Agenda item

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

        i.           Deputy Leader and Cabinet Member for Education and Early Years

      ii.           Cabinet Member for Community and Wellbeing

     iii.           Cabinet Member for Strategic Planning, Regulation and Housing

    iv.           Cabinet Member for Social Services

      v.           Cabinet Member for Organisational Transformation

    vi.           Cabinet Member for Climate Change and Bio-Diversity

   vii.           Cabinet Member for Infrastructure and Assets

Cofnodion:

Cwestiwn 1: Yr Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau:

 

Y Cynghorydd Reeks:

Mae cyllideb arfaethedig 2024/2025 yn ceisio codi refeniw drwy gynyddu taliadau ar draws meysydd parcio gan gynnwys maes parcio Canolfan Ffordd y Brenin 9%, a allai atal mwy o siopwyr rhag mynd i ganol y ddinas.

 

Oni fyddai'r Aelod Cabinet yn cytuno â mi, trwy reoli'r maes parcio ei hun yn well, fel peidio â chael y goleuadau'n rhedeg drwy'r nos ac agor y maes parcio ar holl ddiwrnodau gemau Rodney Parade i ddod â mwy o fasnach i'r maes parcio, y gellid codi mwy o refeniw o bosibl, ac na fyddai siopwyr yn cael eu cosbi am ddod â'u masnach i ganol y ddinas?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Lacey:

Mae maes parcio Ffordd y Brenin yn cynnig cyfleuster ardderchog i ymwelwyr â'r ddinas, gan fod yn faes parcio modern yn agos at atyniadau'r Ddinas. Mae'r cyfleuster, sy'n defnyddio goleuadau ynni-effeithlon, yn gweithredu goleuadau lefel argyfwng pan nad yw'r maes parcio yn cael ei ddefnyddio. Ynghyd â'n gwaith arall o leihau allyriadau carbon gweithgareddau'r Cyngor, fel y cynnydd yn ein fflyd cerbydau trydan ein hunain, rydym ar hyn o bryd yn bwrw ymlaen â chynllun i osod system paneli solar ar do Ffordd y Brenin a fydd yn darparu ynni ar gyfer y maes parcio.

 

Mae'r maes parcio fel arfer ar agor bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig a Dydd Calan, gyda’i agor ar Ddydd San Steffan yn cael ei ystyried yn flynyddol. O'r herwydd, byddai unrhyw alw ar ddiwrnodau gemau Rodney Parade yn cael ei ateb ac eithrio ar y ddau ddiwrnod hynny y flwyddyn. Os bydd Ffordd y Brenin ar gau, bydd meysydd parcio eraill y Cyngor ar gael.

 

Cwestiwn 2: Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth

 

Y Cynghorydd Mogford:

O fewn cynllun corfforaethol blaenorol Cyngor Dinas Casnewydd (CDC) (2017-2022) nodwyd "Rydym wedi adfer y rhaglen wastraff a sbwriel "Balchder yng Nghasnewydd" ac wedi sefydlu mentrau dim goddefgarwch ar gyfer tipio anghyfreithlon ledled y ddinas."

 

Mewn ymateb diweddar i'm 'cwestiwn ar unrhyw adeg' ynghylch lefelau pryderus o dipio anghyfreithlon yn y ddinas, nododd yr Aelod Cabinet yn syml "O ran tipio anghyfreithlon mae gan Gasnewydd y gyfradd erlyn llwyddiannus ail uchaf yng Nghymru"

 

Fodd bynnag, os edrychwn yn fanwl ar yr ystadegau ar gyfer y cyfnod blaenorol 2022/2023 (ffynhonnell Llywodraeth Cymru) roedd 5,631 o ymchwiliadau a gynhaliwyd gan CDC a llai na 40 o ddirwyon a roddwyd (dim ond 14 erlyniad a wnaed).

 

A all yr Aelod Cabinet gadarnhau, gan barhau fel rhan o'r cynllun corfforaethol ac yn awr dan ei goruchwyliaeth; bod y weinyddiaeth hon gan CDC wir wedi sefydlu a chynnal dull dim goddefgarwch o ymdrin â thipio anghyfreithlon ac, os felly, pam mae'r Aelod Cabinet yn credu bod y duedd yn parhau’n un sydd ag achosion cynyddol o dipio anghyfreithlon ledled Casnewydd?  

 

Ymateb gan y Cynghorydd Forsey:

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi cynyddu'r adnoddau sydd ar gael i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon, trwy ehangu'r tîm ymgysylltu a gorfodi gwastraff. Bu mwy o waith hefyd gyda sefydliadau partner a grwpiau gwirfoddol, a nifer o brosiectau allweddol fel ymgyrchoedd cudd neu'r prosiect llwyddiannus Ffordd at Natur.

 

Mae'r Cyngor yn annog pobl i adrodd am dipio anghyfreithlon, ac mae'r tîm gwastraff yn cynnal llwybrau rhagweithiol ac yn monitro mannau problemus. Er y gall hyn oll arwain at gynnydd yn nifer y digwyddiadau sy'n cael eu cofnodi a'u hadrodd, dyma'r dull cywir o sicrhau bod digwyddiadau tipio anghyfreithlon yn cael eu rheoli'n ddigonol, ac yn bwysicach na hynny mae wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y camau a gymerwyd o ganlyniad.

 

Mae gweithredoedd yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau ac mewn llawer o achosion, ni all swyddogion gyrraedd y camau Hysbysiad Cosb Benodedig neu erlyn oherwydd diffyg tystiolaeth, gan fod rheolau penodol y mae angen eu dilyn ac mae'r broses gyfreithiol yn gymhleth. Dyma pam mae lefel y cosbau wedi’u cyhoeddi ledled y DU yn draddodiadol wedi bod isel ac yn dal i fod yn isel, fodd bynnag, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwella'n ddramatig dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae'r duedd hon yn parhau.

 

Daeth hyn â chyfarfod y cyngor llawn i ben.  Dyddiad y cyfarfod nesaf ar gyfer y Cyngor fyddai dydd Iau 29 Chwefror 2024.