Agenda item

Adroddiadau

Cofnodion:

Yn Bresennol:

 

- Y Cynghorydd Paul Cockeram - Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol

- James Harris – Cyfarwyddwr Strategol – Pobl

- Chris Humphreys – Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad, gan roi trosolwg i’r Pwyllgor o’r prif gyflawniadau o fewn y Gwasanaeth. Yn ystod y cyflwyniad, amlinellodd yr Aelod Cabinet y gwaith cadarnhaol oedd wedi cael ei wneud yn ystod amseroedd ariannol anodd iawn. Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw’r Pwyllgor at y Dangosydd Perfformiad

 (DP) yn ymwneud ag Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal. Esboniwyd bod y newid i GOCH wedi digwydd yn hwyrach yn y flwyddyn,

er bod y DP wedi’i gategoreiddio yn GOCH. Roedd y chwe diwrnod yn

dal yn llwyddiant mawr, o’i roi yng nghyd-destun y pum mlynedd diwethaf,

roedd y daith i gyflawni’r hyn yr ydoedd eleni i’w briodoli i’r ffordd y cafodd y gwasanaeth ei reoli a’i gefnogi. Nid y rhai hynny oedd yn yr ysbyty a wardiau acíwt oedd wedi achosi i’r ffigwr Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal

godi, ond y rhai hynny yn yr ysbytai cymunedol

gydag afiechydon gwanhaol a hirdymor. Y bobl hyn oedd angen llawer mwy o ymyrraeth a chefnogaeth i adael yr ysbyty, ac asesiadau hirach i sicrhau bod eu buddiannau’n cael eu bodloni wrth lunio eu pecyn gofal.

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth wybodaeth fanwl am yr heriau a’r targedau o fewn y gwasanaethau cymdeithasol oedd yn newid ac yn esblygu yn ystod y flwyddyn. Roedd hyn yn golygu bod nifer o gamau gweithredu a Dangosyddion Perfformiad yn annilys. Cafodd y diffiniad o ba bobl oedd yn cyfrif tuag at ffigyrau ail-alluogi eu newid yn ystod y flwyddyn gan achosi problemau gydag adrodd ar gyfer y flwyddyn.

Canmolodd y Cyfarwyddwr Strategol – Pobl yr Aelod Cabinet a’r Swyddogion am y ffordd y rheolon nhw’r gyllideb Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol. Roedd cadw cyllideb o dros 40 miliwn o fewn un y cant yn llwyddiant mawr, yn arbennig o gofio’r cefndir o alw cynyddol a newidiadau parhaus. Esboniodd yr Aelod Cabinet fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi bod o gymorth mawr wrth ganiatáu i’r Cyngor reoli cystal. Gofynnodd y Pwyllgor y cwestiynau canlynol;

 

·                A oedd ‘Cam Gweithredu 1.03 – Sefydlu fforwm darparwr IAA iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i rannu 

gwybodaeth ac arfer da’ wedi dechrau? Dywedodd y Swyddog wrth y Pwyllgor fod y gwaith tuag at gwblhau’r cam gweithredu hwn wedi dechrau.

 

·                Roedd y camau gweithredu a restrwyd rhwng tudalennau 18 a 23 yn y pecyn agenda ar y cyfan ‘Yn Mynd Rhagddynt’ ac eithrio un. Roedd rhai o’r Camau Gweithredu hyn ar gyfer  oes pum mlynedd y Cynllun Corfforaethol. Hoffai’r Pwyllgor gael rhagor o wybodaeth ar faint o gynnydd a wnaed ymhob un o’r Camau Gweithredu. Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol fod hyn yn rhywbeth a gafodd ei drafod gyda’r Tîm Perfformiad a gynhyrchodd y Cynlluniau Gwasanaeth. Mae’n bosib y byddai’r Camau Gweithredu yn newid yn y dyfodol i rai oedd yn achlysurol, a ddim yn gamau gweithredu arferol fyddai’n parhau’n amhenodol. Gofynnodd yr Aelod am wybodaeth am nifer o raglenni, projectau a mentrau a enwydyn yr adroddiad, ond na chawsant eu hesbonio. Esboniodd Pennaeth Gwasanaeth mai’r pedwar fyddai:- ‘Cartrefi yn Gyntaf’ – roedd hyn wedi bod yn rhedeg ers Hydref 2018 ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Trawsnewid LlC. Casnewydd oedd yn cynnal y rhaglen ar ran y partneriaid yng Ngwent. Nod y gwasanaeth oedd cefnogi’r bobl hynny oedd yn cyrraedd yr ysbyty ond nad oedd angen iddynt aros yno. Roedd y gwasanaeth ar gael am 7 diwrnod ac yn caniatáu i’r rhai hynny oedd wedi cael eu derbyn i fynd adref yn gynt. Gwnaed hyn drwy ddechrau’r drafodaeth am adael yr ysbyty, ac addasu’r cartref, cyn gynted ag y  byddai’r person yn mynd i mewn i’r ysbyty. - ‘Fy Ffrindiau i’ – cefnogaeth i bobl ag anawsterau dysgu i fynd i ddigwyddiadau cymdeithasol i leihau’r allgau cymdeithasol y maent yn ei wynebu. Ariannwyd hyn drwy’r Gronfa Gofal Canolraddol (CGC)

- Gwefan wedi’i noddi gan LlC yw DEWIS. Nod DEWIS oedd casglu’r  holl wasanaethau cefnogi posibl mewn un lle fel bod unrhyw un gyda chwestiwn neu angen yn gallu cael ei gyfeirio at y lle mwyaf addas yn hawdd. Cododd un o’r Aelodau bryderon am nifer y bobl h?n nad oes ganddyn nhw fynediad at y rhyngrwyd na’r gallu i’w ddefnyddio. Derbyniodd y Swyddogion a’r Aelod Cabinet hyn. Aeth yr Aelod Cabinet ymlaen i ddweud bod problemau weithiau gyda DEWIS o ran bod y wybodaeth arno ddim wedi’i diweddaru, a bod disgwyl i’r sefydliadau unigol ddiweddaru eu gwybodaeth eu hunain ar y safle. - Gwasanaeth hunanasesiad ar-lein yw ‘Ask Sara’ i bobl ei gwblhau os ydyn nhw’nmethu ymdopi gyda byw’n annibynnol adref. Rhoddwyd un enghraifft o  rywun yn ei chael hi’n anodd dringo’r grisiau - byddai modd iddyn nhw fynd ar y wefan  i weld pa opsiynau fyddai ar gael iddynt, ac os byddai ei angen arnynt gallent ei  brynu iddyn nhw ei hunain. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaeth fod y sefydliad nid-er-elw sy’n cynnal y safle wedi’i reoli’n ofalus gan weithwyr proffesiynol, a bod y cyngor a roddir o’r safon orau.

 

·                Dywedodd yr Aelod Cabinet wrth y Pwyllgor fod cronfa o £1.4 miliwn ar gyfer

addasu cartrefi pobl yng Nghasnewydd. Roedd y gronfa yn gyfyngedig ac roedd y Cyngor yn realistig yngl?n â’i ddefnydd a’r hyn ellid ei gyflawni ar gyfer y rhai hynny mewn angen yng Nghasnewydd.

 

·                Dywedodd y Pwyllgor ei bod yn galonogol i glywed am lwyddiannau’r gwasanaeth.Un maes oedd yn achosi pryder i’r Pwyllgor oedd y lleihad yn y pecynnau o ofal a ddarparwyd, a soniwyd sut y byddai llai o becynnau o ofal yn cyfyngu ar y cyfleoedd i atal pobl rhag mynd yn ôl i’r ysbyty. Esboniodd yr Aelod Cabinet a Swyddogion fod adolygiad blynyddol o becyn gofal ac os oedd yr unigolyn yn teimlo bod eiamgylchiadau wedi newid a bod angen rhagor o gymorth arnynt, gallent ofyn am ailasesiad. Roedd y tîm ail-alluogi wedi symud i fodel derbyn, oedd yn golygu bod  unigolion yn cael y cymorth ar yr amser cynharaf posib, wrth ganiatáu i’r Cyngor reoli’r arian a’r adnoddau oedd ar gael mewn modd mwy effeithiol ac effeithlon.

 

·                Gofynnodd y Pwyllgor pa newidiadau oedd wedi digwydd mewn Gofal Eiddilwch aca fyddai’r gwasanaeth yn edrych i ehangu i gynnwys pobl â Dementia, gan fod nifer y bobl fyddai angen y math yma o ofal yn ehangu’n sylweddol yn y dyfodol. Esboniodd yr Aelod Cabinet fod pecyn gofal yn cael ei roi yn ei le am chwe wythnos, ac yna’n cael ei adolygu i asesu ei addasrwydd.

 

·                Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y Gwasanaeth Oedolion a Chymunedol wedi cael trafferth recriwtio staff, ac am y rhesymau am hynny. Esboniodd y Swyddogion fod recriwtio staff yn fater i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ymhobman, nid yn unig yng Nghasnewydd. Sicrhaodd y Swyddogion yr Aelodau nad mater o gyflogau annigonol i ofalwyr oedd hyn, gan fod y telerau ac amodau yng Nghasnewydd yn llawer gwell na mewn ardaloedd eraill. Roedd rhai o’r problemau â recriwtio yn cynnwys y ffaith bod rhaid i unigolion fedru teithio dros ardal eang yn aml, ond bod y Cyngor yn edrych ar lwybrau cerdded a  dulliau eraill o drafnidiaeth. Anhawster arall oedd y gystadleuaeth o sectorau eraill, fel cyflogaeth mewn manwerthu.

·                Gofynnodd Aelod beth oedd lefelau staffio a faint o swyddi gwag oedd, yn nhermau swyddi llawn amser. Dywedodd y Swyddog wrth y Pwyllgor fod tua 90 awr yn wag. Roedd y swyddi hyn wedi’u hysbysebu dair neu bedair gwaith eleni. Nid oedd hyn yn golygu y byddai llai o wasanaeth i bobl angen gofal, ond bod y Cyngor yn recriwtio i gynnal gwasanaeth ehangach. Esboniodd yr Aelod Cabinet fod toriadau yn angenrheidiol oherwydd pwysau ariannol ac y byddai rhagor o doriadau’n debygol dros y blynyddoedd nesaf, ond bod y Cyngor mewn sefyllfa well na chynghorau tebyg mewn cynghorau mwy gwledig yng Nghymru. Esboniodd y Swyddog yn ei bwynt olaf na fyddent yn dal ymlaen i swydd wag er mwyn gwneud arbedion.

·                Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am y berthynas gyda’r Bwrdd Iechyd, a’rheriau yn y bartneriaeth a’r dyraniad o adnoddau. Ymatebodd yr Aelod Cabinetdrwy ddweud wrth y Pwyllgor bod yna ddiwylliant o feio wedi bod yn y Bwrdd Iechyd yn y gorffennol, bod y Bwrdd wedi beio’r Cyngor am nifer y bobl oedd yn ‘blocio gwelyau’. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru bod tua 80 o bobl yn dal yn yr ysbyty am nad oedd y Cyngor yn eu cefnogi i adael, ond pan edrychodd yr Aelod Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth ar y ffigyrau hyn roedd yn fwy tebyg i 14 neu 15 yn deillio o weithredodd y Cyngor. < Ers cyflwyno’r Gronfa Gofal Integredig mae’r berthynas waith wedi dod â’r holl bartneriaid yn agosach at ei gilydd. Roedd y berthynas yn reit dda, ond roedd ‘na rai problemau wedi bod. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu dros filiwn o bunnau i liniaru’r pwysau ar y gwasanaeth yn ystod y gaeaf, oedd i bob partner ei rannu ar y cyd. Gwariodd y Bwrdd Iechyd yr arian hwn heb unrhyw drafodaeth gyda’r Cyngor na phartneriaid eraill. Pan godon ni hyn fel mater gyda LlC esboniodd y Gweinidog na fyddai hyn yn digwydd eto, ac y bydden nhw’n trafod hyn gyda’r bwrdd iechyd. Teimlai’r Aelod Cabinet fod materion eraill yn ymwneud â sut oedd y Cyngor wedi derbyn codiad yn eu cyllid o 0.3%, tra bod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn cynnydd o 0.7%.  Roedd y Bwrdd Iechyd wedi gallu gorwario, tra bod y Cyngor wedi gorfod cadw o fewn eu cyllideb. Dywedodd yr Aelod Cabinet ei fod yn credu y dylid trin pob partner yn gydradd, ond ei fod yn teimlo nad oedd hyn yn wir.

 

·                Roedd yr Aelodau am wybod am y partneriaethau gydag Awdurdodau Lleol eraill ac os oedd gan hyn effaith ar arbedion. Esboniodd yr Aelod Cabinet fod llawer o’r gwaith yn mynd yn ei flaen  yn dda a bod gan yr Aelodau Cabinet o bob awdurdod berthynas waith gadarnhaol. Disgrifiodd y Cyfarwyddwr Strategol y bartneriaeth strategol rhwng y pum awdurdod yng Ngwent. Mae’r byrddau partneriaeth strategol yn cynnwys: Oedolion, Plant, Tai a Gofal ac Anableddau. Cynhaliwyd cyfarfod o’r holl Gyfarwyddwyr, Prif Swyddogion a chynrychiolwyr y trydydd sector. Prif sylw’r bartneriaeth oedd eu bod yn gweithio gyda’i gilydd mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol. Byddai’r sgyrsiau yn dechrau ar bwyntiau unigol a materion lleol, ond yn fuan byddent yn datblygu i drafod materion mwy, a mwy strategol, a sut i fynd i’r afael â phethau ar y cyd.  Roedd y ffordd hon o weithio ar y cyd wedi’i hymgorffori yn arferion y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. - Ychwanegodd yr Aelod Cabinet faint o gynnydd y mae’r partneriaethau wedi gwneud. Roedd y Gronfa Gofal Canolraddolyn enghraifft o sut yr oedd wedi datblygu, a’r gefnogaeth ehangach yr oedd y Cyngor yn ei dderbyn gan y Bwrdd Iechyd.

 

·                Siaradodd yr Aelodau am y wybodaeth ariannol a amlinellir yn yr adroddiad a sut roedd hi’n ymddangos bod Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol wedi tanwario yn y rhan fwyaf o’i wasanaethau i dalu am gost Gofal a Reolir, oedd wedi gor-wario o 1.2 miliwn o bunnau. Dywedodd y Swyddogion wrth y Pwyllgor mai’r hyn nad oedd y wybodaeth ariannol yn ei ddangos

yn yr adroddiad oedd maint y gyllideb Gofal a Reolir, sef yr un fwyaf o bell ffordd. Os fyddai wedi dangos hynny, byddech wedi gweld nad oedd y tanwariant gymaint â hynny. Dywedodd y Swyddog na fyddai’n ‘gwasgu’ cyllidebau i dalu am danwariant – ond dymasut oedd y darlun mawr yn edrych.

 

·                Esboniodd y Swyddogion fod Llywodraeth Cymru wedi newid ei pholisi ar gasglu data a bod hyn yn cynnwys y mesur cefnogaeth gan ofalwyr. Canfu Llywodraeth Cymru fod yr adnoddau oedd eu hangen i anfon yr holiaduron i bob gofalwr yn ormod o’i gymharu â’r canlyniadau a gafwyd ac roedd yn chwilio am ffyrdd eraill o gasglu data meintiol ac  ansoddol gan ofalwyr. Mynegodd yr Aelodau bryderon na fyddai’r bobl hyn yn cael eu hanghofio. Sicrhaodd yr Aelod Cabinet y Pwyllgor fod y Cyngor yn monitro’r gwasanaeth yr oedd Gofalwyr yn ei dderbyn yn lleol. Roedd hyn yn cynnwys monitro’ cwynion a’r ganmoliaeth a dderbyniwyd, a chynnal ymweliadau dirybudd i bob un o wasanaethau gofal Casnewydd. Soniodd y Swyddogion hefyd am y ffaith nad oedd unrhyw wybodaeth yn osgoillygaid y Cyngor, hyd yn oed os oedd yn cael ei gasglu ar gyfer data cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu pob darn o wybodaeth gyda’r Cyngor er mwyn gwella gwasanaethau.

 

·                Bu’r Pwyllgor yn holi am y tabl MTRP a’r wybodaeth oedd ynddo. Roedd y

Pwyllgor am wybod os oedd y gorwario a nodwyd ar gyfer pob mis yn cael ei gario drosodd neu a oedd y gwasanaeth yn gorwario o’r un faint bob mis. Esboniodd y Swyddog fod y gorwariant yn cael ei gario drosodd o fis i fis. Roedd y ffigwr o 80 mil o bunnau yn arbediad na lwyddwyd i’w gyflawni yn 2018/19. Byddai hyn yn digwydd yn hytrach ym mlwyddyn ariannol 2019/20.

 

·                Clywodd y Pwyllgor y byddai’r Grant Trawsnewid a oedd yn ariannu’r projectau a oedd yn cefnogi’r mesur Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal (OWDG) yn dod i ben ynghanol 2020/21. Mae’r projectau hyn yn cynnwys Gartref Gyntaf, O Fewn Cyrraedd, Ailalluogia Cam i Fyny, Cam i Lawr. Pe bai’r projectau hyn yn parhau yng Ngwent yna byddai’n rhaid i’r Awdurdodau Lleol partner ddod o hyd i’r arian i’w hariannu. Roedd y synnwyr o bartneriaeth  a’n perthynas gyda’r Bwrdd Iechyd yn bethau cadarnhaol iawn yma. Dywedodd yr Aelod Cabinet fod problem cynaliadwyedd yn anodd ei ddatrys. Unwaith i’r projectau gael eu sefydlu, eu bod yn gweithio ac yn arbed arian, byddai’r arian yn cael ei dynnu ymaith. Roedd yrAelod Cabinet yn credu y byddai’r bwrdd iechyd yn camu i mewn ac yn darparu’r arian angenrheidiol pe bai’r projectau yn ddigon llwyddiannus. Esboniodd y Cyfarwyddwyr Strategol,pe bai’r mesur OWDG yn aros ar gyfartaledd o chwech dros y flwyddyn nesaf,byddai hynny wedi bod yn llwyddiant mawr. Roedd hyn o ganlyniad i alw cynyddol am adnoddau, oedd yn cael eu cyfyngu a’u torri o flwyddyn i flwyddyn.

 

·                Gofynnodd y Pwyllgor pa effaith fyddai’r newidiadau yn seilwaith ysbytai yn ei chael ar  wasanaethau? Esboniodd y Swyddogion fod y pryderon hyn wedi cael eu codi mewn trafodaethau â phartneriaid a LlC. Roedd seminar i’w gynnal ym mis Gorffennaf ar gyfer pob aelod fyddai’n manylu fwy ar y newidiadau seilwaith yng Ngwent, a’r effaith fydden nhw’n ei chael ar wasanaethau’r Cyngor. Dywedodd y Swyddogion wrth yr Aelodau eu bod wedi modelu’r newidiadau, a’r effaith oedd llai o welyau a throsiant uwch  o bobl. Byddai pobl ag anghenion dwys yn cael eu derbyn i ysbyty’r Grange ac yn cael eu symud i ysbyty gwahanol ar gyfer gweddill eu triniaeth.  Ymhlith yr heriau a nodwyd oedd gallu’r system i ddelio â throsiant cynyddol gyflym,arosiadau o hyd gwahanol a’r galw cynyddol ar wasanaethau yn y gymuned pan fyddai pobl yn cael eu hanfon adref yn gynharach. Cododd y Pwyllgor bryderon bod problemau newydd yn cael eu creu i eraill wrth i bobl gael eu symud gartref ar adeg gynharach yn eu hadferiad. Cytunodd yr Aelod Cabinet gyda theimladau’r Pwyllgor a dywedodd y byddai’n rhaid i bobl yn y pendraw dalu os oeddent yn dymuno gofal   o safon uwch.

 

·                Dywedodd yr Aelod Cabinet wrth y Pwyllgor bod croeso iddynt ofyn am frîff craffu ar unrhyw un o’r eitemau a drafodwyd heddiw, os oeddent am ragor o wybodaeth, neu  fe allent drefnu seminar i’r holl aelodau. CasgliadauGwnaeth y Pwyllgor y sylwadau a’r argymhellion canlynol i’r Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol;

 

·                Cydnabu’r Pwyllgor yr amseroedd anodd oedd yn wynebu’r Gwasanaethau Oedolion a Chymunedau a’r pwysau oedd ar y gwasanaeth. Roedd yr Aelodau am ddiolch i’r holl staff a’r Aelod Cabinet am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i gynnig y gwasanaethau gorau posibl i ddinasyddion Casnewydd.

 

·                Gofynnodd y Pwyllgor eu bod yn cael gwybod am fesurau newydd LlC pan gawsant eu cyhoeddi. Roedd y Pwyllgor yn dymuno gwneud y sylwadau a’r argymhellion canlynol i’r Cabinet ar yr adroddiad cyffredinol ar gynllun y gwasanaeth;

 

·                Nid oedd nifer y camau gweithredu a labelwyd ‘Yn Mynd Rhagddynt’ yn rhoi digon o fanylion i’r Pwyllgor graffu arnynt. Byddai’r Pwyllgor wedi hoffi bod y cynnydd wnaed yn cael ei faintioli fel canran i ddangos pa mor bell oedd y gwasanaeth ogwblhau’r cam gweithredu.

 

·                Canfu’r Pwyllgor fod rhai camau gweithredu yn fesurau ‘yn ôl yr arfer’ yn unig,

heb unrhyw ganlyniad mewn gwirionedd, ac y byddent yn parhau’n ddiderfyn.

Roedd hyn yn achos pryder. Os oedd y cam gweithredu yn rhywbeth ‘yn ôl yr arfer’ heb ddyddiad terfyn yna byddai’n cyfyngu ar allu’r Pwyllgor i graffu ar y perfformiad yn effeithiol. Argymhellodd y Pwyllgor fod Aelodau’r Cabinet yn adolygu’r camau gweithredu yn yr adroddiad ac yn sicrhau  eu bod i gyd yn GAMPUS, ac yn caniatáu craffu effeithiol ac effeithlon.

 

·                Cododd yr Aelodau bryderon mai dim ond ciplun o’r gwasanaeth yr oedden nhw’n ei dderbyn drwy’r cynlluniau gwasanaeth. Roedd hyn yn achosi problem i’r Pwyllgor oherwydd cymhlethdod a dyfnder Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol.

 

·                Holodd y Pwyllgor am swm y wybodaeth oedd wedi’i chynnwys yn adran

ddadansoddi ariannol y Cynllun Gwasanaeth. Argymhellodd y Pwyllgor fod rhagor o wybodaeth gymharol yn cael ei chynnig yn y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys ffigwr cyllidebol i Dimau’r Gwasanaethau fedru mesur y diffyg neu’r tanwariant, a graff cliriach ar gyfer y tabl  Arbedion Cynnig MTRP gyda rhagor o wybodaeth ar wahaniaethau.

 

Dogfennau ategol: