I roi'r cyfle i ofyn cwestiynau i Aelodau'r Cabinet yn unol â Rheolau Sefydlog
Proses: Ni chaiff mwy na 10 munud eu cadw yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau i bob Aelod Cabinet unigol.
Bydd angen i’r Aelodau cyflwyno eu cwestiynau arfaethedig yn ysgrifenedig yn unol â’r Rheolau Sefydlog. Os nad yw'r aelodau yn gallu gofyn eu cwestiwn ar lafar o fewn yr amser a glustnodwyd, bydd y cwestiynau sy'n weddill yn cael eu hateb yn ysgrifenedig. Bydd y cwestiwn ac ymateb yn cael eu hatodi i'r cofnodion.
Rhaid i'r cwestiwn cael sylw drwy'r Maer neu'r sawl sy'n llywyddu yn y cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y person a holir
Bydd y cwestiynau yn cael eu gofyn i aelodau'r cabinet yn y drefn ganlynol:
· DirprwyArweinydd / Aelod Cabinet dros Ddatblygu Asedau ac Aelodau
· Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau
· Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol
· Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai
· Aelod Cabinet dros y Gymuned ac Adnoddau
· Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Stryd
· Aelod Cabinet dros Trwyddedua Rheoleiddio
· Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden
Er Gwybodaeth: Mae crynodeb o amserlenni penderfyniad diweddar a gyhoeddwyd gan y Cabinet, Aelodau Cabinet a Chofnodion cyfarfodydd diweddar y Pwyllgorau wedi cael ei gylchredeg yn electronig at bob Aelod o'r Cyngor.
Cofnodion:
i. Yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai
Gofynnodd y Cynghorydd Ray Mogford y cwestiwn canlynol a gyflwynwyd o flaen llaw:
'O'r 1af Ebrill 2016 hyd 31 Mawrth 2019, faint o arian sydd wedi cael ei roi i Gyngor Casnewydd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Grant Atal Digartrefedd - a - beth mae'r arian hwn wedi cael ei wario arno?'
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai:
'Rhoddwyd cyllid i'r Cyngor o dan raglen Grant Atal Digartrefedd Llywodraeth Cymru a oedd yn gysylltiedig â chyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014, gan gydnabod y pwysau a'r beichiau ychwanegol a osodir ar bob Awdurdod Lleol wrth gyflawni gofynion y ddeddf. Mae'r arian a ddyrannwyd a'r cynllun/gwasanaethau a wariwyd ar hyn fel a ganlyn:
2016/17 - £149,400
Staffio - CDC - rôl swyddog llety - gweithio gyda'r sector rhentu preifat
Y Gronfa Atal Digartrefedd - CDC - arian a ddefnyddir i rwystro digartrefedd a helpu i gael mynediad i lety arall
Gwasanaeth Cyfryngu - Llamau
2017/18 - £139,440
Y Gronfa Atal Digartrefedd - CDC - arian a ddefnyddir i rwystro digartrefedd a helpu i gael mynediad i lety arall
Gwasanaeth Cyfryngu - Llamau
Prosiect Llwybr Person Ifanc - Gr?p POBL - costau staffio
Swyddog Strategaeth Digartrefedd Gwent - CBS Torfaen - cyllid ar draws awdurdodau lleol Gwent i gyflogi swyddog i gynnal yr adolygiad o ddigartrefedd ym mhob ardal ac i ddatblygu Strategaeth Ddigartrefedd Gwent
System Dai Civica - Civica UK - system TG
Cysgodfa Nos - Eden Gate
2018/19
Llety a Rennir i Bobl Ifanc – Llamau – costau staffio
Prosiect Llety â Chymorth – Llamau – costau staffio a rhedeg
Cysgodfa Nos - Eden Gate
Gwasanaeth Allgymorth Dwys – Wallich
Y cyllid yw'r swm a ddyfernir o'r Grant Atal Digartrefedd ac nid yw'n cynnwys arian y mae'r Cyngor wedi gwneud cais amdano ar wahân ar gyfer cynlluniau a mentrau dros dro eraill.’
Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Mogford a ellid darparu dadansoddiad o'r ffigurau i gynghorwyr.
ii. Cwestiwn ar y cyd i’r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas
Gofynnodd y Cynghorydd Joan Watkins y cwestiwn canlynol a gyflwynwyd o flaen llaw:
'A yw'r Aelod Cabinet dros Addysg yn cyfathrebu â Heddlu Gwent ynghylch llwybrau cerdded diogel i ysgolion Casnewydd ac oddi yno.'
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau:
'Mae llwybrau cerdded diogel i'r ysgol yn cael eu harwain, eu rheoli a'u mapio gan Wasanaethau'r Ddinas. Yn naturiol, lle mae meysydd gwasanaeth a phortffolio Aelodau’r Cabinet yn croesi (fel yn yr amgylchiad hwn) mae briffio Aelodau Cabinet ar y cyd yn digwydd. Mae hyn yn sicrhau fy mod yn cael gwybod yn gyson am unrhyw broblemau a gwaith prosiect sy'n gysylltiedig â llwybrau diogel ac annog teithio llesol. Trosglwyddaf i'r Cynghorydd Jeavons i roi manylion pellach i chi ar y cwestiwn yr ydych yn ei gyflwyno.
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas
'Wrth asesu llwybrau cerdded ysgolion, yn hanesyddol mae'r Cyngor wedi cysylltu â'r Heddlu i sefydlu unrhyw feysydd o bryder y mae'r llwybr arfaethedig yn mynd drwyddynt. Mae'r syrfëwr bellach yn defnyddio gwefan police.uk, sy'n cynnwys cronfa ddata ar fapiau o'r holl ddigwyddiadau a gofnodir ar y stryd.
Os yw'r asesiad yn nodi unrhyw feysydd sy'n peri pryder, mae'r syrfëwr yn cysylltu â'r timau plismona lleol i drafod y goblygiadau ar y llwybr arfaethedig.'
Gofynnodd y Cynghorydd Watkins gwestiwn atodol o ran Cais Rhyddid Gwybodaeth a gyflwynwyd ym mis Awst, yr ymateb a gafwyd oedd na fu unrhyw negeseuon e-bost na thrafodaethau ar ddiogelwch i blant a oedd yn cerdded i'r ysgol wedi cael eu derbyn gan y Cyngor hwn oddi wrth yr Heddlu.
Byddai hyn yn cael ei archwilio a byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddosbarthu.
iii. Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas
Gofynnodd y Cynghorydd Ray Mogford y cwestiwn canlynol a gyflwynwyd o flaen llaw:
'Mae gan gynghorau b?er dros derfynau cyflymder lleol tra bod gan y Llywodraeth reolaeth dros y terfyn cenedlaethol.
A all yr Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyngor hwn am unrhyw fentrau o ran lleihau cyflymder traffig yn lleol y mae ei adran yn ymwneud ag ef. A yw'r Cyngor yn bwriadu dilyn yr arweiniad a bennwyd gan Gaerdydd ac Abertawe o ran lleihau terfynau cyflymder traffig mewn rhai ardaloedd preswyl? Os felly, a allai'r Aelod Cabinet roi rhai enghreifftiau?'
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas
'Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd, fel awdurdod traffig lleol, bwerau i amrywio terfynau cyflymder ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, gan gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder 20mya lle y bernir bod hynny'n briodol. Mae'r posibilrwydd o gyflwyno neu amrywio terfynau cyflymder yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael ei asesu yn unol â'r safonau cyfredol a osodwyd gan Gylchlythyr 24/2009 Llywodraeth Cymru "Gosod Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru".
Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau ar 7 Mai 2019 bod Llywodraeth Cymru yn credu mai 20mya ddylai fod y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ardaloedd preswyl. Mae'r Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi bwrw ymlaen â gwaith i nodi'r camau ymarferol y mae angen eu cymryd er mwyn gweithredu terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ledled Cymru.
Felly, mae'r Cyngor yn aros am ganlyniad trafodaethau Llywodraeth Cymru ar leihau'r terfyn cyflymder preswyl cenedlaethol a hyd nes y bydd yr amser hwnnw yn parhau i reoli'r rhwydwaith o fewn safonau presennol Llywodraeth Cymru.'
Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Mogford a fyddai’r Aelod Cabinet yn mynychu cynhadledd Diogelwch y Ffordd RGS yn y Celtic Manor ar 11 Hydref. Roedd yr Aelod Cabinet wedi cael gwahoddiad y flwyddyn flaenorol, ac felly byddai'n gweld a fyddai'n cael ei wahodd eleni.