I roi'r cyfle i gynghorwyr ofyn cwestiynau i Gadeirydd y Cabinet yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor.
Proses: Ni chaiff mwy na 15 munud eu cadw yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau llafar i'r Arweinydd
Rhaidi'r cwestiwn cael sylw drwy'r Maer neu'r sawl sy'n llywyddu yn y cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y person a holir
Cofnodion:
Rhoddodd yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol, cyn bwrw ymlaen â chwestiynau:
Y cyhoeddiad diweddar ynghylch gwaith dur Orb. Roedd hyn yn newyddion trist iawn i weithwyr a'u teuluoedd, roedd yn rhwystredig pan oedd ein gallu i ddylanwadu ar faterion o'r fath yn gyfyngedig.
Roedd y Cyngor i dderbyn Gwobr Aur Cydnabyddiaeth i gyflogwyr gan y Lluoedd Arfog. Roedd hyn yn cefnogi unigolion a oedd yn trosglwyddo o'r Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Arbennig Wrth Gefn.
Roedd Gemau Trawsblannu Prydain yn llwyddiant ysgubol. Dangosodd y preswylwyr eu cefnogaeth. Ategwyd gan yr Arweinydd mai Casnewydd oedd yr ail ddinas ym Mhrydain erioed i fod yn Ddinas Rhoddwyr a derbyn Gwobr.
Byddai'r ?yl Fwyd flynyddol yn cael ei chynnal ar 5 Hydref. Roedd y Cyngor yn ddiolchgar am gefnogaeth y busnesau. Byddai'r uchafbwyntiau'n cynnwys arddangosiadau gan gogyddion a diddanwyr stryd ac roedd yr Arweinydd yn edrych ymlaen at gael beirniadu'r gystadleuaeth Cogyddion yn eu Harddegau.
Cwestiynau i’r Arweinydd
Gwaith Dur Orb
Cyfeiriodd y Cynghorydd M Evans at y cyhoeddiad bod cannoedd o swyddi dan fygythiad yn ffatri TATA Orb a oedd yn newyddion siomedig i'r gweithlu, y teulu a'r gymuned ehangach a bod meddyliau pawb gyda nhw ar yr adeg anodd hon. Cynigiwyd cymorth gan ACau ac ASau a rhoddwyd datganiad gan Ken Skates, Gweinidog Economi Cymru a ddywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi unigolion, y gymuned a'r gadwyn gyflenwi yr oedd y newyddion hyn yn effeithio arnynt.
Ni wnaeth y Cynghorydd M Evans gofio dim yn cael ei grybwyll yn gynt gan yr Arweinydd a gofynnodd beth oedd y Cyngor wedi ei wneud felly dros y blynyddoedd diwethaf ac ers y cyhoeddiad er mwyn mynd i'r afael â'u pryderon.
Cytunodd yr Arweinydd ei bod yn ergyd i'r ddinas, fodd bynnag nid oedd unrhyw rybudd ymlaen llaw gan TATA Steel am y penderfyniad na'r heriau sy'n wynebu'r busnes. Byddai'r Cyngor nawr yn gweithio gyda TATA a Llywodraeth Cymru i ddarparu cymaint o gymorth â phosibl i'r rhai y mae'r cyhoeddiad yn effeithio arnynt.
Yn ogystal, gofynnodd y Cynghorydd M Evans i'r Arweinydd roi sylw i'r hyn yr oedd y Cyngor wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd gan y Cyngor adran datblygu economaidd y disgwylid iddo ymwneud â materion o'r fath, yn ogystal, a allai'r Arweinydd hefyd fod yn fwy penodol ynghylch pa gymorth fyddai'n cael ei gynnig i'r gweithwyr yn awr ac yn y gorffennol.
Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r rhestr o fesurau'n cael ei chanfod yn glir ac y byddai ymateb yn cael ei ddarparu i Arweinydd yr wrthblaid.
Cyfeiriodd y Cynghorydd K Whitehead at benodi Prif Weithredwr Dros Dro a oedd yn benodiad â chyflogau uchel a gofynnodd a ellid cytuno ar drefniant rhannu swydd mewn cyfnod o galedi.
Dywedodd yr Arweinydd fod swydd Prif Swyddog Addysg wedi cael ei rhannu unwaith rhwng dau awdurdod, ond nid oedd o'r farn y byddai rhannu swydd Prif Weithredwr yn ymarferol ar hyn o bryd gan fod y Cyngor eisoes yn meddu ar un o'r niferoedd isaf o staff mewn uwch swyddi.
Gofynnodd y Cynghorydd Carmel Townsend a fyddai strategaeth diogelwch ar y ffyrdd ar waith ar gyfer Casnewydd o ystyried y cynnydd mewn traffig.
Cyfarfu'r Arweinydd â'r gr?p G10 i drafod materion traffig. O ganlyniad, y gobaith oedd y byddai mwy o wariant ar ddiogelwch ar y ffyrdd ar gyfer yr M4. Byddai ymgynghori'n digwydd er mwyn sicrhau bod y cynlluniau a'r polisïau'n cael eu paratoi'n gyflym.
Gofynnodd y Cynghorydd S Marshall i'r Arweinydd sut mae presenoldeb yn yr ysgol yng Nghasnewydd yn cymharu â phresenoldeb mewn ysgolion eraill yng Nghymru ar lefel ysgol uwchradd.
Roedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi bod Casnewydd yn agos at frig y rhestr, seithfed allan o’r 22 awdurdod yn ystod 2018/19 a oedd yn uwch na chyfartaledd Cymru ac yn dangos ymrwymiad gan ysgolion.