Agenda item

Adolygiad Gwasanaethau Eiddo

Cofnodion:

Atgoffodd yr Aelod Cabinet dros Asedau a Seilwaith, y Cynghorydd R Howells, gydweithwyr y cytunodd y Cabinet, ym mis Mawrth 2024, i sefydlu model newydd ar gyfer darparu gwasanaethau eiddo ar ddiwedd y gyd-fenter (CF) gyfredol.

 

Sefydlwyd CF Norse ym mis Gorffennaf 2014 a daeth i ben ym mis Rhagfyr 2025.  Dros y 9 mlynedd diwethaf roedd y trefniant hwn wedi ad-dalu dros £4m i'r Cyngor i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i drigolion Casnewydd.

 

Roedd y bartneriaeth gyfredol yn darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys rheoli cyfleusterau; rheoli ystadau, dylunio a chynnal a chadw adeiladau; rheoli a glanhau safleoedd.

 

Gyda chymorth adolygiad craffu dan arweiniad aelodau, cytunwyd yn flaenorol i sefydlu cwmni masnachu awdurdod lleol wedi’i berchen yn llwyr a gefnogodd ein Cynllun Corfforaethol a'n dyheadau gwerth cymdeithasol.

 

Ystyriodd yr adroddiad hwn y camau nesaf gan gynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn i ddatblygu'r model ac argymhellodd ddyddiad dechrau o 1 Ebrill 2026.

 

Mae'r adroddiad yn nodi sut yr oedd argymhellion blaenorol y Cabinet wedi datblygu a’r gwaith sylweddol gan swyddogion i ddatblygu achos busnes. 

Mae arweinwyr prosiect yn parhau i weithio gyda Norse, rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid allanol i ddadansoddi cyllidebau a gofynion darparu gwasanaethau. 

 

Pwrpas yr achos busnes ariannol oedd meintioli costau a manteision sefydlu model newydd, gan ystyried risgiau ac amrywiant posibl.  

 

Dangosodd yr adroddiad hwn gostau tebygol sefydlu a chyfnod ad-dalu pedair blynedd rhagamcanol. Amlygodd yr adroddiad ymhellach fod y costau'n niwtral o fewn yr opsiynau dros yr un cyfnod o bedair blynedd, gyda'r model newydd yn darparu potensial budd gwerth cymdeithasol ac ariannol sylweddol dros y tymor hwy.  

 

Pe bai'r Cabinet yn cytuno â'r cynnig hwn, gellid gwneud cynnydd i sefydlu'r cwmni newydd wedi’i gyllido gan gronfeydd wrth gefn, fel y cytunwyd yn yr Adroddiad Refeniw i'r Cabinet fel rhan o eitemau Agenda mis Gorffennaf.

 

Ystyriodd yr adroddiad hefyd y materion gyda dyddiad gorffen o 31 Rhagfyr 2025 a chynigiodd estyniad hyd at 31 Mawrth 2026.

 

Yn bwysig, roedd yr argymhelliad Craffu y gellid ehangu'r model i ystyried mwy o wasanaethau yn ystyriaeth yn y sefydlu hwn.

 

Y cam nesaf oedd i swyddogion ddatblygu'r Cynllun Busnes a byddai'r Cabinet yn derbyn adroddiad pellach ar hyn.

 

Dymunai'r Aelod Cabinet ddiolch i'r gr?p pwyllgor Craffu blaenorol am ei waith ar hyn, a gweithlu Norse am gydweithio â ni wrth i ni gynllunio'r newid pwysig hwn. 

  

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

  

            ?           Cyfarfu'r Arweinydd ynghyd â'r Cynghorydd Howells â Norse i drafod y cynigion hyn. 

Roedd cyflwyno'r model hwn yn uchelgeisiol, a byddai'r Cabinet yn cael ei ddiweddaru ar ei gynnydd.

 

Penderfyniad:  

  

Penderfynodd y Cabinet i: 

 

1.          Ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Strategol dros Drawsnewid a Chorfforaethol, mewn ymgynghoriad â swyddogion statudol, i gymryd y camau hynny ag sy'n angenrheidiol i barhau i sefydlu'r cwmni masnachu awdurdod lleol, gan gynnwys paratoi'r holl ddogfennau angenrheidiol, ac eithrio eu cofrestru yn Nh?'r Cwmnïau, gyda’r cam olaf hwnnw’n amodol ar ddatblygu cynllun busnes ar gyfer gweithrediadau'r cwmni masnachu awdurdod lleol.

2.          Cytuno ar ddefnyddio cronfeydd wrth gefn fel y nodir yn yr adroddiad hwn ar gyfer y costau trosglwyddo untro.

3.          Rhoi awdurdod i'r Cyfarwyddwr Strategol dros Drawsnewid a Chorfforaethol i ymrwymo i estyniad tri mis i'r Gyd-fenter gyfredol.

4.          Cyfarwyddo'r Cyfarwyddwr Strategol dros Drawsnewid a Chorfforaethol i lunio adroddiad pellach i'r Cabinet yn nodi sefyllfa ariannol ddisgwyliedig y cwmni masnachu awdurdod lleol gan gynnwys sut y cyflawnodd fwriadau strategol y Cyngor a sicrhau gwerth cymdeithasol. Byddai hyn yn rhoi syniad o'i hyfywedd a'i gynaliadwyedd.

 

Dogfennau ategol: