Agenda item

Adolygiadau canol blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 2023/24

Cofnodion:

Cyllid

Gwahoddedigion:

-       Meirion Rushworth (Pennaeth Cyllid)

-       Emma Johnson (Rheolwr Refeniw a Budd-daliadau)

-       Robert Green (Pennaeth Cynorthwyol Cyllid)

-       Richard Leake (Rheolwr y Gwasanaeth Caffael a Thaliadau)

-        Rhys Cornwall (Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol)

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol yr adroddiad a rhoddodd y Pennaeth Cyllid grynodeb.

 

Trafodwyd y canlynol:

 

  • Derbyniodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y Tîm Archwilio, gan gynnwys recriwtio dau Archwilydd, creu swydd Uwch Archwilydd drwy ailstrwythuro tîm, a chwblhau pedair ar ddeg o dasgau sicrwydd archwilio unigol gan Bartneriaeth Archwilio De Cymru (PADC). Maent hefyd yn ystyried partneriaeth tymor hwy gyda PADC. Disgwylir i'r cynnydd fod ar waith erbyn mis Ebrill 2024, gyda gostyngiad yn y sgôr risg gychwynnol oherwydd mesurau lliniaru. Trafodwyd rôl Archwilwyr wrth hwyluso gwelliannau mewn adroddiadau archwilio gwael, gyda sicrwydd bod modd rheoli'r llwyth gwaith a bod archwiliadau ychwanegol yn cael eu cynnal yn achos canlyniadau gwael.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am gynnydd swyddogaethau hunanwasanaeth a’r ap Fy Ngwasanaethau Cyngor, yn ogystal â sicrwydd i drigolion nad ydynt yn gallu defnyddio TG. Mae'r tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn gweithio ar ehangu'r system ar draws adrannau eraill y Cyngor. Mae'r system wedi'i chyflwyno i wasanaethau pellach, gyda ffocws penodol ar gasgliadau biniau bob tair wythnos. Mae cymorth wyneb yn wyneb ar gael yn y Llyfrgell Ganolog, a gall cwsmeriaid ffonio Canolfan Gyswllt y Ddinas o hyd.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am gynnydd a heriau'r system TG cyllid newydd. Byddai’r gwaith o brofi'r system yn ailddechrau ganol mis Rhagfyr, ac mae'r dyddiad cwblhau disgwyliedig wedi'i wthio yn ôl i fis Ebrill 2024. Mae problemau mawr wedi'u nodi a'u datrys, gyda ffocws ar fynd i'r afael â phroblemau llai wrth iddynt godi.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am gwblhau'r dangosfwrdd a'r adroddiadau. Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith ar y dangosfwrdd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2023, ac mae tua 80% o'r adroddiadau wedi'u cwblhau. Disgwylir i waith profi ddechrau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2023 neu ddechrau mis Ionawr 2024.
  • Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd sicrhau bod dinasyddion sy'n agored i niwed yn gallu cysylltu â'r Cyngor a chydnabu’r angen i newid i wasanaethau ar-lein.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am gyfradd y dinasyddion a oedd wedi dechrau defnyddio gwasanaethau ar-lein. Dywedodd y Pennaeth Cyllid nad oes ganddo’r data ond y bydd yn trosglwyddo'r cais i'r Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid. Rhoddodd y Rheolwr Cyllid a Budd-daliadau wybod am gynnydd sylweddol yn nifer y trigolion a oedd yn defnyddio'r ffurflen newid cyfeiriad ar-lein, a nododd y Pwyllgor gynnydd o 9% yn nifer dinasyddion Casnewydd a oedd yn defnyddio gwasanaethau ar-lein.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am gynnydd Canolfan Gyswllt y Ddinas a Phorthol Capita. Dywedodd y Rheolwr Cyllid a Budd-daliadau fod Porthol Capita wedi mynd yn fyw yn gynharach eleni, gyda dros 2000 o bobl yn defnyddio'r ffurflen newid cyfeiriad ar-lein. Mae’r gwaith o gyflwyno nodweddion rheoli taliadau wedi'i ohirio ond mae'n cael ei ddatrys trwy waith cydweithredol. Sicrhaodd y Pennaeth Cyllid y Pwyllgor fod cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud.
  • Gofynnodd y Pwyllgor a fydd y tai newydd arfaethedig yn y cynllun datblygu yn cynyddu refeniw. Dywedodd y Pennaeth Cyllid y dylent greu £300-£400,000 ychwanegol, gan fod y Dreth Gyngor yn cynhyrchu tua 25% o gyllideb gyffredinol y Cyngor.
  • Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch ffigurau perfformiad is na’r disgwyl y Ganolfan Gyswllt, a chwestiynodd addasrwydd y dull gweithredu presennol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod adolygiad o daith gyfan y Cyngor i gwsmeriaid ar y gweill ar hyn o bryd, gydag adroddiad canfyddiadau i'w gyflwyno i'r Pwyllgor yn ddiweddarach.
  • Tynnodd y Pwyllgor sylw at ei brofiad ei hun o roi gwybod am argyfwng a gofynnodd am fesurau a oedd ar waith ar gyfer adrodd am argyfwng. Nododd y Pennaeth Cyllid y potensial ar gyfer gweithredu adrodd am argyfyngau ond tynnodd sylw at yr angen i ystyried yn ofalus er mwyn osgoi camddefnyddio.
  • Nododd y Pwyllgor ostyngiad yn amseroedd aros galwadau ar gyfer y Dreth Gyngor a gofynnodd am gyfran yr ôl-ddyledion a oedd o ganlyniad i drigolion yn cael trafferth talu. Eglurodd y Rheolwr Cyllid a Budd-daliadau fod y rhan fwyaf o drigolion yn talu eu Treth Gyngor heb ôl-ddyledion, a bod mesurau ar waith i gynorthwyo'r rhai a oedd yn wynebu anawsterau.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am drigolion a oedd yn dewis y cynllun talu 12 mis. Dywedodd y Rheolwr Cyllid a Budd-daliadau nad yw'r data ar gael ond bod trigolion yn cael gwybod am yr opsiwn ar filiau papur a'r wefan.
  • Nododd y Pwyllgor ganrannau isel yn yr adroddiad gyda dyddiadau cwblhau mis Mawrth/Ebrill 2024 a gofynnodd am natur y newidiadau hyn. Dywedodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn ymwybodol o'r canrannau hyn ac yn anelu at eu cwblhau, ond bod rhywfaint o oddrychedd.
  • Dywedodd y Pwyllgor y bydd lefelau staffio'n cael eu trafod yn ystod trafodaethau cyllidebol a gofynnodd am gynlluniau i ddileu swyddi gwag heb eu llenwi. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol y byddai cynlluniau gwasanaeth yn cael eu haddasu yn unol â hynny pe bai unrhyw arbedion.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am y nifer a oedd yn manteisio ar gynlluniau Treth Gyngor i helpu trigolion a oedd yn ei chael yn anodd. Awgrymodd y Cadeirydd ychwanegu'r pwnc hwn at y flaenraglen waith.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am gynnydd integreiddio swyddfa gefn gyda Fy Ngwasanaethau Cyngor. Nododd y Pennaeth Cyllid yr angen i adolygu'r cynllun gwasanaeth oherwydd oedi a achoswyd gan waith ychwanegol. Bydd y system Fy Ngwasanaethau Cyngor yn cael sylw helaeth yn yr adolygiad parhaus o wasanaethau cwsmeriaid.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am fod yn bresennol.

 

Y Gyfraith a Safonau

Gwahoddedigion:

-       Elizabeth Bryant (Pennaeth y Gyfraith a Safonau)

-       Mike Wallbank (Pennaeth Cynorthwyol y Gwasanaethau Cyfreithiol)

-       Leanne Rowlands (Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol)

-        Rhys Cornwall (Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol)

 

Rhoddodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau grynodeb o'r adroddiad i'r Pwyllgor.

