Agenda item

Premiymau Treth y Cyngor

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad Premiymau Treth Gyngor sy'n delio â chartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yng Nghasnewydd a'r posibilrwydd o gyflwyno premiymau Treth Gyngor ar yr eiddo hyn. Roedd yr adroddiadau eraill a ystyriwyd gan y Cabinet heddiw yn tynnu sylw at ganlyniadau'r galw cynyddol am dai a'r prinder stoc tai sydd ar gael.

  

Mae'r effeithiau yn 'ariannol' ar y costau y mae'r Cyngor yn eu hysgwyddo mewn llety digartrefedd byrdymor, a hefyd yn 'gymdeithasol' i'r unigolion a'r teuluoedd yr effeithir arnynt. 

  

Yn ogystal â diffyg cyffredinol o ran nifer y tai a oedd ar gael, roedd gan Gasnewydd nifer fawr barhaus o eiddo gwag. Byddai premiymau Treth Gyngor, pe byddent yn cael eu cyflwyno, yn annog perchnogion i gymryd camau i adfer eu heiddo i’w defnyddio eto.

 

Ym mis Tachwedd gofynnwyd i'r Cabinet gytuno y dylid cynnal ymarfer ymgynghori â’r cyhoedd ar gyflwyno premiymau Treth Gyngor a rhoddodd yr adroddiad hwn ganlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw.

 

Cafwyd 470 o ymatebion i'r ymgynghoriad ac mae'r canfyddiadau'n dangos bod mwy na 75% o'r ymatebwyr yn cytuno y dylai Cyngor Dinas Casnewydd gymryd camau i annog perchnogion i adfer eu heiddo i’w defnyddio eto: roedd bron i 60% yn cytuno â chyflwyno 'premiwm' i gyflawni hyn.

  

Er bod llai o ail gartrefi, dylid sicrhau dull gweithredu cyson ar gyfer yr eiddo hyn sy’n cael eu tanddefnyddio. Felly, mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion i fabwysiadu premiymau Treth Gyngor yng Nghasnewydd, ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

  

Roedd y ddeddfwriaeth yn rhoi rhai eithriadau a oedd yn atal premiwm rhag cael ei godi mewn rhai amgylchiadau. Yn dilyn adborth o'r ymgynghoriad ac i fynd i'r afael â phryderon rhanddeiliaid, argymhellwyd rhai eithriadau 'lleol' cyfyngedig ychwanegol.

  

Pe bai argymhellion yr adroddiad hwn yn cael eu cytuno, byddai'r mater yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i wneud penderfyniad terfynol. Pe baent yn cael eu cytuno yno, byddent yn cael eu gweithredu ar 1 Ebrill eleni.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§ Diolchodd y Cynghorydd Clarke i'r rhai a gymerodd ran yn y broses ymgynghori a chyfeiriodd at yr argyfwng tai ledled y DU, felly byddai premiymau Treth Gyngor yn helpu.  Nododd yr ymgynghoriad yr hyn y dylai'r premiwm fod gyda phremiwm o 100% yn derbyn yr ymateb mwyaf cadarnhaol.  

 

§ Dywedodd y Cynghorydd Davies fod argyfwng tai, gyda dros naw mil o drigolion ar y gofrestr dai yng Nghasnewydd yn unig. Roedd datgysylltiad wrth ystyried bod 2565 o eiddo gwag o fewn ffiniau Casnewydd. Cefnogodd y Cynghorydd Davies gyflwyno’r cynnig hwn i'r Cyngor llawn a phe bai’n cael ei fabwysiadu, byddai'n rhan o becyn cymorth a ddefnyddir gan Gyngor Dinas Casnewydd i gynyddu argaeledd stoc dai yn y ddinas.

 

§ Dywedodd y Cynghorydd Harvey fod swyddogion yn gweithio'n galed yn chwilio am lety i drigolion a theuluoedd a oedd angen llety brys.  Cefnogodd y Cynghorydd Harvey yr adroddiad.

 

§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at faterion tebyg yng Ngogledd Cymru ac roedd o’r farn bod Casnewydd wedi dod i setliad synhwyrol gyda ffigur premiwm ar y pen isaf i annog landlordiaid i wneud rhywbeth i wella'r eiddo hyn i'w defnyddio eto pan oedd eu hangen fwyaf.   

 

Penderfyniad:  

 

Ystyriodd y Cabinet ganlyniadau'r ymgynghoriad ac argymhellodd gyflwyno premiymau Treth Gyngor i'r Cyngor yn unol â'r opsiwn a ffefrir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: