Agenda item

Data Perfformiad Disgyblion Addysg

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd y byddai'r Cabinet yn ymwybodol bod nifer o newidiadau sylweddol wedi'u cyflwyno i fesurau perfformiad Cyfnodau Allweddol 4 a 5 a'r rhaglenni astudio sy'n sylfaen i bob arholiad yng Nghymru. 

 

Eglurodd yr Arweinydd fod y gyfres o sgiliau a'r wybodaeth yr oedd eu hangen i sefyll yr arholiadau yn wahanol i'r blynyddoedd cynt felly nid yw'n briodol cymharu'r canlyniadau a ddilyswyd ar gyfer 2018 â'r blynyddoedd blaenorol.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o adrodd bod ysgolion uwchradd Casnewydd wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y newidiadau hyn, a bod hynny wedi arwain at ganlyniadau cryf yn y mesur Lefel 2 Cynhwysol, sef 57% o gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan o 55.1%.  Mae Casnewydd yn yr 8fed safle yng Nghymru, sy'n llawer uwch na'i safle cyfredol ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, sef safle 13.

Dyma rai llwyddiannau eraill:

 

        Saesneg A*-C sydd wedi'i ddilysu ar 65% ar gyfer y Ddinas. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan am yr ail flwyddyn yn olynol; a

        Mathemateg A*-C sydd wedi'i ddilysu ar 65.2% sy'n uwch na chyfartaledd Cymru gyfan am y tro cyntaf ers 2011.

Mae'r rhain yn ganlyniadau cryf, y bu'n rhaid gweithio'n galed, a darparu cymorth cydgysylltiedig wedi'i deilwra'n arbennig, i'w sicrhau.

 

Adroddodd yr Arweinydd hefyd am y bobl hynny yn y Ddinas na wnaeth ennill y mesur lefel 2 cynhwysol, ond a wnaeth lwyddo i wireddu eu potensial ac ennill y mesurau lefel 1 neu 2 drwy ennill ystod o gymwysterau TGAU, neu gyfwerth. 

 

Mynegodd yr Arweinydd longyfarchiadau i'r holl ddisgyblion hyn a llongyfarch y staff addysgu am eu harbenigedd, ac am arwain y disgyblion drwy'r cyfnod heriol hwn.

 

Mae dangosydd Cyfnod Allweddol 5 ar gyfer Cymru yn eithriadol o eang. Dyma'r diffiniad o drothwy Lefel 3: ‘swm o gymwysterau sydd gyfwerth â 2 Safon Uwch A*-E’.

 

Eleni cyflawnodd 95.7% o 732 o fyfyrwyr ôl-16 Casnewydd y mesur perfformiad hwnnw.  Er bod hyn i'w ganmol, nid yw'n adrodd hanes y bobl ifanc niferus sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth ennill lle mewn Prifysgol o'u dewis, neu sydd bellach yn ffynnu mewn swydd.  Llongyfarchodd yr Arweinydd yr holl bobl ifanc hynny sy'n cymryd y camau pwysig nesaf yn eu gyrfaoedd.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet, er bod Casnewydd yn ei chyfanrwydd wedi sicrhau canlyniadau ardderchog, roedd angen rhoi canmoliaeth arbennig i ddwy ysgol uwchradd sydd wedi cyflymu eu canlyniadau yng nghyfnod allweddol 4;

 

        Dangosodd Ysgol St Julian gynnydd o 5.5% yn y dangosydd Lefel 2 cynhwysol a 4.7% o gynnydd mewn A*-C Mathemateg. Mae hyn yn gynnydd da.

        Dangosodd Ysgol Uwchradd Casnewydd gynnydd o 10% yn y dangosydd Lefel 2 Cynhwysol, a 10% o welliant yn y dangosydd lefel 2, a 12% o welliant mewn A*-C Saesneg. Mae hyn yn newyddion rhagorol.

Er bod amrywiant ym mherfformiad ysgolion uwchradd yn thema sydd i'w gweld ledled Cymru, mae'r mathau hyn o welliannau mewn ysgolion uwchradd unigol yn helpu i leihau'r broblem honno. Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet y disgyblion, y staff, y llywodraethwyr a'r rhieni yng nghymunedau ysgolion Uwchradd Casnewydd a St Julian.  

 

Er nad oedd hynny wedi'i gynnwys yn rhan o'r adroddiad hwn, roedd yn gyson â'r darlun parhaus o gynhwysiant yng Nghasnewydd, sef sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn cyfrif.  Dros y saith mlynedd diwethaf, cafwyd gostyngiad o 80% yng nghyfradd y plant ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant (NEETS) ym Mlwyddyn 11.  Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae Casnewydd wedi symud o fod yn Awdurdod Lleol yn y pedwerydd safle ar ddeg (14eg) i'r 8fed safle, ac mae'n ymroddedig i sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn cymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

 

Mae angen gwneud gwaith pellach ar bob cyfres o ganlyniadau perfformiad.  Yng Nghasnewydd, y bwriad yw canolbwyntio ar gyflymu canlyniadau Prydau Ysgol am Ddim a gwella'r mesur perfformiad newydd 'Capio 9' yng Nghyfnod Allweddol 4.  Bydd yr Awdurdod yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Gwella Ysgolion y GCA a phob un o ysgolion uwchradd Casnewydd i sicrhau bod y gwelliant hwn yn cael ei gydnabod mewn blynyddoedd dilynol. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelod Cabinet a chytunodd fod hon yn stori newyddion gwirioneddol dda gan fod addysg yn gweddnewid bywydau pobl ifanc, gan roi blociau iddynt adeiladu eu dyfodol.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cytuno â'r adroddiad.