Agenda item

Deilliannau Asesiadau Athrawon Diwedd Cyfnod Allweddol 2018 a Chanlyniadau Profion Cenedlaethol - Casnewydd

Cofnodion:

Yn bresennol

       Gail Giles – Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau

       Hayley Davies – Edwards – Prif Ymgynghorydd Herio GCA

       James Harris – Cyfarwyddwr Strategol - Pobl

       Katy Rees – Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Cynhwysiant

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau a chynrychiolydd o’r GCA yr adroddiad a dod ag agweddau pwysig i sylw’r Pwyllgor.

Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau a ganlyn:

       Cwestiynodd yr Aelodau yr amser oedd yn cael ei dreulio ar gymharu ysgolion, a holi a fyddai’n fwy effeithiol gofalu fod y bobl ifanc yn cael yr addysg orau. Esboniodd cynrychiolydd y GCA fod Llywodraeth Cymru yn dadansoddi ac yn holi’r data a roddir gan y GCA a Chasnewydd am gyraeddiadau disgyblion. Byddai hyn yn gwella perfformiad, gan sicrhau lefelau uwch o gyraeddiadau disgyblion yn y dyfodol.

       Holoddyr Aelodau pam fod nifer y bobl ifanc yn cyrraedd Cyfnod Allweddol Dau mewn Saesneg yn is ers llynedd. Esboniodd cynrychiolydd y GCA y gall carfan mewn un flwyddyn wyro’r ffigyrau; fodd bynnag, byddai’n cael ei fonitro at y dyfodol i wneud yn si?r na fydd tuedd yn dod i’r amlwg.

       Gofynnodd y Pwyllgor pam fod y targed cenedlaethol am Gymraeg (Iaith Gyntaf) ar Gyfnod Allweddol 2 yn is na’r targed mae Casnewydd wedi’i osod iddi’i hun. Esboniodd y GCA fod hyn oherwydd y garfan fechan o bobl ifanc sydd â’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt. Po leiaf y nifer o bobl ifanc, y mwyaf o effaith a gânt ar y ganran, a dyna pam fod gan Gasnewydd darged uwch na Chymru.

       Canmoloddaelod o’r Pwyllgor Bennaeth yr ysgol y mae’n llywodraethwr arni. Yr oedd y Pennaeth wedi gwella’r deilliannau i bobl  ifanc nad oeddent yn gallu llwyddo yn yr ysgol. Esboniodd cynrychiolydd y GCA  mai dyma un o’r cyfrifoldebau yr oedd Penaethiaid yn ei gymryd o ddifrif. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol - Pobl  y Pwyllgor fod Gyrfa Cymru yn gyfrifol am olrhain yr holl bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yng Nghasnewydd. Mae hyn yn sicrhau nad oes yr un person ifanc yn gadael heb gyrchfan, boed hynny yn addysg bellach neu uwch, gwaith neu hyfforddiant.

       Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y Swyddogion yn credu y gallai perfformiad Addysg wella dros y ddwy flynedd nesaf yn wyneb y pwysau ariannol a wynebir gan yr awdurdod lleol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Strategol - Pobl mai’r athrawon a’r berthynas oedd ganddynt gyda’r bobl ifanc oedd y rhesymau y tu ôl i berfformiad llwyddiannus. Yr oedd y Penaethiaid a’r staff cefnogi yn deall hyn a dyna sy’n eu galluogi i wneud penderfyniadau anodd o ran arbedion y gyllideb gan gyfyngu’r effaith ar addysg pobl ifanc.

       Yroedd Aelod eisiau gwybod pa ymrwymiad oedd yn cael ei wneud gyda’r ysgolion am Ddatblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) eu staff. Esboniodd cynrychiolydd y GCA fod hyn yn rhan o’u cylch gorchwyl a hysbysodd y Pwyllgor am Rwydwaith Hyfforddi Athrawon, arbenigwyr yn yr ysgolion, a dolenni e-ddysgu oedd hefyd yn rhoi cymorth a chefnogaeth. Mae’r GCA hefyd yn darparu rhaglen gynhwysfawr o ddysgu a datblygu proffesiynol.

Diolchodd y Pwyllgor i’r Aelod Cabinet a’r Swyddogion am eu presenoldeb a’u hatebion i’w cwestiynau.

Argymhellion a Sylwadau

Nododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed yn y maes hwn, a gofyn am fwy o wybodaeth am y modd mae ysgolion yn meithrin pobl ifanc na fyddai’n cyrraedd lefel 5+ ar Gyfnod Allweddol 3.

Dogfennau ategol: