Agenda item

Adroddiad Canol Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 2023-24 - Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Atal a Chynhwysiant

 

Gwahoddedigion:

Mandy Shide - Rheolwr Gwasanaeth Atal a Chynhwysiant

Rhianydd Williams – Rheolwr Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd

 

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd (CID) a Rheolwr y Gwasanaeth Atal a Chynhwysiant (ACh) yr adroddiad.

 

·       Llongyfarchodd y Pwyllgor y Gwasanaeth Ieuenctid am ei nod o gyflawni'r Marc Ansawdd Arian.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor pwy a oedd yn rhoi cymorth y tu allan i oriau i'r Gwasanaethau Ieuenctid. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth (ACh) fod y rhan fwyaf o gymorth yn cael ei roi'n fewnol ond bod rhai contractau gyda sefydliadau cymunedol sydd â sgiliau arbenigol.

 

·       Roedd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi’r astudiaethau achos wedi’u cynnwys.

 

·       Mynegodd y Pwyllgor bryder bod camau gweithredu anghyflawn yn cael eu hadrodd fel rhai gwyrdd a thynnodd sylw at y cam gweithredu ar gyfer Darpariaeth Wirfoddoli Gadarn. Sicrhaodd y Rheolwr Gwasanaeth (ACh) y Pwyllgor am waith parhaus gyda Chyfathrebu ac Adnoddau Dynol a rhagwelodd y byddai'r camau gweithredu wedi'u cwblhau erbyn y dyddiad cau, a dyna pam yr oeddent wedi’u nodi'n wyrdd. Nododd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Oedolion y gallai camau gweithredu gael eu dylanwadu gan bartïon allanol ac yn destun oedi a allai newid eu sgôr COG ond tynnodd sylw at y ffaith bod sgoriau gwyrdd yn dangos bod camau gweithredu ar y trywydd iawn. Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant sylw at y ffaith y byddai'r sylwebaeth ar gyfer camau gweithredu'n cynnig cyd-destun ac yn tynnu sylw at unrhyw anawsterau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (ACh) wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw risgiau wedi'u nodi ynghylch y prosiect gwirfoddoli.

 

 

 

Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Gwahoddedigion:

Y Cynghorydd Stephen Marshall - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol - Gwasanaethau Plant

Sally Ann Jenkins - Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol

Mary Ryan - Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

Rhian Brook – Rheolwr Gwasanaeth Timau Plant

 

 

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth y Timau Plant (TP) yr adroddiad.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor am y materion yn ymwneud â chadw staff. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (TP) wrth y Pwyllgor ei fod yn fater cenedlaethol a bod anawsterau o fewn gwasanaethau preswyl yn benodol. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion mai ychydig iawn o Weithwyr Cymdeithasol mewn hyfforddiant a oedd yn creu diffyg a thynnodd sylw at bwysigrwydd cadw a hyfforddiant a oedd yn cael ei gynnig gan Gyngor Dinas Casnewydd trwy'r Brifysgol Agored.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor a oedd cynlluniau wrth gefn yngl?n â'r prosiect Dielw/Dileu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (TP) wrth y Pwyllgor ei fod wedi ceisio mynd i'r afael â'r pwysau cost uchaf fel lleihau'r defnydd o staff asiantaeth trwy ddod â staff mewnol i mewn ac adeiladu ar y portffolio presennol, gan nodi Cambridge House yr oedd disgwyl iddo fod yn barod ym mis Gorffennaf 2024.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor beth y gellid ei wneud i gydweithio’n fwy â'r GIG. Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant wybod i'r Pwyllgor am y berthynas agos â'r Gwasanaeth Iechyd a oedd yn ymdrin â sbectrwm o feysydd. Nododd y pwysau sylweddol ar wasanaethau'r GIG ac ychwanegodd fod gwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi helpu i leihau nifer y cleifion ysbyty. Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth (TP) sylw at Windmill Farm fel enghraifft o gydweithio â'r Gwasanaethau Iechyd ac ychwanegodd fod Windmill Farm yn llawn o ran capasiti.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor a oedd unrhyw gefnogaeth y gallai'r Pwyllgor ei rhoi i helpu i sicrhau cyllid ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV). Eglurodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod cyllid ar gyfer VAWDASV yn dod o gymysgedd o ffrydiau cyllido ac ychwanegodd, er eu bod yn rhesymol ddiogel, y byddai’n parhau i fonitro a oedd cyllid grant yn aros ar yr un lefel. Nododd y Pwyllgor ei bryder yngl?n â'r cyllid.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor am fwy o wybodaeth am dai i bobl sy'n gadael gofal. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol na allai drafod manylion penodol yn y cyfarfod ond cytunodd i roi adroddiad gwybodaeth gyffredinol i'r Pwyllgor.

 

·       Nododd yr Aelod Cabinet yr heriau sy'n wynebu'r Gwasanaethau Cymdeithasol a thynnodd sylw at eu llwyddiannau. Nododd ei werthfawrogiad o'r gwaith a oedd yn cael ei wneud gan yr holl staff o fewn Cyngor Dinas Casnewydd, partneriaethau a gofalwyr maeth.

 

 

 

Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

 

Gwahoddedigion

 

Y Cynghorydd Jason Hughes - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol - Gwasanaethau Oedolion

Sally Ann Jenkins - Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol

Mary Ryan - Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

Mandy Shide - Rheolwr Gwasanaeth Atal a Chynhwysiant

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol yr adroddiad.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar ble y byddai cleifion strôc yn cael eu trin. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion wrth y Pwyllgor y byddent yn cael eu trin yn Ysbyty Ystrad Fawr o fis Rhagfyr 2023, gyda'r bwriad i’r ysbyty hwnnw ddod yn ganolfan ragoriaeth.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Canolfan Ddementia Casnewydd. Sicrhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y Pwyllgor am y gwaith partneriaeth cryf a'r awydd i ddatblygu'r prosiect hwn ond tynnodd sylw at heriau gyda chyllid. Nododd ei fod yn edrych ar lwybrau amgen o sicrhau cynnydd fel cronfeydd llithro, gwaith partneriaeth a defnyddio cyfleusterau sy'n eiddo i'r Cyngor. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid parhau i chwilio am ddarpariaeth fewnol amgen.

 

·       Gofynnodd y Pwyllgor am effaith peidio â bwrw’r targed ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (GPIMCau). Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion wrth y Pwyllgor ei fod yn swyddogaeth statudol. Nododd fod gwaith wedi'i wneud yn rhanbarthol i gyfartalu cyflog rhwng Awdurdodau Lleol yng Ngwent i gynorthwyo gyda chadw. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor fod 3 GPIMC wedi cael eu cyflogi ers yr haf ac roedd 4 yn hyfforddi ar hyn o bryd. Tynnodd sylw at bwysigrwydd y buddsoddiad yn GPIMCau a'r angen i'w cefnogi'n briodol.

 

·       Sicrhaodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Oedolion y Pwyllgor am yr ymrwymiad i Wasanaethau Dementia yng Nghasnewydd. Sicrhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y Pwyllgor, er gwaethaf oedi yn y Ganolfan Ddementia, y byddai cefnogaeth ddyddiol barhaus i gleifion Dementia a'u teuluoedd. Diolchodd yr Aelod Cabinet i'r holl staff am eu gwaith yng nghanol pwysau cynyddol. Tynnodd sylw at y ffaith bod Casnewydd yn awdurdod blaenllaw yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn genedlaethol mewn sawl maes a bod ailgynllunio'r gwasanaeth wedi sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau'n addas at y diben.

 

Dogfennau ategol: