Agenda item

Y Gyllideb a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig

Cofnodion:

Yn bresennol:

-             Sarah Morgan – Prif Swyddog Addysg

-             Meirion Rushworth – Pennaeth Cyllid

Rhoddodd y Prif Swyddog Addysg drosolwg bras o’r adroddiad i’w Pwyllgor ac amlygu’r meysydd allweddol i’w hystyried. Y cynnig am arbedion mewn Addysg oedd yr unig arbediad i’w gyflwyno i’r Pwyllgor gan y Gyfarwyddiaeth Pobl. Pan oedd y Cyngor yn chwilio am arbedion, rhaid oedd cymryd i ystyriaeth yr oblygiadau statudol o ran addysg, a’r rolau oedd yn cael eu cyllido gan grantiau, oedd yn cyfyngu ar y meysydd posib lle gellid gwneud arbedion. Cadarnhaodd y Swyddog fod y gweithlu mewn Derbyniadau eisoes wedi ei gwtogi, fod y darpariaethau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) dan ormod o bwysau, a bod sawl rôl, gan gynnwys Gwasanaeth Lleiafrifol Ethnig Gwent (GEMS) a Cherddoriaeth Gwent, yn cael eu cyllido gan grantiau. Gwelodd yr Awdurdod dwf yn niferoedd y disgyblion, a chafwyd cynnydd o £3.1 miliwn yn y gyllideb i dalu am hyn.

             GofynnoddAelodau’r Pwyllgor i’r Prif Swyddog Addysg a ellid bod wedi gwneud y gostyngiad yn y gyllideb mewn unrhyw feysydd eraill yn yr Adran Addysg, a gofynnwyd hefyd i’r Swyddog lle byddai gostyngiadau yn cael eu gwneud yn y dyfodol, a beth fyddai’n digwydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Atebodd y Swyddog fod gan y Penaethiaid Gwasanaeth yn y sefydliad dasg enbyd o anodd i wneud arbedion o un flwyddyn i’r llall. Mae hyn yn arwain at graffu ar adrannau cyfan i weld lle byddai modd yn y byd gwneud arbedion. Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud wrth y Pwyllgor na allai drafod pa feysydd eraill mewn Addysg oedd yn dod dan y chwyddwydr na pha feysydd Addysg allai wynebu toriadau y flwyddyn nesaf.

             Holodd yr Aelodau a dderbyniwyd unrhyw ohebiaeth gan yr ysgolion, neu a fu unrhyw gyfarfodydd, i gael gwybodaeth am farn eraill am yr arbedion arfaethedig. Cadarnhaodd y Swyddog fod ymgynghori yn digwydd gyda’r cyhoedd. Yr oedd cynrychiolwyr yr undebau llafur wedi lleisio eu pryderon, a byddai Fforwm Partneriaeth y Gweithwyr a Fforwm y Penaethiaid yn cwrdd cyn i’r ymgynghoriad gau. Esboniodd y Swyddogion yr anerchwyd y Penaethiaid mewn cyfarfod am y cynnig ar y gyllideb, ond na lwyddasant i awgrymu unrhyw arbedion gwahanol.

             Mynegodd Aelod bryder am gynnig i dorri swydd Swyddog Lles Addysg (SLlA) a Seicolegydd Addysg.  Dywedodd Aelodau y byddai lleihau rôl y SLlA yn debygol o gael sgîl-effaith ar ganlyniadau presenoldeb, ac y byddai Estyn yn beirniadu hyn. Teimlai’r. Aelodau y byddai angen ad-drefnu er mwyn rhoi cefnogaeth i bob ysgol yng Nghasnewydd. Esboniodd y Swyddog fod y staff mewn swyddfeydd cefn, nad oedd mor weladwy, yn denu cymaint o deimlad, ac esboniodd mai dim ond tri aelod o staff swyddfa gefn oedd yno i gefnogi Casnewydd gyfan. Ychwanegodd y Swyddog ei bod yn bwysig cadw staff rheng-flaen, ond ei bod yr un mor bwysig cadw staff y swyddfeydd cefn er mwyn i’r gwasanaeth ddal i redeg. Penderfyniad oedd hwn oedd yn gwneud y gorau o’r gwaethaf.

             DywedoddAelodau bod yr arbediad arfaethedig yn ddau gant a hanner o filoedd o bunnoedd, a holwyd a allai’r Swyddogion gadarnhau pa ffigwr fyddai’n cael ei arbed yn 2019/2020.  Cadarnhaodd y Swyddogion y byddai’r swm llawn yn cael ei arbed, gan fod pot ar wahân i gostau diswyddo a phensiwn.

             Holoddyr Aelodau pa gefnogaeth fyddai’n cael ei roi i ysgolion, ac a fyddai hyn yn lleihau ymweliadau cartref gan y SLlA. Atebodd y Swyddog mai ar ysgwyddau’r SLlA y byddai’r baich cefnogi yn digwydd gan y buasent yn cymryd 2 glwstwr yn y ddinas. Esboniwyd y dylai ysgolion osod diwylliant o bresenoldeb, a rhoi mwy o bwyslais ar newid y diwylliant presenoldeb mewn teuluoedd. Esboniodd y Swyddog hefyd y gallai’r cynnig olygu llai o SLlA yn gweithio gyda staff mewn ysgolion, ond byddai hyn yn dod yn gliriach dros amser. Byddai’r SLlA yn gweithio yn bennaf gydag ysgolion ynghylch y broses o erlyn am ddiffyg presenoldeb.

Gofynnodd yr Aelodau i’r Swyddogion a fyddai’r Awdurdod yn cael unrhyw ystyriaeth gan Estyn, gan y gallai fod sgîl-effaith ar y ffigwr presenoldeb. Cadarnhaodd y Swyddogion fod Estyn yn ymwybodol, ond petai’r Awdurdod yn disgyn yn is na’r cyfartaledd Cymreig, y byddai canlyniadau.

             Gofynnodd Aelod i’r Swyddogion gadarnhau gr?p oedran y staff yr oedd y cynnig yn effeithio arnynt, a holodd a fyddai’n rhaid i’r staff fynychu cyfweliad am eu swyddi eu hunain. Cadarnhaodd y Swyddog fod yr ystod oedran yn amrywio o 30 - 50. Byddai diswyddo gwirfoddol yn cael ei gynnig i’r staff, a hyn wedyn fyddai’n penderfynu a fyddai angen i’r staff gael cyfweliadau am eu swyddi.

             Dywedodd Aelodau y byddai’r staff oedd weddill yn gorfod ysgwyddo’r baich gwaith ychwanegol, ac a fyddai lles y staff yn cael ei fonitro? Esboniodd y Swyddogion fod gan yr Awdurdod ddyletswydd o ofal i’w weithwyr, ac y byddai’r newidiadau yn cael eu holrhain o ganlyniad i’r toriadau yn y gyllideb.

             Gofynnoddyr Aelodau i’r Swyddogion ar ba beth y byddai’r 3.1 miliwn ychwanegol yn y gyllideb yn cael ei wario, ac a oedd modd ei wario mewn mannau eraill? Cadarnhaodd y Swyddogion y byddai’r gyllideb ychwanegol yn cael ei gwario ar ysgolion newydd ac i wneud lle i’r twf yn ysgolion presennol yr Awdurdod. Cadarnhaodd y Swyddog fod yr awgrym yn un dilys, ond y bu’r penderfyniad yn un anodd iawn, ac na fyddai’r awgrym o wario’r arian ychwanegol mewn meysydd gwahanol ond yn  arbed rhywfaint.

             Gofynnodd yr Aelodau i’r Swyddogion am adroddiad chwarterol ar ddata presenoldeb. Cadarnhaodd y Swyddogion y byddai hyn yn digwydd.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog am fod yn bresennol.

Casgliad Sylwadau i’r Cabinet

Nododd y Pwyllgor Gynigion Cyllideb 2019/20 a’r CATC a chytuno i anfon y cofnodion ymlaen at y Cabinet fel crynodeb o’r materion a godwyd.

Cefnogoddmwyafrif y Pwyllgor yn anfoddog y cynnig i wneud arbedion yn y gyllideb addysg, gan ddymuno gwneud y sylwadau a ganlyn wrth y Cabinet:

             Monitrolefelau presenoldeb yn yr ysgolion, a chynhyrchu adroddiad chwarterol i’rPwyllgor Pobl.

             Mynegwydpryderon am effaith yr arbediad yn y gyllideb ar y gwaith gwych a wnaed gan yr adran Addysg ac ysgolion i gynyddu’r ffigyrau presenoldeb dros y blynyddoedd diwethaf.

             Mynegwydpryderon am yr effaith  ar y SLlA sydd weddill oherwydd y pwysau gwaith ychwanegol. Ymysg pryderon y Cynghorwyr yr oedd lles y SLlA, mwy o absenoldeb salwch, a staff ysgolion yn gorfod gwneud y gwaith yn eu lle. Teimlai’r Pwyllgor nad oedd digon o fesurau lliniaru i wrthweithio’r risgiau.

             Gofynnodd y Pwyllgor am esboniad o sut mae’r arbediad yn y gyllideb yn cyd-fynd a nod tymor hir y Cyngor  a osodwyd allan yn y Cynllun Corfforaethol.

 

Dogfennau ategol: