a) Cyflwyniad gan Swyddog
b) Trafodaeth a chwestiynau i’r Pwyllgor
c) Casgliad ac argymhellion
Cofnodion:
Rhoddodd y Pennaeth Diogelu Corfforaethol
(DC) drosolwg o'r adroddiad.
Gofynnwyd y cwestiynau canlynol:
· Gofynnodd y Pwyllgor am ddiagram sgematig o'r strwythur diogelu i gynorthwyo hygyrchedd yr adroddiad. Cytunodd y Pennaeth DC i wneud hyn.
· Teimlai'r Pwyllgor fod angen rhagor o
eglurhad ar y tablau ar dudalen 18 yn ymwneud â VAWDASV
mewnol a data hyfforddiant penodol ychwanegol. Cytunodd y Pennaeth
DC i wneud hyn.
· Holodd y Pwyllgor a oedd presenoldeb
hyfforddiant ar dudalen 18 yn cynnwys gweithwyr Cyngor Dinas
Casnewydd (CDC) yn unig. Cadarnhaodd y Pennaeth DC ei fod, a bod yr
hyfforddiant hwn yn anstatudol. Roedd y Pwyllgor yn fodlon â
chwmpas yr hyfforddiant ychwanegol a gynigir. Tynnodd y Pennaeth DC
sylw at y gwahaniaeth rhwng hyfforddiant newydd-ddyfodiaid a
hyfforddiant gloywi i weithwyr gofal cymdeithasol sefydledig.
Holodd y Pwyllgor pwy oedd yn gyfrifol am ddarparu'r hyfforddiant.
Cadarnhaodd y Pennaeth DC mai CDC oedd hwn. Gofynnodd y Pwyllgor a
oedd cynlluniau ar gyfer hyfforddiant yn y dyfodol a chadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaethau Oedolion (GO) fod cynllun i ddyfeisio
hyfforddiant yn y dyfodol. Tynnodd yr Aelod Cabinet dros
Wasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant sylw at
gyfrifoldeb Aelodau Etholedig i fynychu hyfforddiant diogelu er
mwyn arwain drwy esiampl.
· Holodd y Pwyllgor effeithiolrwydd e-ddysgu a'r amrywio yn y niferoedd sy’n ymgymryd â hyfforddiant diogelu rhwng meysydd gwasanaeth. Nododd Pennaeth DC fod hyfforddiant y Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddiogelu ar lefel uwch na'r e-ddysgu gorfodol y mae'n ofynnol i holl staff CDC ei gwblhau. Roedd hyn yn golygu ei bod yn anoddach sicrhau bod staff Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwblhau'r hyfforddiant gorfodol oherwydd eu llwyth gwaith prysur. Nododd Aelodau Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol fod gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn gwneud hyfforddiant proffesiynol parhaus. Teimlai'r Pwyllgor y gellid cyflwyno hyn yn well yn yr adroddiad a gofynnodd am wahanu data ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a staff corfforaethol.
· Holodd y Pwyllgor pa hyfforddiant a chymorth
yr oedd Personau Diogelu Dynodedig (PDD) wedi’i dderbyn gan
nad oedd hyn yn yr adroddiad. Cadarnhaodd y Pennaeth GO fod
cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal ar gyfer Pencampwyr
Diogelu, a oedd yn gweithredu fel fforwm i godi pryderon neu ofyn
am ragor o hyfforddiant neu gymorth. Argymhellodd y Pwyllgor y
dylid cynnwys adran sy'n tynnu sylw at PDD mewn adroddiadau yn y
dyfodol.
· Nododd y Pwyllgor nad oedd cyd-destun
i’r canrannau cwblhau hyfforddiant ar dudalen 17 a gofynnodd
i hyn gael ei gynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol. Nododd y
Pennaeth DC fod yr adroddiad wedi casglu ymatebion a gafwyd
ynghylch hygyrchedd e-ddysgu ar draws meysydd gwasanaeth ond
cytunodd y byddai hyn yn cael ei gyflwyno'n wahanol mewn
adroddiadau yn y dyfodol. Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau
Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant sylw at y ffaith y cafwyd
trafodaethau rhwng rhanbarthau/portffolios, ac y dylid gwella
cyflwyniad data mewn adroddiadau yn y dyfodol o ganlyniad i
hynny.
· Roedd y Pwyllgor yn pryderu ynghylch data
hyfforddi'r Aelodau Etholedig ac yn holi a oedd cofrestr yn bodoli.
Cadarnhaodd y Pennaeth DC fodolaeth cofrestr a nododd fod
CLlLC yn dweud ar hyn o bryd nad oedd
diogelu yn orfodol i'r Aelodau ond ei fod yn adolygu'r ymateb hwnnw
ochr yn ochr â Gofal Cymdeithasol Cymru. Nodwyd y byddai'n
haws casglu data wrth gyflwyno safonau hyfforddi cenedlaethol.
Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol –
Gwasanaethau Plant sylw at y ffaith y gallai Aelodau nad oeddent
wedi gallu cwblhau hyfforddiant diogelu mewn sesiynau wedi'u trefnu
ei gwblhau mewn sesiynau dal i fyny.
· Canmolodd y Pwyllgor y gwaith a wnaed ar
ddiogelu wrth bontio ymhlith y rhai sy'n gadael gofal.
· Holodd y Pwyllgor pa gyfle oedd gan
ddefnyddwyr gwasanaeth i roi adborth. Tynnodd y Pennaeth DC at y
ffaith bod llawer iawn o ddata a dim ond y mwyaf perthnasol a
ddefnyddiwyd, ond gellid gwella hyn mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Fe wnaethon nhw gadarnhau y gofynnwyd i rieni am adborth ar
gyfarfodydd ac ati.
· Teimlai'r Pwyllgor y dylid rhoi tystiolaeth
fwy trylwyr o Safon 2. Nododd y Pennaeth DC fod hyn wedi'i lunio o
ffurflenni hunanasesu o feysydd gwasanaeth ond nododd y gellid ei
wella mewn adroddiadau yn y dyfodol.
· Cytunodd y Pwyllgor y dylid cynnwys data
hyfforddiant chwythu'r chwiban mewn adroddiadau yn y
dyfodol.
· Holodd y Pwyllgor am y cynnydd mewn
atgyfeiriadau plant. Tynnodd y Pennaeth DC sylw at y cynnydd mewn
ymwybyddiaeth a’r gostyngiad mewn amodau cyffredinol i
drigolion fel ffactorau ond tynnodd sylw at y ffaith nad oedd pob
atgyfeiriad yn arwain at weithredu. Nododd y Pennaeth GO y pwysau
ar y Gwasanaethau Plant, yn benodol ar y Gofrestr Amddiffyn
Plant.
· Nododd y Pwyllgor natur gyson yr
atgyfeiriadau amddiffyn oedolion. Nododd y Pennaeth GO y
gwahaniaeth mewn amgylchiadau rhwng materion amddiffyn oedolion a
materion amddiffyn plant.
· Holodd y Pwyllgor am sylwadau yn yr
adroddiad ynghylch goblygiadau adnoddau gweithdrefnau diogelu.
Eglurodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y
rhain yn ymwneud yn benodol â’r Tîm
Diogelu.
Casgliadau:
Argymhellodd y
Pwyllgor y dylid:
·
Creu diagram a'i gynnwys i
ddangos y strwythur diogelu cymhleth yn CDC, gan gynnwys
partneriaid ehangach. Gofynnwyd am rannu hyn â’r
Pwyllgor cyn gynted ag y gall Swyddogion.
·
Egluro’r tablau ar
dudalen 18 a dosbarthu copi o'r tabl hyfforddiant VAWDASV wedi'i
ddiweddaru i'r Pwyllgor cyn gynted ag y gall Swyddogion.
·
Gwahanu data hyfforddiant
gorfodol ar gyfer staff Corfforaethol a gweithwyr gofal
cymdeithasol proffesiynol yn yr adroddiad.
·
Cynnwys data datblygiad
proffesiynol parhaus a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol
gofal cymdeithasol.
·
Cynnwys adran sy'n tynnu
sylw at hyfforddiant a chefnogaeth Person Diogelu Dynodedig mewn
adroddiadau yn y dyfodol.
·
Rhoi cyd-destun i’r
canrannau mewn adroddiadau yn y dyfodol.
·
Cynnwys data hyfforddiant
chwythu'r chwiban mewn adroddiadau yn y dyfodol.
·
Dangos tystiolaeth fwy
trylwyr o waith yn Safon 2.
· Nodi bod "goblygiad adnoddau" yn cyfeirio at y tîm diogelu ac nid CDC yn ei gyfanrwydd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: