Agenda item

Adroddiad Refeniw

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, a oedd yn esbonio’r rhagolygon presennol ar gyfer cyllideb refeniw’r Cyngor a'r cyfleoedd a'r risgiau ariannol sydd i’w gweld yn niweddariad mis Tachwedd.

  

Dyma'r trydydd adroddiad monitor refeniw a gyflwynwyd i'r Cabinet y flwyddyn ariannol hon ac adlewyrchodd danwariant o £2.523m, sy'n ostyngiad o £1m ar ffigurau mis Medi. Mae'r newid yn bennaf oherwydd costau uwch mewn perthynas â digartrefedd a llety dros dro.  

 

Roedd y sefyllfa hon yn ystyried y gyllideb wrth gefn a'r tanwariant disgwyliedig yn ystod y flwyddyn yn erbyn cyllidebau ariannu cyfalaf. 

  

Er y rhagwelwyd tanwariant cyffredinol, dylid nodi y rhagwelwyd y byddai gwasanaethau, gyda'i gilydd, yn gorwario £4.7m, ac eithrio ysgolion. 

  

Rhoddodd y diweddariad hwn gadarnhad bod rhai o'r risgiau hysbys, ar ddechrau'r flwyddyn, wedi dod yn ffaith a'u bod yn achosi gorwariant sylweddol, yn enwedig o fewn y Gwasanaethau Plant a Thai. Fel y rhagwelwyd, fodd bynnag, ar hyn o bryd roedd yn bosibl gwrthbwyso gorwariant gwasanaethau gyda'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol a'r tanwariant o fewn ariannu cyfalaf. 

  

Roedd yr amrywiadau allweddol o fewn y sefyllfa gyffredinol yn cynnwys:

  

(i)               Mwy o alw ar draws meysydd gofal cymdeithasol allweddol gan gynnwys lleoliadau y tu allan i’r ardal a brys i blant. Roedd y ddau faes hyn yn unig yn cyfrannu gorwariant o bron i £3.9m i’r sefyllfa gwasanaethau gyffredinol.

  

(ii)              Roedd y cynnydd yn y galw o fewn y gwasanaeth preswyl ac amhreswyl oedolion yn cyfrannu £1.5m hefyd at y sefyllfa gwasanaethau gyffredinol. Fodd bynnag, roedd hyn yn cael ei wrthbwyso gan orgyflawni incwm gofal cymunedol o ganlyniad i nifer cynyddol o ddefnyddwyr yn cyfrannu at eu gofal.

  

(iii)            Roedd pwysau sylweddol yn amlwg o fewn Tai a Chymunedau, mewn perthynas â digartrefedd. Er i'r Cyngor ddyrannu cynnydd sylweddol yng nghyllideb 2023/24 i fynd i'r afael ag effaith barhaus y gorwariant a gafwyd y llynedd, roedd costau wedi cynyddu ymhellach a rhagwelwyd gorwariant o £2.4m. Roedd y maes hwn wedi profi cynnydd sylweddol mewn costau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn dilyn nod polisi Llywodraeth Cymru i leihau digartrefedd yn sylweddol.  Arweiniodd y polisi hwn at gynnydd digynsail yn y galw am lety dros dro, nad oedd cyfraniadau defnyddwyr gwasanaeth na budd-dal tai yn talu'r costau llawn amdano, gan adael i’r Cyngor ysgwyddo'r gost net.

 

Nododd yr Arweinydd fod Canghellor Llywodraeth y DU wedi gwneud cyhoeddiad yn ei Ddatganiad yr Hydref yngl?n â chymorth ariannol o ran Lwfans Tai Lleol.

 

Mae'r galw am wasanaethau tai a digartrefedd ar lefelau digynsail oherwydd yr argyfwng costau byw, cyni parhaus, ehangu dyletswyddau digartrefedd statudol ac, yn fwyaf diweddar, Proses Lloches Symlach y Swyddfa Gartref.

  

Roedd galw mawr, ynghyd â chyflenwad isel o lety yn y sector rhent cymdeithasol a phreifat, yn golygu bod y Cyngor yn ddibynnol ar fathau drud o lety dros dro fel lleoliadau gwely a brecwast, gwestai'r stryd fawr a darparwyr llety dros dro arbenigol. Yn ei gyd-destun, y diffyg i deulu ag angen dau wely mewn gwesty oedd £65 y noson neu'r hyn sy'n cyfateb i tua £23k y flwyddyn. Yn ogystal â hyn, roedd gofyn i'r Cyngor gyflogi staff ychwanegol i gyflawni ei ddyletswyddau statudol estynedig ac ar hyn o bryd mae'n cynnal llety gyda diogelwch i bobl ag anghenion cymhleth oherwydd diffyg tai cymorth yn y ddinas. 

  

(iv)            Rhagwelwyd tanwariant yn erbyn cyllidebau nad oeddent yn ymwneud â gwasanaethau, yn benodol y cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac ariannu cyfalaf. Roedd arbedion yn y meysydd hyn, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn fwy na gwrthbwyso’r gorwariant gwasanaethau net, gan arwain at danwariant cyffredinol i'r Cyngor cyfan.

  

(v)             Roedd diffyg disgwyliedig yn erbyn cyflawni arbedion 2023/24 ac arbedion y flwyddyn flaenorol o dros £1.1m. Y ddau wasanaeth a oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r diffyg oedd y Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau. O fewn Tai a Chymunedau, nid yw wedi bod yn bosibl dangos tystiolaeth o gyflawni'r arbed hwn, yn enwedig o ystyried y gorwariant cyffredinol yn y maes hwn. O fewn y Gwasanaethau Oedolion, er bod rhai cynigion yn profi'n anodd eu cyflawni ar hyn o bryd, y gobaith yn y pen draw oedd y byddai modd cyflawni'r rhain yn llawn.  

  

Gan fod amrywiant ysgolion yn cael ei reoli drwy falansau ysgolion unigol, nid yw’r tanwariant cyffredinol o £2.5m yn cynnwys sefyllfa ysgolion. Mae ysgolion yn rhagweld ar y cyd orwariant yn erbyn cyllideb o £4.6m a fyddai'n arwain at falansau’n gostwng o £14.4m i £9.8m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. 

  

Gan ystyried y lefel sylweddol o arbedion y mae angen i ysgolion eu cyflawni yn ystod 2023/24 a lefel y gwariant rheolaidd o fewn y gorwariant o £4.6m (sef tua £2.3m), roedd swyddogion yn parhau i fonitro balansau ysgolion yn agos dros y tymor canolig fel rhan o strategaeth osgoi ac atal diffyg y Cyngor. 

  

Er bod y flwyddyn ariannol yn ei chwarter olaf, mae'r risg y gallai'r sefyllfa waethygu rhwng nawr a mis Mawrth yn parhau. Mae'r risgiau hyn yn ymwneud yn bennaf â gwasanaethau a arweinir gan alw, sy'n gyfnewidiol eu natur ac a allai arwain at gostau yn cynyddu'n gyflym iawn, fel y gwelwyd gan y cynnydd diweddar yn y gorwariant Tai. 

  

O ystyried y risg y gallai'r sefyllfa hon newid, roedd ymdrechion parhaus i liniaru gorwariant o fewn gwasanaethau i greu sefyllfa gwasanaethau gytbwys erbyn diwedd y flwyddyn.

  

Rhan o'r rheswm dros sicrhau bod tanwariant yn cael ei gyflawni yw oherwydd y cyfyngiadau presennol ar adnoddau cyfalaf a'r Gronfa Trawsnewid. Mae tanwariant yn y gyllideb refeniw yn un ffordd o gynorthwyo gyda'r her hon. 

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at y gorwariant mewn cronfeydd wrth gefn ysgolion a ostyngodd i £4.6m. Roedd risg y gallai rhai ysgolion osod cyllideb ddiffyg, roedd cymorth yn cael ei roi i sicrhau nad oedd hyn yn digwydd. Mae llawer o ysgolion lle mae cronfeydd wrth gefn wedi’u lleihau mewn perygl o osod cyllideb ddiffyg yn y blynyddoedd ariannol nesaf.

 

§ Dywedodd y Cynghorydd Batrouni fod yr adroddiad a'r eitem flaenorol yn dangos bod pobl eisiau gweithio a byw yng Nghasnewydd, gyda phwysau cynyddol ar ysgolion, y gwasanaethau oedolion, a thai yn adlewyrchu'r galw hwnnw.   

  

Penderfyniad:  

 

Bod y Cabinet yn

  

         Nodi’r rhagolygon cyllideb cyffredinol a amlinellwyd yn yr adroddiad hwn, a oedd yn cynnwys gorwariant gwasanaethau, wedi'i wrthbwyso gan danwariant yn erbyn cyllidebau nad oeddent yn ymwneud â gwasanaethau. 

         Nodi’r risgiau a nodwyd drwy gydol yr adroddiad ac yn sylwadau'r Pennaeth Cyllid, fel mewn perthynas â materion galw a oedd yn cael eu hwynebu. 

         Nodi'r diffyg cyffredinol o ran cyflawni arbedion a dderbyniwyd fel rhan o gyllideb refeniw 2023/24.

         Nodi'r symudiadau mewn cronfeydd wrth gefn a ragwelwyd.

         Nodi'r sefyllfa gyffredinol mewn perthynas â chyllidebau ysgolion, gan gydnabod y risg y gallai rhai sefyllfaoedd diffyg unigol ddod i'r amlwg erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Dogfennau ategol: