. 

         Cymeradwyo'r trosglwyddiad arian o fewn Gwasanaethau Oedolion, fel y manylir yn yr adroddiad. 

         Cymeradwyo defnyddio'r Gronfa Trawsnewid i dalu cost gofynion adnoddau mewnol ac allanol ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid, fel y nodir yn yr adroddiad ac Atodiad 5 yr adroddiad. 

         Nodi argymhelliad y Pennaeth Cyllid bod adnewyddu'r Gronfa Trawsnewid yn flaenoriaeth i unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, er mwyn sicrhau cyllid digonol i allu cefnogi cynigion arbedion a fyddai'n hanfodol ar gyfer prosesau gosod cyllideb y blynyddoedd i ddod. 

 

Dogfennau ategol: