Agenda item

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: Adroddiad Blynyddol 2023

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a Gwasanaethau Etholiadol drosolwg o'r adroddiad. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnig cynnwys adroddiad blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2022/23. O dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, mae'n ofynnol i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd adolygu darpariaeth staff, llety ac adnoddau eraill sydd ar gael i'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn barhaus, er mwyn sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu darparu ar gyfer cyfrifoldebau'r swydd. Mae'r adroddiad blynyddol atodedig yn rhoi amlinelliad o'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r swyddogaethau hyn, fel y gall y Pwyllgor gyflawni ei gyfrifoldebau o dan y Mesur.

 

Trafodwyd y canlynol:

 

·        Roedd y Pwyllgor yn falch o weld bod Cyfarfodydd Ward wedi ailddechrau.

·        Holodd y Pwyllgor a ellir adolygu effeithiolrwydd y newid polisi ynghylch cwestiynau atodol. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau wrth y Pwyllgor nad oes modd edrych arno eto am 3 mis a nododd y Pwyllgor fod angen amser arno i wreiddio ond hoffai iddo gael ei godi eto yn y dyfodol.

·        Nododd y Pwyllgor eu pryderon nad yw pob Aelod yn cwblhau hyfforddiant statudol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol wrth y Pwyllgor mai sesiwn ar y Cod Ymddygiad Aelodau yw'r unig hyfforddiant gorfodol sydd ei angen i'w gwblhau. Rhan o rôl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yw sicrhau bod gan Aelodau Etholedig yr adnoddau sydd ar gael i allu gwneud eu swyddi sy'n cynnwys cwricwlwm hyfforddiant llawn drwy gydol y tymor a wasanaethir. 

·        Amlygodd y Pwyllgor fod y rhan fwyaf o hyfforddiant yn digwydd tua 4pm felly efallai y bydd yr Aelodau'n ei chael hi'n anodd mynychu oherwydd ymrwymiadau gwaith. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol wrth y Pwyllgor fod arolwg yn cael ei ddosbarthu i'r Aelodau ynghylch hyfforddiant a'r amser mwyaf addas iddo gael ei gynnal a nododd y gellir cynnal nifer o sesiynau i sicrhau bod Aelodau'n gallu mynychu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol wrth y Pwyllgor fod presenoldeb hyfforddiant wedi gwella ers cael ei gynnal yn rhithiwr a'r her fwyaf yw sicrhau amser am y sesiynau hyfforddi dros y flwyddyn.

·        Holodd y Pwyllgor sut y mesurir effeithiolrwydd yr hyfforddiant. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol wrth y Pwyllgor fod arolwg Aelodau wedi'i gynnal. Dywedodd y Pwyllgor fod y cysyniad o e-Ddysgu yn golygu y gellid ei wneud ar unrhyw adeg a bod modd darparu ffenestr o bryd y dylid cwblhau'r hyfforddiant. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol wrth y Pwyllgor fod e-Ddysgu wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol a'u bod ar hyn o bryd yn adolygu o ran hyfforddiant y Cod Ymddygiad.

·        Holodd y Pwyllgor a yw'n bolisi i ddarparu deunyddiau hyfforddi gan na chawsant y deunyddiau ar gyfer sesiwn hyfforddi flaenorol pan ofynnwyd amdanynt. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol wrth y Pwyllgor fod angen adolygu'r modd y cynhelir hyfforddiant, gan gynnwys sut i ddarparu'r deunydd hyfforddi i'r rhai sy'n mynychu. Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddant yn anfon arolwg eto at yr Aelodau i ddeall eu hanghenion yn well a chynnig gwahanol opsiynau.

·        Holodd y Pwyllgor a oes unrhyw gosbau am beidio â chwblhau hyfforddiant gorfodol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol wrth y Pwyllgor nad oes unrhyw gosbau, ond gellid ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Safonau felly byddai wedyn yn y parth cyhoeddus. Dywedodd y Pwyllgor fod presenoldeb mewn cyfarfodydd yn cael ei gofnodi fel y gellid cymhwyso hyn at hyfforddiant. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol wrth y Pwyllgor fod presenoldeb yn cael ei fonitro ond nid yw'n cael ei rannu'n gyhoeddus ar hyn o bryd. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau wrth y Pwyllgor ei fod yn cael ei rannu yn y Pwyllgor Safonau ac eleni roedd presenoldeb yn hyfforddiant Cod Ymddygiad yn 100%. Hysbyswyd y Pwyllgor y gellid ychwanegu bod presenoldeb ar gyfer hyfforddiant ar gael i'r cyhoedd yn cael ei ychwanegu at y Flaenraglen Waith i'w ystyried.

 

Penderfynwyd:

 

Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol i’r Cyngor er mwyn bodloni gofynion y Mesur Llywodraeth Leol. 

 

Dogfennau ategol: