Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

Cofnodion:

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

 

Gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau a ganlyn:

        Y penwythnos hwn bydd Casnewydd yn cynnal Marathon a ras 10km ABP Casnewydd.

        Siarter Marw i Weithio – bydd y Cyngor yn adolygu'r tâl a'r polisi salwch i adlewyrchu hyn.  Drwy lofnodi'r Siarter mae'r Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i weithwyr sy'n wynebu amgylchiadau personol trasig.

Yn brin o bwynt bwled - Addewid i Bobl Ifanc - yn nodi hawliau plant a phobl ifanc wrth gyrchu gwasanaethau'r Cyngor. Datblygwyd y Siarter i Gasnewydd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, ac mae'n cynnwys yr ymrwymiadau sydd yn fwyaf pwysig i bobl ifanc Casnewydd.

        Mae Rhwydwaith Economaidd Casnewydd wedi cyhoeddi cynnig i sefydlu Sefydliad Technoleg Cenedlaethol yn y Ddinas. Byddai hwn yn sefydliad blaenllaw yn y byd sy'n cynnal rhaglenni technoleg addysg uwch, gan bwysleisio arloesedd, entrepreneuriaeth a masnacheiddio. Byddai’n cynhyrchu’r sgiliau angenrheidiol i Gymru elwa ar gyfleoedd i’n cymunedau.

Rhwydwaith Economaidd Casnewydd

 

Mynegodd y Cynghorydd M Evans bryderon ynghylch yr ymrwymiad a ddatganwyd gan y Cabinet i fod yn agored a thryloyw; cyfeiriodd i ddechrau at y ffaith bod Aelod Cabinet wedi gwrthod ateb cwestiynau mewn Pwyllgor Craffu ynghylch Rhwydwaith Economaidd Casnewydd; ac yn ail, nododd enghreifftiau o benderfyniadau o bwys a wnaed yn breifat. Er mwyn hyrwyddo agwedd agored a thryloyw, gofynnwyd i'r Arweinydd a fyddai cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal â phobl fusnes leol i wrando ar eu pryderon a'r hyn a oedd o bwys iddynt. 

 

Amlinellodd yr Arweinydd mai cyfarfod allanol oedd Rhwydwaith Economaidd Casnewydd, a bod angen i’r ateb i’r cwestiwn a ofynnwyd ddod gan y Rhwydwaith yn hytrach na’r Aelod Cabinet. Cytunodd yr Arweinydd i drosglwyddo sylwadau'r Cynghorydd Evans i Gadeirydd y Rhwydwaith a cheisio cael eglurhad ynghylch y pwyntiau a godwyd.  Mewn perthynas â'r penderfyniadau a wnaed yn gyfrinachol, tynnodd yr Arweinydd sylw at y gynsail a oedd wedi'i sefydlu ar gyfer ymagwedd hon, ac at faterion sy'n ymwneud â chyfrinachedd masnachol, a all effeithio ar yr wybodaeth sydd ar gael cyn gwneud penderfyniadau ynghylch prosiectau graddfa fawr.

 

Fel cwestiwn atodol, holodd y Cyng Evans faint o fanylion oedd wedi'u cynnwys yn y penderfyniadau a gofnodwyd yn yr enghreifftiau dan sylw. 

 

Mewn ymateb i hyn, gofynnodd yr Arweinydd am gael rhannu'r cyngor a roddwyd yn flaenorol gan y Prif Weithredwr a Phennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio ynghylch mynediad y cyhoedd at adroddiadau.

Casglu Sbwriel

 

Canmolodd y Cynghorydd Whitehead y rhai a gymerodd ran yn y digwyddiad casglu sbwriel a gynhaliwyd ledled y Ddinas yn ddiweddar, ac amlinellu'r problemau'n gysylltiedig â thipio anghyfreithlon a thagfeydd traffig o amgylch Heol y Dociau ers cyflwyno'r biniau sbwriel o faint newydd. Gofynnwyd i'r Arweinydd a ellid anfon swyddogion o'r Cyngor i gefnogi'r grwpiau casglu sbwriel niferus sy'n gweithredu yn y Ddinas. Nodwyd bod achosion cynyddol lle'r oedd y grwpiau hyn yn ymdrin â deunyddiau peryglus, fel eitemau miniog. 

 

Canmolodd yr Arweinydd hefyd ymdrechion gwirfoddolwyr a oedd yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd casglu sbwriel, ac roedd yn cydnabod bod tipio anghyfreithlon yn broblem genedlaethol, ond gan fod adnoddau'n brin o fewn y Cyngor roedd hi'n annhebygol y byddai modd darparu swyddogion i gefnogi'r gweithgareddau hyn yn uniongyrchol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Whitehead a fyddai swyddog cyswllt yn gallu darparu hyfforddiant a chymorth o fath arall i'r grwpiau hyn. Cytunodd yr Arweinydd i ymchwilio i'r awgrym hwn.

Cronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hourahine i’r Arweinydd a fyddai’r gronfa a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Lywodraeth Leol ddoe o fudd i Gasnewydd.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Dirprwy Weinidog Llywodraeth Leol wedi lansio'r gronfa o £6.5 miliwn i sbarduno Cymru tuag at economi gylchol. Byddai grantiau rhwng £25,000 a £750,000 ar gael i fusnesau ystyried eu defnydd o ddeunyddiau ailgylchu. Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru oedd y gronfa hon, er mwyn i fusnesau ystyried eu defnydd o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu wrth weithgynhyrchu, a'r bwriad oedd y byddai hyn yn ysgogi deunyddiau ailgylchu eilaidd. Po fwyaf o becynnu wedi'i ailgylchu a fyddai'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, y mwyaf fyddai'r galw am y deunydd crai hwn. Amlygodd yr Arweinydd y targedau uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, sef ailgylchu 75% o fewn y Strategaeth Ddiwastraff.

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Hourahine am ddiweddariad ynghylch sut roedd y broses o gyflwyno’r biniau newydd yn mynd rhagddi, ac a oedd unrhyw arwydd bod cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu ers eu cyflwyno.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor fod targedau gwastraff awdurdodau lleol yn heriol a bod y Cyngor yn hynod ymwybodol o'r angen i warchod yr amgylchedd a chyrraedd y targedau hyn. Roedd yr Aelod Cabinet wedi cymeradwyo nifer o argymhellion yn ddiweddar gyda’r nod o wella’r gyfradd ailgylchu, a dechreuwyd y broses o gyflwyno’r biniau llai ar 1 Ebrill 2019.  Roedd 20,000 o finiau wedi'u dosbarthu, a oedd wedi arwain at 4,000 o geisiadau ychwanegol am finiau ailgylchu. Nid oedd y Cyngor ond megis dechrau gweithredu hyn, ond yn ôl yr arwyddion cynnar roedd maint y sbwriel wedi gostwng 30%, gwastraff bwyd wedi cynyddu 25% a gwastraff garddio wedi cynyddu. Pe bai'r ffigurau hyn yn cael eu cynnal, byddai'r Cyngor yn rhagori ar ei darged ac yn arbed arian i'r Cyngor. Roedd 98% o drigolion yn cydymffurfio â’r polisi, a diolchodd yr Arweinydd i bobl Casnewydd am hyn.