 

Trafodwyd y canlynol:

  • Gofynnodd y Pwyllgor am ddiwygiadau etholiadol a pharodrwydd ar gyfer etholiad cyffredinol posibl. Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol (RhGDE) wybod i'r Pwyllgor am weithredu deddfwriaeth ID Pleidleiswyr, rhaglen allgymorth gymunedol, a chyfathrebu wedi'i gynllunio ar gyfer 2024. Gwnaeth hefyd drafod heriau’n gysylltiedig â phleidleiswyr absennol a phrosesu ceisiadau, gan dynnu sylw at yr angen am ddull rheoli ar sail risg. Yn ogystal, soniodd RhGDE am y trafodaethau parhaus gyda Llywodraethau Cymru a'r DU, a'r defnydd posibl o gyllid grant ar gyfer staff ychwanegol.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am yr amser ychwanegol a roddwyd i swyddogion yn y gorsafoedd pleidleisio i reoli ID Pleidleiswyr. Rhoddodd RhGDE wybod am recriwtio staff ychwanegol i reoli dyletswyddau newydd, gan gynnwys cipio data a sicrhau bod staff profiadol yn cael eu lleoli mewn gorsafoedd pleidleisio. Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd sicrhau bod cymaint o bleidleiswyr â phosibl yn cymryd rhan.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am reoli newidiadau ffiniau yng Ngorllewin Casnewydd a'r cytundeb gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC). Trafododd RhGDE gydweithio â CBSC i adlewyrchu'r ffiniau newydd a'r ymdrechion parhaus i liniaru problemau posibl.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am yr orsaf bleidleisio yn Islwyn ac a fydd CBSC yn ei rheoli. Cadarnhaodd RhGDE y defnydd o'r un orsaf bleidleisio a staff ag o'r blaen, a thrafododd y posibilrwydd o reoli pleidleisiau rhwng Casnewydd a Chaerffili.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am y mathau o brawf adnabod a oedd yn cael eu derbyn os nad oedd gan drigolion basbort neu drwydded yrru. Dywedodd RhGDE fod 24 o fathau o brawf adnabod yn cael eu derbyn a bod opsiwn i drigolion gael Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr trwy ffurflen ar-lein, gyda chymorth ar gael os oes angen.
  • Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch costau ychwanegol posibl a difaterwch pleidleiswyr os cynhelir etholiad cyffredinol ac etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar wahanol adegau. Esboniodd RhGDE fod y gyllideb ar gyfer etholiadau yn cael ei gosod gan Lywodraeth y DU a bod cynlluniau ar waith i'r ddau etholiad gael eu cynnal gyda'i gilydd neu ar wahân.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am yr angen parhaus am staff achlysurol yn y Gwasanaeth Cofrestru a thynnodd sylw at bryderon am yr adolygiad presennol. Trafododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau yr adolygiad parhaus a'r heriau o ran rheoli staff achlysurol.
  • Tynnodd y Pwyllgor sylw at orwariant o £65,000 a gofynnodd am effaith hyn ar y Cyngor. Esboniodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y gorwariant oherwydd cost gweithwyr locwm a recriwtio cyfreithwyr dan hyfforddiant i fynd i'r afael â'r mater yn yr hirdymor. Trafododd hefyd lefelau uchel o salwch staff a heriau recriwtio.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am y cyfraddau cadw ar gyfer hyfforddeion a'r prentisiaethau a gynigir. Trafododd Pennaeth y Gyfraith a Safonau yr anhawster o ran cadarnhau cyfraddau cadw a nifer y prentisiaethau a oedd ar gael ar gyfer Cymorth Paragyfreithiol a Gweinyddu Corfforaethol, gan dynnu sylw at y newidiadau yn y modd yr oedd cyfreithwyr yn dod yn gymwys.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am fod yn bresennol.

 

Pobl, Polisi a Thrawsnewid

Gwahoddedigion:

-        Tracy McKim (Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid)

-       Janice Dent (Rheolwr Polisi a Phartneriaeth)

-       Mark Bleazard (Rheolwr y Gwasanaethau Digidol)

-       Kevin Howells (Rheolwr AD a DS)

-        Rhys Cornwall (Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol)

 

Rhoddodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid drosolwg o’r adroddiad i’r Pwyllgor. 

 

Trafodwyd y canlynol:

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am fynediad teg a chyfartal at wasanaethau i drigolion nad ydynt yn gallu defnyddio TG neu nad oes ganddynt fynediad ati. Amlygodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid (PPTh) gynnwys themâu cydraddoldeb yn y Cynllun Pobl a chynhwysiant digidol yn y Cynllun Digidol. Trafododd Rheolwr y Gwasanaethau Digidol (RhGD) y gwasanaethau digidol a gynigir i sicrhau cydraddoldeb digidol a dileu anfanteision i drigolion.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am y cynllun Cyfrifiaduron Ddim yn Brathu a'i weithredu. Nododd RhGD fod y cynllun yn cael ei weithredu ar hyn o bryd fel rhan o ddysgu oedolion yn y gymuned a'i fod yn canolbwyntio ar gyfeirio at grwpiau a chymunedau penodol. Trafododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth ymdrechion yn ymwneud â gwneud Casnewydd yn rhanbarth Marmot a'r ymrwymiad i droi polisïau'n gamau gweithredu, gan gynnwys sefydlu gr?p gwrthdlodi.
  • Nododd y Pwyllgor ffigurau salwch ac absenoldeb llai ar ôl newidiadau polisi a gofynnodd am effeithiolrwydd yr addasiadau polisi. Trafododd y Pennaeth PPTh a’r Rheolwr AD a DS y ffaith bod y newidiadau polisi, ymgysylltu parhaus â rheolwyr, a chynlluniau ar gyfer addasiadau pellach i'r Polisi Lles yn y Gwaith wedi’u croesawu’n gadarnhaol. Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd rhyngweithio cadarnhaol â staff.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am y ddemograffeg profi defnyddwyr ar gyfer dyluniad y wefan gorfforaethol newydd. Trafododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth ymdrechion i sicrhau tegwch a chynhwysiant wrth brofi defnyddwyr a'r ffocws ar wneud i'r wefan weithio ar draws dyfeisiau amrywiol. Tynnodd y Pennaeth PPTh sylw at y newidiadau sydd ar ddod i'r wefan, gan anelu at ddyluniad symlach a hawdd ei uwchraddio.
  • Tynnodd y Pwyllgor sylw at atebion dyblyg yn yr adroddiad a gofynnodd am eglurhad. Cydnabu’r Rheolwr Polisi a Phartneriaeth y diofalwch a gwnaeth ymrwymo i ddiwygio'r adroddiad. Eglurodd y Pennaeth PPTh y gwahaniaethau rhwng y pwyntiau a sicrhaodd y bydd cywiriadau'n cael eu gwneud.
  • Nododd y Pwyllgor ddyddiad cau i Gasnewydd ddod yn ddinas cyflog byw a'i statws cwblhau presennol, a gofynnodd am fwrw’r targed. Esboniodd y Pennaeth PPTh gymhlethdod y gwaith a'r angen i ddiwygio'r adroddiad, gan na fydd y targed yn cael ei fwrw erbyn y dyddiad cau penodedig.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am y Rhaglen Cyllidebu Cyfranogol newydd. Esboniodd y Pennaeth PPTh fod arian yn cael ei ddosbarthu ledled y gymuned drwy grwpiau llywio ar wahân a soniodd am brosiectau blaenorol a ariannwyd gan wahanol ffynonellau, gan gynnwys y Swyddfa Gartref, y Cyngor, a Llywodraeth Cymru.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am fod yn bresennol.

 

Adfywio a Datblygu Economaidd

Gwahoddedigion:

-       Y Cynghorydd James Clarke (Yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai)

-       Tracey Brooks (Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd)

-       Andrew Ferguson (Rheolwr Cynllunio a Datblygu)

-       Matthew Tribbeck (Rheolwr Adfywio a Lleoedd)

-       Alastair Shankland (Rheolwr Datblygu Economaidd Strategol)

-        Rhys Cornwall (Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol)

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai yr adroddiad, a rhoddodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd drosolwg.

 

Trafodwyd y canlynol:

  • Gofynnodd y Pwyllgor am yr oedi o ran Canolfan Ymwelwyr y Bont Gludo a’r effaith ar y gyllideb. Cydnabu'r Pennaeth Adfywio a Datblygu Economaidd (ADE) gymhlethdod y prosiect a'r heriau a oedd yn cael eu hwynebu. Mynegodd ffydd o ran cyflawni o fewn yr amserlen a amlinellwyd a dywedodd fod y gyllideb yn esblygu wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am yr iawndal penodedig yn y contract ar gyfer prosiect y Bont Gludo. Esboniodd y Rheolwr Adfywio a Lleoedd mai'r brif oedi oherwydd y Bont Gludo ei hun, ac nad yw darpariaethau'r contract wedi cael eu heffeithio. Trafododd y gwahanol fframwaith monitro a oedd ei angen a darpariaethau mewnol ar gyfer heriau.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am yr angen posibl i atal gwaith ar y Ganolfan Ymwelwyr pe bai synwyryddion y bont yn cael eu sbarduno. Cadarnhaodd y Rheolwr Adfywio a Lleoedd y byddai rheoliadau iechyd a diogelwch yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl waith ddod i ben mewn sefyllfa o'r fath.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am estyniad wrth gefn i'r dyddiad cwblhau. Dywedodd y Rheolwr Adfywio a Lleoedd fod Newport Norse yn adolygu  cynllun y prosiect i ddarparu dyddiad cwblhau newydd.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am gyllid ychwanegol y gofynnwyd amdano ar gyfer hen adeilad yr IAC ac a fyddai'r Cyngor yn ei roi. Esboniodd y Pennaeth ADE fod y datblygwr yn amharod i gwblhau gwaith mewnol nes bod meddiannydd yn ei le, a bydd y Cyngor yn ysgwyddo unrhyw gostau ychwanegol.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am ganran y feddiannaeth y mae datblygwyr yn ei cheisio cyn cwblhau gwaith a mynegodd siom yn y diffyg gwybodaeth. Dywedodd y Pennaeth ADE ei fod yn benderfyniad masnachol sy'n destun contract.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am ddiddordeb yn adeilad yr IAC ar ôl Covid a'r amserlen i fusnes ei feddiannu. Ar hyn o bryd, nid oes amserlen gan fod y farchnad wedi newid a chan fod gweithluoedd wedi addasu i weithio’n hybrid. Tynnodd y Pwyllgor sylw at delerau benthyciad y datblygwr gan y Cyngor a chafodd sicrwydd nad oes unrhyw bryderon ynghylch colli arian, heb unrhyw ad-daliadau nes cwblhau'r prosiect. Gofynnodd y Pwyllgor am gymryd yr adeilad yn ôl os na wneir taliadau ar ôl amser penodol. Esboniodd y Pennaeth ADE y byddai'n cael ei ddwyn gerbron y Cabinet pe bai angen.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am gynlluniau wrth gefn ar gyfer cyfranogwyr na allent gymryd rhan wirioneddol yn Rhaglen Ailddechrau'r Adran Gwaith a Phensiynau. Esboniodd y Pennaeth ADE ffocws y rhaglen a’i phrofiad o weithio gyda chyfranogwyr nad oeddent yn ymgysylltu.
  • Gofynnodd y Pwyllgor a oes gan y Cyngor unrhyw ddeddfwriaeth neu fesurau ar waith i sicrhau bod datblygwyr a thirfeddianwyr yn gwneud gwaith angenrheidiol ar adeiladau sy’n dirywio yng Nghasnewydd o fewn amserlen benodol. Dywedodd y Pennaeth ADE fod hysbysiadau cwblhau ar gael y gellir eu cyhoeddi i osod disgwyliad o ran cwblhau.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am gynnydd y Sefydliad Technoleg Rhyngwladol ac unrhyw ddiweddariadau ynghylch ei weithredu. Rhannodd y Pennaeth ADE ei fod wedi bod wrthi'n ystyried y cyfleoedd posibl y byddai'r sefydliad hwn yn eu cynnig i Gasnewydd. Roedd cyfarfod hefyd wedi'i gynnal gyda Llywodraeth Cymru i drafod gwneud y mwyaf o'i fanteision.
  • Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd bodloni anghenion dinasyddion trwy ddarparu cyfleusterau dymunol yng Nghasnewydd. Esboniodd y Rheolwr Datblygu Economaidd Strategol y byddai'r amcan hwn yn cyd-fynd â'r Cynlluniau Creu Lleoedd a Diwylliannol. Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet fod cyfle hir-ddisgwyliedig wrth law a phwysleisiodd arwyddocâd mynd i’r afael ag ef yn gywir i greu etifeddiaeth barhaol i Gasnewydd.
  • Awgrymodd y Pwyllgor gydweithio â'r sector Addysg i gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr brofi datblygiadau uwch-dechnoleg. Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at yr angen i rannu gwybodaeth i gadw pobl ifanc yng Nghasnewydd a soniodd am bwysigrwydd uwchsgilio ac ailsgilio. Cydnabu’r Rheolwr Datblygu Economaidd Strategol y posibilrwydd o ddefnyddio adnoddau fel Coleg Gwent a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
  • Gofynnodd y Pwyllgor am gymorth y Cyngor ar gyfer prentisiaethau a sut mae busnesau eraill yn cael cymorth. Esboniodd y Pennaeth ADE fod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn chwarae rhan sylweddol wrth ddarparu lleoliadau 12-18 mis ar gyfer prentisiaid. Nododd hefyd yr ymateb cadarnhaol a gafwyd ar gyfer y 21 swydd a oedd ar gael i brentisiaid, a fyddai’n dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn ogystal, trafododd y Pennaeth ADE y cymorth a oedd ar gael i raddedigion, israddedigion, ac ystyried cymorth ôl-raddedig. Dywedodd y Pwyllgor y dylid rhoi blaenoriaeth i brentisiaethau os mai nhw sydd fwyaf addas ar gyfer rôl. Soniodd y Rheolwr Datblygu Economaidd Strategol am y cynllun Dechrau Cyflym, cynllun gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn wreiddiol, sy'n paru ymgeiswyr â swyddi gwag.
  • Llongyfarchodd y Pwyllgor y Tîm Rheoli Adeiladau am gael ei enwebu am wobr.

Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am fod yn bresennol.

Casgliadau

Cyllid

-       Mae'r Pwyllgor wedi gofyn am gael data ar nifer yr unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau ar-lein.

 

-       Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch yr amseroedd aros presennol ar gyfer galwadau yng Nghanolfan Gyswllt y Ddinas a phwysleisiodd yr angen am welliant.

 

-       Roedd y Pwyllgor yn falch o weld lefel y cymorth a'r ymgysylltu a oedd yn cael eu rhoi gan y gwasanaeth i gefnogi unigolion a oedd yn wynebu anawsterau wrth dalu eu Treth Gyngor.

 

-       Awgrymodd y Pwyllgor gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith trigolion am yr opsiwn i dalu’r Dreth Gyngor ar sail 12 mis, gan dargedu cwsmeriaid Debyd Uniongyrchol presennol yn benodol. Gwnaeth argymell naill ai cynnwys taflen wybodaeth ychwanegol yn y bil papur blynyddol neu dynnu sylw at y wybodaeth hon yn fwy amlwg yn y bil papur ei hun.

 

Y Gyfraith a Safonau

-       Mynegodd y Pwyllgor foddhad ar ddysgu bod y gwasanaeth wedi sefydlu rolau prentisiaeth o fewn y tîm Cyfreithiol, gan gydnabod yr heriau a oedd yn gysylltiedig â recriwtio yn y maes penodol hwn.

 

-       Gofynnodd y Pwyllgor am amserlen yn amlinellu'r camau gweithredu arfaethedig gan y gwasanaeth i godi ymwybyddiaeth o ddiwygio etholiadol. Gofynnodd yn benodol am yr ymgyrch gyfathrebu a’r amseru o ran ei dosbarthu.

 

Pobl, Polisi a Thrawsnewid

-       Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad polisi salwch a adroddwyd yn yr adroddiadau diwedd blwyddyn ym mis Gorffennaf 2023. Cadarnhaodd y swyddogion fod yr adolygiad yn parhau gyda rhai diwygiadau i'r polisi yn debygol o gael eu cynnig ynghylch newidiadau i derminoleg a sbardunau salwch, ac yn dilyn hynny bydd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r undebau. Croesawodd y Pwyllgor y newidiadau arfaethedig hyn a gofynnodd am i'r newidiadau hyn gael eu cynnwys yng nghynllun gwaith y gwasanaeth ar gyfer yr adolygiadau Diwedd Blwyddyn.

 

-       Gofynnodd y Pwyllgor a ystyriwyd amrywiaeth wrth brofi'r wefan gorfforaethol newydd. Gofynnodd hefyd am wybodaeth am ba gymunedau a oedd yn wynebu'r heriau mwyaf yn ystod y broses brofi.

 

-       Gofynnodd y Pwyllgor am i wybodaeth am y cyllidebu cyfranogol gael ei hanfon.

 

-       Gofynnodd y Pwyllgor a ellid diwygio’r ateb dyblyg ar dudalen 69 Cyfeirnod 1, a thudalen 71 Cyfeirnod 4.

 

Adfywio a Datblygu Economaidd

-       Mynegodd y Pwyllgor ddiddordeb mewn gwybod dyddiad cwblhau Canolfan Ymwelwyr y Bont Gludo. Yn ogystal, gwnaeth fynegi pryder am bersbectif diogelwch y gwaith parhaus, yn enwedig yn achos rhybudd diogelwch yn arwain at orfod atal gwaith dros dro ger y Bont Gludo a'r Bont ei hun. Gofynnodd y Pwyllgor am y mesurau a gymerwyd i sicrhau diogelwch adeiladau eraill a cherbydau yn yr ardal yn ystod sefyllfaoedd o'r fath.

 

-       Gofynnodd y Pwyllgor i'r Cyngor ymgysylltu â gwestai a chyfleusterau mwy yn yr ardal i'w hannog i arddangos atyniadau Casnewydd ar eu gwefannau, gyda'r nod o roi mynediad hawdd i drigolion Casnewydd ac ymwelwyr â Chasnewydd at wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos.

 

-       Dymunodd y Pwyllgor y gorau i'r Tîm Rheoli Adeiladau wrth iddo fynd i Lundain am wobr.

 

-       Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch adeilad yr IAC ar Mill Street a'r potensial i'r adeilad aros yn wag. Hoffai'r Pwyllgor ofyn am sicrwydd bod y Cyngor yn ymgysylltu â'r datblygwr i sicrhau bod tenantiaid yn cael eu canfod ar gyfer y safle. Mynegwyd pryder hefyd am dwf clymog ar y safle.

 

 

 

Dogfennau ategol: