Agenda item

Adolygiadau o Gynlluniau Gwasanaeth Canol Blwyddyn 2018-19

Cofnodion:

Adolygiadau Canol Blwyddyn o Gynlluniau Gwasanaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol bob un o'r pum amcan yn unigol a gofyn i'r Pwyllgor ofyn cwestiynau a oedd yn berthnasol ar y pryd.

Amcan 1

                Holodd y Pwyllgor a oedd y Fforwm Darparwyr IAA wedi cael ei weithredu neu ar y gweill, a gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariad ynghylch yr amcan. Eglurodd y Swyddog fod y Fforwm IAA yn gysylltiedig â'r Cyd-fforwm Llywio Gofal, ac y byddai'r Awdurdod yn cydweithio'n agos â phartneriaid i integreiddio'n well yn y gwasanaeth IAA. Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud bod proses wedi bod ar y gweill i sefydlu partneriaid allweddol ar gyfer y gwasanaethau IAA.

                Gofynnodd Aelod i'r Swyddogion a oedd unrhyw asiantaethau eraill fel Sight Cymru o fewn Partneriaeth y Trydydd Sector. Atebodd yr Aelod Cabinet drwy esbonio nad oedd yr Awdurdod yn ymwybodol o unrhyw asiantaethau eraill fel Sight Cymru o fewn Consortiwm y Trydydd Sector. Dywedodd hefyd fod Gwasanaeth Sight Cymru wedi cael effaith gadarnhaol, oherwydd cyn hynny byddai pobl yn aros hyd at ddwy flynedd am asesiadau.

                Holodd yr Aelodau sut roedd yr Awdurdod yn rheoli ac yn monitro corff allanol.

Atebodd y Swyddog drwy ddweud bod yr Awdurdod yn edrych ar lefel y gwasanaeth yr oedd y corff allanol yn ei ddarparu i'r Awdurdod ac i ddinasyddion Casnewydd. Eglurodd y Swyddog fod yr Awdurdod yn casglu gwybodaeth o ymweliadau â staff, yn monitro cwynion, ac yn siarad â Gweithwyr Cymdeithasol i sicrhau bod contractau'n cael eu cyflawni. Gofynnodd yr Aelodau hefyd i'r Swyddogion beth fyddai wedi digwydd o ganfod methiannau yn y gwasanaeth. Esboniodd y Swyddog nad oedd yr Awdurdod erioed wedi dod ar draws y sefyllfa honno, ond pe bai'n codi y byddai nifer o fesurau a phrosesau'n cael eu rhoi ar waith. Roedd y mesurau a'r prosesau hyn yn cynnwys sefydlu cynllun gwella, pennu amserlen i ddatrys y sefyllfa, monitro'r gwelliannau, gweithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Hyb Diogelu, a phe bai'r problemau'n bodoli o hyd, byddai'r Adran Gontractau yn cael ei chynnwys.

                Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch digwyddiad o'r gorffennol pan na wnaeth Cartref Nyrsio ddarparu gwasanaeth yn unol â'r contract i breswylwyr y cartref. Gofynnodd yr Aelod beth fyddai'r gost pe bai'r sefyllfa honno'n codi eto.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol – Pobl - wrth y Pwyllgor fod y sefyllfa hon yn anghyffredin iawn, ac nad oedd yr Awdurdod ond wedi gorfod cysylltu ag un darparydd gofal cartref ynghylch bodloni ei rwymedigaethau contract. Y manylion dan sylw oedd cadernid eu model busnes yn hytrach na lefel y gofal. Cytunai swyddogion y dylid gwneud pwynt gweithredu i gipio unrhyw sefyllfa neu faterion diogelu a allai godi yn y dyfodol.

                Gofynnodd yr Aelodau i'r Swyddogion faint o ddarparwyr gofal cartref sy'n gweithredu yng Nghasnewydd, a pha wiriadau a hyfforddiant a gynhelir i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu diogelu.  Dywedodd y Swyddogion fod 26 o ddarparwyr gofal cartref yn byw yng Nghasnewydd. Mae'n rhaid i bob aelod o staff gael gwiriad DBS cyfredol, mynychu a chynnal lefel briodol o hyfforddiant, yn ogystal â chael yswiriant busnes. Hoffai'r Aelodau wybod a oedd yr hyfforddiant gorfodol yn cynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia. Eglurodd y Swyddogion nad oedd hyfforddiant dementia yn orfodol.

Amcan 2

                Llongyfarchodd y Pwyllgor y Swyddogion am y gostyngiad mewn diwrnodiau gwely gwag o 16.7% i 2%. Cadarnhaodd y swyddogion fod dau Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol ychwanegol wedi'u dyrannu i gynnal asesiadau, a oedd yn creu mwy o gapasiti fel bo modd derbyn a rhyddhau'n amserol. Holodd Aelod ynghylch data'r system WCCIS. Atebodd Swyddogion drwy esbonio mai system newydd oedd WCCIS, ond nid oedd tystiolaeth i awgrymu bod perfformiad wedi dirywio.

                Holodd yr Aelodau ynghylch y Prosiect Mewngymorth, a pha lwybr oedd wedi'i sefydlu. Atebodd swyddogion fod y tîm ailalluogi wedi'i ailstrwythuro, a bod arferion gwaith wedi'u hadolygu i sicrhau ymateb integredig a chydgysylltiedig wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty. Ymhellach i hyn, eglurodd y Swyddog fod trefniadau parhaus wedi'u gwneud i fonitro effaith Mewngymorth ar lwybrau rhyddhau o'r ysbyty.

  Siaradodd Aelod am bobl oedrannus a oedd yn mynd i mewn ac allan o'r ysbyty, gan ei bod hi'n anochel mai'r Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn gorfod delio â'r broblem yn y pen draw. Trafododd yr Aelodau pa gostau a fyddai'n gysylltiedig â hyn.  Eglurodd y Swyddog mai rhai o'r rhesymau wrth wraidd hyn oedd ffactorau fel y cynnydd mewn disgwyliad oes a'r newidiadau mewn cymdeithas ac o ran agweddau at yr henoed. Cyfeiriodd y Swyddog hefyd at y 'Fenter Adref yn 1af', a oedd yn cyfarfod bob wythnos ar draws Gwent. Roedd y Bwrdd Rhanbarthol yn bresennol ynghyd â Llywodraeth Cymru, gan ddarparu cyllid ar draws Gwent i geisio goresgyn y diffyg cyswllt. Eglurodd y Swyddog fod y 'Fenter Adref yn 1af' wedi ystyried sut i wneud y defnydd gorau o adnoddau. Eglurodd y Swyddog fod rhywfaint o ddiffyg cyswllt rhwng y trefniadau i adael yr ysbyty ac ymweliadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol, ond nad oedd hynny'n bodoli mwyach. Dywedodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai'r gronfa drawsnewid yn tyfu bob blwyddyn, a'i bod yn arddangos canlyniadau da.

Amcan 3

                Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am Swyddogaeth Comisiynu'r Bobl. Ymatebodd swyddogion drwy egluro bod Swyddogaeth Comisiynu'r Bobl yn gwella systemau o fewn adran y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol, ac y byddai'r arbenigedd hwnnw'n cael ei rannu â´r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Byddai'r Awdurdod yn gallu cymhwyso cysondeb a her i wneud gwelliannau priodol wrth brynu a chomisiynu gwasanaethau allanol.

                Llongyfarchodd yr Aelodau'r Swyddogion am eu gwaith caled yng nghartref preswyl Spring Gardens, gan ganmol lefel y gweithgareddau a rhagolygon cyffredinol y ganolfan. Trafododd yr Aelodau'r posibilrwydd o ddiffyg cyllid mewn gofal cartref yn y dyfodol erbyn 2028. Ymatebodd y swyddogion drwy ddweud bod pecynnau gofal wedi mynd yn ddrytach oherwydd natur gymhleth y gofal yr oedd ar ddefnyddwyr gwasanaeth ei angen, ac roedd hyn yn duedd a allai barhau. Byddai trafodaeth yn cael ei chynnal ar ffioedd ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond dywedodd y Swyddogion fod angen i'r gost fod yn deg ac yn gynaliadwy i bobl sy'n agored i niwed, a bod angen meithrin lefel o ymddiriedaeth rhwng yr Awdurdod a darparwyr. Dywedodd y swyddogion hefyd y gallai aelodau'r Pwyllgor Craffu ymweld â thîm y 'Fenter Adref yn 1af'.

Amcan 4

• Gofynnodd yr Aelodau i'r Swyddogion a oedd yr Amcan hwn yn ymwneud â gofalwyr proffesiynol neu wedi'i anelu at ofalwyr teuluol. Atebodd y Swyddog yr Aelod drwy egluro bod Amcan pedwar yn berthnasol i bob gofalwr.

Amcan 5

•Gwnaeth yr Aelodau sylwadau am yr Hyb Dioddefwyr yn y Coed Duon, gan holi a oedd digon o adnoddau yn Narpariaeth Gwent. Gofynnodd Aelod i'r Swyddogion hefyd am ymatebion eraill a gyflwynwyd i geisiadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid. Atebodd y Swyddog drwy esbonio nad oedd unrhyw beth newydd i'w adrodd, ond bod galw cynyddol am y gwasanaeth. Roedd asesiadau hefyd wedi ôl-gronni, ac roedd angen mwy o gapasiti ar yr Awdurdod i gynnal lefel y gwasanaeth. Cyn gynted ag y bo problemau diogelu wedi'u nodi, esboniodd Swyddogion ei bod hi'n bwysig cefnogi'r dioddefwyr a theulu'r dioddefwr. Cadarnhaodd y Swyddogion y byddent yn adrodd yn ôl ynghylch pryd fyddai adran benodol Casnewydd o wefan Diogelu Gwent yn weithredol.

Dadansoddiad Ariannol

• Holodd y Pwyllgor ynghylch Pecynnau Byw â Chymorth Gofal Cymunedol a oedd wedi gorwario bron i £1.9 miliwn. A ellid darparu rhagor o wybodaeth am y rheswm wrth wraidd y gorwariant, a'r hyn y byddai'r maes gwasanaeth yn ei wneud yn y tymor byr a'r tymor hir i sicrhau na fyddai'r broblem hon yn codi o'r naill flwyddyn i'r nesaf. Eglurodd y Swyddogion fod y gorwariant yn cynnwys nifer o ffactorau - roedd pobl yn byw'n hirach, rhai ohonynt ag anghenion cymhleth iawn lle'r oedd angen lefel uchel o ofal.  Eglurodd swyddogion fod yr haf poeth iawn wedi effeithio'n arw ar y gyllideb, gan fod y gwres wedi achosi cynnydd sydyn mewn gwasanaethau, a mwy o bwysau ar yr Awdurdod.  Byddai'r gaeaf hefyd yn effeithio ar gyllideb. Roedd yr Awdurdod wedi rhagweld gaeaf drwg iawn, a fyddai'n achosi straen ychwanegol ar wasanaethau.  Dywedodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor fod hanner miliwn o'r gorwariant i gyfrif am gynnydd yng nghyflogau gweithwyr Gofal Cartref er mwyn cyrraedd y cyflog byw cenedlaethol.

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am fod yn bresennol.

Adolygiad Canol Blwyddyn Plant a Phobl Ifanc

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc bob un o'r pum amcan yn unigol, ynghyd â dadansoddiad ariannol, a gofyn i'r Pwyllgor ofyn cwestiynau a oedd yn berthnasol ar y pryd.

Amcan 1

• Gofynnodd yr Aelodau i'r Swyddogion egluro sut y byddent yn gweld hyn yn gwella'r canlyniad i blant a theuluoedd. Atebodd y Swyddogion drwy egluro bod y Tîm Cymorth Integredig i Deuluoedd wedi sefydlu'r fframwaith adrodd wedi'i ailddylunio er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Rhan 9 o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Roedd gan y strwythur gysylltiadau gwell ag ysgolion i blant anabl, yn ogystal â rhieni, ac roedd wedi'i sefydlu fel dull o ymgynghori er mwyn gwella gwasanaethau.  Dywedodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y rhieni a oedd wedi mynegi pryder ynghylch trosglwyddo o'r Gwasanaethau Plant i'r Gwasanaethau Oedolion wedi cael gwrandawiad, a bod yr Awdurdod wedi ystyried eu safbwyntiau. Llongyfarchodd Aelod y Swyddogion am dderbyn gwobr gan Ofal Cymdeithasol Cymru, am eu gwaith gyda Barnardos.

Amcan 2

                Eglurodd y Swyddogion mai Amcan 2 oedd i'r Adran Gyllid sefydlu'r mecanweithiau fel na fyddai angen i'r rhai sy'n gadael gofal dalu'r Dreth Gyngor mwyach. Hysbysodd y Swyddogion yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r cynllun i beidio gorfod talu'r Dreth Gyngor drosti ei hun, gyda'r posibilrwydd o ddarparu cyllid i Awdurdodau Lleol. Dymunai'r aelodau wybod sut roedd hi'n deg i rai sy'n gadael gofal fod wedi'u heithrio o orfod talu'r Dreth Gyngor o gymharu ag aelodau eraill o'r cyhoedd a allai fod yn profi anawsterau wrth dalu'r Dreth Gyngor. Eglurodd y Swyddog nad oedd y rhai a oedd yn gadael gofal ond yn cynrychioli nifer fach iawn o bobl, a bod llawer o ddinasyddion o fewn yr Awdurdod wedi'u heithrio rhag gorfod talu'r Dreth Gyngor.

                Fel Awdurdod Lleol, eglurodd y Swyddogion fod ganddynt nifer cynyddol o drefniadau gofal gan deuluoedd, gyda chynlluniau cymorth wedi'u cytuno â'r llys. I raddau helaeth, y rhain oedd plant y gofelir amdanynt o dan ofynion y Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig. Roedd yr Awdurdod yn casglu timau maethu ynghyd, gan gynnig cefnogaeth ac asesiadau lle'r oedd gwarcheidiaeth deuluol ar waith. Roedd yr Awdurdod yn sicrhau bod teuluoedd yn cael cefnogaeth briodol ar ôl i'r gwarcheidwad ysgwyddo'r cyfrifoldeb, ac mewn rhai achosion bu angen cefnogaeth ychwanegol ar y plentyn. Gofynnodd yr aelodau beth oedd ystod oedran y plant wrth adael gofal maeth. Atebodd y Swyddog drwy ddweud bod yr ystod oedran yn amrywio, ond ei fod tua 25 oed, gyda'r nifer o blant a oedd yn gadael gofal math yn amrywio o amgylch tua 2050 y flwyddyn.

Amcan 3

                Eglurodd y Swyddogion wrth yr Aelodau fod gan yr Awdurdod gyfrifoldeb i ddarparu lleoliad diogel i blant a phobl ifanc Casnewydd. Roedd yr Awdurdod wedi derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer lleoliadau gofal preswyl, ac esboniwyd bod pedwar o blant wedi'u nodi i dderbyn lle mewn uned breswyl bresennol. Roedd r Awdurdod wedi gwneud cynnig llwyddiannus am ail uned breswyl i bedwar plentyn arall. Eglurodd y swyddogion fod manteision yr unedau preswyl newydd yn cynnwys arbedion i'r gyllideb gan fod 30 o blant wedi'u lleoli y tu allan i'r sir, a bod y plant yn nes at adref. Eglurodd y Swyddogion ynghylch cyflwyno RISCA (Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol), sef fframwaith rheoleiddio newydd. Er mwyn cydymffurfio'n llwyr â'r gofynion, dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr holl Ddatganiadau o Ddiben wedi'u hadolygu a'u diwygio, a bod pob un wedi'i dderbyn.

                Esboniodd y Swyddogion y modd yr oedd yr Awdurdod wedi darparu hyfforddiant i bob gofalwr, a hefyd wedi cynnig lefel fwy soffistigedig o hyfforddiant i Ofalwyr Maeth ar reoli honiadau.

                Gofynnodd yr Aelodau am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer trefniadau Gwarcheidiaeth Arbennig a Gofal gan Berthynas. Atebodd y Swyddogion drwy ddweud bod Gwarcheidiaid Gofal gan Berthynas a Gwarcheidiaid Arbennig yn gymwys i dderbyn budd-daliadau; ond cafwyd adegau pan nad oedd gan yr Awdurdod unrhyw wybodaeth am drefniadau a oedd wedi bod ar waith o fewn y teulu, pan oedd y teulu wedi gwneud cais am gymorth ariannol. Roedd hyn wedi arwain at broses gymhleth braidd.

                Gofynnodd yr Aelodau i'r Swyddogion pa heriau

yr oeddent wedi dod ar eu traws wrth recriwtio staff i'r unedau preswyl. Atebodd y Swyddogion fod swyddi staff yn cael eu hysbysebu'n fewnol, gan roi ystyriaeth ofalus iawn i'r hyn a oedd yn cael ei gynnwys yn yr hysbyseb. Eglurodd y Swyddogion y cafwyd llu o ymatebion i'r Hysbyseb Swydd, gyda 70 yn ymgeisio. Eglurodd y Swyddog eu bod yn chwilio am nifer o rinweddau yn eu staff, a bod yr ymdrechion i recriwtio yn cynnwys tynnu staff o amgylcheddau preswyl eraill a chynnig cymhwyster Fframwaith Credydau a Chymwysterau fel cymhelliant. Dywedodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru wedi edrych ar yr hyn yr oedd Casnewydd yn ei wneud gydag unedau preswyl, ac effaith hynny ar blant a phobl ifanc. Estynnodd yr Aelod Cabinet wahoddiad i'r Fforwm Rhianta Corfforaethol a'r Aelodau Craffu ymweld â'r uned breswyl. Dywedodd hefyd fod oddeutu 150 o Ofalwyr Maeth yn yr ardal, pob un ohonynt â 2/3 o blant, a'u bod yn fodlon iawn â lefel y gefnogaeth gan yr Awdurdod.

Amcan 4

                Gofynnodd y Pwyllgor i'r Swyddogion egluro'r hyn a oedd wedi'i roi ar waith i atal troseddu neu aildroseddu.  Ym marn y Swyddogion, os oedd gan unigolyn ifanc fynediad at addysg a'i fod yn derbyn addysg, ei fod yn llai tebygol o droseddu neu aildroseddu. Credai'r Swyddog fod hyn oherwydd bod gan y person ifanc ddyheadau i fyw bywyd nad oedd yn cynnwys troseddu. Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud y byddai'r unigolyn ifanc yn llai tebygol o droseddu pe bai'n gallu meithrin perthynas gadarnhaol ag oedolyn cyfrifol arall mewn lleoliad un wrth un. Gwelwyd yr un llwyddiannau mewn gweithgareddau ymgysylltu â chymheiriaid. 

                Dros y flwyddyn ddiwethaf roedd ymarfer wedi'i gynnal ar draws y pum Awdurdod Lleol i asesu opsiynau posibl ar gyfer Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid (GTI) Gwent gyfan. Roedd yr opsiynau ar gyfer GTI rhanbarthol yn cael eu hystyried.

Amcan 5

•Eglurodd y Swyddog wrth yr Aelodau fod y Siarter Plant yn cael ei datblygu i amlinellu cefnogaeth yr Awdurdod tuag at holl blant y ddinas, gan gynnwys anghenion penodol y plant a oedd yn fwyaf agored i niwed. Tîm Polisi, Partneriaeth a Chynnwys y Cyngor a oedd wedi arwain gwaith ar y Siarter Plant. Trafodwyd y Siarter â Chyngor Ieuenctid Casnewydd a fyddai'n arwain y gwaith o'i datblygu ac yn sicrhau bod ymagwedd gynhwysol wedi'i sefydlu.

Bu'r Swyddog hefyd yn trafod cwmpasu Modelau Plant yn 1af ar draws y DU, gan esbonio wrth yr Aelodau fod y gwaith wedi'i gyflawni gan Ysgol Gynradd Millbrook a Barnardos, ar y cyd â'r Tîm Plant yn 1af o fewn Llywodraeth Cymru. 

Dadansoddiad Ariannol

                Gofynnwyd i'r swyddogion esbonio pam bod y rhagolygon yn cynnwys gostyngiad yn ôl tuag at niferoedd cyn 2018 o blant a phobl ifanc ar y graffiau Nifer y Lleoliadau

Asiantaeth Maethu Annibynnol fesul chwarter a Nifer y Lleoliadau Preswyl Allsirol fesul chwarter. Yn ogystal â darparu tystiolaeth i gefnogi'r rhagolygon. A pha fesurau lliniaru yr oedd yr Awdurdod wedi'u sefydlu os oedd y rhagolygon yn anghywir? Eglurodd y Swyddog y byddai'r Awdurdod yn gweld mwy o bobl ifanc yn symud o'r Gwasanaethau Plant i'r Gwasanaethau Oedolion. Roedd y Cyngor hefyd yn ceisio recriwtio mwy o ofalwyr maeth mewn nifer o wahanol ffyrdd. Roedd nifer y gofalwyr maeth yn gostwng o'r naill flwyddyn i'r nesaf.

                                 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am fynychu.

Casgliad - Sylwadau i'r Cabinet

Nododd y Pwyllgor yr Adolygiad Canol Blwyddyn ar gyfer Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol a chytuno i anfon y cofnodion i'r Cabinet i roi crynodeb o'r materion a godwyd.

Roedd y Pwyllgor am wneud y sylwadau cyffredinol canlynol i'r Cabinet:

1.              Roedd angen symleiddio'r wybodaeth a ddarparwyd gan y Swyddogion fel bo modd i'r cyhoedd allu ei darllen a'i deall.

2.              Mae angen gwella fformat yr adroddiad. Gallai rhifo'r camau gweithredu fod yn un ffordd o'i gwneud hi'n haws i Aelodau drin a chraffu ar yr wybodaeth.

3.              Roedd dull y Penaethiaid Gwasanaeth o gwblhau'r adroddiadau'n amrywio. Gallai dull a chyflwyniad mwy cyson fod o gymorth i Aelodau graffu'n fwy effeithiol yn y dyfodol. 

Gwnaeth y Pwyllgor y sylwadau a'r argymhellion canlynol yn gysylltiedig ag Adolygiad Canol Blwyddyn y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol:

4.              Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ychwanegol ynghylch nifer o'r camau a'r adrannau yn yr adroddiad. Bydd y Cyfarwyddwr Strategol Pobl a'r Cynghorydd Craffu yn sefydlu amserlen o gyflwyniadau ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

5.              Ar ôl y cyflwyniadau bydd Aelodau'r Pwyllgor yn cael cyfle i ymweld â'r ysbyty i weld sut mae gwaith partneriaeth yr Awdurdod â'r Bwrdd Iechyd yn gweithio'n ymarferol.

6.              Bydd y Cyfarwyddwr Strategol - Pobl yn adrodd yn ôl ynghylch y dyddiad pan fydd adran benodol Casnewydd yn fyw ar wefan Diogelu Gwent.

Gwnaeth y Pwyllgor y sylwadau a'r argymhellion a ganlyn yn gysylltiedig ag Adolygiad Canol Blwyddyn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc:

7.              Nodwyd bod Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gwahodd Aelodau'r Pwyllgor i ymweld â'r cartref preswyl newydd i bobl ifanc, cyn i'r preswylwyr ifanc cyntaf symud i mewn.

 

Dogfennau ategol: