Agenda item

Pontio o Wasanaethau Cymdeithasol Plant i Oedolion - Diweddariad Llafar

Cofnodion:

 Yn bresennol:

-        James Harris –Cyfarwyddwr Strategol - Pobl,

-        Sally Anne Jenkins - Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc drosolwg cryn o drosi o Wasanaethau Plant i rai Oedolion, yn ôl cais Aelodau’r Pwyllgor Craffu. Esboniodd y Swyddog fod 4 gr?p o blant, yn y categorïau a ganlyn;

1)      Plant gydag anghenion sylweddol, anabl, cyfuniad o ddibyniaethau corfforol a meddyliol; mae gan y plant hyn ofynion clir a diffiniedig, sy’n golygu y bydd y gofal a’r gefnogaeth y bydd arnynt eu hangen trwy gydol eu hoes yn cael eu darparu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

2)      Plant sy’n destun datganiad, plant sy’n gallu gwneud llawer, gallu mynychu’r ysgol gyda rhyw fath o gefnogaeth, ac o bosib yn nes ymlaen mewn bywyd allu mynd i’r coleg, dal rhyw fath o swydd a byw mewn cyfleuster byw gyda chefnogaeth fel oedolyn. Ni fydd cefnogaeth yn parhau i fyd oedolyn, a bydd yn amodol ar barhad y person ifanc mewn addysg.

3)      Plant ag anghenion ychwanegol oedd yn derbyn gofal gan yr awdurdod. Gr?p bychan oedd hwn o ryw 4/5 y flwyddyn. Gall yr Awdurdod fod yn gyfrifol am yr unigolyn nes ei fod yn 25 oed.

4)      Plant sy’n derbyn gofal ond sydd ag anghenion mwy heriol, na allant fyw mewn lleoliad preswyl, lle fel oedolyn y byddai’n anodd cwrdd â’u hanghenion, yn dod yn fwy heriol a bydd angen cefnogaeth tan 25 oed.

Esboniodd y Swyddogion, i’r plant hynny yng Nghategori 2, fu’n ddibynnol ar wasanaethau addysg a ddarperir gan yr Awdurdod, ac y daeth yn anodd i rieni ymdopi unwaith i’r gwasanaethau hynny ddod i ben. Yr oedd mwy o atebolrwydd ar yr Awdurdod oherwydd cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), ond nid y cyllid ychwanegol sydd ei angen i gwrdd â’r cyfrifoldebau hynny. Nid parhad syml tan 25 oed fyddai hyn; byddai’n cael ei dywys gan amgylchiadau unigol, a’r rhieni eisoes yn gofyn cwestiynau am lefel y gefnogaeth fyddai’n cael ei gynnig neu ei atal i bobl ifanc pan fyddant yn gadael addysg amser llawn.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

             Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor i’r Swyddogion a dderbyniwyd cyllid ychwanegol ar gyfer y cyfrifoldebau ADY ychwanegol, ac os felly, pa gynlluniau oedd ar gael ar gyfer y cyllid hwnnw. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc y byddai unrhyw gyllid yn dod gan Lywodraeth Cymru, nid o raid i’r Awdurdod Lleol. Gallai’r cyllid ychwanegol gael ei ddarparu i sefydliadau addysg uwch a phellach. Nid oedd gwybodaeth ar hyn o bryd am y cyllid, ond cynhelir cyfarfodydd gyda’r holl randdeiliaid a Llywodraeth Cymru yn i drafod cynllunio ymhen 18 mis.

             Gofynnodd y Pwyllgor i’r Swyddogion gadarnhau a oedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan yr Awdurdod yn y gorffennol wedi newid mewn unrhyw ffordd, o gymharu â’r pedwar categori sydd ar gael ar hyn o bryd. Atebodd y Swyddogion nad oedd lefel y gefnogaeth wedi gostwng, y bu newidiadau i’r gwasanaethau a heriau gyda modelau darpariaeth, ond nid oedd unrhyw wasanaethau wedi eu lleihau. Yr oedd cyllidebau allweddol wedi gorwario wrth ddarparu rhai gwasanaethau, ond yr oedd yr Awdurdod yn ymchwilio i ddulliau gwell a mwy cynaliadwy o gyflwyno gwasanaethau. Esboniodd y Swyddogion fod nifer y plant oedd yn disgyn i un o’r pedwar categori, a bod yr Awdurdod yn llawer mwy ymwybodol o ofynion y plant heddiw nag yn y gorffennol.

             Holodd Aelod sut yr oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael effaith ar drefniadau gweithio mewn partneriaeth yng Ngwent, yn enwedig wrth i bobl ifanc drosi o Wasanaethau Cymdeithasol Plant i Oedolion. Dywedodd y Swyddogion fod 22  awdurdod lleol Cymru yn yr un sefyllfa gyda’r trosi hwn. Mae gan bum awdurdod Gwent drefniadau da o ran gweithio mewn partneriaeth, ac y mae’r Gronfa Gofal Canolraddol yn caniatáu mwy o weithio mewn partneriaeth ar faterion iechyd a gofal cymdeithasol rhwng cyrff statudol. Esboniodd y Swyddogion fod Gwasanaethau Oedolion yn rhedeg Cynllun Cysylltwyr Cymunedol ledled Gwent, sydd yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid tai cymdeithasol, ac yn derbyn swm bychan o arian. Y mae’r Awdurdod yn ymchwilio i bosibilrwydd rhedeg cynllun tebyg i’r Gwasanaethau Plant; cynllun a fyddai’n amlygu’r holl brosiectau a rhaglenni sydd ar gael i bobl ifanc. Ffordd arall yr oedd yr Awdurdod yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi’r bobl ifanc hyn oedd trwy ddatblygu tai gyda chefnogaeth ar y cyd â chymdeithasau tai lleol.

             Gofynnodd Aelod i’r Swyddogion gadarnhau cyfanswm nifer y plant yn y pedwar categori y mae Casnewydd yn gyfrifol amdanynt, ac a yw rhieni’r plant hynny yn ymwybodol y bydd gofal/cefnogaeth yn awr yn dod i ben yn 25 oed. Cadarnhaodd y Swyddogion fod gan rieni gyfle i ymwneud a magwraeth eu plant lle bo hynny’n briodol. Mae’r Awdurdod yn gwneud llawer o waith gyda rhieni plant sy’n derbyn gofal i ail-gysylltu’r teuluoedd er mwyn cefnogi’r bobl ifanc i ddychwelyd adref, cyhyd a bod yr amgylchiadau wedi newid a’r risg i’r person ifanc wedi lleihau. Dywedodd y Swyddog eu bod yn ceisio ail-integreiddio person ifanc i’r teulu pan fydd tua 14 neu 15 oed.

Gallai pobl ifanc na all ail-gysylltu â’u teuluoedd dderbyn cefnogaeth gan yr Awdurdod nes eu bod yn 25 oed. Yr oedd y bobl ifanc hyn fel arfer wedi creu eu rhwydweithiau cefnogi eu hunain, trwy berthynas a sefydlwyd gyda gofalwyr maeth, cyfeillion, ac mewn rhai achosion, teuluoedd y maent hwy eu hunain wedi eu cychwyn.

            Yroedd yr Aelodau yn teimlo y byddai mwy o angen am weithio mewn partneriaeth â’r trydydd sector, pan fydd y gefnogaeth a dderbynnir oherwydd bod y person ifanc mewn addysg yn dod i ben. Holodd yr Aelodau a oedd y bobl ifanc yn gymwys am fudd-dal Taliad Annibyniaeth Personol? Esboniodd y Swyddogion fod llawer o’r plant yn anghymwys i Daliadau Annibyniaeth Personol, a byddai angen edrych ar fudd-daliadau eraill am gefnogaeth. Cadarnhaodd y Swyddogion fod llawer o brosiectau yn y trydydd sector oedd yn targedu’r gr?p penodol o bobl ifanc a drafodir. Yr oedd y prosiectau trydydd sector hyn yn dibynnu ar gyllid, oedd yn ei gwneud yn anodd cynllunio at y dyfodol oherwydd yr ansicrwydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am fod yn bresennol.