Cofnodion:
Eglurwyd y gallai'r Aelodau siarad am bob argymhelliad gan y byddent yn cael eu hystyried yn unigol gan y Cyngor.
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a amlinellai'r broses a ddilynwyd gan y Cyngor i sefydlu Gr?p Trawsbleidiol i adolygu'r dystiolaeth ar gyfer trefniadau etholiadol yn y dyfodol yn y ddinas, a'r cynigion a oedd wedi'u llunio ar gyfer hynny, i'w trafod gan y Cyngor.
Diolchodd yr Arweinydd i holl gynrychiolwyr y grwpiau a'r Swyddogion cefnogol am eu cyfraniadau, a hynny o fewn amserlen heriol. Diolchodd yr Arweinydd hefyd i'r Comisiwn am ei gefnogaeth yn ystod y broses ac am gytuno i estyniad byr fel y gallai'r Cyngor drafod yr opsiynau yn y cyfarfod hwn.
Argymhelliad 1:
Penderfynwyd y dylai'r Cyngor gefnogi'r mân ddiwygiadau i ffiniau a nodwyd yn adran Mân Anghysondebau yr adroddiad hwn.
Argymhelliad 2:
Cynigiwyd ac eiliwyd Opsiwn 2a.
Siaradodd y Cynghorydd Kellaway yn erbyn opsiwn A oherwydd teimlai ei fod yn anwybyddu gwahaniaethau cymunedol yr ardaloedd dan sylw, ac y byddai hynny'n ddiwedd ar ardal Llan-wern. Nid oedd ychwaith yn cymryd i ystyriaeth y deipograffeg naturiol na ffyrdd o fewn y wardiau.
Siaradodd y Cynghorydd Mogford o blaid Opsiwn B – symud ardal Cyngor Cymuned Trefesgob, sy'n cynnwys Wardiau Cymunedol Trefesgob ac Underwood, i Langstone. Teimlai y byddai ardal Cymuned Trefesgob yn ffitio'n dda o fewn ward lled-wledig Langstone a bod synergedd cryf o Gymunedau o fewn yr opsiwn hwn.
Penderfynwyd y dylai'r Cyngor gefnogi opsiwn 2a - Symud Cymuned Llan-wern i Ringland.
Argymhelliad 3:
Cynigiwyd ac eiliwyd Opsiwn 3a.
Siaradodd y Cynghorydd C Evans yn erbyn opsiwn 3a, gan gyfeirio at oblygiadau ymarferol rhannu'r gymuned fel hyn. Siaradodd o blaid y status quo yn Nh?-du oherwydd teimlai nad oedd angen rhannu'r gymuned.
Siaradodd y Cynghorydd M Evans o blaid opsiwn 3a, gan mai dyna fyddai'r ffordd fwyaf ymarferol o fynd i’r afael â thangynrychiolaeth T?-du o blith yr opsiynau a oedd ar gael. Byddai hefyd yn creu 2 ward ac ynddynt 2 gynghorydd yr un, yn hytrach na chreu wardiau un aelod.
Penderfynwyd bod y Cyngor o blaid opsiwn 3a - Creu dwy ward newydd, sef Ward Cymuned Gorllewin T?-du a chyfuno wardiau cymunedol Gogledd a Dwyrain T?-du. (2 Gynghorydd)
Argymhelliad 4
Cynigiwyd ac eiliwyd Opsiwn 4a.
Siaradodd y Cynghorydd M Evans yn erbyn opsiwn 4a gan gyfeirio at y drafodaeth a gefnogwyd yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, sef bod ardal Pillgwenlli yn nes at Stow Hill, ac felly fod Opsiwn 4b yn fwy ymarferol.
Siaradodd y Cynghorydd Fouweather am yr argymhelliad, gan nodi ei fod yn ddewis anodd heb unrhyw ateb clir. Nododd y byddai Opsiwn 4b yn hollti cymuned, tra bod opsiwn 4b (symud ystâd newydd Mon Bank i Stow Hill) o bosib yn fwy ymarferol gan ei fod yn symud cymuned yn ei chyfanrwydd.
Penderfynwyd bod y Cyngor o blaid opsiwn 4a: Ychwanegu ardal “Glan yr Afon” ym Mhillgwenlli at Stow Hill.
Argymhelliad 5
Cynigiwyd ac eiliwyd opsiwn 5b.
Siaradodd y Cynghorydd R White yn erbyn opsiwn 5b, gan ei fod yn teimlo ei fod yn torri cysylltiadau cymunedol lleol Saint-y-brid a Llanbedr sydd gyda'i gilydd yn ffurfio ardal Cyngor Cymuned Gwynll?g. Ni fyddai gan y cynnig ffiniau clir ychwaith ac ni fyddai'n effeithiol nac yn gyfleus i Gyngor Cymuned weithredu'n effeithiol dros ddwy ward etholiadol cyngor dinas pe bai'r cynnig yn mynd rhagddo. Siaradodd y Cynghorydd o blaid opsiwn 5a.
Siaradodd y Cynghorydd T Suller hefyd o blaid opsiwn 5a.
Penderfynwyd bod y Cyngor o blaid Opsiwn 5b: ychwanegu Wardiau Saint-y-brid a Choedcernyw at Barc Tredegar.
Argymhelliad 6 a 7
Cynigiwyd ac eiliwyd opsiynau 6a a 7a.
Siaradodd y Cynghorydd D Davies o blaid argymhelliad 6a, gan nodi bod ward Beechwood wedi'i rhannu'n 4 ardal ddaearyddol. Nodwyd bod ward Beechwood yn cynnwys cymunedau gwahanol, pob un â'i hunaniaeth ei hun. Pe bai nifer y Cynghorwyr yn gostwng i ddau, byddai hynny'n anghynaladwy ac yn anodd i'w reoli.
Siaradodd y Cynghorydd M Evans yn erbyn cynyddu maint cyffredinol y Cyngor drwy gael un Cynghorydd ychwanegol, ac o blaid argymhelliad y Comisiwn Ffiniau i gael un yn llai o Gynghorwyr, sef cyfanswm o 49.
Siaradodd y Cynghorydd K Whitehead yn erbyn unrhyw ostyngiadau, gan awgrymu bod y newidiadau'n ddiangen ac nad oedd y cyfrifiadau yn rhoi ystyriaeth briodol i'r oedolion hynny nad oeddent ar y gofrestr etholiadol ac nad oedd modd felly eu cyfrif wrth fodelu.
Penderfynwyd bod y Cyngor o blaid opsiwn 6a: Cadw tri Chynghorydd yn Beechwood, ac opsiwn 7 a: Cadw tri Chynghorydd ym Metws gan olygu bod y Cyngor yn cynnwys 51 o Gynghorwyr.
Argymhelliad 8
Holodd y Cyng C Evans pam nad oedd y ward hon yn cael ei rhannu yn yr un ffordd ag y rhannwyd T?-du yn Argymhelliad 3. Eglurodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio na fyddai'r Comisiwn Ffiniau'n derbyn unrhyw wardiau 4 aelod newydd, ac eithrio lle bo gan y Cyngor eisoes wardiau 4 Aelod a oedd o fewn y paramedrau o ran cynrychiolaeth, fel yn achos Llyswyry.
Penderfynwyd cefnogi'r cynnig i gadw pedwar cynrychiolydd yn Llyswyry, a rhoi'r gorau i ddefnyddio hen sillafiad Liswerry o blaid defnyddio Lliswerry ar ei ffurf Seisnig.