Agenda item

Cynllun Pobl 2023-2028

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-        Rhys Cornwall (Cyfarwyddwr Strategol – Trawsnewid a Chorfforaethol)

-        Tracy McKim (Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid)

-        Kevin Howells – Rheolwr AD a DS

Cyflwynodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid (PPT) yr adroddiad, a rhoddodd y Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol grynodeb yn amlinellu y byddai recriwtio a chadw staff yn ffocws allweddol.


Trafodwyd y canlynol:


·       Nododd y Pwyllgor nad oedd llinellau amser wedi'u crybwyll o fewn y Cynllun. Dywedodd y Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol wrth y Pwyllgor y byddent yn monitro'r Cynllun drwy gydol y cyfnod a byddai monitro cynnydd yn digwydd o dan Gynlluniau Ardaloedd Gwasanaeth.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar sut y byddai'r Cynllun yn gweithio'n ymarferol a sut y blaenoriaethwyd camau gweithredu.  Cynigiodd y Pwyllgor y dylid gwahanu camau gweithredu a mesurau.  Dywedodd Rheolwr AD a DS wrth y Pwyllgor y byddai'n rhaid gwerthuso, blaenoriaethu a mesur camau gweithredu yn ystod y Cynllun.

 

·       Cydnabu'r Pwyllgor fanteision a heriau gweithio gartref i ddiwylliant staff a gofynnodd sut y byddai hyn yn cael ei reoli. Amlygodd y Rheolwr AD a DS er bod y pandemig wedi ysgogi cynnydd yn nifer y staff sy’n gweithio gartref, nid oedd nifer helaeth o staff y tu allan i'r gwasanaethau canolog yn gwneud y newid hwn oherwydd natur eu gwaith. Hysbyswyd y Pwyllgor bod y polisïau Normal Newydd wedi'u hymgorffori ers tua 12 mis a nodwyd ei fod yn ymwneud â dod o hyd i gydbwysedd rhwng staff a gwasanaethau, gan ystyried anghenion y gwasanaeth a lles gweithwyr. Cadarnhaodd y Rheolwr AD a DS fod Archwilio Cymru wedi adolygu'r gweithlu a'r broses asedau, gan roi adborth cadarnhaol a bod Cyngor Dinas Casnewydd (CDC yn ystyried y ffordd orau o fesur ac adlewyrchu'r llwyddiant hwnnw).

Dywedodd y Rheolwr AD a DS wrth y Pwyllgor fod cydbwysedd rhwng bod yn gyflogwr o ddewis sy'n cynnig trefniadau gweithio hyblyg gyda’r gallu i reoli materion lles a chyswllt posibl. Dywedodd Pennaeth PPT wrth y Pwyllgor eu bod wedi sefydlu fframwaith o amgylch ymgysylltu, sioeau teithiol cyfarwyddiaethol, trafodaethau gwasanaeth, gwiriadau a sgyrsiau un-wrth-un gan fod ymgysylltu cyson yn bwysig pan oedd staff yn gweithio gartref ac mewn amgylcheddau eraill. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y Pwyllgor eu bod wedi ceisio bod yn bragmatig a hyblyg yn ystod ac ers hynny.  Fe wnaethant hysbysu'r Pwyllgor eu bod yn ymwybodol o'r problemau lles, budd a datblygu tîm posibl yn sgil gweithio gartref. Fe wnaethant hysbysu'r Pwyllgor, er nad oedd llawer o staff yn gallu gweithio gartref, bod angen iddynt wneud penderfyniadau teg a chynyddu arweinyddiaeth weladwy.  Fe wnaethant hysbysu'r Pwyllgor bod nifer yr ymwelwyr yn y Ganolfan Ddinesig bellach yn debyg i'r lefelau cyn y pandemig. 

 

·       Gwnaeth y Pwyllgor rai argymhellion i'r swyddogion ar gyflwyno'r adroddiad a gofynnodd am gynnwys mwy o fanylion ynghylch themâu.  Holodd y Pwyllgor a oedd angen Asesiadau o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb llawn o’r adroddiad.  Dywedodd Pennaeth PPT wrth y Pwyllgor eu bod wedi trafod sut i gyflwyno'r asesiad a phenderfynu ei gynnwys o fewn yr agenda a darparu dolen iddo ar-lein.

 

Casgliadau:

·       Argymhellodd y Pwyllgor wella cyflwyniad y Cynllun a gwahanu Camau Gweithredu a Mesurau Llwyddiant yn ddwy golofn ar wahân.

·       Argymhellodd y Pwyllgor grynhoi'r asesiad a chreu dolen iddo o fewn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: