Cofnodion:
Gwahoddodd yr Aelod Llywyddol yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad nesaf a oedd yn delio â chartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y ddinas a'r posibilrwydd o gyflwyno premiymau Treth Gyngor ar gyfer yr eiddo hyn. Mae galw cynyddol am dai a phrinder tai yn y ddinas â chostau 'ariannol' i'r Cyngor a chostau 'cymdeithasol' o ran effaith hyn ar unigolion a theuluoedd.
Yn ogystal â diffyg cyffredinol o ran nifer y tai sydd ar gael, mae gan Gasnewydd nifer fawr barhaus o eiddo gwag: Byddai premiymau Treth Gyngor, pe byddent yn cael eu cyflwyno, yn annog perchnogion i gymryd camau i adfer eu heiddo i’w defnyddio eto.
Yn ei gyfarfod ym mis Ionawr ac yn dilyn ymarfer ymgynghori â’r cyhoedd, penderfynodd y Cabinet argymell y dylai'r Cyngor fabwysiadu'r cynnig i gyflwyno premiymau treth gyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y ddinas. Nododd yr adroddiad y cynnig.
Byddai premiymau treth gyngor, pe byddent yn cael eu cyflwyno, yn golygu bod perchnogion ail gartrefi a'r rheiny a oedd yn gadael eiddo'n wag am fwy na blwyddyn yn gorfod talu treth gyngor ychwanegol.
Yr amcan oedd annog perchnogion i gymryd camau i adfer eiddo i’w defnyddio eto.
Tra bod llai o ail gartrefi, dylid sicrhau dull gweithredu cyson ar gyfer yr eiddo hyn sy’n cael eu tanddefnyddio.
Crynhodd yr adroddiad y gefnogaeth gan y cyhoedd i'r ddau newid hyn fynd rhagddynt fel y nodwyd yn y 470 o ymatebion a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Felly, roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion i fabwysiadu premiymau treth gyngor yng Nghasnewydd, ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.
Roedd y ddeddfwriaeth yn rhoi rhai eithriadau a oedd yn atal premiwm rhag cael ei godi mewn rhai amgylchiadau. Yn dilyn adborth o'r ymgynghoriad ac i fynd i'r afael â phryderon rhanddeiliaid, argymhellwyd rhai eithriadau 'lleol' cyfyngedig ychwanegol.
Sylwadau gan y Cynghorwyr:
§ Roedd gan y Cynghorydd Evans farn gymysg ar yr adroddiad a chyfeiriodd at ffigyrau yn y cynllun corfforaethol fel rhai annigonol. Er ei fod yn cydnabod bod angen gweithredu radical, mae eiddo gwag yn fater cymhleth na ellir mynd i'r afael ag ef o bosibl dan y dull gweithredu hwn. Er bod eithriadau statudol i dalu premiymau, dylid gweithredu dull mwy pragmatig. Dim ond 15 ail gartref sydd yng Nghasnewydd ac nid oedd y Cynghorydd Evans yn credu y dylai eu treth gyngor ddyblu ac efallai na fyddai'n werth ei chasglu na mynd ar ei thrywydd. Nid oedd y Cynghorydd Evans yn erbyn cymryd camau rhesymol yn erbyn yr ôl-groniad o eiddo gwag sy'n difetha'r ddinas ond ni allai gefnogi'r newidiadau mewn perthynas ag ail gartrefi ac felly byddai'n ymatal rhag cefnogi'r adroddiad.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at gartrefi gwag y cefnwyd arnynt yng Nghasnewydd a dywedodd y gallai un t? a oedd mewn cyflwr gwael ac yn cael effaith negyddol ym marn cymdogion gael ei ddefnyddio ar gyfer un o’r dros 9,000 o bobl gofrestredig yng Nghasnewydd sydd angen cartrefi fforddiadwy yn ogystal â hyn gallai defnyddio’r cartrefi hyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd. Roedd 2,565 o eiddo gwag.
§ Dywedodd y Cynghorydd Clarke fod y sefyllfa yng Nghasnewydd yn debyg drwy'r DU. Roedd Casnewydd eisiau gweithio gyda pherchnogion eiddo a thrwy weithio gyda'n gilydd, cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol. Roedd yn rhaid i ni wrando ar drigolion Casnewydd hefyd ac yn yr ymgynghoriad, dangoswyd mai dyma oedden nhw ei eisiau.
§ Datganodd y Cynghorydd M Howells fuddiant ar y cam hwn a chyfeiriodd at 3.1 yn yr adroddiad ar Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac eiddo gwag strategol wedi'u neilltuo ar gyfer datblygu ar raddfa fawr. Gofynnodd y Cynghorydd Howells a fyddai'r Cyngor yn datblygu polisi i gydbwyso anghenion cartrefi a datblygiadau yn y dyfodol. Byddai cydweithwyr craffu'n ymwybodol o hyn gan fod eiddo landlordiaid cymdeithasol sy'n aros yn wag wedi'u codi yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad - Lleoedd a Chorfforaethol. Roedd hyn hefyd yn rhywbeth yr oedd trigolion yn cwyno amdano i aelodau ward yn Llyswyry. Dywedodd yr adroddiad y byddai Polisi yn cael ei ddatblygu i ddelio â hyn. Roedd y Cynghorydd M Howells eisiau eglurhad ynghylch a fyddai hyn yn mynd i'r Cyngor llawn i'w gadarnhau neu a fyddai'r Pwyllgor Craffu Perfformiad - Lleoedd a Chorfforaethol yn mynd i’r afael ag ef. Yn ogystal, mewn perthynas â hyn, hoffai'r Cynghorydd M Howells weld y Cyngor yn mynd â hyn ymhellach gan ei fod yn broblem yng Nghasnewydd a hoffai weld adroddiadau a oedd yn edrych ar eiddo sydd wedi'u neilltuo ar gyfer ailddatblygu, ac a ellid eu defnyddio ar gyfer llety dros dro. Yn olaf, gofynnodd y Cynghorydd M Howells a ellid defnyddio neu ailbwrpasu eiddo busnes ar gyfer y rheiny sy'n chwilio am gartrefi hefyd.
Siaradodd y Cynghorydd Drewett, y Cynghorydd Adan, y Cynghorydd Corten a'r Cynghorydd Harvey i gefnogi'r cynnig.
§ Gofynnodd y Cynghorydd Evans am eglurhad yngl?n â’r ymgynghoriad ar ail gartrefi, gan fod y ffigyrau yn wahanol i hynny mewn perthynas â'r ymgynghoriad ar dai gwag.
§ Diolchodd yr Arweinydd i'w gydweithwyr am gymryd rhan weithredol yn y drafodaeth ac am wrando'n astud ar y sylwadau a wnaed. Fel Cyngor gellid rhoi pwerau rheoleiddiol a statudol ar waith er mwyn sicrhau newid. Fel Cyngor sy’n gwrando dyma'r newid y mae trigolion wedi gofyn amdano. Mae'r pecyn cymorth wedi bod ar waith ers peth amser ac erbyn hyn mae angen cynllun gweithredu i ddarparu cymhelliant ac arweiniad i bobl gryfhau hyn. Roedd hyn yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd, a diolchodd yr Arweinydd i'r Rheolwr Refeniw a Budd-daliadau am weithio'n galed ar yr adroddiad. Y camau nesaf gyda phartneriaid LCC oedd datblygu ymhellach a gofyn am eu barn i greu polisi, a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad – Lleoedd a Chorfforaethol maes o law.
Penderfynwyd:
Ystyriodd y Cyngor argymhelliad y Cabinet i gyflwyno premiymau treth gyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor. Felly, gwnaeth y Cyngor gynnig argymhelliad i gyflwyno premiymau Treth Gyngor yn unol â pharagraff 3.1 a amlinellwyd yn yr adroddiad, o 1 Ebrill 2024 ar gyfer cartrefi gwag hirdymor a 1 Ebrill 2025 ar gyfer ail gartrefi ar gyfradd o 100%.
Dogfennau ategol: