Agenda item

Rhaglen Gwaith Cychwynnol Blynyddol Drafft

Cofnodion:

Yn bresennol: oDaniel Cooke (Ymgynghorydd Craffu)

Cyflwynoddyr Ymgynghorydd Craffu y Drafft o Flaen-Raglen Waith i’r Pwyllgor thrafod pob eitem yn unigol gyda’r Aelodau, a thrafodwyd yr eitemau drafft a ganlyn ar gyfer yr agenda:

             Y Cynlluniau Gwasanaeth am y flwyddyn yn diweddu 2018/19 a chanol blwyddyn 2019/20. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai mwy o wybodaeth eleni am y cyllid a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r maes gwasanaeth hwn yn cael ei gynnwys yn y cynllun gwasanaeth. Atgoffwyd y Pwyllgor, oherwydd y newidiadau yn y modd yr oedd data o ysgolion yn cael ei ddefnyddio gan gyrff lleol a rhanbarthol, y byddai llai o dargedu a mesuriadau ar gael i Addysg.

             StrategaethGofalwyr CDC 2019 – 2022 oedd yr eitem nesaf yn y drafft o Flaen-Raglen Waith Flynyddol. Eitem oedd hon a gyfeiriwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Chymuned, a derbyniodd y Pwyllgor ef fel ychwanegiad yn eu cyfarfod blaenorol.

             Hysbyswydyr Aelodau fod yr Adroddiad ar Blant sy’n Derbyn Gofal wedi ei gynnwys yn y drafft o raglen waith ar gais y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. 

             Esbonioddyr Ymgynghorydd Craffu fod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau  Cymdeithasol wedi ei gynnwys yn Rhaglen Waith y Pwyllgor Craffu Perfformiad oherwydd eu gwybodaeth a’u profiad o graffu ar eitemau yn ymwneud â’r gwasanaethau cymdeithasol. Bu’r adroddiad yn hanesyddol dan y Pwyllgor Trosolwg a Rheoli Craffu, ond yr oedd y Swyddogion wedi penderfynu y gallai’r Pwyllgor Pobl roi her fwy sylweddol i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. 

             Yroedd y Strategaeth Prydau Ysgol am Ddim wedi ei chynnwys ar gais y Swyddog Addysg, a dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai’r adroddiad hwn yn gosod allan yr hyn y byddai’r Cyngor yn wneud i wella deilliannau pobl ifanc sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim. 

             Yroedd Strategaeth Comisiynu Pobl H?n yn bwnc a gyfeiriwyd gan Graffu ac a  dderbyniwyd gan y Pwyllgor mewn cyfarfod blaenorol. Nod yr adroddiad yw amlinellu’r gwaith a wneir gan y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol am gomisiynu gwasanaethau.

             Byddyr adroddiad ar Berfformiad Anghenion Dysgu Ychwanegol /Lleoliadau Allsirol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am berfformiad carfannau penodol o bobl ifanc. Esboniodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor fod a wnelo’r adroddiad hwn a’r briffiadau a gawsai’r Pwyllgor y flwyddyn flaenorol am y bobl ifanc hynny gydag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai a leolwyd allan o’r sir.

             YrArgymhellion Monitro ar Weithredu Cynigion Cyllideb y Cabinet am 2018 – 19 oedd yr eitem nesaf a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Eitem flynyddol yw hon sy’n edrych ar weithredu’r cynigion cyllideb a dderbyniwyd yn ystod Cynigion Cyllideb y Cabinet y flwyddyn flaenorol. Deallodd y Pwyllgor gan mai dim ond un Cynnig Cyllideb a gawsant gan y Cabinet llynedd, y byddai’r eitem hon ar yr agenda yn cael ei gosod gydag eitem addysg arall.

             Yrolaf o’r eitemau posib ar  y drafft o Flaen-Raglen Waith Flynyddol oedd Cynigion Cyllideb y Cabinet am 2020/2021. Yr oedd hon yn eitem flynyddol ar agenda pob blwyddyn.

Yroedd y Pwyllgor yn hapus i dderbyn pob un o’r eitemau ar yr agenda trwy gydol y flwyddyn ac yn deall y byddai modd iddynt newid unrhyw eitem, gwahodd unrhyw un neu newid canolbwynt yr agenda yn ystod y rhan o’r cyfarfod sy’n ymwneud â’r Ymgynghorydd Craffu a’r Blaen-Raglen Waith.

Esbonioddyr Ymgynghorydd Craffu bob un o’r adroddiadau gwybodaeth a gynhwyswyd yn yr adroddiad, a symud ymlaen i esbonio’r briffiad arall i’r Pwyllgor arGyllideb Gyfun A33 ’. Yr oedd y briffio i fod i’w gynnal tua diwedd 2018 ond bu’n rhaid i ganslo. Caiff ei drefnu eto ar gyfer yr haf.

Cytunodd y Pwyllgor ar y drafft o Atodlen Cyfarfodydd, gan gynnwys y cyfarfod ychwanegol ar 9 Gorffennaf 2019.

 

Dogfennau ategol: