Cofnodion:
Yn bresennol;
• James Harris – Cyfarwyddwr Strategol - Pobl
• Chris Humphrey – Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol
• Katy Rees – Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Cynhwysiant
Cyflwynodd y Swyddogion bob un o gynigion y gyllideb a thrafododd y Pwyllgor y diweddariad ar bob cynnig;
Adolygiad o Wasanaeth Seibiant Byr Oaklands
Esboniodd y Swyddogion eu bod weithiau yn dod o hyd i ffyrdd o beidio â gwneud arbediad neu wneud arbediad rhannol. Dyma oedd wedi digwydd gyda’r cynnig hwn; yn ystod yr ymgynghoriad, daethom o hyd i fannau eraill i wneud yr arbediad.
Ailstrwythuro’r cyllid yn y gwasanaethau ataliol
Hysbysodd y Swyddogion y Pwyllgor y gwnaed yr arbediad hwn.
Ailstrwythuro’r Tîm Integredig Cefnogi Teuluoedd
Hysbysodd y Swyddogion y Pwyllgor y gwnaed yr arbediad hwn.
Adolygu’r Gwasanaeth Gofal Cartref
Yr oedd y Swyddog yn disgwyl i’r arbediad gael ei wneud dros ddwy flynedd. Byddai contract y gwasanaeth newydd yn dechrau ym mis Ionawr 2019.
Ail-ddarparu’r Gwasanaeth Byw gyda Chefnogaeth
Credai’r Swyddog y byddai’r arbediad llawn yn cael ei wneud eleni. Lleisiodd yr Aelodau bryderon am yr unigolion hynny oedd yn dal i fyw yn y ddau gartref nad oedd yn addas at y diben ac nad ydynt yn cwrdd ag anghenion yr unigolion.
Gostyngiad yn y Gyllideb Oedolion
Dywedodd y Swyddog fod yr arbediad oedd yn gysylltiedig â’r cynnig hwn yn rhy optimistaidd ac na fyddai’n cael ei ateb yn llawn. Yr oedd yr Aelodau am wybod pa mor llwyddiannus y bu marchnata darpariaeth Centrica Lodge i awdurdodau lleol eraill. Esboniodd y Swyddogion fod rhai wedi manteisio ar y cynnig, ond bod lle i fwy o bobl ifanc.
Cyfuno’r Timau Seicoleg Addysg, Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anghenion Dysgu Penodol yn ‘Dîm Cyfoethogi Cynhwysiant’
Cwestiynwyd y modd y mae athrawon yn cael eu paratoi am y newidiadau a ddaeth i rym ar 1 Medi. Esboniodd y Swyddogion eu bod yn defnyddio nifer o wahanol ddulliau ac anodau hyfforddi i gynyddu sgiliau a gwybodaeth athrawon a staff cefnogi i weithio gyda phobl ifanc. Esboniodd y Swyddog wrth yr Aelodau fod yr arbedion yn cynnwys chwech diswyddo gwirfoddol, un ymddiswyddiad ac un ail-leoli.
Ailfodelu’r Uned Cyfeirio Disgyblion
Gofynnodd y Cyfarwyddwr Strategol - Pobl am ganiatâd i roi diweddariad i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf ar 26 Tachwedd gan nad oedd yr holl wybodaeth ganddo ar hyn o bryd. Sylw’r Cyfarwyddwr oedd bod nifer o faterion cymhleth nas rhagwelwyd yn golygu na allai’r adran wneud yr arbediad. Esboniodd y Pennaeth Cynorthwyol Addysg eu bod wedi datblygu cynllun cadarn mewn partneriaeth â’r GCA a staff oedd newydd eu recriwtio i wneud y gwaith hanfodol. Byddai’r Pwyllgor yn croesawu’r wybodaeth ychwanegol yn y cyfarfod nesaf.
Diolchodd y Pwyllgor i’r Swyddogion am eu presenoldeb a’r atebion manwl i’w cwestiynau.
Argymhellion a Sylwadau
Gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion a’r sylwadau a ganlyn:
• Y Cyfarwyddwr Strategol - Pobl i roi diweddariad am yr Uned Cyfeirio Disgyblion yn y cyfarfod ar 26 Tachwedd 2018.
• Am esboniad o effaith cynigion arbedion nas cyflawnwyd o 2018/19 ar gyllideb y flwyddyn nesaf, 2019/20.
• Dywedodd y Pwyllgor sut y gallai cynigion o safon well arwain at wneud mwy o arbedion.
Dogfennau ategol: