Agenda item

Adroddiad Arolwg Estyn

Cofnodion:

Yn bresennol:

-                S Morgan (Prif Swyddog Addysg)

-                J Harris (Cyfarwyddwr Strategol – Pobl)

-                K Rees (Pennaeth Addysg  Cynorthwyol – Cynhwysiant)

-                A Powles (Dirprwy Brif Swyddog Addysg)

-                Cynghorydd Gail Giles (Aelod Cabinet dros Addysg)

-                C Phillips (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Estyn),

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg drosolwg gryno i’r Pwyllgor, ac amlygu’r meysydd allweddol i’w hystyried.

‘Cyhoeddwyd adroddiad Estyn o arolygiad Gwasanaeth Addysg Casnewydd ar 31 Ionawr 2019.  Dyma’r arolygiad cyntaf i’w gynnal dan y fframwaith arolygu newydd i awdurdodau lleol a gyflwynwyd gan Estyn ym Medi 2018. Hwn hefyd oedd yr arolygiad cyntaf o Awdurdod Addysg Lleol ers ffurfio Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg (GCA) De Ddwyrain Cymru, sydd bellach yn arwain ar wella ar draws pum awdurdod lleol De Ddwyrain Cymru. 

Rhoddwyd briffiad ar yr adroddiad i’r Aelodau Etholedig a’r Penaethiaid, ac fe’i rhyddhawyd fel datganiad i’r wasg. Mae wedi ei ddarparu hefyd i Gefnogaeth Llywodraethwyr GCA i’w ddosbarthu i holl lywodraethwyr ysgolion Casnewydd.

Mae’r adroddiad yn amlygu nifer o nodweddion cadarnhaol gan gynnwys yr isod am y tair blynedd a aeth heibio:

-                Mae cyfran yr ysgolion cynradd yng Nghasnewydd a fernir o leiaf yn dda am safonau yn cymharu’n ffafriol a deilliannau arolygiadau yn genedlaethol;

-                Mae nifer yr ysgolion cynradd sy’n derbyn barn ragorol am safonau yn y cyfnod hwn yn sylweddol uwch nag ar draws Cymru gyfan;

-                Mae gwelliant mewn perfformiad yng nghyfnod allweddol 4 (TGAU) dros y tair blynedd ddiwethaf mewn dangosyddion allweddol gan gynnwys Saesneg a Mathemateg yn awr yn cymharu’n ffafriol ag awdurdodau lleol ledled Cymru. 

Ymysg nodweddion cadarnhaol eraill mae:

-                Mae gan uwch-Aelodau Etholedig a Swyddogion weledigaeth glir a disgwyliadau uchel o ran deilliannau

-                Mae swyddogion ar draws ystod eang o wasanaethau yn sicrhau eu bod yn addasu eu darpariaeth yn effeithiol i gwrdd â’r her o ran blaenoriaethau lles plant a phobl ifanc;

-                Mae canran y disgyblion nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) wedi cwympo’n sylweddol dros y pedair blynedd ddiwethaf, ac y mae bellach yn is na chyfartaledd Cymru;

-                Mae ystod dda o brosiectau ar draws yr awdurdod lleol i gefnogi’r gostyngiad hwn, oherwydd y gwasanaethau gwerthfawr a gynigiant i ddisgyblion bregus, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd;

-                Mae arweinwyr yn ymateb yn briodol i bwysau ariannol allweddol ac y maent yn hyblyg eu hagwedd at gyflwyno blaenoriaethau.

-                Gwnaeth Estyn bum argymhelliad i’r Gwasanaeth Addysg gan gynnwys:

-                Gwella perfformiad ehangach mewn ysgolion uwchradd a deilliannau i ddysgwyr sy’n gymwys am Brydau ysgol am Ddim (PYADd);

-                Addasu gweithgareddau hunanasesu canolog addysg i ganoli mwy ar ddeilliannau a gwerth am arian;

-                Cryfhau cyfleoedd ar lefel yr awdurdod lleol i blant a phobl ifanc ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwy;

-                Cyflwyno’r cynlluniau strategol i ddatblygu addysg cyfrwng-Cymraeg ymhellach. 

Mae camau i ymdrin â’r argymhellion eisoes ar waith a chânt eu hymgorffori yn y Cynllun Gwasanaeth Addysg am 2019/20

Yn y cyfamser, gofynnodd Estyn i Wasanaeth Addysg Casnewydd ysgrifennu astudiaeth achos o’r arferion gorau, y bydd Estyn yn ei rannu ag awdurdodau lleol eraill, ar ddarpariaeth, arweinyddiaeth ac effaith Gwasanaeth Addysg Lleiafrifoedd Ethnig Gwent (GEMS). Mae Gwasanaeth Addysg Casnewydd yn arwain ac yn rheoli GEMS ar ran awdurdodau lleol de Ddwyrain Cymru. 

Croesawaf Clive Phillips, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Estyn, sy’n arsylwi’r cyfarfod heddiw ac a all ymateb i bwyntiau yn yr adroddiad sydd angen eu hegluro.’

Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau a ganlyn:

                Mynegodd Aelod bryder am yr amser a dreuliodd rhai ysgolion yng nghategori Coch neu mewn Mesurau Arbennig. Gofynnodd Aelodau am gadarnhad o’r cynnydd a wnaed i ymdrin â’r mater, a beth fyddai’r amserlen i ddwyn yr holl ysgolion allan o Goch a Mesurau Arbennig. Atebodd y Prif Swyddog Addysg mai un ysgol gynradd a thair ysgol uwchradd oedd yr ysgolion dan sylw. Gallai pob ysgol fod ag amrywiaeth o broblemau unigol, ond y prif ganolbwynt oedd helpu’r ysgol i ddod yn ôl ar y llwybr iawn a chael gwell categoreiddio. Yr oedd yr holl ysgolion a nodwyd yn gwneud cynnydd da trwy Gynllun Cynnydd yr ysgolion. Argymhellion eraill gan Estyn oedd y rhai oedd yn ymwneud a safon yr addysgu a’r dysgu. Yr oedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal gydag ysgolion uwchradd Casnewydd bob hanner tymor i asesu’r sefyllfa a chynnydd yn well. Cadarnhaodd y swyddog y byddai adroddiad y Gwasanaeth Addysg ar gael yn fuan, ac y gellid ei gyflwyno i’r Pwyllgor. 

                Holodd yr Aelodau am argymhellion Estyn, yn benodol yr argymhelliad i ‘gryfhau cyfleoedd ar lefel yr awdurdod lleol i blant a phobl ifanc ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwy’. Esboniodd y Swyddog fod plant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn meysydd o benderfyniadau, gan ddod yn rhan o gynllun ad-drefnu ysgolion, gofyn am eu barn am wisg ysgol a dalgylchoedd. Cymerwyd yr ymgynghoriadau hyn o ddifrif, yn enwedig wrth ymgynghori â phlant ar benderfyniadau corfforaethol. Dywedodd y Swyddog fod y Dirprwy Brif Swyddog Addysg wedi bod yn gweithio gyda Phenaethiaid Gwasanaeth ar y cyd â’r Cyngor Ieuenctid i sicrhau y gall pobl ifanc ymwneud â’r penderfyniadau a gymerir ar draws y Cyngor.

                Holodd Aelod beth oedd y broses pan fyddai ysgol yn cael ei rhoi mewn Mesurau Arbennig. Esboniodd y Swyddog fod problemau yn hyn o beth fel arfer yn ymwneud ag arweinyddiaeth, lefelau presenoldeb, safonau addysgu, heb sôn am amrywiaeth o faterion cymhleth, ac nad oed modd datrys y rhain dros nos. Byddai’r ysgolion yn cael ymweliad bob tymor i gymharu cynnydd yn erbyn y gofynion a osodwyd, yr hyn y gellid ei wella yn sydyn, ac yna byddai gwaith yn erbyn gwelliannau tymor byr a hir yn dechrau. Yr oedd yr ysbryd yn isel yn aml iawn yn y cyfnod hwn, felly byddai angen gwella sgiliau arweinyddiaeth. Efallai bydd yn rhaid i’r awdurdod edrych ar lwyddiannau ysgolion cynradd lleol a rhannu’r arferion gorau gydag ysgolion uwchradd. Yr oedd grwpiau clwstwr yn gweithio gyda chyswllt cryf rhwng yr ysgolion cynradd ac uwchradd, gan sicrhau na fyddai gorgyffwrdd, ac annog pob gr?p clwstwr i weithio yn yr un modd.

                Mynegodd Aelod bryder am ddisgyblion o bosib yn symud o ysgol gynradd oedd mewn categori Gwyrdd i ysgol uwchradd mewn categori Coch. Gofynnodd yr Aelod i’r Swyddogion esbonio beth oedd yn peri pryder mewn ysgol, ac a oedd gan y GCA unrhyw ymwneud a’r broses. Atebodd y Swyddogion gan ddweud fod ysgolion yn cael eu monitro’n rheolaidd am bresenoldeb gwael, arweinyddiaeth a’r cyrff llywodraethol. Byddai ysgolion a nodwyd yn cael cyfres o ymyriadau monitro a chyfarfodydd gyda’r Dirprwy Brif Swyddog Addysg a GCA. Yr oedd rheoli perfformiad yn ddangosydd, ynghyd a strwythur da i’r ysgol, canlyniadau academaidd ac ymwneud gyda’r ysgol.

                Cododd Aelod gwestiwn ynghylch a oedd yr Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) yn ysgol neu yn ddarpariaeth amgen. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Estyn fod yr UCD yn Addysg Ar Wahân i Ysgol (EOTAS). Nid oedd pennaeth, ond yr oedd llawlyfr arolygu’r ysgol ar gael. Cadarnhaodd y Swyddogion fod y canlyniadau diweddaraf yn dangos fod yr UCD wedi gwneud gwelliannau mawr mewn nifer o feysydd, gan gynnwys presenoldeb, a’u bod yn monitro cynnydd disgyblion unigol. Yr oedd Estyn wedi ymweld eto â’r UCD ers mis Tachwedd ac wedi gweld cynnydd mewn tri o’r chwe maes lle’r argymhellwyd gwelliant. Daeth arolygiad Estyn yn rhy hwyr i’w gynnwys yn yr adroddiad. 

                Lleisiodd Aelodau bryderon am y disgwyliadau uchel yr oedd penaethiaid yn roi ar lywodraethwyr ysgolion. Atebodd y Swyddogion gan ddweud mai rôl wirfoddol yw bod yn llywodraethwr ysgol, a’i fod yn heriol, fod angen peth gwybodaeth ac arbenigedd, ond fod disgwyl i lywodraethwyr gynhyrchu deilliannau, nid dim ond bod yn aelod goddefol. Yr oedd archwiliadau ysgolion yn edrych i weld pa wybodaeth oedd ar gael ar gyrff llywodraethol, ac a oedd yn ddigonol.

                Holodd Aelod am argymhelliad Estyn i ‘gyflwyno’r cynlluniau strategol i ddatblygu addysg cyfrwng-Cymraeg ymhellach’. Cadarnhaodd y Swyddogion fod pot bychan o arian ar gyfer ysgol cyfrwng-Cymraeg, ond nad oedd cynlluniau am leoliad, gan fod seilwaith cludiant i’r ysgol a chael llain addas yn broblemau. Yr oedd gwaith ar y gweill i sefydlu’r safle gorau i’r ysgol.

                Mynegodd yr Aelodau bryder fod rhai ysgolion mewn cyflwr gwael, gan ofyn a yw hyn yn cael effaith ar gynnydd disgyblion, ac yn yr hinsawdd economaidd anodd hwn, a yw’n faes y gellir ymdrin ag ef? Esboniodd y Swyddogion fod y cefndir yn un heriol, ond yr hyn oedd yn cael y mwyaf o effaith ar wella perfformiad ysgol oedd dysgu ac arweiniad ardderchog.

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am fod yn bresennol.

Casgliad – Sylwadau i’r Cabinet

Nododd y Pwyllgor Adroddiad Arolygiad Estyn a chytuno i anfon y cofnodion at y Cabinet fel crynodeb o’r materion a godwyd.

Dymunai’r Pwyllgor wneud y sylwadau a ganlyn wrth y Cabinet:

                Gofynnodd y Pwyllgor i’r Prif Swyddog Addysg i ddychwelyd i roi’r newyddion diweddaraf i’r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed tuag at bob un o argymhellion Estyn wedi 6 mis a 12 mis.

 

                Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth ychwanegol am sut y bwriada’r Swyddogion sefydlu strategaeth glir ar draws yr holl wasanaethau perthnasol i wella deilliannau i ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.

                Mynegwyd pryderon am y gofynion i wella’r canran o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg. Carai’r Aelodau gael mwy o wybodaeth am sut i gyrraedd y targed hwn, o gofio prinder siaradwyr Cymraeg yn y sir o gymharu â siroedd lle mae mwy yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

 

Dogfennau ategol: