Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a rhoi trosolwg byr o'r wybodaeth ynddo:
• Dyma'r sefyllfa hanner blwyddyn, ac mae'r sefyllfa ar y cyfan yn galonogol.
• Rydym yn gwella o'r naill flwyddyn i'r nesaf.
• Yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Rhagfyr, adroddwyd am Ail Dystysgrif Cydymffurfiaeth Swyddfa Archwilio Cymru.
Eglurodd yr Arweinydd mai pwrpas yr adroddiad yw rhoi trosolwg o'r cynnydd o ran cyflawni yn erbyn y cynlluniau gwasanaeth, rhan o Edefyn Aur y Cynllun Corfforaethol, a mesurau perfformiad ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (2018/19).
Mae’r adroddiad yn cynnwys adborth ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Pobl a’r Pwyllgor Craffu Lle a Materion Corfforaethol ar ôl cyflwyno'r cynlluniau gwasanaeth ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2018.
Yn 2017, lansiwyd Cynllun Corfforaethol pum mlynedd y Cyngor yn llwyddiannus a nodai weledigaeth y Weinyddiaeth a'i nodau o ran darparu gwasanaethau Cyngor a chyflawni ei amcanion Llesiant er budd dinasyddion Casnewydd.
Er mwyn sicrhau bod y nodau hynny'n cael eu cyflawni, pennwyd pedair thema yng Nghynllun Corfforaethol Cyngor Casnewydd 2017-22 (Dinas Ffyniannus, Pobl Uchelgeisiol, Pobl Gydnerth, Cyngor wedi'i Foderneiddio) ac 20 ymrwymiad i'w cyflawni.
I gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Corfforaethol, mae wyth maes gwasanaeth y Cyngor wedi datblygu eu cynlluniau gwasanaeth ar gyfer y cyfnod 2018-22, sy’n amlinellu sut y byddant yn cefnogi ac yn cyflawni ymrwymiadau’r Cyngor.
Er mwyn sicrhau bod yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf, datblygodd pob maes gwasanaeth yn y Cyngor gynlluniau gwasanaeth unigol ategol, a gymeradwywyd gan bob un o Aelodau'r Cabinet.
Dangosai'r adroddiad y canlynol ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon:
• Adroddwyd bod 84% o'r camau gweithredu (205/245 o'r camau) a nodwyd yn y cynlluniau gwasanaeth 'Ar y gweill'.
• Adroddwyd bod 7% o'r camau gweithredu (17/245 o gamau) 'Wedi'u cwblhau'; a bod 9% o'r camau (23 o 245 o gamau) yn disgwyl cael eu dechrau.
Gan mai hon yw'r flwyddyn gyntaf lle'r ydym y cyflawni yn erbyn amcanion y cynlluniau gwasanaeth, nid oedd disgwyl i feysydd gwasanaeth adrodd eu bod wedi llwyddo i gyflawni cyfran sylweddol o'r amcanion hyn.
Fodd bynnag, yr hyn y mae'r adroddiad yn ei amlygu yw datblygiadau nodedig wrth gyflawni'r Cynllun Corfforaethol, lle gwelwyd y Cyngor yn gwneud penderfyniadau dewr yn nghyd-destun pwysau ariannol parhaus. Nid oes cymhariaeth i'r cyfnod hwn o lymder, a diolchodd yr Arweinydd i'w chyd-aelodau ar y Cabinet am gamu i'w swyddi ac am fwrw ymlaen â rhai penderfyniadau anodd iawn.
Mae manylion llawn y datblygiadau wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, ond tynnodd yr Arweinydd sylw at beth o'r cynnydd a wnaed hyd yma.
• Prynu cartrefi newydd i ddod â phlant yn ôl o leoliadau y tu allan i'r sir, a fydd yn sicrhau bod modd rhoi gofal a chefnogaeth iddynt o fewn ardal Casnewydd; symudodd y plentyn cyntaf i mewn heddiw!
• Mae gwaith paratoi ar gyfer gorfodaeth parcio sifil ar y trywydd iawn i'w gyflawni yn 2019/20, a fydd yn gwneud Casnewydd yn fwy dymunol, yn enwedig canol y ddinas; bydd hyn o gymorth i 'werthu' ein dinas i ddatblygwyr a phartneriaid allanol a'i gwneud yn lle diogel i ddinasyddion;
• Mae gwaith i adfywio Canol Dinas Casnewydd yn mynd rhagddo'n dda, gyda safleoedd fel T?r y Siartwyr, Marchnad Casnewydd ac Arcêd y Farchnad yn cael eu hailddatblygu. I gefnogi hyn, mae gwaith hefyd ar y gweill i ddatblygu'r Ganolfan Gonfensiwn newydd yn Celtic Manor, a chymeradwyo cyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer y Bont Gludo
• Mae’r Hyb newydd yn Ringland ar y trywydd iawn i gael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2019, a bydd yn newid y modd y darperir gwasanaethau rhyngom ni a'n sefydliadau partner i gymunedau Casnewydd.
• Adroddodd yr ysgolion yng Nghasnewydd fod eu canlyniadau TGAU a Safon Uwch wedi gwella, a chafwyd adborth cadarnhaol gan Estyn ynghylch darpariaeth Gwasanaethau Addysgol.
Mewn perthynas â’r Mesurau Perfformiad, adroddodd yr Arweinydd:
• Yn ystod chwe mis cyntaf 2018/19, roedd 40 allan o 63 o fesurau perfformiad yn 'Ar y Trywydd Iawn' i gyrraedd neu fynd heibio'u targed. (Rhoddir mwy o fanylion ynghylch y mesurau hyn yng nghorff yr adroddiad).
• Adroddwyd bod 16 o 63 o fesurau perfformiad yn 'ambr' neu 'heb wneud digon o gynnydd i gyrraedd eu targed'
• Adroddwyd bod 9 o 63 o fesurau perfformiad yn Goch neu 'oddi ar y targed'. (Yn ôl yr adroddiad roedd a wnelo pedwar o'r naw mesur â Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus/Cenedlaethol, ac mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y camau y mae'r meysydd gwasanaeth yn eu cymryd i wella'u perfformiad).
Pwysleisiodd yr Arweinydd fod angen i Aelodau Cabinet sicrhau bod mesurau yr adroddwyd eu bod naill ai'n 'Ambr' neu'n 'Goch' yn cael eu monitro'n agos, a sicrhau hefyd fod meysydd gwasanaeth yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i wella'u perfformiad cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Pwysleisiodd yr Arweinydd hefyd bwysigrwydd y rôl Craffu, ac adrodd Adborth ac Argymhellion y Pwyllgor Craffu, sef:
• Cafodd diweddariadau perfformiad canol blwyddyn eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Lle a Materion Corfforaethol a'r Pwyllgor Craffu Pobl ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2018.
• Mae'r Adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am yr adborth a'r argymhellion a godwyd yn yr adroddiad i'w hystyried gan y Cabinet. Dyma grynodeb o'r adborth a'r argymhellion:
o Roedd y pwyllgorau'n hapus gyda'r gwelliannau i strwythur yr adroddiadau, ond yn credu y gellid gwneud gwelliannau pellach drwy gynnwys cyfeiriadau ac esboniadau cliriach wrth ddefnyddio byrfoddau.
o Gwell eglurder ynghylch y graddfeydd amser i gyflawni'r camau yn y cynlluniau gwasanaeth fel bo modd i Aelodau ddeall a herio'r cynnydd wrth gyflawni yn effeithiol;
o Hyfforddiant a chymorth pellach i Aelodau'r Pwyllgor Craffu cyn adrodd ar ddiwedd y flwyddyn;
o Gofynnwyd i'r Cabinet ymdrin â'r pryderon a godwyd ynghylch arafwch y cynnydd tuag at ddatblygu'r Uwchgynllun, ac a oedd gan y Cyngor ddigon o adnoddau i weithio gyda mewnfuddsoddwyr ar gyfleoedd datblygu graddfa fawr. (Cadarnhaodd yr Arweinydd fod hyn yn cael ei wneud ar gyllideb gyfyngedig iawn a graddfeydd amser tynn);
o Roedd y Pwyllgor am gael sicrwydd bod y Cyngor yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle i hyrwyddo Casnewydd yn sgil cael gwared â thollau Pont Afon Hafren. Unwaith eto, cadarnhaodd yr Arweinydd fod hyn yn cael ei wneud, a bod holl Aelodau'r Cabinet yn ymgysylltu â phartneriaid allanol i hyrwyddo Casnewydd.
Roedd yr Arweinydd yn awyddus i sicrhau bod y Cabinet, sy'n gyfrifol am oruchwylio a darparu'r cynlluniau gwasanaeth hyn, a lle ceir cynnydd da, cydnabod y gwaith sy'n cael ei gyflawni gan feysydd gwasanaeth a'u staff.
I'r un graddau, pan adroddir am danberfformiad, fod Aelodau'r Cabinet yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod y meysydd gwasanaeth yn cymryd y cam(au) angenrheidiol i wella'u perfformiad a darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar ddinasyddion Casnewydd.
Gofynnodd yr Arweinydd am sylwadau a chwestiynau gan ei chyd-aelodau ar y Cabinet a chodwyd y pwyntiau canlynol:
• Mae'n bwysig cydnabod bod Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau i gyflawni yn nhermau llymder;
• Mae gwasanaethau Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau i ennill cydnabyddiaeth a gwobrau cenedlaethol;
• Cafwyd canmoliaeth am wella ffyrdd o weithio a moderneiddio gwasanaethau TG y Cyngor;
• Cafwyd cydnabyddiaeth am y dulliau newydd o weithio yn gysylltiedig â phlant sy'n derbyn gofal, a nodwyd y gwaith da a oedd wedi'i ddatblygu gyda chymorth ariannol o'r Gronfa Drawsnewid, mewn perthynas â Gofal Cartref ac, wrth symud ymlaen, y Gwasanaethau Plant;
• Mae Cyngor Dinas Casnewydd ar y trywydd iawn i gychwyn ei gyfrifoldeb dros Orfodaeth Parcio Sifil ar 1 Gorffennaf 2019; mae strwythur newydd y tîm wedi'i gwblhau ac archwiliad wedi'i gynnal o bob stryd yng Nghasnewydd;
• Mynegwyd diolch i'r Gwasanaeth Addysg am y gwaith paratoi a wnaed cyn Arolygiad diweddar Estyn;
• Diolchwyd i'r holl gydweithwyr am y gwaith a wnaed mewn perthynas â'r newidiadau i Bremiwm y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo gwag; y gwaith rhagorol wrth gyflwyno'r Hyb Cymunedol, sy'n enghraifft lle mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth, yn fewnol ac yn allanol, i ddarparu gwasanaethau ac ansawdd bywyd gwell i ddinasyddion; y gwaith sy'n cael ei gyflawni i adfywio Casnewydd.
Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried yr opsiynau canlynol:
Penderfyniad:
Cytunodd y Cabinet ar yr adroddiad.