Agenda item

Materion yr Heddlu

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwcharolygydd Ian Roberts ddiweddariad i’r Cyngor ar faterion cyfredol yr heddlu ac ateb y cwestiynau canlynol gan yr Aelodau:

 

-              Tynnodd y Cynghorydd Ray Truman sylw at nifer o wrthdrawiadau ffordd difrifol a gafwyd o amgylch Cyffordd Beechwood Road, ac ar Heol Cas Gwent, a gofynnodd am sicrwydd y byddai camau gorfodi'n cael eu cymryd yn erbyn rhai a oedd yn parcio'n anghyfreithlon yn yr ardal hon.  Hysbyswyd y Cyngor fod yr heddlu yn gwybod am y problemau parcio yn yr ardal hon, a bod swyddogion yn cymryd camau gorfodi yn yr ardal o fewn yr adnoddau cyfyngedig a oedd ar gael ac yn cydbwyso'r holl flaenoriaethau.

-              Tynnodd y Cynghorydd Mudd sylw at y cynnydd mawr yn nifer y cwynion ynghylch parcio o amgylch Ysgol Malpas, a'r perygl oedd hynny'n ei achosi i blant ysgol. Gan gydnabod y pwysau ar yr heddlu o ran adnoddau, gofynnwyd a allai'r heddlu gynyddu camau gorfodi, yn enwedig o amgylch mynedfeydd ac allanfeydd yr ysgol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, ac atal achosion pellach o barcio'n anghyfreithlon. Dywedodd yr Uwcharolygydd Roberts y byddai'n cyfeirio'r mater hwn i sylw'r swyddog lleol.

-              Cyfeiriodd y Cynghorydd Jane Mudd hefyd at y ffaith bod angen gwella'r trefniadau i gyfathrebu â pherchnogion busnes yng nghanol y ddinas, yn enwedig o ran rhoi mwy o sicrwydd i'r busnesau yn y ddinas ynghylch maint y  gweithgarwch yn gysylltiedig â gorfodi'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored (PSPO). Cytunodd yr Uwcharolygydd Roberts i gyfeirio hyn i sylw'r Arolygydd er mwyn sicrhau bod y llinellau cyfathrebu yn effeithiol.

-              Cododd y Cynghorydd Jeavons broblem gynyddol parcio anghyfreithlon yng nghanol y ddinas, ac ar draws wardiau yng Nghasnewydd, a goblygiadau hynny o ran diogelwch, yn enwedig o amgylch ysgolion.  Gofynnwyd i'r Uwcharolygydd gymryd cymaint o gamau gorfodi â phosibl er mwyn helpu i liniaru'r broblem.

-              Ailadroddodd y Cynghorydd Matthew Evans bryderon am barcio anghyfreithlon ac yn arbennig effaith hynny ar rai ag anableddau, plant ifanc a phobl oedrannus yr oedd y rhwystr a'r problemau diogelwch a oedd yn cael eu hachosi gan hyn yn effeithio arnynt yn fawr.

-              Cyfeiriodd y Cynghorydd Laura Lacey at gyrch cyffuriau diweddar yn ei ward yn Ringland, lle targedwyd y t? anghywir a difrodi'r drws. Gofynnodd y Cynghorydd am sicrwydd y byddai hyn yn cael sylw, y byddai'r preswylydd yn cael ymddiheuriad a'r difrod yn cael ei drwsio. Gofynnodd yr Uwcharolygydd am gael rhagor o wybodaeth gan y Cynghorydd ar ôl y cyfarfod fel y gellid rhoi sylw i'r mater.

-              Amlinellodd y Cynghorydd Majid Rahman bryderon ynghylch adleoli PCSOs yn Ward Fictoria, gan ddweud bod y swyddogion blaenorol wedi meithrin perthynas dda ac ymddiriedaeth â'r preswylwyr. Roedd preswylwyr yn codi problemau'n uniongyrchol â chynghorwyr y ward yn hytrach na'r heddlu, ac er bod hyn yn cael ei drosglwyddo i'r heddlu, nid oedd adborth bob amser yn cael ei roi ynghylch y camau a gymerwyd. Cytunodd yr Uwcharolygydd i drosglwyddo'r neges fod angen rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod etholedig. Roedd PCSOs yn cael eu recriwtio eleni, a dywedodd yr uwcharolygydd fod angen sicrhau bod PCSOs wedi'u gwasgaru'n gyfartal ar draws y wardiau.

-              Codwyd problemau'n gysylltiedig ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o amgylch pont Stryd Siôr hefyd, ynghyd ag adroddiadau am sylwadau hiliol ar-lein ynghylch y digwyddiad.  Nid oedd yr Uwcharolygydd yn ymwybodol o'r sylwadau ar-lein ynghylch y digwyddiad hwn, a byddai'n trafod hynny â'r Arolygydd Crawley.