Diweddariad Llafar |
Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Uwch-arolygydd ddiweddariad ar y materion allweddol yng Nghasnewydd.
Pwyntiau Allweddol
· Bu cynnydd mewn trosedd meddiangar, ond nid yw hyn yn unigryw i Gasnewydd ac mae heddluoedd eraill yn gweld cynnydd. Mae dwyn o siopau yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r troseddau hyn ac mae hyn yn gysylltiedig â defnyddio cyffuriau gan fod eitemau gwerth uchel fel arfer yn cael eu targedu. Cydweithio â manwerthwyr i liniaru digwyddiadau dwyn o siopau fel gosod teledu cylch cyfyng o ansawdd uwch.
· Rhoddwyd diweddariad ar yr euogfarnau a'r erlyniadau wrth reoli'r materion hyn yn ddiweddar.
· Rhoddodd y Prif Uwch-arolygydd sicrwydd ynghylch lladrad a throseddau â chyllyll a dywedodd fod y camau cryfaf posibl, yn defnyddio swyddogion arbenigol, yn cael eu rho ar waith i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell ac atal troseddau pellach.
· Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd fod e-feiciau a beiciau oddi ar y ffordd yn broblem barhaol ond nad ydynt yn benodol i Gasnewydd ac ardal Gwent. Mae gwybodath gymunedol yn allweddol wrth reoli'r her hon.
· Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd wrth y Pwyllgor y gall eu preswylwyr roi gwybod yn ddienw am unrhyw ddefnydd o e-feiciau trwy Crimestoppers a rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor na ellir gweld y wybodaeth a ddarperir a'r sawl sy'n darparu'r wybodaeth gyda'i gilydd, hyd yn oed gan yr Heddlu. Mae unrhyw adroddiadau a wneir trwy Crimestoppers yn cael eu trosglwyddo i'r Heddlu er mwyn iddynt weithredu ar unwaith.
· Sicrhaodd y Prif Uwch-arolygydd y Pwyllgor mai dyma eu prif ffocws ar hyn o bryd gan ei fod er budd y cyhoedd, ac maent wedi ymrwymo i weithredu yn erbyn y rhai sy'n defnyddio'r beiciau hyn at ddibenion troseddol.
· Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd wrth y Pwyllgor bod deddfwriaeth ar hyn o bryd sy'n rhoi pwerau i'r Heddlu stopio ac atafaelu'r beiciau hyn, ond bod angen mwy o ddeddfwriaeth ynghylch gwerthu'r beiciau hyn.
Cwestiynau
Fe wnaeth Cynghorydd Cymunedol fynegi pryder nad oes Cymorthfeydd yr Heddlu wedi bod yn digwydd yn eu ward. Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd wrth y Pwyllgor ei fod yn poeni nad oedd unrhyw gymorthfeydd wedi bod yn digwydd ac y byddai'n holi pam. Bydd Fframwaith Perfformiad Plismona Cymdogaeth yn cael ei lunio a fydd yn ei gwneud yn glir pryd y bydd yr heddlu yn mynychu cymorthfeydd yn y dyfodol a sicrhaodd y Prif Uwch-arolygydd y Pwyllgor y bydd presenoldeb yn y cyfarfodydd sydd i ddod.
Dywedodd Cynghorydd Cymunedol eu bod yn arfer derbyn Adroddiadau'r Heddlu, ond mae'n ymddangos bod y rhain wedi dod i ben, a holodd a oes modd adfer y rhain a'u darparu naill ai i'r Cynghorydd Cymunedol neu Gynghorydd Ward i gael eu cylchredeg. Dywedodd y Cynghorydd Cymuned eu bod wedi gweld postiad gan Heddlu Gwent ar y cyfryngau cymdeithasol am e-sgwteri ac wedi holi beth sydd wedi cael ei wneud yngl?n â'r defnydd o'r rhain ar ffyrdd cyhoeddus. Sicrhaodd y Prif -y Pwyllgor y byddant yn ei gwneud yn glir pa adroddiad y byddant yn ei dderbyn, pryd a gan bwy. Mae'r diweddariad ar e-feiciau hefyd yn berthnasol i e-sgwteri gan eu bod yn anghyfreithlon i'w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus.
Dywedodd Cynghorydd Cymunedol nad yw'r adroddiadau y maent yn eu derbyn yn hawdd eu defnyddio a holodd a ellid cyflwyno'r rhain yn wahanol i ddangos tueddiadau. Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd wrth y Pwyllgor y byddant yn rhannu adroddiad drafft gyda Chynghorau Cymuned i gael adborth ar y fformat a'r cynnwys.
Holodd Cynghorydd Cymuned a yw'n bosibl cael adroddiadau gyda gwybodaeth gyfredol yn hytrach nag mewn fformat ôl-weithredol ac a ellir rhannu'r wybodaeth hon lawr i lefel pentref, yn hytrach na ward. Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd wrth y Pwyllgor y gallant dadogi data i lefel i aelwydydd unigol, ond nid yw hyn yn bosibl adrodd arno oherwydd natur sensitif y data yn yr adroddiadau a'r risg bosibl o adnabod.