Agenda item

Rhybudd o Gynnig: Nodweddion Gwarchodedig ar gyfer Pobl sydd wedi Profiad o Ofal

Cofnodion:

Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol Arweinydd y Cyngor i gyflwyno'r cynnig, gyda'r Cynghorydd Marshall i’w eilio:

 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cydnabod bod y Pwyllgor Addysg Plant a Phobl Ifanc a sefydlwyd gan Senedd Cymru yn argymell bod profiad o fod mewn gofal yn dod yn nodwedd warchodedig yn neddfwriaeth y DU ac yn cefnogi'r Siarter Rhianta Corfforaethol yng Nghymru y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyhoeddi'n ddiweddar gan wahodd sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i ddod yn Rhiant Corfforaethol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru.

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

·         Mae pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu rhwystrau sylweddol sy'n effeithio arnynt drwy gydol eu bywydau.

 

·         Er gwaethaf gwydnwch llawer o bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, nid yw cymdeithas yn ystyried eu hanghenion yn rhy aml.

 

·         Mae pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn aml yn wynebu gwahaniaethu a stigma ar draws tai, iechyd, addysg, perthnasau, cyflogaeth ac yn y system droseddol.

 

·         Gall pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal brofi cymorth anghyson mewn gwahanol ardaloedd daearyddol.

 

·         Fel rhieni corfforaethol, mae gan gynghorwyr gyfrifoldeb ar y cyd am ddarparu'r gofal a'r diogelu gorau posibl i'r plant sy'n derbyn gofal gennym ni fel awdurdod.

 

·         Fel rhieni corfforaethol bydd Cyngor Casnewydd yn ymrwymo i weithredu fel mentoriaid, clywed lleisiau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac ystyried eu hanghenion mewn unrhyw agwedd ar waith y Cyngor.

 

·         Bydd cynghorwyr yn hyrwyddo'r plant yn ein gofal ac yn herio'r agweddau negyddol a'r rhagfarn sy'n bodoli ym mhob agwedd ar gymdeithas.

 

Mae’r Cyngor hwn, felly, yn penderfynu:

 

·         Ei fod yn cydnabod bod pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn gr?p sy'n debygol o wynebu gwahaniaethu.

 

·         Ei fod yn cydnabod bod gan Gyngor Casnewydd ddyletswydd i roi anghenion pobl ddifreintiedig wrth wraidd y gwaith o wneud penderfyniadau drwy gydgynhyrchu a chydweithio.

 

·         Y dylid asesu penderfyniadau, gwasanaethau a pholisïau a wneir ac a fabwysiedir gan y Cyngor yn y dyfodol drwy Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb i gael gwybod am effaith newidiadau ar bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ochr yn ochr â'r rheiny sy'n rhannu nodwedd warchodedig yn ffurfiol.

 

·         Bod y Cyngor, wrth gyflawni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus, yn cynnwys profiad o fod mewn gofal wrth gyhoeddi ac adolygu Amcanion Cydraddoldeb ac yn cyhoeddi gwybodaeth yn flynyddol yn ymwneud â phobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig mewn gwasanaethau a chyflogaeth.

 

·         Galw'n ffurfiol ar bob corff arall i drin profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig tan y gellir ei gyflwyno gan ddeddfwriaeth.

 

·         Bod y Cyngor yn parhau i chwilio’n rhagweithiol am leisiau pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal a gwrando arnynt wrth ddatblygu polisïau newydd yn seiliedig ar eu barn.

 

Cadwodd y Cynghorydd Mudd yr hawl i siarad ar ddiwedd y drafodaeth.

 

Cadwodd y Cynghorydd Marshall yr hawl i siarad ar ddiwedd y drafodaeth.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Davies, er bod nodweddion gwarchodedig yn cael eu cydnabod dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn anffodus, nid yw profiad o fod mewn gofal yn un o'r nodweddion hyn, tra bod tystiolaeth yn dangos ei bod yn amlwg bod hyn yn cael effaith sy'n newid bywydau. Mae gwahaniaethu yn erbyn y rheiny sy'n tyfu i fyny yn y system gofal ac mae ymchwil helaeth wedi’i chynnal i ganlyniadau plant sy'n tyfu i fyny mewn gofal. Mae patrwm clir o gyrhaeddiad addysgol is a llai o debygolrwydd o bontio i addysg uwch, yn ogystal â chanlyniad is o ran iechyd a lles cyffredinol.  Mae oedolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael eu gorgynrychioli mewn poblogaethau sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol, fel carchardai, pobl ddigartref, a gweithwyr rhyw.  Felly, cefnogodd y Cynghorydd Davies y cynnig yn ffurfiol i alw ar gyrff eraill i drin profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig ac, yn bwysicach fyth, chwilio’n rhagweithiol am leisiau pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal a gwrando arnynt i helpu i gefnogi polisïau a chamau gweithredu wrth symud ymlaen. 

 

§  Ychwanegodd y Cynghorydd Harvey y dylai plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal gael eu trin yr un fath â phlant gartref, na fyddent o reidrwydd yn gadael cartref teuluol yn 16 oed ac felly cefnogodd y cynnig.

 

§  Roedd y Cynghorydd Hourahine yn falch bod y cynnig hwn wedi dod gan un o drigolion ward Sain Silian ac roedd tîm y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cofleidio hyn ac ymchwilio'n drylwyr iddo. Pe bai'r cynnig hwn yn cael ei basio, byddai Casnewydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

§  Roedd y Cynghorydd Lacey yn falch iawn o gefnogi'r cynnig. Roedd gan lawer o bobl a oedd yn gadael gofal brofiad bywyd a oedd yn eu gwneud yn ddyfeisgar ac yn wydn ac a fyddai'n eu gwneud yn ased i addysg bellach neu yn y gweithle a dylent gael eu cefnogi gan eu Rhiant Corfforaethol.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Drewett i'r bobl ifanc yn yr oriel gyhoeddus am gefnogi'r cynnig heddiw ac i Rowan Aderyn a feddyliodd am y syniad.  Byddai'r cynnig hwn yn cryfhau'r swyddogaeth rhianta corfforaethol ac yn newid y polisi i gefnogi pobl sydd wedi gadael gofal yn y gorffennol. Pe bai'r cynnig hwn yn cael ei basio byddai'n gatalydd i gynghorau eraill yng Nghymru ac felly, cefnogodd y Cynghorydd Drewett y cynnig yn gryf.

 

§  Cadarnhaodd y Cynghorydd Hughes, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion) fod cynghorwyr wedi cwrdd â'r tîm Llwybr at Annibyniaeth a'r plant a oedd yn ddyfodol Casnewydd yn gynharach y diwrnod hwnnw. Fel Rhiant Corfforaethol mae gan y Cyngor ddyletswydd i'r rheiny mewn gofal ac felly cefnogodd y cynnig.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Corten y dylid pasio’r cynnig.

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Evans y cynnig hefyd a dywedodd fod pobl sy'n gadael gofal mewn perygl o fod yn ddigartref, gan ychwanegu ei bod yn hanfodol bod y Cyngor yn nodi cynllun clir ar gyfer tai cymdeithasol a chymorth gyda chyflogaeth ac addysg. 

 

§  Roedd y Cynghorydd Reynolds yn hapus i gefnogi'r cynnig.  Gwnaeth y cynnig hefyd fynd i'r afael â materion a brofir gan bobl ifanc sy'n gadael gofal ac felly roedd y Cynghorydd Reynolds yn falch o gefnogi'r cynnig a gobeithiodd y byddai’n cael ei basio'n unfrydol.

 

§  Siaradodd y Cynghorydd Marshall i gefnogi ac eilio’r cynnig i gydnabod 'Profiad o Fod Mewn Gofal' fel nodwedd warchodedig o fewn fframwaith ymrwymiad y Cyngor i Amrywiaeth a Chydraddoldeb.

 

Roedd y Cynghorydd Marshall yn falch o nodi bod Cyngor Dinas Casnewydd bob amser yn arloeswr wrth hyrwyddo a dathlu egwyddorion amrywiaeth a chydraddoldeb, a heddiw cawsom gyfle i gymryd cam beiddgar arall ymlaen. Roedd hyn ymhlith y momentwm cynyddol yng Nghymru i gydnabod 'Profiad o Fod Mewn Gofal' fel nodwedd warchodedig gan gyd-fynd â'n hymrwymiad i gynhwysiant ac yn adlewyrchu dealltwriaeth gymdeithasol ehangach o'r heriau sy'n wynebu unigolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

 

Amlygodd yr Adolygiad Annibynnol diweddar o Ofal Cymdeithasol Plant yn Lloegr, dan arweiniad Josh McCallister, yr angen i wneud profiad o fod mewn gofal yn nodwedd warchodedig.

 

Fel rhieni corfforaethol, mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i ddarparu'r gofal gorau posibl i'r plant sy'n derbyn gofal gan ein hawdurdod.

 

 

I gloi, roedd y cynnig hwn yn gam blaengar a thosturiol ymlaen i'n Cyngor. Anogodd y Cynghorydd Marshal gydweithwyr i ystyried y cynnig hwn, gyda Chasnewydd yn arwain y ffordd yng Nghymru, gan osod esiampl i gynghorau eraill ei dilyn.

 

§  Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r holl gydweithwyr a siaradodd ynghylch y cynnig.  Siaradodd yr Arweinydd nid yn unig fel Arweinydd y Cyngor a Rhiant Corfforaethol, ond hefyd fel mam a mam-gu. Cafodd yr Arweinydd y fraint o roi i Mike Foster wobr Cyflawniad Oes The Pride of Gwent ym mis Rhagfyr am ei wasanaeth i faethu dros 50 o bobl ifanc, gan sicrhau sefydlogrwydd yn eu bywydau. 

 

Rhannodd yr Arweinydd hefyd eiriau gan Rowan a Terry gyda'r Cynghorwyr:

 

Bob 15 munud mae plentyn yn gadael gofal, mae’n ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith, deg gwaith yn fwy tebygol o brofi digartrefedd, yn wynebu siawns uwch o 70% o farw'n gynamserol, ac os yw’n mynd i fyd gwaith, yn profi un o'r bylchau cyflog mwyaf yn y DU.

 

Heno, rwy'n sefyll o'ch blaen, nid yn unig fel un o'r plant hynny, ond fel tyst i'w gwydnwch a'u potensial.

 

Nid dim ond label oedd tyfu i fyny’n "blentyn mabwysiedig"; roedd yn sibrwd a wnaeth fy nilyn trwy gynteddau'r ysgol, yn amheuaeth yn llygaid athrawon, yn rhwystr yn rhwystro rhai cyfleoedd. 

 

Yn yr ysgol uwchradd, roeddwn i wir eisiau cymryd pedair Safon Uwch, ond cafodd fy mreuddwyd ei wrthsefyll. Byddai'r athrawon yn dweud "Mae gennych chi gymaint ar eich plât yn barod." Roedd yn rhaid i mi gael cyfarfod ar ôl cyfarfod i gyfiawnhau pam y dylwn i gael fy nghefnogi. Roedd yn weithred a anwyd o garedigrwydd, ond y tu ôl i'r geiriau hynny roedd neges y dylwn i gyfyngu ar fy mhotensial, na ddylwn ddisgwyl cyflawni cymaint â fy nghyfoedion, ac nid oherwydd nad oedd gen i'r graddau ond dim ond oherwydd fy mod wedi fy mabwysiadu.

 

Rwyf yma i ofyn i chi ailysgrifennu'r naratif ar gyfer pob plentyn sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Roeddwn i'n ffodus fy mod wedi gwrthod cael fy niffinio gan gyfyngiadau. Brwydrais am fy siawns, a gyda chymorth rhai pobl wych rwyf wedi parhau i ddysgu a thyfu. Rwyf wedi cael gyrfa lwyddiannus iawn fel Pensaer Busnes Arweiniol ar gyfer un o'r cwmnïau ariannol mwyaf yn y DU, ac wedi llwyddo i gwblhau rhestr hir o gymwysterau gan gynnwys gradd meistr yr enillais ragoriaeth ar ei chyfer.

 

Diolch byth nad yw fy stori yn unigryw, ond mae enghreifftiau fel y rhain yn aml yn cael eu hystyried yn eithriad pan ddylen nhw fod yn norm. Mae gan unigolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal gryfderau a safbwyntiau aruthrol, ac eto rydyn ni’n wynebu anfanteision systemig ar draws iechyd, tai, addysg a chyflogaeth.

 

Nid dyma'r unig fannau lle mae pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu rhwystrau. Hyd yn oed yn ddiweddar, mewn clwb lleol, dywedodd aelod o'r pwyllgor wrthyf "Nid ydyn ni eisiau plant nac oedolion sydd â phrofiad o fod mewn gofal yma." Nid yw'r rhain yn ddigwyddiadau unigol; ac nid dyma'r enghreifftiau gwaethaf rwyf wedi’u clywed o bell ffordd. Maen nhw'n adleisio system nad yw'n ystyried pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn ddilys, fel rhai sy'n haeddu cyfle cyfartal.

 

Heno, mae gennym gyfle i newid y naratif hwn. Trwy gydnabod profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig, rydyn ni’n anfon neges bwerus: "Rydyn ni'n eich gweld chi. Rydyn ni’n eich gwerthfawrogi chi. Ac rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol lle gallwch ffynnu, ochr yn ochr â phawb arall."

 

A chyn i ni adeiladu'r dyfodol hwnnw, gadewch i ni gymryd eiliad i gydnabod y bobl anhygoel ddaeth â ni yma.

 

Heb ofal maeth, ni fyddwn i’n fyw heddiw. Heb y gweithwyr cymdeithasol, a'r meddygon, a'r heddlu a'r athrawon fu'n gweithio i greu lle diogel lle gallwn i dyfu, ni fyddwn i’n eistedd yma gyda chi. A byddai'r holl bethau gwych rwyf wedi'u cyflawni a'r teulu hardd rwyf mor falch ohono wedi parhau’n freuddwyd yn unig.

 

Felly i'r rhieni maeth sy'n agor eu cartrefi a'u calonnau, i'r gweithwyr cymdeithasol sy'n brwydro dros ein diogelwch, i'r addysgwyr sy'n gweld ein potensial, ac i'r cyflogwyr fel fy un i sy'n chwalu rhwystrau, ac i bob un llais a ymunodd â'r corws hwn dros gydraddoldeb – diolch. Eich dewrder, eich cymorth diysgog, eich cred ynon ni yw'r sylfaen y mae'r mudiad hwn yn sefyll arni.

 

Gwnaeth Terry ysgogi’r newid yma dros ddwy flynedd yn ôl a heno rydyn ni’n creu’r ysgogiad hwnnw yng Nghymru.

 

Ond nid yw ein taith wedi dod i ben. Trwy gydnabod profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig, rydyn ni’n sicrhau’r ffocws i barhau i adeiladu dyfodol gwell i'r plant hyn a lle mae ffocws yn llifo, mae cynnydd yn dilyn. Byddwn yn galluogi sgwrs, yn annog ystyriaeth, ac yn diogelu bywydau cymaint o bobl yn y dyfodol. Wrth i ni ymgorffori'r gydnabyddiaeth hon trwy brosesau a chymunedau bydd ein hymdrechion yn datgloi cyfleoedd i'r plant hyn ffynnu.

 

Mae hyn yn ymwneud â buddsoddi yn ein cymuned gyfan. Mae astudiaethau'n dangos bod cefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal yn arwain at ganlyniadau economaidd gwell, teuluoedd cryfach, a chymdeithas fwy cydlynol. Nid yw'n ymwneud â thegwch a chyfiawnder yn unig.

 

Rwy'n sefyll o'ch blaen nid yn unig fel cynnyrch y system, ond fel tyst i'w photensial. Heddiw, gadewch i ni bleidleisio ie, gadewch i ni adeiladu dyfodol lle mae pob plentyn, waeth beth fo'i gefndir, yn cael cyfle i ffynnu. Gyda'r cymorth cywir, gall pob person sydd â phrofiad o fod mewn gofal wireddu dyfodol y gall dim ond freuddwydio amdano.  Gadewch i ni fuddsoddi yn ei ddyfodol a dyfodol pawb sydd eto i ddod.  Gyda'n gilydd fe allwn ni.

 

Yn olaf, diolchodd yr Arweinydd i John Griffiths AoS, Jayne Bryant AoS, Aelodau'r Cabinet, y Cynghorydd Hourahine, Rowan a Terry am rannu eu straeon ac i bawb a oedd yn bresennol yng nghyfarfod y Cyngor.  Am y rhesymau hynny, cefnogodd yr Arweinydd y cynnig.

 

Penderfynwyd:

Bod y Cyngor yn cefnogi'r cynnig yn unfrydol.