Cofnodion:
Yn bresennol:
- Cynghorydd Gail Giles - Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau
- James Harris - Cyfarwyddwr Strategol - Pobl
- Sarah Morgan - Prif Swyddog Addysg
- Martin Dacey - Pennaeth Addysg Cynorthwyol
- Katy Rees – Pennaeth Addysg Cynorthwyol – Cynhwysiant
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg drosolwg byr i'r Pwyllgor a thynnu sylw at y meysydd allweddol i'w hystyried yn yr adroddiad.
Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau a ganlyn:
• Trafododd yr Aelodau gyflwyniad yr adroddiad a'r ymdeimlad bod angen mwy o fewnwelediad a manylion yn niweddariad y Swyddog. Buont hefyd yn trafod y ffaith nad oedd teitlau ar echelin y graffiau ar y dudalen flaen, a bod nifer o broblemau fformatio drwy gydol y ddogfen. Wrth ddefnyddio unrhyw fyrfoddau, dywedodd yr aelodau y dylid nodi'r
enw yn llawn y tro cyntaf. Dywedodd y Swyddogion fod modd iddynt fynd i'r afael â'r defnydd o fyrfoddau yn yr adroddiad, ond bod y graffiau ac unrhyw broblemau fformatio y tu hwnt i'w rheolaeth. Eglurodd y Cynghorydd Craffu y byddai adborth y Pwyllgor yn cael ei gyfleu wrth y Partner Busnes Perfformiad ac Ymchwil.
• Gofynnodd yr Aelodau am y newyddion diweddaraf ynghylch ailfodelu'r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD). Ymddiheurodd y Prif Swyddog Addysg, gan esbonio nad oedd yr adroddiad ar gael ar hyn o bryd. Eglurodd y Swyddog fod gwaith cynllunio gofalus wedi'i wneud yn gysylltiedig ag ailfodelu'r UCD. Roedd yr Awdurdod i ddechrau wedi bod yn chwilio am adeilad a oedd yn ddigon mawr i gynnwys yr UCD wedi'i hailfodelu. Roedd hyn wedi golygu llawer o waith cefndir, a oedd yn cynnwys asesu asedau cyfalaf, faint o gyfalaf a oedd dros ben, a dadansoddi tueddiadau blaenorol a thueddiadau a oedd yn dod i'r amlwg i sicrhau y byddai'r UCD yn parhau i fod yn addas i'r diben. Aeth y Swyddog yn ei flaen i ddweud bod gan Estyn hyder yn strwythur rheoli ac arwain yr UCD newydd. Roedd y strwythur rheoli ac arwain newydd hwn wedi cael effaith gadarnhaol yn gyffredinol ar lefelau staffio a salwch, a dylai hynny gael ei adlewyrchu yng nghyflawniad y bobl ifanc.
• Holodd yr Aelodau a oedd gan yr Awdurdod unrhyw bobl ifanc o'r tu allan i'r sir yn mynychu'r UCD? Os felly, beth oedd y costau trafnidiaeth yn gysylltiedig â hynny, a phwy oedd yn talu? Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd unrhyw bobl ifanc ar leoliadau Allsirol yn yr UCD, a bod CDC yn olrhain ac yn rheoli unrhyw gostau trafnidiaeth.
• Mewn rhai ysgolion, dywedodd Aelod fod disgyblion Blwyddyn 13 yn gweithredu fel mentoriaid dysgu i ddisgyblion iau sydd angen cymorth ychwanegol. Gofynnodd yr Aelod a oedd hynny ar waith ym mhob ysgol. Dywedodd y Cadeirydd, os oedd hynny'n digwydd, mae'n rhaid bod y disgyblion dan sylw wedi'u dewis yn ofalus, ac nad oedd y cynllun ond wedi'i sefydlu i ysbrydoli'r disgybl a oedd angen cefnogaeth ychwanegol. Dywedodd Aelod arall na ddylid defnyddio mentoriaid dysgu fel athro ar blant. Atebodd y Swyddog drwy ddweud nad oedd ond yn gallu gwneud sylwadau ar yr hyn a oedd o fewn ei reolaeth. Mae'r adroddiad hwn yn trafod yr adran Addysg ganolog, ac nid oedd gweithredoedd unigol ysgolion ac athrawon yn rhywbeth yr oedd yr adran yn adrodd amdanynt.
• Gofynnodd yr Aelodau i'r Swyddogion am ddadansoddiad o staff yn yr UCD. Dywedodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol - Cynhwysiant - wrth y Pwyllgor fod Athrawon a Staff Cymorth yn gweithio yn yr UCD, ac y byddai ffigurau cywirach yn cael eu darparu'n ddiweddarach.
• Holodd yr Aelodau sut roedd yr adran Addysg yn monitro'r UCD os oedd yr UCD yn y Coch ar ôl cyfnod o 2 flynedd. Eglurodd y Swyddog fod helpu ysgol i symud o'r Coch i gategori arall yn broses hir, a heriol ar adegau. Byddai disgwyl i'r Uned symud i Ambr neu Felyn, ond gallai'r symudiad hwnnw fod wedi digwydd oddi mewn, neu ar ddiwedd, y cyfnod o 2 flynedd.
• Gofynnodd Aelod i'r Swyddogion esbonio sut y caiff y rota addysgu yn yr UCD ei rheoli, a sut yr ymdrinnir â'r pontio i ysgol brif ffrwd. Atebodd y Swyddogion drwy ddweud y byddai athro o'r ysgol wedi cyfarfod â'r unigolyn ifanc, yn ogystal â Staff y Ganolfan Cymorth Dysgu, er mwyn paratoi a chefnogi'r broses o drosglwyddo'r disgybl yn ôl i ysgol brif ffrwd. Dywedodd y Swyddogion hefyd fod yn rhaid i ysgolion fod wedi derbyn perchnogaeth dros y disgyblion a mabwysiadu dull adferol o ddychwelyd i ysgol brif ffrwd. Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud mai amser ac adnoddau cyfyngedig sydd gan aelodau staff yr UCD, a bod angen i ysgolion barhau â’u cysylltiadau â’r UCD i sicrhau bod pob disgybl yn cael ei gefnogi i barhau i ymgysylltu ac yn gallu symud yn ôl i ysgol brif ffrwd.
• Gofynnodd y Pwyllgor pa fath o blant oedd yn mynychu’r UCD ac a fyddai pob plentyn yn gallu dychwelyd i ysgol brif ffrwd. Dywedodd y Swyddog wrth y Pwyllgor, pan fyddai plentyn yn dychwelyd i ysgol brif ffrwd o'r UCD, y byddai'r staff wedi gweithio gyda'r unigolyn a'i gefnogi drwy gydol y broses. Gallai ysgolion prif ffrwd hefyd ddefnyddio gwaharddiadau mewnol i helpu'r disgybl i ailintegreiddio.
• Siaradodd yr Aelodau ynghylch y modd y mae'r cynlluniau gwasanaeth yn monitro'r Cynllun Corfforaethol pum mlynedd. Byddai'r Pwyllgor wedi hoffi gweld cerrig milltir yn cael eu gosod, a derbyn naratif a data meintiol lle bo modd, ynghylch sut roedd y Camau yn cefnogi cyflawniad y Cynllun Corfforaethol. Eglurodd y Swyddog mai ond adolygiad canol blwyddyn o'r Cynllun Gwasanaeth oedd hwn.
• Holodd yr Aelodau a oedd presenoldeb yr ysgol feithrin yn cael ei fonitro. Dywedodd y Swyddog nad oedd presenoldeb yn yr ysgol feithrin yn orfodol; fodd bynnag, roedd yr Awdurdod yn ystyriol wrth ymgysylltu â'r ysgolion, fod hynny'n hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb da. Aeth y Swyddog yn ei flaen i ddweud bod gwaith monitro presenoldeb yn digwydd yn yr holl ysgolion eraill fesul mis. Roedd unrhyw batrymau neu dueddiadau'n gysylltiedig â phresenoldeb yn cael sylw. Pe bai'r ysgol yn methu targed presenoldeb byddai'r Awdurdod Lleol yn helpu'r Pennaeth i weithio gyda gweithwyr proffesiynol ac ysgolion i roi camau gwella ar waith.
• Holodd yr Aelodau pryd fyddai Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg yn dechrau cael ei gweithredu. Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddent yn cael briff yn y Flwyddyn Newydd ar y fframwaith ADY a'r Ddeddf ADY.
• Gofynnodd Aelod am gael gwybod beth oedd wedi'i drefnu ar gyfer y ddarpariaeth gwrth-fwlio. Cadarnhaodd y Swyddog fod hyfforddiant wedi'i gynnal i'r staff mewn dwy ysgol i gyflwyno'r ddarpariaeth hyfforddiant gwrth-fwlio, gyda ffocws ar hiliaeth. Roedd yr hyfforddiant yn trafod pob gr?p oedran ac yn canolbwyntio ar wybodaeth dysgwyr. Derbyniodd yr Awdurdod Lleol adborth cadarnhaol yn dilyn yr hyfforddiant. Aeth y Swyddog ymlaen i hysbysu'r Pwyllgor eu bod yn chwilio am gysylltiadau posibl â throseddau casineb pan fyddai ymosodiadau proffil uchel yn digwydd.
• Roedd Aelod yn dymuno gwybod beth fu canlyniad yr hunanasesiad o GEMS. Atebodd y Swyddogion drwy ddweud yr awgrymwyd yn nhymor y gwanwyn 2018 y gallai cyllid GEMS wynebu toriadau, ond bod cyllid ychwanegol wedi'i ganfod. Oherwydd diffyg sicrwydd o ran cyllid, aeth y Swyddog yn ei flaen i esbonio bod rhai aelodau o staff wedi gadel i ganlyn cyfleoedd eraill am swydd. Yn sgil trafodaethau â Llywodraeth Cymru cafwyd cadarnhad na fyddai unrhyw gyllid ar gael y tu hwnt i 2020.
• Hysbysodd y Swyddog y Pwyllgor fod cyfanswm y lleoedd ysgol a oedd yn weddill mewn ysgolion prif ffrwd yng Nghasnewydd wedi bod yn is na tharged LlC o 10%. Byddai hyn yn newid pan fyddai'r ysgol gynradd newydd, Glas Llyn, yn agor ym mis Medi 2019. Aeth y Swyddog ymlaen i egluro bod yr adran Addysg yn dadansoddi data byw er mwyn ymateb mewn sefyllfaoedd lle byddai angen lleoedd ysgol yn y dyfodol, ac ystyried adeiladu ac ymestyn ysgolion presennol.
• Eglurodd y Swyddogion wrth yr Aelodau fod yn rhaid i ysgolion gael trwydded i fod mewn diffyg o ran y gyllideb, ac mai cyfrifoldeb yr ysgol oedd sicrhau bod ganddi gynllun adfer diffyg cyn i'r Prif Swyddog Addysg gyflwyno'r drwydded. Aeth y Swyddog ymlaen i egluro bod rhai ysgolion yn gallu gweithredu'r cynllun ac adfer o fewn blwyddyn. Roedd gan rai ysgolion eraill gynllun trwydded diffyg dwy neu dair blynedd o hyd. Roedd hyn yn dibynnu'n llwyr ar sefyllfa'r ysgol neilltuol ac yn amrywio yn ôl ysgol. G
ofynnodd Aelod i'r Swyddogion pa ganran o'r ysgolion a oedd wedi gallu dychwelyd i'r du? Dywedodd y Swyddog wrth yr Aelod fod gan bedair ysgol drwydded diffyg eleni, a bod dwy o'r rheiny eisoes wedi llwyddo i ddychwelyd i'r du. Eglurodd y Swyddog fod rhai ysgolion yn gweithredu o fewn y flwyddyn fel na fyddai angen iddynt gael diffyg yn eu cyllideb. Dywedodd y Swyddogion hefyd fod yr Awdurdod yn codi ymwybyddiaeth yn eang ynghylch cefnogi ysgolion â Diffyg yn eu Cyllideb.
• Trafododd y Pwyllgor y Dadansoddiad o Adnoddau Addysgol. Dywedodd y Swyddogion wrth y Pwyllgor mai nifer y cyflogeion oedd cyfanswm y staff, gan gynnwys GEMS. Esboniodd y Swyddog fod 66 o swyddi gwag, yr oedd rhai ohonynt heb fod yn swyddi parhaol a allai fod yn anodd eu llenwi. Ceir hefyd rolau hynod arbenigol, fel siaradwyr Rwmaneg, a oedd hefyd yn anodd eu llenwi. Gofynnodd Aelod ai'r ffaith bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu symud i mewn i'r ardal oedd wrth wraidd y galw am siaradwyr ieithoedd tramor. Eglurodd y Swyddog fod nifer y ceiswyr lloches a ffoaduriaid o Syria a oedd yn cael eu symud i mewn i'r ardal gan y Swyddfa Gartref wedi cynyddu, ond mai pobl o'r UE oedd y nifer fwyaf o fewnfudwyr i'r ardal, ac y byddai'r duedd honno'n parhau.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am fod yn bresennol.
Casgliad - Sylwadau i'r Cabinet
Nododd y Pwyllgor yr adolygiad o'r cynllun gwasanaeth canol blwyddyn a chytuno i anfon y cofnodion i'r Cabinet ar ffurf crynodeb o'r materion a godwyd.
Roedd y Pwyllgor yn dymuno gwneud y sylwadau a ganlyn i’r Cabinet:
1. Bod angen cynnwys rhagor o wybodaeth yn y diweddariad ar gyfer pob cam gweithredu. Y dylai'r wybodaeth hon fod wedi cynnwys y dyddiad terfyn a fwriadwyd gan y Maes Gwasanaeth ar gyfer cwblhau'r Amcan/Weithred, a sut roedd yn gysylltiedig â'r Cynllun Corfforaethol pum mlynedd a'r Ymrwymiadau ynddo.
2. Dylid esbonio cyfeiriadau at ffrydiau gwaith newydd neu eginol (prosiect Saeth) er mwyn rhoi cyd-destun i'r diweddariadau yn yr adroddiad. Hefyd bod angen ysgrifennu enwau'n llawn cyn nodi'r byrfodd mewn cromfachau.
Gofynnodd y Pwyllgor am yr wybodaeth ganlynol gan y Swyddogion:
1. Nifer y bobl ifanc yn yr UCD, a gwybodaeth am flwyddyn ysgol y bobl ifanc, eu hysgol ac o ba ardal yng Nghasnewydd y maen nhw'n dod.
2. Adroddiad gwybodaeth am y rhaglen waith a chynllun gweithredu i gefnogi pobl ifanc NEET.
3. Adroddiad gwybodaeth ar sut roedd Eiriolwyr Dysgu mewn ysgolion yn codi dyheadau Plant sy'n Derbyn Gofal.
4. Beth yw swm cyfwerth ag amser llawn y '66 o swyddi gwag cyfredol' o fewn Addysg?
Dogfennau ategol: