Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar fonitro ac ychwanegiadau’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer mis Tachwedd 2023 i gydweithwyr y Cabinet. Hwn oedd trydydd adroddiad monitro’r flwyddyn ar weithgarwch cyfalaf ac roedd yn rhoi trosolwg o'r rhaglen gyfalaf wedi'i diweddaru, ochr yn ochr â'r sefyllfa alldro a ragwelwyd ym mis Tachwedd eleni. Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am lefel yr hyblygrwydd cyfalaf a oedd ar gael, rhoddodd fanylion yr ychwanegiadau at y rhaglen a nodwyd a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer yr ychwanegiadau hyn.
Amlinellodd adran gyntaf yr adroddiad y symudiad yn y gyllideb gyfalaf ers yr adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Medi.
Gwerth net yr ychwanegiadau a’r diwygiadau i'r rhaglen gyfalaf bresennol yn 2023/24 ers hynny oedd £3m, a rhoddwyd dadansoddiad o'r ychwanegiadau hyn yn Atodiad A. Roedd y rhan fwyaf o'r ychwanegiadau newydd yn cael eu hariannu drwy grantiau allanol.
O ganlyniad i'r ychwanegiadau hyn ym mis Tachwedd 2023, y gyllideb bresennol ar gyfer 2023/24 oedd £93.2m erbyn hyn, sy'n sylweddol ac yn heriol i'w gyflawni'n llawn.
Amlinellodd yr adroddiad hefyd lefel y llithriad a oedd yn cael ei ragweld yn erbyn y gyllideb ddiwygiedig o £93.2m.
Roedd amrywiant o tua £9.6m yn cael ei ragweld, gyda’r rhan fwyaf ohono o ganlyniad i lithriad, gyda'r balans yn ymwneud â thanwariant net.
Roedd y llithriad a oedd yn cael ei ragweld yn bennaf oherwydd materion a wynebwyd mewn perthynas â llond llaw o gynlluniau mawr, gyda'r llithriad llawn ar gael yn Atodiad B.
Nododd yr adroddiad fod y ffigurau hyn yn destun adolygiad parhaus ac y gallent newid rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ariannol.
Ar y cam hwn o'r flwyddyn, gofynnwyd i'r Cabinet nodi lefel y llithriad, gyda chymeradwyaeth yn cael ei cheisio ar ddiwedd y flwyddyn fel rhan o'r adroddiad alldro.
Nododd yr adroddiad hefyd lefel yr hyblygrwydd cyfalaf a oedd ar gael ar hyn o bryd, y gellid ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau newydd a blaenoriaethau a oedd yn dod i'r amlwg.
Roedd hyn bellach yn £8.259m, ac nid oedd unrhyw newidiadau i'r hyblygrwydd ers adroddiad monitro mis Medi.
Er bod lefel yr hyblygrwydd a oedd ar gael yn uwch nag yr oedd flwyddyn yn ôl, nodwyd pe bai ychydig o faterion sylweddol yn codi yna byddai hyn yn cael ei ddefnyddio. Mae'r Cyngor yn gallu ymateb i faterion hanfodol, wrth iddynt ddod i'r amlwg. Roedd hyn yn gofyn am reolaeth dynn a blaenoriaethu clir o'r materion mwyaf dybryd a brys yn unig.
Dylid cymryd unrhyw gyfle i gynyddu'r hyblygrwydd ymhellach, er mwyn ei gwneud yn bosibl sicrhau bod digon o gyllid yn bodoli i ymateb i unrhyw faterion a gododd.
Mae adroddiadau diweddaru rheolaidd yn cynnwys gwybodaeth am gydymffurfiaeth y Cyngor â'i ddangosyddion rheoli materion ariannol a thrysorlys. Mae Atodiad D yn dangos bod y Cyngor wedi cydymffurfio â'i holl ddangosyddion, ar 30 Tachwedd 2023.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Nododd y Cynghorydd Davies y cyfeiriad at y cyllid grant Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyrannwyd arian i nifer o ysgolion i wella'r ddarpariaeth, gyda £510,000 yn cael ei ddyrannu i Faes Ebwy i ddisodli ac uwchraddio'r cyfleusterau chwarae a dysgu awyr agored ac uwchraddio rhai o'r toiledau. Fel yr Aelod Cabinet dros Addysg a Blynyddoedd Cynnar, gwelodd y Cynghorydd Davies yr angen i wneud y gwelliannau hyn ac roedd yn falch o'r dyraniad cyllid hwn a fyddai'n cael effaith gadarnhaol ar ddysgu a lles yn yr ysgol.
Dyrannwyd £100,000 i Ysgol Bryn Derw ar gyfer safle Ysgol Feithrin Kimberley a byddai cyfran ohono'n gwella cyfleusterau chwarae awyr agored.
§ Diolchodd y Cynghorydd Batrouni i'r Cynghorydd Davies fel llywodraethwr Ysgol Maes Ebwy am wrando ar benaethiaid, athrawon, rhieni a phlant.
§ Diolchodd yr Arweinydd i'r tîm cyllid am ei waith yngl?n â'r adroddiadau a baratowyd ar gyfer y Cabinet.
Penderfyniad:
Bod y Cabinet yn
1. Nodi’r sefyllfa alldro gwariant cyfalaf a ragwelwyd ar gyfer 2023/24
2. Nodi’r diwygiadau i’r rhaglen gyfalaf.
3. Nodi'r adnoddau cyfalaf a oedd ar ôl ('hyblygrwydd') a'r defnydd a glustnodwyd o'r adnoddau hynny.
4. Nodi cynnwys y dangosyddion materion ariannol Rheoli Trysorlys, a gynhwyswyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: