Agenda item

Cynllun Pobl 2023-2028

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Gynllun Pobl newydd y Cyngor ar gyfer 2023/2028 i'r Cabinet. 

 

Yn dilyn datblygu'r Cynllun Corfforaethol yn 2022, datblygwyd nifer o gynlluniau hanfodol, fel y Strategaeth Ddigidol a'r flwyddyn nesaf, y Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd. 

 

Byddai’r Cynllun Pobl yn helpu i ddenu, datblygu a chadw'r gweithlu sydd ei angen i gyflawni dyheadau. Y gweithlu yw ased mwyaf gwerthfawr y Cyngor o hyd, ac mae'r cynllun hwn yn anelu at nodi blaenoriaethau pobl.

  

Dechreuodd y gwaith o ddatblygu themâu'r Cynllun Pobl yng nghanol 2023 drwy ymgysylltu â staff, rheolwyr ac undebau llafur. Daeth pedair thema strategol i'r amlwg drwy ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid, sef:

  

o  Cynrychiolaeth a Thrawsnewid - sicrhau bod y gweithlu'n fwy cynrychioliadol o'r ddinas, tra'n galluogi gweithlu trawsnewidiol a blaengar   

  

o  Lles Gweithwyr cefnogi lles staff gan gyfrannu at greu amgylchedd gwaith cadarnhaol.

  

o  Ymgysylltu â Gweithwyr – datblygu ffyrdd o ymgysylltu â staff, creu ymrwymiad a pherfformiad uchel, ymgorffori gwerthoedd a pharodrwydd i gyflawni ar gyfer dinasyddion.

  

o  Profiad Gweithwyr - datblygu fel cyflogwr o ddewis a chefnogi recriwtio a chadw.

  

Mae'r ddogfen Cynllun Pobl sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad yn amlinellu'r pedair thema hyn a chynllun ar gyfer y gweithlu dros ei gylch bywyd. Mae'r cynllun hefyd yn rhoi mewnwelediad i'r camau cadarnhaol sy'n cefnogi'r gwaith cyflawni, ac yn nodi'r gwaith gyda gweithwyr i ddatblygu gwerthoedd staff newydd a fyddai'n cael eu lansio ochr yn ochr â'r cynllun. 

 

Talodd yr Arweinydd ei theyrnged bersonol ei hun i'r Prif Weithredwr am ei chyfraniad at drawsnewid y Cyngor a nododd ei bod yn arweinydd rhagorol o ran trawsnewid. Diolchodd yr Arweinydd i'r tîm a oedd yn ymwneud â hyn. Roedd yn bwysig i'r diwylliant sefydliadol ac i brofiad gwaith yr holl weithwyr ar draws y sefydliad cyfan. Manteisiodd yr Arweinydd hefyd ar y cyfle i ddiolch i'r Cynghorydd Batrouni, fel yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§ Adleisiodd y Cynghorydd Batrouni ddiolchiadau’r Arweinydd a dywedodd fod y staff yn hanfodol i lwyddiant y ddinas ac yn gwneud gwaith rhagorol. Mae cyfnod anodd o'n blaenau ac mae'r ddogfen hon yn rhan o'r daith i roi'r sgiliau cywir i staff er mwyn iddynt gyflawni i drigolion nawr ac yn y dyfodol.   

 

§ Roedd y Cynghorydd Davies yn falch o gefnogi mabwysiadu'r Cynllun Pobl fel dogfen gefnogol lle'r oedd iechyd a lles yn cael blaenoriaeth amlwg. Roedd yn hanfodol nid yn unig bod Cyngor Dinas Casnewydd yn denu unigolion brwdfrydig a medrus iawn a oedd am weithio i Gyngor Dinas Casnewydd, ond yn bwysig hefyd fod y Cyngor yn eu cadw. Wrth symud ymlaen roedd yn bwysig bod y cynllun yn cyflawni'r amcanion hyn, ac roedd yn galonogol gweld bod cynllun gweithredu clir eisoes ar waith.

 

§ Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod cadw staff mewn gwasanaethau cymdeithasol yn faes anodd ac roedd am sicrhau staff bod eu lles yn cael ei gymryd o ddifrif, a bod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi.

 

Penderfyniad:  

 

Adolygodd y Cabinet y Cynllun Pobl a chytunodd ar ei fabwysiadu.

 

 

Dogfennau ategol: