Agenda item

Diweddariad Perfformiad Maes Gwasanaeth - Diwedd Blwyddyn 2017-2018

Cofnodion:

Addysg  

 

Yn bresennol:

-          Sarah Morgan – Pennaeth Addysg

-          Andrew Powles – Dirprwy Bennaeth Addysg

 

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg ei hun a’r Dirprwy Bennaeth Addysg, ac eglurodd y rheswm pam fod angen i’r Aelod Cabinet ddarparu ei hymddiheuriadau. Mynegodd y Cadeirydd a’r Pwyllgor eu siom nad oedd yr Aelod Cabinet yn gallu bod yn bresennol. Cydnabu’r Pwyllgor nad oedd yr Aelod Cabinet wedi gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod blaenorol sydd wedi golygu nad yw’r Pwyllgor wedi cael y cyfle i drafod perfformiad Addysg gyda’r Aelod Cabinet, ac ymgymryd â’i rôl o ddwyn y weithrediaeth i gyfrif.

 

Roedd amser cychwyn y cyfarfod hwn wedi’i ddwyn ymlaen i 9.30am er mwyn caniatáu i’r Aelod Cabinet fynd i ddigwyddiad arall am 12pm.

 

Gofynnodd yr Aelodau i’r Pennaeth Addysg a oedd craffu ar y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), ac os felly sut yr ymgymerwyd â hyn. Roedd awdurdodau lleol (ALl) yn atebol am safonau ysgolion ac roedd ysgolion yn cael eu dwyn i gyfrif. Roedd ysgolion a gategoreiddiwyd fel GWYRDD neu FELYN wedi ennill rhywfaint o ymreolaeth, gydag ysgolion OREN a CHOCH yn cael cymorth ychwanegol gan yr awdurdod lleol.  Pan fyddai ysgolion yn cael eu nodi’n OREN neu’n GOCH byddai gofyn i’r awdurdodau lleol gydnabod hyn ac ymateb yn briodol. Roedd gan Gasnewydd bedair ysgol GOCH, a oedd yn cynnal cyfarfodydd gyda’r awdurdod lleol a’r  Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn fisol, ac roedd ysgolion OREN yn cynnal cyfarfod bob chwe wythnos. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth unwaith y bydd yr ysgolion yn cydnabod eu sefyllfa, a’r gefnogaeth yn cael ei dderbyn, mae’r dull o gefnogi’n gweithio’n dda.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd ysgolion GWYRDD a MELYN yn cael eu monitro’n briodol i sicrhau eu bod yn perfformio. Dywedodd y Swyddog eu bod yn edrych ar berfformiad ym mhob ysgol a bod ganddynt systemau olrhain i fesur canlyniadau. Roedd ysgolion hefyd yn cael eu monitro gan y Prif Gynghorwyr Herio gyda 25% o’r Cynghorwyr Herio yn Benaethiaid. Dywedodd y Swyddog ei bod yn aelod o Fwrdd Rhanbarthol Cymru a oedd yn craffu ar gategoreiddio ysgolion awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod hyn yn sicrhau bod ysgolion ar draws Gwent yn wynebu categoreiddio safonedig.

 

Gofynnodd yr Aelodau, os gallai’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg wella’r cymorth er mwyn i’r ysgolion wella, a oedd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn rhoi digon o gymorth i’r ysgolion COCH i’w tynnu allan o’r categori hwnnw, a pha mor hir y byddai’n ei gymryd. Dywedodd y Swyddog, os oedd angen cymorth ychwanegol ar yr ysgolion, bod cyfarfodydd misol lle gellid trafod unrhyw faterion, yn ogystal â Chynghorwyr Herio y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn darparu 25 diwrnod o gymorth i ysgolion COCH. Isafswm yn unig oedd y 25 diwrnod, a phe bai angen, gallai ysgol gael rhagor. Dywedodd y Pennaeth Addysg fod ysgol St Julians, er enghraifft, ar i fyny, ond ni allai ddweud pryd y byddai’n dod allan o fesurau arbennig.

 

Holodd yr Aelodau pryd y gwnaeth Estyn eu gwaith monitro, ac a oeddent wedi rhoi adborth i’r awdurdod lleol ac i’r ysgol? Dywedodd y Swyddog eu bod nhw yn rhoi sylwadau a bod yr adroddiad wedi’i gyhoeddi ar y wefan.

 

Mynegodd yr Aelodau y farn bod y newid yn y system arholiadau yn annheg, yn enwedig i ddisgyblion, ac yn cael effaith negyddol ar berfformiad. Dywedodd y Swyddog mai’r rheswm am y newid oedd i baratoi dysgwyr i fod yn fwy cyflogadwy. Un enghraifft o newid oedd papurau Rhifedd a Rhesymu yn cael eu hychwanegu at Fathemateg. Dywedodd y Swyddog fod Casnewydd wedi’i pharatoi’n dda ar gyfer yr arholiadau a dyma’r perfformiad gorau a gafodd Casnewydd erioed, ac mai Casnewydd oedd y degfed  yng Nghymru.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth fod fforwm presenoldeb i rannu arfer da rhwng ysgolion. Hysbyswyd y Pwyllgor bod prosesau clir ar draws y ddinas o’r cynradd i’r uwchradd i reoli presenoldeb. Roedd y fforwm, y fframwaith a’r ymweliadau gan gymheiriaid yn llawer mwy defnyddiol gan eu bod wedi caniatáu trafodaeth fanwl ar y camau a gymerwyd, yr hyn yr oedd angen ei wneud, ac ar ôl ymweliadau gan gymheiriaid anfonwyd llythyr gydag arweiniad defnyddiol i helpu’r ysgol i wella.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd pob ysgol yn dilyn yr un rheolau wrth adrodd ar bresenoldeb. Dywedodd y Swyddog bod y data a gesglid gan ysgolion ar bresenoldeb yn cael eu craffu i sicrhau eu bod yn dilyn y broses swyddogol ac mai cyfrifoldeb Penaethiaid oedd cymeradwyo bod y gwiriadau wedi’u gwneud. Byddai ysgolion yng Nghasnewydd yn adrodd ar bresenoldeb gan ddefnyddio set o godau i nodi rhesymau dros absenoldeb, er mwyn sicrhau bod absenoldebau’n cael eu cofnodi a’u hadrodd yn gyson ar draws ysgolion.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch yr ysgol uwchradd a oedd wedi gweld cynnydd mawr mewn gwaharddiadau, ac a oedd y duedd hon wedi dod i ben yn dilyn ymyrraeth yr awdurdod lleol. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth na fu gostyngiad yn nifer y disgyblion a oedd yn cael eu diarddel. Roedd y nifer uchel o waharddiadau o ganlyniad i nifer o ffactorau, gan gynnwys Pennaeth newydd yn ei swydd. Bob blwyddyn roedd gan ysgolion darged wedi’i gapio ar gyfer nifer y bobl ifanc y gallent eu gwahardd. Roedd thema amlwg bod gan ysgolion mewn ardaloedd cefnog gyfraddau gwahardd isel a bod gan ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig gyfraddau gwahardd uwch. Roedd yr adran addysg yn edrych ar sut i frwydro yn erbyn hyn.

  

Gofynnodd yr Aelodau a oedd gan ysgolion barthau gwaharddiad mewnol. Dywedodd y Swyddog bod gan rai ysgolion gyfleusterau o’r fath ac mai mater i’r ysgolion unigol oedd rheoli eu gwaharddiadau eu hunain.

 

Gofynnodd yr Aelodau pam fod y cyfleoedd i ddilyn cyrsiau galwedigaethol yn cael eu lleihau a pham fod Llywodraeth Cymru yn newid mesurau perfformiad ar gyfer ysgolion uwchradd. Eglurodd y Swyddog ei fod yn symudiad i berfformiad mwy academaidd, ond nad oedd yn golygu na allai ysgolion gynnig hyfforddiant galwedigaethol. Dywedodd y Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn cynlluniau prentisiaeth i bobl ifanc. Eglurodd y Swyddog sut roedd y Cyngor yn canolbwyntio llawer ar herio ysgolion a’u staff. Er enghraifft, pe bai gan yr ysgol honno broblemau arweinyddiaeth byddai’r awdurdod lleol yn darparu mentora i gynorthwyo’r ysgol ac unigolion. O bryd i’w gilydd mae’r cymorth a gynigir yn cael ymateb negyddol gan y staff.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddogion am eu cefnogaeth yn y cyfarfod hwn.

 

Casgliad a Sylwadau

Roedd y Pwyllgor yn hapus â’r ymatebion a ddaeth i law, yn enwedig ynghylch yr ysgolion OREN a CHOCH. Roedd y disgrifiad o sut mae’r ysgolion yn cael eu cynorthwyo gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a’r awdurdod lleol yn faes a oedd yn addysgiadol iawn i’r Pwyllgor.

 

Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Yn bresennol:

-          Y Cynghorydd Paul Cockeram – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

-          Sally Ann Jenkins – Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth a’r Aelod Cabinet berfformiad y maes gwasanaeth. Yn gyffredinol, roedd Gwasanaethau Plant wedi cyflawni 57.89% o fesurau perfformiad GWYRDD.

   

Roedd y cyntaf o’r mesurau COCH yn ymwneud â nifer y bobl ifanc a welodd ddeintydd o fewn tri mis i fod angen Derbyn Gofal. Dywedodd y Swyddog bod plant yn cael gofal deintyddol cyn gynted â phosibl pan fyddant yn y system. Roedd hyn yn wir am bobl ifanc nad oeddent wedi gweld deintydd o fewn tri mis. Roedd y bobl ifanc fel arfer yn cael eu gweld gan optegydd a meddyg teulu, neu Nyrs Plant sy’n Derbyn Gofal hefyd. Holodd un o’r Aelodau ynghylch rhagnodi rhai cyffuriau penodol i’r Plant sy’n Derbyn Gofal, a sicrhaodd y Swyddog, er nad oedd yn gwybod yn union y nifer o’r bobl ifanc sy’n derbyn y cyffur, byddai’r nifer yn fach iawn. Eglurodd y Swyddog os oedd y Pwyllgor am gael rhagor o wybodaeth ar y pwnc y gallent baratoi adroddiad ar reolaeth iechyd a llesiant plant sy’n derbyn gofal.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ceisio cael gwell cyllid i alluogi mwy o blant i weld seiciatrydd. Cytunodd y Pwyllgor fod hyn yn bwysig iawn ac y gallai’r bobl ifanc yng ngofal y Cyngor fod wedi cael bywydau anodd a allai arwain at broblemau iechyd meddwl pe baent yn cael eu gadael heb eu trin.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd mecanweithiau ar waith i adnabod anghenion plant unigol. Eglurodd y Swyddog fod systemau ar waith, a phe byddai angen byddai unigolyn ifanc wedi cael ei diwtora yn unigol. Rhoddodd y Swyddog enghraifft o un o’r plant sy’n derbyn gofal yn cael ei dderbyn i ysgol gerdd fawreddog yn Llundain.

Gofynnodd yr Aelodau i Bennaeth y Gwasanaethau Plant longyfarch y ferch ifanc ar eu rhan.

 

Holodd yr Aelodau am yr adegau pan fydd plant yn cael eu dwyn i sylw’r Gwasanaethau Cymdeithasol a bod materion cymhleth yn codi, ac a oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu hysbysu neu’n cael manylion am y materion. Eglurodd y Swyddog eu bod nhw angen gwybodaeth fanwl o’r dechrau er mwyn gallu ymyrryd ym mywyd y plentyn. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth enghraifft o atgyfeiriad gan yr Heddlu ynghylch trais domestig lle mae plentyn mewn perygl. Byddai’r Cyngor fel arfer yn anfon gweithiwr cymdeithasol, ond pe na bai’r atgyfeiriad yn cynnwys digon o wybodaeth byddai’r opsiynau ar gael i’r Cyngor yn gyfyngedig. Roedd trothwy’r Cyngor i ymyrryd o fewn teulu yn uchel ac roedd yn erbyn y gyfraith i ymyrryd heb Orchymyn Llys. Roedd angen y Gorchymyn Llys er mwyn gallu tynnu plentyn oddi wrth ei rieni; yr her oedd cael y cydbwysedd yn iawn. Gofynnodd yr Aelodau pwy oedd y Pennaeth Diogelu. Dywedodd y Swyddog mai Mary Ryan oedd y Rheolwr Diogelu, ac o fewn Addysg y Swyddog Diogelu oedd Nicola Davies.

 

Cyfiawnder Ieuenctid

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc eu bod wedi cael llythyr ar ôl yr arolygiad diwethaf, nad oedd yn rhoi unrhyw arweiniad pendant ar y broses genedlaethol ar gyfer ymdrin â’r rhai sy’n dod i mewn i’r System Cyfiawnder Ieuenctid am y tro cyntaf (FTE). Symudodd y mesur hwn rhwng GWYRDD a CHOCH drwy’r flwyddyn ond roedd yr Aelodau’n hapus i’w weld yn WYRDD ar gyfer yr adroddiad diwedd blwyddyn. Roedd perfformiad Casnewydd hefyd yn un o’r goreuon yng Ngwent, ond roedden nhw wedi parhau i wynebu llawer o heriau. Roedd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi graddio’r awdurdod lleol yn WYRDD; dyma’r eildro yn unig iddo ddigwydd mewn deng mlynedd.

 

Casgliad a Sylwadau

Roedd y Pwyllgor yn hapus gyda’r ymatebion a’r wybodaeth a gafwyd gan y Pennaeth Gwasanaeth a’r Aelod Cabinet. Teimlai’r Aelodau y bu gwelliant da ers y chwarteri blaenorol.

 

Mynegodd yr Aelodau eu llongyfarchiadau i’r Pennaeth Gwasanaeth a’r Aelod Cabinet ar ennill gradd GWYRDD gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.

 

Y Gwasanaethau Oedolion a Chymuned

 

Yn bresennol:

-          Y Cynghorydd Paul Cockeram – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

-          Jenny Jenkins – Rheolwr Gwasanaeth

 

Cyflwynwyd y gwasanaeth gan y Rheolwr Gwasanaeth o’r Gwasanaethau Oedolion a Chymuned.

Perfformiad ardaloedd. Dechreuodd y Swyddog drwy egluro sut roedd y trawsnewid o Swift i System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn golygu bod angen cau Swift tair wythnos cyn diwedd y chwarter. Roedd hyn wedi arwain at golli’r tair wythnos o ddata. Roedd yr effaith ar asesiadau’r Mesur ar gyfer therapydd galwedigaethol (OT) wedi achosi i’r targed o 85% gael ei fethu o 3.2%. Roedd y tîm therapi galwedigaethol hefyd heb therapydd galwedigaethol uwch am chwe mis a oedd hefyd wedi effeithio ar y perfformiad.

 

Cwestiynodd y Pwyllgor y mesur COCH mewn perthynas â phobl dros 75 oed a oedd wedi cael cyngor a chymorth a heb gael unrhyw ailgysylltiad o fewn y chwe mis dilynol. Eglurodd y Swyddog fod y targed wedi’i osod gan ddefnyddio blwyddyn gyntaf anghyflawn o gofnodi data (2016-2017). Roedd hyn yn golygu bod y targed o 40% ar gyfer 2017-2018 o bosibl yn afrealistig gan fod y targed yn seiliedig ar y data a gasglwyd dros chwe mis y flwyddyn flaenorol. Gwahanwyd y rhai dros 75 oddi wrth y rhai dros 18 oed fel dangosydd lleol i sicrhau y gellid cofnodi’r gwahaniaeth. Ystyriwyd bod cyflawni 33.8% yn erbyn targed o 40% yn dangos rheolaeth effeithiol o alwadau ac ymholiadau. Roeddem yn siarad â Llywodraeth Cymru i ystyried newid yr holl fesurau perfformiad ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

O ran y mesur OREN ar gyfer oedi wrth drosglwyddo gofal, esboniodd y Swyddog bod perfformiad uchel yn heriol, ond yn erbyn gweddill yr awdurdodau lleol eraill yng Nghymru roedd Casnewydd wedi gwneud yn dda.

 

Holodd yr Aelodau a oedd y Cyngor am greu gwasanaeth mewnol ar gyfer gofal cartref. Eglurodd y Swyddog nad oedd y Cyngor ar hyn o bryd yn bwriadu sefydlu gwasanaeth mewnol ar gyfer gofal cartref.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y Cyngor wedi bod yn hyrwyddo ei wasanaethau drwy Materion Casnewydd, ar-lein a thrwy’r ganolfan gyswllt, pe na bai gan yr unigolyn fynediad i’r rhyngrwyd. Roedd yr Aelodau am sicrhau bod cymaint â phosibl o wybodaeth ar gael yn rhwydd ar wefan y Cyngor, a bod yr holl wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir.

 

Holodd yr Aelodau am y grant Cefnogi Pobl, sut yr oedd yn cynorthwyo ac yn effeithio ar allu awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau. Dywedodd y Swyddog fod meini prawf llym ar gyfer arian a ddyfernid drwy’r broses dendro. Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y broses o werthuso’r grant Cefnogi Pobl ar y gweill ac y byddai’n cael ei chyhoeddi ar ôl ei chwblhau.

 

Casgliadau a Sylwadau

Derbyniodd y Pwyllgor ymatebion y Swyddogion i’w cwestiynau a gofynnwyd am wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â’r grant Cefnogi Pobl, yn benodol faint o amser a gymerir i’w sefydlu a derbyn ceisiadau, a’i weithredu.

 

Dogfennau ategol: